Arloesi a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Llwyddo
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11290 - bydd y rhaglen yn cyflawni ffocws strategol clir sy'n ymwneud â thri llinyn o arloesi a thechnoleg bwyd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Arloesi a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Llwyddo
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Mae’r amcan polisi ar gyfer y cymhorthdal yn deillio o’r ddogfen Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu gweledigaeth a chenhadaeth eang ar gyfer datblygu’r diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol. Mae'n cynnwys twf economaidd a gwella cynhyrchiant, gan sicrhau budd i gymunedau a chymdeithas drwy ganolbwyntio ar waith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol a gwella enw da y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd-eang.
Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 ar Busnes Cymru
5. Diben y cynllun
Bydd y rhaglen Arloesi a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Llwyddo yn cyflawni yn erbyn ffocws strategol clir sy’n ymwneud â thri maes arloesi a thechnoleg bwyd.
- Datblygu Cynnyrch Newydd.
- Cyngor technegol a mabwysiadu achrediadau priodol y diwydiant fel SALSA (Cymeradwyaeth Cyflenwr Diogel a Lleol), BRC (Consortiwm Manwerthu Prydain) a Thystysgrif Sgorio Hylendid Bwyd i alluogi cwmnïau i fasnachu gyda phrynwyr ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ddiogel ac mewn modd sy’n cydymffurfio.
- Cynorthwyo cwmnïau i fabwysiadu arferion i wella effeithlonrwydd prosesau.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Pob busnes bwyd a diod sydd â chyfeiriad cofrestredig yng Nghymru.
8. Sectorau i’w cefnogi
- Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
- Gweithgynhyrchu
- Gweithgarwch proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
9. Hyd y cynllun
O 1 Ebrill 2025 hyd at 31 Mawrth 2028.
10. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn
£21,250,000
11. Ffurf y cymorth
Grant.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Gweithgarwch sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd a diod ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan gan gynnwys busnesau pecynnu a busnesau ar ffermydd.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Gellir manteisio ar gymorthdaliadau drwy wasanaethau cymorth a ddarperir gan dechnegwyr bwyd profiadol ar sail fesul prosiect. Mae gwerth y cymorth hwn â chymhorthdal fel isod, wedi’i gyfrifo ar gyfanswm yr oriau o gymorth a ddarperir ar gyfer prosiect a’i fesur yn erbyn allbynnau sy’n gysylltiedig â datblygiad a thwf busnes.
- Micro - 100% o gymhorthdal
- BBaCh - 80% o gymhorthdal
- Mawr - 50% o gymhorthdal
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£95,000
15. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
