Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi croesawu adroddiad terfynol yr Athro Phillip Brown o Brifysgol Caerdydd, sy’n edrych ar sut y mae datblygiadau cyflym iawn ym maes arloesi digidol yn debygol o effeithio ar ddyfodol yr economi a’r byd gwaith yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Comisiynwyd yr Adolygiad o Arloesi Digidol gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n debygol o effeithio ar Gymru yn y dyfodol mewn perthynas ag arloesi digidol.

O dan gadeiryddiaeth yr Athro Phillip Brown, cyfrannodd Panel o Arbenigwyr o’r byd arloesi digidol, a oedd yn cynnwys arweinwyr busnes dylanwadol, academyddion, ymarferwyr  ac entrepreneuriaid, at yr adolygiad.

Mae’r adroddiad terfynol yn nodi’r camau ymarferol hirdymor y gall Cymru eu cymryd er mwyn ymateb i heriau arloesi digidol a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny.

Rhagwelir y bydd datblygiadau mewn technoleg yn cael gwahaniaeth mawr ar y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn dangos sut mae datblygiadau ym maes awtomatiaeth, roboteg, deallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd pethau, a data ar raddfa fawr yn effeithio arnom.

Mae argymhellion yr adolygiad yn cynnwys y posibilrwydd o sefydlu Sefydliad Deallusrwydd Artiffisial yng Nghymru, yn ogystal â chryfhau’r gwaith o ddadansoddi’r angen am sgiliau a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Mae Cymru eisoes yn gartref i rai o’r cwmnïau blaenllaw a mwyaf arloesol yn y byd ym maes y we, technoleg ariannol a dargludo. Mae hyn yn rhoi cyfle newydd i fusnesau Cymru ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wella bywyd pobl.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

Mae’n amlwg y bydd arloesi digidol yn chwarae rhan enfawr o ran sicrhau bod economi Cymru a’i byd gwaith yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn manteisio ar gyfleoedd a ddaw yn sgil technolegau newydd i barhau i feithrin economi sy'n uchelgeisiol, yn arloesol ac yn gynhwysol i bawb.

Hoffwn ddiolch i’r Athro Phillip Brown, ei Banel o Arbenigwyr a’r holl sefydliadau a’r unigolion am eu gwaith. Mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd wedi bod yn hollbwysig wrth lunio’r adroddiad hwn, a byddaf yn ei ystyried yn ofalus.

Dywedodd yr Athro Phillip Brown:

Gall arloesi digidol drawsnewid Cymru, ond mae’n bwysig cofio nad mater o ffawd yw technoleg. Ni allwn ond fanteisio i’r eithaf ar effaith gadarnhaol arloesi digidol os ydym yn meddwl mewn ffordd wahanol ac yn meiddio â gwneud pethau mewn ffordd wahanol.

Rwy’n gobeithio mae catalydd yw’r adroddiad hwn, a fydd yn cychwyn trafodaeth genedlaethol am yr hyn y mae arloesi digidol yn ei olygu i bobl a chymunedau yng Nghymru, ac nid yn unig i fusnesau arloesol technolegol y dyfodol.