Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffyrdd newydd o ddarparu gofal cartref yn cael eu treialu mewn sawl ardal awdurdod lleol i roi mwy o annibyniaeth a rheolaeth i bobl sy'n derbyn gofal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid arloesi gwerth £380,000 i gynnal dau brosiect sy'n defnyddio technoleg i helpu i drawsnewid sut y caiff gofal cartref ei ddarparu yng Nghymru.

Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI a Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cydweithredol lle mae'r sector cyhoeddus, trydydd sector a'r sector preifat yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â heriau craidd o ran gofal cartref drwy ddatblygu datrysiadau a gwasanaethau arloesol i helpu pobl i barhau i gadw’n brysur a bod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyn hired â phosibl.

Mae swm gwerth £180,000 wedi'i roi i fenter yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n ceisio helpu pobl, gan gynnwys y rhai sydd â lefel o amhariad gwybyddol, i gymryd eu meddyginiaeth yn annibynnol gan ddefnyddio dyfais ddigidol.

Mae'r ddyfais YOURmeds yn atgoffa pobl i gymryd eu meddyginiaeth ar amser wedi'i raglennu. Os na chaiff meddyginiaeth ei chymryd neu os caiff ei chymryd yn anghywir, anfonir neges at ffrind neu aelod o'r teulu sydd wedi'i nodi ymlaen llaw yn y ddyfais. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru hefyd yn cefnogi'r prosiect.

Mae £200,000 pellach wedi'i roi i brofi model newydd wedi'i foderneiddio ar gyfer darparu gofal cartref yn Nhorfaen, Gwynedd a Sir Ddinbych, sy'n cael ei gynnal gan system TG bwrpasol.

Nod y cynllun 'O Dasg ac Amser i Fywydau Bodlon – system gofal cartref newydd i Gymru' yw sicrhau dull system gyfan i ddwyn ynghyd y gweithwyr iechyd a'r gweithwyr gofal proffesiynol sy'n rheoli ac yn darparu gofal i'r unigolyn gan eu helpu i gydweithio.

Bydd system TG newydd yn helpu i rannu gwybodaeth a hwyluso'r model ar gyfer darparu gofal. Nod y prosiect yw gwella a chydlynu gwasanaethau i bobl, gan ganolbwyntio mwy ar rymuso a galluogi pobl i gael mwy o lais ynglŷn â sut a phryd y caiff eu gofal ei ddarparu.

Wedi ymweliad â Gwynedd i gael gwybod rhagor am y cynllun, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae gofal cymdeithasol ac iechyd yn dal i wynebu mwy o alw a heriau, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio.

Mae'n hanfodol ein bod yn addasu er mwyn sicrhau system sy'n barod at y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn haws i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda'i gilydd mewn ffordd gysylltiedig ac inni barchu rôl hanfodol aelodau teulu a ffrindiau fel gofalwyr di-dâl.

Mae arloesi yn allweddol i hyn a dw i'n gyffrous i weld sut gall y ddwy fenter yma ddefnyddio pŵer technoleg i brofi a fydd hyn yn ein helpu ni i gyflawni'r nodau. Mae'r ddau brosiect yn cyd-fynd â'n hamcan yn Cymru Iachach i helpu pobl i barhau i gadw’n brysur a bod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyn hired â phosibl.

Dywedodd Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru:

Dw i bob amser yn cael fy ysbrydoli gan y ffyrdd newydd ac arloesol rydyn ni'n gwella sut rydyn ni'n darparu gofal ledled Cymru i ddiwallu anghenion ein cymunedau. Mae gofal cartref yn wasanaeth allweddol sy'n cael ei roi gan weithlu angerddol, ymroddedig a medrus. Bydd cynlluniau treialu fel y rhai yma yn ein helpu ni i ddeall y ffordd orau o wneud y mwyaf o'r dechnoleg i ategu sgiliau ein gweithlu.

Dywedodd Thomas Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol Gwasanaethau Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Mae integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol os ydyn ni am sicrhau bod pobl yn ein cymunedau yn cael y gofal gorau a mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

Drwy gyflwyno datrysiadau digidol newydd ac arloesol i helpu pobl i gymryd eu meddyginiaethau, gallwn helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

Fel Cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i helpu pobl i fyw'n annibynnol a gydag urddas yn eu cymunedau eu hunain cyn hired â phosibl. Ein barn ni yw bod y defnydd creadigol o dechnoleg newydd yn allweddol i hyn.

Rydyn ni'n falch ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r sector annibynnol ar y cynllun treialu cyffrous hwn a fydd yn helpu pobl i barhau i reoli'u bywydau a'u hanghenion gofal eu hunain cyhyd â phosibl.

Mae'r cyfle hwn i weld sut gall systemau TG gofal cartref newydd sicrhau bod anghenion yr unigolyn yn dod yn gyntaf i'w groesawu'n fawr a'r gobaith yw y bydd yn cynnig tawelwch meddwl ychwanegol i deuluoedd a gofalwyr, sy'n beth hollbwysig.