Neidio i'r prif gynnwy

Mae myfyriwr o Goleg Sir Benfro a gymerodd ran yn ddiweddar yn Sioe Sgiliau’r Deyrnas Unedig wedi bod yn dangos ei ddoniau coginio drwy baratoi te prynhawn i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Enillodd Sam Everton fedal efydd yn Sioe Sgiliau’r DU ym mis Tachwedd 2016 pan oedd yn fyfyriwr lefel dau yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr lefel tri. Ar sail ei sgiliau ar y pryd, fe’i gwahoddwyd i ddychwelyd i’r Sioe Sgiliau ym mis Tachwedd i gystadlu am le yng ngharfan y Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth EuroSkills 2018 a chystadleuaeth WorldSkills yn 2019. Roedd y beirniaid yn canmol ei fwyd ac mae ar hyn o bryd yn ymarfer yn rhan o Garfan y DU ac yn gobeithio cael lle ar y tîm fydd yn cystadlu yn Rwsia yn 2019.

Y Sioe Sgiliau yw’r digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Yn 2017, gwahoddwyd 99 o gystadleuwyr o Gymru i gymryd rhan yn y Sioe Sgiliau. O blith y rhain, cafodd 48 o’r cystadleuwyr fedalau a dewiswyd 31 ohonyn nhw ar gyfer Carfan y Deyrnas Unedig. Cymru oedd y rhanbarth mwyaf llwyddiannus yn y tabl medalau.

Dywedodd y Gweinidog:

“Roedd y te pnawn yn arbennig o flasus a galla i weld pam y mae wedi gwneud mor dda yn y Sioe Sgiliau yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Rwy’n ei longyfarch ar ei lwyddiant ac yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer WorldSkills 2019.

“Mae llwyddiant Sam yn enghraifft wych o’r bobl ifanc ymroddedig sy’n meddu ar sgiliau ar lefel uchel yma yng Nghymru. Mae hefyd yn enghraifft o’r gwaith sy’n digwydd i helpu’r bobl ifanc yma i wireddu eu potensial. Mae cefnogi twf sgiliau, yn arbennig sgiliau ar lefel uwch, yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae’n helpu busnesau yng Nghymru i dyfu, mae’n helpu pobl i ddod o hyd i waith addas i’w helpu i gynnal eu hunain a’u teuluoedd ac mae hefyd yn gwneud cyfraniad holl bwysig i economi Cymru.”

Dywedodd Sam:

“Roedd cystadlu yn y Skills Show yn ddechreuad taith ryfeddol i fi fydd, rwy’n gobeithio, yn gorffen gyda’r cyfle i gynrychioli’r DU yn WorldSkills. Rwy’n edrych ymlaen at hyfforddi gyda charfan y DU dros y wlad i gyd, at wella’r sgiliau sydd gen i a dysgu rhai newydd yn cynnwys gwneud bara, sgiliau cyllell ac arferion bwtsiera. Rwy hefyd yn edrych ymlaen at fy mhrofiad yn Restaurant James Sommerin cyn bo hir.”