Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu BVA BDRC i gynnal arolwg ymwelwyr fel rhan o werthusiad o frand Cymru a gweithgarwch marchnata twristiaeth. Nod y gwerthusiad hwn yw darparu gwybodaeth a thystiolaeth o'r galw am dwristiaeth, barn pobl ynglŷn â'r brand a pherfformiad gweithgarwch marchnata Croeso Cymru. Bydd Croeso Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i'w helpu i ddeall anghenion ymwelwyr fel y gellir datblygu a hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru i ddiwallu'r anghenion hyn. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd BVA BDRC yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein dilynol ar ddiwedd pob blwyddyn galendr.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan BVA BDRC a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Os ydych am gymryd rhan yn y raffl a cheisio am y tair gwobr o £100 yr un, byddwn yn gofyn ichi am eich e-bost. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y person cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn BVA BDRC yw:
Jon Young
E-bost: jon.young@bva-bdrc.com
Rhif ffôn: 020 7400 1010

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Y diffiniad o ddata personol a roddir gan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) yw 'unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir eu hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddyfais adnabod'.

Caiff arolwg ailgysylltu Croeso Cymru ei anfon at gysylltiadau a recriwtiwyd trwy arolygon ar-lein Croeso Cymru a allai fod ar wefan Croeso Cymru, safleoedd y cyfryngau cymdeithasol neu safleoedd trydydd parti. Fel rhan o'r gweithgarwch recriwtio hwn, rhoesoch eich caniatâd i Croeso Cymru gysylltu â chi i ofyn i chi gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Bydd Croeso Cymru yn anfon y gwahoddiadau e-bost i gymryd rhan yn yr arolwg.

Wrth ymateb i'r arolwg drwy'r ddolen yn yr e-bost, ni chaiff eich cyfeiriad e-bost na’ch cyfeiriad IP ei gadw fel rhan o ddata'r arolwg. Bydd eich ymatebion felly yn ddi-enw. Os dewiswch roi data personol ychwanegol yn eich ymatebion testun agored, ceisiwn sicrhau na fydd modd eich adnabod trwy’ch ymatebion na chysylltu’ch enw â’ch ymatebion.  Bydd BVA BDRC yn casglu eich ymatebion i'r arolwg ac yn cynnal y dadansoddiad ar ran Llywodraeth Cymru.

Wrth ateb yr arolwg, byddwch yn cael cynnig i gymryd rhan mewn raffl i ennill un o dair gwobr o £100.  Os byddwch yn dewis cymryd rhan, mae yna ddolen yn yr arolwg fydd yn mynd â chi i dudalen ar wahân ar wefan Croeso Cymru lle cewch roi’ch cyfeiriad e-bost. Ni fydd eich e-bost felly’n rhan o’ch ymatebion i’r arolwg.  Bydd y rheini’n para’n ddi-enw.  Bydd hyn yn fater cwbl wirfoddol ac nid oes angen i chi roi’ch cyfeiriad e-bost os nad ydych am gymryd rhan yn y raffl.

Bydd Llywodraeth Cymru (Croeso Cymru) yn tynnu’r raffl ar 17 Chwefror 2022. Bydd Llywodraeth Cymru’n cysylltu ag enillwyr y raffl a bydd gofyn iddynt hawlio’u gwobr o fewn 7 niwrnod.  Ar ôl hawlio’r wobr, rhoddir cyfeiriad e-bost yr enillydd i BVA BDRC i drefnu bod yr enillydd yn cael y wobr.  Os na fydd yr enillydd wedi hawlio’r wobr yn yr amser hwn, byddwn yn ei rhoi i ymgeisydd arall fydd wedi’i ddewis ar hap o blith y rhai fydd yn weddill. 

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth gyfreithadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i fesur effaith gweithgarwch marchnata Croeso Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i BVA BDRC bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd BVA BDRC yn defnyddio'r data hwn. Mae gan BVA BDRC ardystiad hanfodion seiber.

Wrth gynnal arolygon, mae BVA BDRC yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o'r enw Decipher. Rydym wedi sicrhau bod Decipher yn cydymffurfio ag UK GDPR ac yn bodloni'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd (er enghraifft, caiff yr holl ddata ei brosesu yn yr AEE).

Mae gan BVA BDRC weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion posibl o danseilio diogelwch. Os bydd amheuaeth fod diogelwch wedi'i danseilio, bydd BVA BDRC yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Caiff yr wybodaeth bersonol a roddir i Lywodraeth Cymru at ddiben y raffl ei storio bob amser ar serfiwr diogel.  Dim ond y nifer gyfyngedig o staff sy’n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn cael gweld y data.  Bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r data at ddiben rhedeg y raffl, a hynny’n unig.

Bydd BVA BDRC yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am faint o amser rydym yn cadw eich data personol?

Bydd BVA BDRC yn prosesu ychydig ddata personol fel rhan o'r contract hwn. Bydd BVA BDRC yn dileu unrhyw ddata personol a roddir fel atebion i gwestiynau testun agored cyn dadansoddi’r data, o fewn un mis ar ôl dyddiad cau’r arolwg.  Bydd BVA BDRC yn rhoi data’r arolygon i Lywodraeth Cymru ond dim ond ar ôl iddynt anonymeiddio’r data a ddarparwyd mewn cwestiynau testun agored.  Bydd BVA BDRC yn prosesu cyfeiriadau e-bost ar gyfer enillwyr y raffl yn unig, er mwyn rhoi’r gwobrau i’r enillwyr.  Bydd BVA BDRC yn dileu cyfeiriadau e-bost yr enillwyr o fewn un wythnos ar ôl rhoi’r gwobrau iddynt.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cadw cyfeiriadau e-bost pawb fydd wedi dewis cymryd rhan yn y raffl.  Caiff y cyfeiriadau e-bost ar gyfer ymgeiswyr y raffl eu dileu ar 13 Mawrth 2022.

Hawliau unigol

O dan y GDPR, mae gennych chi'r hawliau canlynol o ran yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r arolwg hwn:

  • i weld copi o'ch data eich hun
  • i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu gwaith prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef eich rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych ragor o gwestiynau am y ffordd y bydd y data a ddarparwch fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n awyddus i arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

David Stephens
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 5236

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 ENQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru