Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rhain yn adroddiadau manwl sy’n deillio o arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2024 ymhlith cysylltiadau defnyddwyr Croeso Cymru.

Adroddiad y DU ac Iwerddon

  • Cymerodd tri o bob pum ymholwr i Croeso Cymru wyliau neu seibiant byr yng Nghymru yn 2023. Mae hyn yn cyd-fynd â chyfradd ymweliadau'r flwyddyn flaenorol ar gyfer y farchnad hon.
  • Mis Medi oedd y mis mwyaf poblogaidd i ymweld â Chymru yn 2023. Roedd ymweld yn ystod misoedd yr haf ychydig yn llai poblogaidd o'i gymharu â 2022, gyda chynnydd mewn ymweliadau yn ystod y gwanwyn.
  • Roedd boddhad â phrofiad twristiaeth Cymru yn 2023 yn parhau i fod yn sefydlog, gyda bron i bedwar o bob pum person a deithiodd i Gymru yn nodi bod eu taith yn 'Ardderchog'.
  • Dywedodd bron i dri o bob deg o bobl a deithiodd i Gymru fod cyfathrebiadau Croeso Cymru wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ymweld â Chymru yn 2023. Yn ogystal, dywedodd bron i dri o bob deg o bobl eu bod wedi cael eu dylanwadu i ymweld â Chymru y tu allan i dymor yr haf.
  • Dywedodd bron i dri chwarter yr ymholwyr ei bod yn debygol neu'n sicr y byddent yn ymweld â Chymru yn 2024. Gan adlewyrchu'r profiad cadarnhaol i ymwelwyr, dywedodd bron i naw o bob deg o bob a deithiodd i Gymru yn 2023 y byddent yn dychwelyd yn 2024.

Adroddiad yr Almaen

  • Cymerodd ychydig o dan chwarter yr ymholwyr wyliau neu seibiant byr yng Nghymru yn 2023, cynnydd o'i chymharu â 2022.
  • Misoedd yr haf oedd yr adeg fwyaf poblogaidd i ymweld â Chymru yn 2023, er bod cyfraddau is o ymwelwyr ym mis Awst a mis Medi, o'i chymharu â 2022.
  • Roedd 85% o'r rhai a deithiodd i Gymru yn dweud bod eu profiad o ymweld â Chymru 2023 yn 'Ardderchog', gostyngiad bach o'i chymharu â 2022.
  • Dywedodd tua thri o bob deg a deithiodd i Gymru fod cyfathrebiadau Croeso Cymru wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ymweld â Chymru yn 2023, gyda 36% yn nodi eu bod wedi cael eu dylanwadu i ymweld â rhan o Gymru nad oeddent wedi mynd iddi o'r blaen.
  • Dywedodd ychydig dros dri o bob deg ymholwr ei bod yn debygol neu'n sicr y byddent yn ymweld â Chymru yn 2024, gyda'r ffigur hwn yn codi i ychydig o dan hanner ymhlith y rhai a ymwelodd yn 2023.

Adroddiadau

Adroddiad y DU ac Iwerddon, 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MB

PDF
8 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adroddiad yr Almaen, 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB

PDF
7 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Siân Hughes

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.