Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg byr ar-lein yw hon, i gasglu barn pobl ar gynnwys yr arolwg defnydd iaith nesaf.

Mae amcanion yr arolwg fel a ganlyn:

  • darganfod pa bynciau sydd fwyaf pwysig i’n rhandaliad weld yn yr arolwg defnydd iaith
  • cael sylwadau ar bynciau arfaethedig
  • rhoi cyfle i randdeiliaid awgrymu pynciau I’w cynnwys
  • defnyddio'r canfyddiadau i helpu i flaenoriaethu’r pynciau i'w cynnwys yn yr arolwg defnydd Iaith nesaf

Pwy sy'n cynnal yr ymchwil?

Bydd ystadegwyr o fewn adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn cynnal ac yn dadansoddi’r arolwg.

A oes rhaid i mi gymryd rhan yn yr ymchwil?

Na, mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol.

Pa ddata personol sydd gennym, ac o ble ddaeth eich manylion?

Nid oes gennym eich manylion. Mae'n bosibl i unrhyw un gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Efallai eich bod wedi derbyn dolen i’r arolwg hwn drwy dderbyn cylchlythyr penodol, fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw fanylion cyswllt o'r rheiny fydd yn cymryd rhan yn yr arolwg hwn.

Cynhelir y prosiect ymchwil hwn ar sail ddienw (sy'n golygu nad ydym yn gofyn i chi am unrhyw ddata personol). Nid ydym yn ceisio eich adnabod neu gysylltu eich hunaniaeth â'r ymatebion a ddarperir gennych. Fodd bynnag, os bydd cyfranogwyr yn darparu data personol yn eu hymatebion i gwestiynau penagored, er enghraifft drwy godi cwyn neu ofyn am ymateb, bydd yr ystadegydd yn darllen yr ymateb ac yna yn ei dileu o'r data ymchwil. Bydd canlyniadau'r gwaith ymchwil, felly, yn aros yn ddienw.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu eich data?

Mae arolygon fel hyn yn bwysig, er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu barn rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg. Mae'r rhaglen felly yn cefnogi gweithgareddau sydd o fewn 'gorchwyl cyhoeddus' Llywodraeth Cymru (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ysgwyddo rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru), er bod cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. 

Am ba hyd fyddwch chi'n cadw'r data personol?

Ar ôl cwblhau'r arolwg, bydd unrhyw wybodaeth a all ddatgelu’r unigolyn yn cael ei olygu, ond byddwn yn parhau i gynnal sylwadau neu ymatebion dienw yn ein ffolderi er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer datblygu arolygon defnydd Iaith y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw’r data personol?

Ni fydd yr ystadegydd yn rhannu unrhyw ddata personol a gasglwyd gan yr arolwg hwn y tu allan i Lywodraeth Cymru. Cedwir yr holl ddata o fewn ffeiliau cyfyngedig, a dim ond yr ystadegwyr sy'n gweithio ar y prosiect sy'n medru cyrraedd at y data.

Wrth gynnal arolygon, rydym yn defnyddio meddalwedd o'r enw Questback. Rydym wedi sicrhau bod Questback yn cydymffurfio â'r GDPR. Mae hefyd yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r meddalwedd (e.e. mae’r data yn cael eu prosesu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd). Fodd bynnag, nid yw'r arolwg hwn yn gofyn i'r cyfranogwyr ddarparu data personol.

Hawliau unigolyn

Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae gennych hawl:

  • i gael mynediad at gopi o'r data a gedwir amdanoch chi
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu'r data (o dan rai amgylchiadau)
  • i’ch data gael eu dileu (o dan rai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y ffordd y bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru'n defnyddio'r data a ddarperir gennych fel rhan o'r astudiaeth hon, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Lisa Walters
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru
Rhif Ffôn: 0300 025 6682 (Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg)

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yma:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Hefyd, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn am y ffordd y mae'r Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a gellir cysylltu â nhw ar 029 2067 8400 neu 0303 123 1113.