Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ar-lein Gwasanaethau Ymyl Gofal a Gwasanaethau Cymorth Dwys i Deuluoedd (IFSS).
Cynnwys
Cefndir
Mae’r tîm Gwella Canlyniadau i Blant Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ffurflen ar-lein i gasglu data a gwybodaeth gan bob Awdurdod Lleol ynghylch eu gwasanaethau Ymyl Gofal. Bydd y gwaith hwn yn llywio ymarfer mapio sy'n cael ei gynnal, lle rydym yn ceisio nodi'r gwasanaethau sy'n cefnogi plant a theuluoedd lle mae'r plant naill ai'n blant sy'n derbyn gofal neu'n cael eu hystyried mewn perygl o ddod yn blant sy'n derbyn gofal.
Wrth lenwi'r ffurflen, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth bersonol (enw a chyfeiriad e-bost) sy'n gysylltiedig â'r ymatebion a ddarperir.
Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn yr wybodaeth bersonol hon (enwau, cyfeiriadau e-bost ac ymatebion) pan gaiff y ffurflen ei chyflwyno.
Mae darparu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost proffesiynol yn angenrheidiol er mwyn gwirio ein bod wedi derbyn ymatebion gan bob Awdurdod Lleol. Yn ogystal, mae darparu'r wybodaeth hon yn ein galluogi i gysylltu â chi os bydd angen unrhyw eglurhad arnom ynghylch unrhyw un o'r ymatebion a dderbyniwyd.
Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth?
Gellir defnyddio eich manylion cyswllt i anfon rhagor o wybodaeth atoch ynghylch canfyddiadau'r arolwg neu i ofyn am eglurhad mewn perthynas ag unrhyw un o'r ymatebion a dderbyniwyd. Bydd cyfathrebiadau e-bost yn cael eu rheoli'n ddiogel ac ni fydd cyfeiriadau e-bost y derbynwyr yn weladwy i gyfranogwyr eraill.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Llywodraeth Cymru (“ni”) fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol a ddarperir gennych er mwyn sicrhau ein bod wedi derbyn gwybodaeth gan bob un o'r 22 Awdurdod Lleol. Gellir hefyd ddefnyddio'r wybodaeth i geisio eglurhad ynghylch unrhyw ymatebion a dderbyniwyd.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol hwn yw Erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR), sy'n nodi bod prosesu'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd eich data personol yn cael ei gadw am gyfnod o 6 mis ar ôl derbyn yr arolwg tra bydd yr ymatebion yn cael eu hadolygu a chamau gweithredu pellach yn cael eu rhoi ar waith. Ar ôl hynny, caiff y data ei ddileu'n ddiogel.
Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru.
Eich hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth a gedwir amdanoch
Under the data protection legislation, you have the right:
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:
- gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch
- ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro unrhyw anghywirdebau yn y data hwnnw
- (mewn rhai amgylchiadau) gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (mewn rhai amgylchiadau) ei gwneud yn ofynnol i'ch data gael ei “ddileu”
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Information Commissioner’s Office
Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk.
Mwy o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd a wneir ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR), defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Tîm Gwella Canlyniadau i Blant
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: plantsynderbyngofal@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth, cysylltwch â:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
