Neidio i'r prif gynnwy

Data ar enillion cyfartalog gros bob awr, wythnosol ac yn flynyddol yn y DU i lawr at lefel awdurdod lleol ar gyfer 2018.

Mae’r arolwg yn rhoi gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a’r oriau a weithiwyd gan weithwyr ym mhob diwydiant a swydd.

Prif bwyntiau

  • Roedd canolrif enillion wythnosol gros oedolion sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn £509.0 ym mis Ebrill 2018, sef 89.5% o gyfartaledd y DU cyfan (£569.0). Canolrif enillion wythnosol gros yng Nghymru oedd yr ail leiaf o'r 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Gwelwyd cynnydd o 2.1% yng nghanolrif enillion gweithio wythnosol gros yng Nghymru rhwng 2017 a 2018, o’i gymharu â chynnydd o 3.5% dros y DU yn gyfan. Cymru oedd a’r unfed ar ddeg cynnydd canrannol uchaf ymysg y 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Ym mis Ebrill 2018 roedd yr enillion canolrif  fesul awr (gan eithrio goramser) ar gyfer merched sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn 92.8% o’r cyfartaledd ar gyfer dynion. Roedd y ganran hon yn uwch na’r ganran ar gyfer y DU cyfan (91.4%) ac y trydydd cynnydd canrannol uchaf allan o'r gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Yng Ngogledd Iwerddon roedd canolrif enillion merched sy’n gweithio llawn amser yn uwch na dynion.
  • Ym mis Ebrill 2018 roedd yr enillion canolrif fesul awr (gan eithrio goramser) ar gyfer merched sy’n gweithio rhan-amser yng Nghymru yn 104.0% o’r cyfartaledd ar gyfer dynion. Roedd y ganran hon yn is na’r ganran ar gyfer y DU cyfan (104.4%) ac oedd y chweched cynnydd canrannol uchaf allan o'r gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gor amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr llawn amser ym mis Ebrill 2018 yn 7.3% yng Nghymru ac 8.6% yn y DU. Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi cynyddu 0.9 pwynt canran, ac wedi gostwng 0.5 pwynt canran yn y DU.
  • Ar gyfer gweithwyr rhan-amser mae menywod yn ennill mwy na gwrywod, gan arwain at fwlch cyflog negyddol. Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gor amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr rhan-amser ym mis Ebrill 2018 yn -4.0% yng Nghymru a -4.4% yn y DU. Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi culhau gan 3.0 pwynt canran, ac wedi culhau gan 0.9 pwynt canran yn y DU. [DS: gall y bwlch cyflog rhan amser islaw lefel y DU fod yn anweddol].
  • Bu cynnydd o 2.5% (i £518.6) dros y flwyddyn yn enillion canolrif gweithwyr amser llawn sy’n byw yng Nghymru. Yn 2018 roedd y lefel yn 91.1% o gyfartaledd y DU.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.