Neidio i'r prif gynnwy

Data ar enillion cyfartalog gros bob awr, wythnosol ac yn flynyddol yn y DU i lawr at lefel awdurdod lleol ar gyfer 2021.

Mae’r arolwg yn rhoi gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a’r oriau a weithiwyd gan weithwyr ym mhob diwydiant a swydd.

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Mae ystadegau yn y bwletin yma yn ymwneud â'r cyfnod cyflog sy'n cynnwys 21 Ebrill 2021, ac ar yr adeg honno roedd oddeutu 3.7 miliwn o weithwyr ar ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS), ledled y DU, gyda 139,600 yng Nghymru. Ar adeg yr amcangyfrifon ar gyfer 2020, roedd 8.8 miliwn o weithwyr ar ffyrlo ledled y DU.

Mae'r amcangyfrifon yn y bwletin hwn yn cynnwys cyflogeion ar ffyrlo ac maent yn seiliedig ar daliadau gwirioneddol a wnaed i'r cyflogai o gyflogres y cwmni a'r oriau y cyfrifwyd y cyflog hwn arnynt, sef eu horiau arferol yn achos gweithwyr ar ffyrlo.

Mae'r pandemig wedi arwain at nifer o gymhlethdodau sy'n ei gwneud yn anodd dehongli data enillion. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi blog yn esbonio hyn. O ganlyniad, dylid bod yn ofalus wrth gymharu â 2020.

Prif bwyntiau

Enillion wythnosol amser llawn

Roedd canolrif enillion wythnosol gros oedolion sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn £562.8 ym mis Ebrill 2021, sef 92.2% o gyfartaledd y DU cyfan (£610.7). Canolrif enillion wythnosol gros yng Nghymru oedd trydydd leiaf o'r 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Cynyddodd enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion amser llawn sy'n gweithio yng Nghymru 3.9% rhwng 2020 a 2021, o'i gymharu â chynnydd o 1.3% rhwng 2019 a 2020.

Cynyddodd y DU 4.3% dros y flwyddyn. Cymru oedd â'r seithfed newid canrannol uchaf ymhlith 12 gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr.

Bwlch tâl rhyw

Mae mwy o ansicrwydd nag arfer am yr amcangyfrifon ar gyfer 2020 a 2021 o ganlyniad i'r heriau a wynebir wrth gasglu'r data o dan gyfyngiadau iechyd cyhoeddus a osodwyd gan y llywodraeth yn 2020 a chyfraddau ymateb sydd wedi gostwng ers dechrau'r pandemig.

Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio goramser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr llawn amser ym mis Ebrill 2021 yn 5.0% yng Nghymru ac 7.9% yn y DU. Yng Nghymru nid oedd y bwlch wedi newid ac yn y DU mae wedi ehangu 0.9 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ar gyfer gweithwyr rhan-amser mae menywod fel arfer yn ennill mwy na gwrywod, gan arwain at fwlch cyflog negyddol. Fodd bynnag, roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio goramser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr rhan-amser ym mis Ebrill 2021 yn 0.0% yng Nghymru, sy’n dangos culhad o 0.8 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Bu’r blwch yn -2.7% yn y DU, sydd hefyd yn gulhad o 0.8 pwynt canran. Gall y bwlch cyflog rhan amser islaw lefel y DU fod yn anweddol.

Enillion yn seiliedig ar breswylfa

Bu cynnydd o 4.2% (i £570.6) dros y flwyddyn yn enillion canolrif gweithwyr amser llawn sy’n byw yng Nghymru. Yn 2021 roedd y lefel yn 93.4% o gyfartaledd y DU.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.