Neidio i'r prif gynnwy

Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Cyflogaeth

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 73.7%, i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd y gyfradd gyflogaeth yn y DU yn 75.9% (i fyny 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 6.5 pwynt canran yng Nghymru ac o 3.6 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf yn Sir y Fflint (80.1%), Sir Fynwy (79.5%)  a Powys (77.6%).
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig isaf yn Abertawe (68.6%), Merthyr Tudful (68.9%) a Rhondda Cynon Taf (69.8%).

Diweithdra

  • Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 3.7% (i lawr 0.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd ddiweithdra yn y DU yn 3.8% (i lawr 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra wedi syrthio gan 1.7 pwynt canran yng Nghymru a 1.2 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf yn Ceredigion (2.5%), Bro Morgannwg (2.7%) a Sir y Fflint (2.7%).
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig uchaf yn Merthyr Tudful (5.6%), Caerffili (5.1%) a Castell-nedd Port Talbot (4.8%).

Diweithdra ieuenctid

  • Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 11.3%, sy’n llai na chyfradd y DU sef 11.7%.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra ieuenctid wedi syrthio gan 2.9 pwynt canran yng Nghymru a 0.2 pwynt canran yn y DU.

Diweithdra hirdymor

  • Roedd 26.2% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 23.6% yn y DU.

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

  • Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 19.8% (i fyny 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y DU yn 17.2% (i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio gan 6.5 pwynt canran yng Nghymru a 4.2 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf yn Sir Fynwy (14.3%), Sir y Fflint (14.9%) a Powys (16.5%).
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig uchaf yn Flaenau Gwent (24.6%), Merthyr Tudful (23.2%) a Abertawe (23.1%).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.