Neidio i'r prif gynnwy

Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Hydref 2019 i Fedi 2020.

Mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau wedi'u hatgyfnerthu o’r Arolwg o'r Llafurlu (LFS), ac yn darparu data treigl dros bedwar chwarter o'r flwyddyn ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig, a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Ar gyfer Cymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o tua 18,000 o aelwydydd bob blwyddyn.

Mae’r LFS yn parhau i fod y brif ffynhonnell ar gyfer prif ddangosyddion am y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae maint sampl mwy’r APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth.

Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn cwmpasu chwe mis o'r pandemig coronafeirws (COVID-19), yn ogystal â chwe mis cyn dechrau’r pandemig, ac felly dylid bod yn ofalus.  Yn y datganiad Ystadegau Economaidd Allweddol, rydym wedi cynnwys dadansoddiad o ffynonellau data sy'n rhoi arwyddion mwy amserol ar sut mae'r pandemig yn effeithio ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Cyflogaeth

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 73.3%, i lawr 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd y gyfradd gyflogaeth yn y DU yn 75.5% (sydd heb newid yn ystod y flwyddyn).
  • Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 6.2 pwynt canran yng Nghymru ac o 3.6 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf yn Sir Fynwy (80.6%), Sir y Fflint (78.9%)  a Chasnewydd (76.8%).
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig isaf ym Merthyr Tudful (68.1%), Rhondda Cynon Taf (68.5%) ac Abertawe (69.7%).

Diweithdra

  • Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 3.6% (i lawr 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd ddiweithdra yn y DU yn 4.1% (i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra wedi syrthio 1.8 pwynt canran yng Nghymru a 0.9 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf yng Nghasnewydd (2.0%), Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd (y ddau yn 2.7%).
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig uchaf ym Merthyr Tudful (6.5%), Rhondda Cynon Taf (5.7%) ac Abertawe (5.6%).
  • Noder nad yw y data ar gyfer Castell-nedd Porth Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro yn cael ei gyhoeddi oherwydd maint y sampl. 

Diweithdra ieuenctid

  • Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 10.4%, sy’n llai na chyfradd y DU sef 12.4%.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra ieuenctid wedi syrthio 3.8 pwynt canran yng Nghymru, ond cododd 0.6 pwynt canran yn y DU.

Diweithdra hirdymor

  • Roedd 24.7% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 21.0% yn y DU.

Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

  • Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 19.9% (i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y DU yn 17.2% (i lawr 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio 6.5 pwynt canran yng Nghymru a 4.2 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf yn Sir Fynwy (13.3%), Caerdydd (14.5%) a Sir y Fflint (15.8%).
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig uchaf ym Castell-nedd Port Talbot (23.8%), Blaenau Gwent (23.5%) a Merthyr Tudful (23.0%).

Nodweddion gwarchodedig

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn caniatáu dadansoddi data'r farchnad lafur wedi'i rannu yn ôl nodweddion gwarchodedig. Cyhoeddir y data hyn ar StatsCymru. Mae ffigurau'n awgrymu bod rhai grwpiau gwarchodedig o bobl wedi cael eu heffeithio'n fwy andwyol o ran y farchnad lafur gan y pandemig. Byddwn yn parhau i archwilio hyn wrth i ddata mwy amserol ddod ar gael.

  • Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd (gan gynnwys myfyrwyr) ar gyfer pobl sy'n anabl o dan ddiffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb yng Nghymru 1.4 pwynt canran dros y flwyddyn. Ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl o dan ddiffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb, cynyddodd 0.7 pwynt canran dros yr un cyfnod.
  • Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd (gan gynnwys myfyrwyr) 2.7 pwynt canran ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru dros y flwyddyn. Dros yr un cyfnod, cynyddodd 0.4 pwynt canran ar gyfer pobl sy'n wyn.
  • Gostyngodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru 1.6 pwynt canran dros y flwyddyn. Arhosodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl wyn yn ddigyfnewid.
  • Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer dynion yng Nghymru 1.5 pwynt canran. Ar gyfer menywod, gostyngodd 1.1 pwynt canran dros yr un cyfnod.
  • Gostyngodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer dynion yng Nghymru 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn. Ar gyfer menywod, cynyddodd 0.6 pwynt canran dros yr un cyfnod.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.