Neidio i'r prif gynnwy

Prifysgol Aberystwyth a Llywodraeth Cymru yw'r 'rheolwyr data' am y data sy'n cael ei gasglu drwy'r arolwg hwn. Dim ond Prifysgol Aberystwyth fydd yn gwybod pa ffermydd sy'n cymryd rhan. Set o ddata o'r ymatebion ar ffurf ddienw fydd Llywodraeth Cymru yn ei chael. Gallwch gysylltu â swyddog diogelu data Prifysgol Aberystwyth yn infocompliance@aber.ac.uk.

Ni fydd eich enw chi, na'ch fferm, mewn unrhyw adroddiad. Ac ni fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu na'i chyfuno mewn ffordd a allai olygu bod modd eich adnabod chi na'ch fferm.

Pan gyhoeddir canlyniadau'r arolwg, dangosir y data fel gwybodaeth wedi'i threfnu mewn grwpiau neu gyfartaleddau ar gyfer gwahanol fathau o ffermydd, neu ffermydd o wahanol faint, ac felly ni fydd hi'n bosib cael gwybod am berfformiad neu sefyllfa ariannol unrhyw fferm unigol.

Mae'r Arolwg hwn yn hollol wirfoddol. Os penderfynwch gymryd rhan, dim ond at waith cyhoeddus Llywodraeth Cymru a'r dibenion isod fydd y wybodaeth a rowch yn cael ei defnyddio, sef:

  • ymchwilio i gyflwr economaidd ffermio a ffermydd
  • at ddibenion polisi lleol a chenedlaethol. Bydd y data yn golygu bod mwy o ddata ar gael ar gyfer cynghori ar reoli ffermydd, dysgu, ymchwil a dadansoddi ystadegau
  • deall blaenoriaethau a diddordebau ffermwyr.

Prifysgol Aberystwyth fydd yn dal eich gwybodaeth bersonol. Os penderfynwch adael yr arolwg, bydd manylion cyswllt y fferm yn cael eu cadw am bum mlynedd i sicrhau na chewch eich ail-recriwtio yn anfwriadol. Ar ôl hynny, bydd y wybodaeth bersonol yn cael ei dinistrio.

Bydd y data dienw y bydd Prifysgol Aberystwyth yn ei rannu (â Llywodraeth Cymru, DEFRA, yr UE, ac ymchwilwyr awdurdodedig), yn cael ei anfon a'i gadw'n ddiogel. I sicrhau mai at y dibenion uchod yn unig y defnyddir y data dienw, dim ond o dan gytundeb â Llywodraeth Cymru, ac yn unol ag amodau llym, y bydd yn cael ei rannu ag ymchwilwyr awdurdodedig.

Ymdrinnir yn gyfrinachol a'r holl wybodaeth. Dim ond Prifysgol Aberystwyth sy'n gwybod pa ffermydd sydd yn yr Arolwg ac ni fydd yn rhoi gwybod i neb arall eich bod yn rhan o'r Arolwg.

Eich hawliau

Yn ôl y gyfraith diogelu data, mae gennych yr hawl i:

  • weld y data personol amdanoch chi sydd gan Brifysgol Aberystwyth
  • cael cywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • gwrthod i'r data personol gael ei ddefnyddio, neu gyfyngu ar sut y'i defnyddir (dan amgylchiadau penodol)
  • cael 'dileu' y data amdanoch (dan amgylchiadau penodol).

Pwyntiau cyswllt i gael gwybodaeth a chyflwyno cwynion

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech weld eich data personol, cysylltwch â:

Arolwg Busnes Fferm
IBERS
Prifysgol Aberystwyth
Gogerddan
Aberystwyth
SY23 3EE
E-bost: farmsurv@aber.ac.uk

Mae hawl gennych hefyd gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr diogelu data annibynnol.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth