Arolwg canfyddiadau a chamau gweithredu newid hinsawdd: cam 3 a 4 (crynodeb)
Nod yr Arolwg Canfyddiadau a Gweithredoedd Newid Hinsawdd yw deall agweddau ac ymddygiadau sy'n gysylltiedig â lleihau allyriadau carbon.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwrpas a chefndir
Comisiynwyd yr arolwg Canfyddiadau a Chamau Gweithredu Newid Hinsawdd, a gynhyrchwyd gan WSP UK Ltd, gan Lywodraeth Cymru i ddeall agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael â newid hinsawdd. Caiff ei gynnal mewn chwe cham chwemisol, gyda hyd at 1,000 o gyfweliadau ar gyfer pob un. Mae’r adroddiad cryno hwn yn cyflwyno canlyniadau trydydd a phedwerydd cam yr arolwg. Mae’r holiadur wedi’i gynllunio i gwmpasu chwe phwnc sy’n ymwneud â lleihau allyriadau carbon: demograffeg, canfyddiadau ac agweddau, ynni cartref, bwyd, bywyd bob dydd, a theithio.
Methodoleg a nodweddion y samplau
Ystyrir bod y samplau ar gyfer dau gam yr arolwg yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru ar y cyfan yn seiliedig ar oedran, ethnigrwydd, statws gwaith, incwm yr aelwyd a deiliadaeth. Gwelwyd mân amrywiadau ar gyfer lleoliad, galwedigaeth, a math o eiddo. Casglwyd y data ar-lein trwy gardiau post a anfonwyd i gyfeiriadau dethol ac wyneb yn wyneb. Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer cam 3 ym mis Awst a mis Medi 2024 a chwblhawyd 939 o ymatebion. Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer cam 4 ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025 a chwblhawyd 1,001 o ymatebion. Casglwyd y data ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Cyfyngiadau a goblygiadau
Dylid cadw sawl cyfyngiad mewn cof wrth ystyried canlyniadau Camau 3 a 4 yr arolwg.
Yn gyntaf, dadansoddiad deunewidyn a ddefnyddiwyd, sy’n golygu mai’r berthynas rhwng dau newidyn yn unig yr oedd yn ei hystyried ar unrhyw adeg benodol. Nid yw’r dull hwn yn nodi sut y gall nifer o ffactorau ryngweithio i ddylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau unigolion ynghylch newid hinsawdd. Mae’n bosibl y gallai cysylltiadau a arsylwyd rhwng newidynnau demograffig ac agweddau neu ymddygiadau’n ymwneud â newid hinsawdd gael eu hesbonio trwy newidynnau drysu.
Yn ail, ni phwysolwyd canlyniadau’r arolwg i adlewyrchu’r boblogaeth ehangach. Mae hyn yn golygu efallai nad yw’r canfyddiadau yn gynrychioliadol o agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd.
Roedd yr arolwg hefyd yn dibynnu ar agweddau ac ymddygiadau a adroddwyd gan yr ymatebwyr eu hunain, a allai fod yn destun tuedd neu orliwio. Yn ogystal, mae’n bosibl bod amgylchedd y cyfryngau wedi dylanwadu ar safbwyntiau a hunanadroddwyd ar adeg yr arolwg.
Ystyriaeth olaf yw’r ddibyniaeth ar gamau cynnar yr arolwg i ddod i gasgliadau. Mae hyn yn cynyddu’r risg y gallai unrhyw berthynas a arsylwir fod yn fater o siawns ac yn cyfyngu’r gallu i olrhain newidiadau dros amser neu gadarnhau sefydlogrwydd yr agweddau a’r ymddygiadau a arsylwir. Mae angen nifer o fesuriadau, fel y’u darperir yng nghamau’r arolwg yn y dyfodol, i benderfynu a yw’r perthnasoedd a nodir yn sefydlog neu’n newid dros amser.
Prif ganfyddiadau
Canfyddiadau ac agweddau
Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yng nghamau 3 a 4 o’r farn mai gweithgarwch dynol oedd prif achos newid hinsawdd. Dim ond lleiafrif bach iawn o’r ymatebwyr (Cam 3, 1%; Cam 4, 3%) ddywedodd ‘nad oeddent o’r farn bod newid hinsawdd yn digwydd’. Fodd bynnag, roedd gostyngiad arwyddocaol yn ystadegol yn nifer yr ymatebwyr a ddywedodd bod newid hinsawdd yn cael ei achosi ‘yn bennaf’ neu’n ‘gyfan gwbl’ gan weithgarwch dynol rhwng cam 3 a cham 4.
Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr ar draws y ddau gam o’r farn bod newid hinsawdd yn broblem ddifrifol ac yn dweud eu bod yn ‘eithaf’ pryderus amdano. Roedd cynnydd arwyddocaol yn ystadegol yng nghyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn ‘eithaf pryderus’ rhwng cam 2 a cham 3.
Dywedodd cyfran uwch o ymatebwyr 18-35 oed eu bod yn ‘eithaf pryderus ac yn bryderus iawn’ am newid hinsawdd o gymharu ag ymatebwyr o grwpiau oedran eraill. Dywedodd cyfran lai o ymatebwyr 65+ oed ‘nad oeddent yn bryderus iawn ac nad oeddent yn poeni o gwbl’ am newid hinsawdd o gymharu ag ymatebwyr eraill.
Pan ofynnwyd iddynt pwy mewn cymdeithas sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â newid hinsawdd [troednodyn 1], adroddodd ymatebwyr iau lefelau ‘uchel’ o gyfrifoldeb neu ‘rywfaint’ o gyfrifoldeb am fynd i’r afael â newid hinsawdd ar draws pob ffactor yn amlach na grwpiau oedran eraill.
Pan ofynnwyd iddynt i ba raddau yr oedd y grwpiau cymdeithasol hyn yn cymryd camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd, yn gyffredinol, roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr o’r farn bod pob un o’r grwpiau yn ‘cymryd rhai camau, ond y gallent wneud mwy’. Gan amlaf, nodwyd mai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n ‘cymryd llawer o gamau’ ac mai busnesau, gwledydd y tu allan i’r DU a chymunedau lleol sydd ‘ddim yn cymryd llawer o gamau’.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi o un (ddim o gwbl) i ddeg (llawer iawn) os oeddent yn teimlo cyfrifoldeb personol am atal newid hinsawdd rhag gwaethygu. Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr ar draws y ddau gam eu bod yn teimlo llawer o gyfrifoldeb (6 i 10). Pan ofynnwyd i ymatebwyr nodi o un (ddim o gwbl) i ddeg (llawer iawn) os oeddent yn teimlo y gallai eu gweithredoedd personol atal newid hinsawdd rhag gwaethygu, gwelwyd cynnydd arwyddocaol yn ystadegol yn nifer yr ymatebwyr a nododd 6-10 rhwng camau 2 a 3, sy’n awgrymu lefelau cynyddol o gyfrifoldeb personol. Parhawyd i weld cynnydd yng nghyfran yr ymatebwyr a nododd 6-10 rhwng camau 3 a 4 ond nid yw’r newid hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. O’u cymharu, roedd rhywfaint o wahaniaeth rhwng y lefelau o gyfrifoldeb personol a adroddwyd, a theimladau’r ymatebydd ynghylch a allai ei weithredoedd personol atal newid hinsawdd rhag gwaethygu.
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr eu bod yn gwybod ‘ychydig’, neu ‘eithaf tipyn’ am bynciau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd (Sero Net, Addasu i’r Hinsawdd a’r Argyfwng Natur). Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr yn gwybod llai am Addasu i’r Hinsawdd a’r Argyfwng Natur o gymharu â Sero Net, ond ar draws y tri maes, ychydig iawn ohonynt a adroddodd eu bod yn ‘gwybod llawer’.
Effeithlonrwydd ynni cartref a’r defnydd ohono
Gofynnwyd i’r ymatebwyr am gamau maent wedi’u cymryd i arbed ynni. Cafodd y rhain eu categoreiddio yn rhai effaith uwch ac effaith is yn seiliedig ar yr effaith maent yn ei chael ar leihau allyriadau carbon [troednodyn 2]. Ar draws y ddau gam, y cam effaith is a gymerwyd amlaf oedd diffodd y goleuadau ac yna gwisgo dillad cynhesach. Y camau a gymerwyd amlaf o blith y camau effaith uwch oedd sychu dillad y tu allan neu ar hors ddillad, ac yna gostwng y thermostat.
Roedd nifer y camau a gymerwyd yn amrywio yn ôl agweddau tuag at newid hinsawdd. Adroddodd y rhai sydd o’r farn bod newid hinsawdd yn cael ei achosi’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan weithgarwch dynol, sydd o’r farn bod newid hinsawdd yn broblem ddifrifol, neu sy’n poeni ‘tipyn’ neu ‘lawer’ am newid hinsawdd, eu bod yn cymryd mwy o gamau i arbed ynni o gymharu ag ymatebwyr eraill.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr am osod mesurau sy’n effeithlon o ran ynni yn eu cartref [troednodyn 3]. Y mesurau effeithlonrwydd ynni a adroddwyd fwyaf oedd bylbiau golau sy’n arbed ynni a phennau cawod sy’n effeithlon o ran dŵr ar draws y ddau gam.
Ar draws y rhan fwyaf o fesurau, dywedodd cyfran uwch o ymatebwyr o aelwydydd ag incwm o £50,000 neu uwch fod mesurau wedi’u gosod yn eu cartref o gymharu ag ymatebwyr o aelwydydd incwm is. Roedd ymatebwyr o aelwydydd incwm is yn adrodd yn amlach nad oedd unrhyw rai o’r mesurau wedi’u gosod o gymharu ag ymatebwyr o aelwydydd incwm uwch.
Pan ofynnwyd iddynt am y defnydd o fesuryddion clyfar, dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr fod ganddynt fesurydd clyfar yn eu cartref.
Bwyd sy’n cael ei fwyta a gwastraff bwyd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml yr oeddent yn bwyta mathau o fwyd [troednodyn 4]. Ar draws y ddau gam, cynhyrchion llaeth a ffrwythau a llysiau oedd y math o fwyd a fwytawyd amlaf gan yr holl ymatebwyr, gyda physgod a chig coch yn cael eu bwyta lleiaf.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr am newidiadau i’w deiet, a chafodd y newidiadau hyn eu categoreiddio yn seiliedig ar eu heffaith ar leihau allyriadau carbon (effaith uwch, canolig – uchel, effaith is). Pan ofynnwyd a oedd ymatebwyr wedi gwneud newidiadau i’w deiet, y newidiadau i ddeiet a nodwyd amlaf oedd bwyta llai o gig coch (effaith uwch) a bwyta mwy o ffrwythau a llysiau (effaith is).
Roedd nifer y camau a gymerwyd yn amrywio yn ôl agweddau ymatebwyr tuag at newid hinsawdd. Dywedodd cyfran uwch o’r ymatebwyr a adroddodd fod newid hinsawdd yn broblem ddifrifol ac a oedd yn poeni ‘tipyn’ neu ‘lawer’ am newid hinsawdd eu bod wedi gwneud newidiadau i’w deiet o gymharu ag ymatebwyr eraill.
Gofynnwyd i ymatebwyr am gamau cynaliadwy y gellir eu cymryd wrth siopa am fwyd neu goginio prydau bwyd (camau cynaliadwy yn ymwneud â bwyd) [troednodyn 5]. Cafodd y camau eu categoreiddio yn rhai ‘effaith uwch’ ac ‘effaith is’ yn seiliedig ar eu heffaith ar garbon. Camau sy’n cael effaith is ar garbon fel gwirio dyddiadau ‘gorau cyn’ ac ailgynhesu gweddillion oedd y rhai a adroddwyd amlaf, a chafodd camau effaith uwch fel compostio gwastraff bwyd gartref a phrynu bwyd tymhorol eu hadrodd yn llai aml.
Cyfrifwyd nifer cyfartalog y camau cynaliadwy sy’n ymwneud â bwyd a gymerwyd gan ymatebwyr. Roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng nghanol dinas neu dref fawr yn cymryd mwy o gamau cynaliadwy yn ymwneud â bwyd o gymharu â’r rhai oedd yn byw mewn mathau eraill o ardaloedd, megis defnyddio rhestr siopa, ailgynhesu gweddillion, ac edrych yn yr oergell neu’r rhewgell cyn mynd i siopa. Mae’r gwahaniaeth hwn mewn camau cynaliadwy sy’n ymwneud â bwyd yn ôl math o ardal yn tueddu i fod yn llai amlwg yng Ngham 4, h.y. roedd arferion bwyd cynaliadwy y rhai oedd yn byw yng nghanol dinas neu dref fawr yn fwy tebyg i’r rhai oedd yn byw mewn mathau eraill o ardaloedd, yn enwedig y maestrefi, o gymharu â Cham 3.
Roedd nifer y camau a gymerwyd yn amrywio yn ôl agweddau ymatebwyr tuag at newid hinsawdd. Dywedodd mwy o’r ymatebwyr a oedd o’r farn bod newid hinsawdd yn cael ei achosi’n gyfan gwbl neu’n bennaf gan weithgarwch dynol, a oedd o’r farn ei fod yn broblem ddifrifol ac a oedd yn poeni ‘llawer’ neu ‘dipyn’ am newid hinsawdd, eu bod yn cymryd mwy o gamau cynaliadwy yn ymwneud â bwyd o gymharu ag ymatebwyr eraill.
Bywyd bob dydd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa gamau cynaliadwy yr oeddent yn eu cymryd yn eu bywyd bob dydd [troednodyn 6]. Cafodd y rhain eu categoreiddio yn rhai effaith uwch ac effaith is yn seiliedig ar yr effaith maent yn ei chael ar leihau allyriadau carbon. Y tri cham cynaliadwy a adroddwyd fwyaf oedd ‘rhoi neu werthu eitemau diangen’, ‘defnyddio cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio’ ac ‘ailgylchu eitemau diangen’.
Ar gyfer bron pob un o’r camau cynaliadwy, roedd cyfran uwch o’r ymatebwyr o aelwydydd incwm uwch yn yn eu cymryd o gymharu â’r rhai o aelwydydd incwm is.
Ar draws y rhan fwyaf o’r camau gweithredu, dywedodd cyfran uwch o’r ymatebwyr a oedd yn byw yng nghanol dinas neu dref fawr eu bod wedi cymryd camau cynaliadwy o gymharu â’r rhai oedd yn byw mewn mathau eraill o ardaloedd.
Cyfrifwyd nifer cyfartalog y camau cynaliadwy a gymerwyd gan ymatebwyr. Adroddodd ymatebwyr a oedd o’r farn bod newid hinsawdd yn cael ei achosi ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan weithgarwch dynol’, a oedd o’r farn ei fod yn broblem ddifrifol, ac a oedd yn ‘poeni llawer’ neu ‘dipyn’ amdano, eu bod yn cymryd mwy o gamau cynaliadwy o gymharu ag ymatebwyr eraill.
Teithio
Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn byw mewn aelwyd lle roedd mynediad at un cerbyd o leiaf. Fodd bynnag, ar draws y ddau gam, doedd gan ychydig o dan un o bob pum aelwyd ddim mynediad at gerbyd. Roedd ymatebwyr yn defnyddio trenau a bysiau yn llai aml na cheir. Dywedodd y mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr ar y ddau gam eu bod yn defnyddio car ‘bob dydd’ neu ‘ddwywaith yr wythnos neu fwy ond nid bob dydd’.
Cynyddodd cyfran yr aelwydydd â mynediad at gerbydau hybrid a thrydan rhwng Cam 3 (12% a 5% yn y drefn honno) a Cham 4 (19% a 9% yn y drefn honno). Nid yw hyn wedi’i brofi o ran arwyddocâd ystadegol.
Yn gyffredinol, dywedodd llai o ymatebwyr eu bod wedi cymryd gwyliau pellter hir yn y 12 mis diwethaf o gymharu â gwyliau domestig neu wyliau pellter byr. Dywedodd cyfran uwch o ymatebwyr o aelwydydd ag incwm uwch eu bod wedi cymryd gwyliau ‘pellter byr’, ‘pellter hir’ a ‘domestig’ yn ystod y 12 mis diwethaf o gymharu â’r rhai ag incwm is.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa gamau teithio cynaliadwy [troednodyn 7] roeddent yn eu cymryd. Cafodd y rhain eu categoreiddio yn ‘gamau effaith uchel iawn, uchel, canolig-uchel a chanolig’ yn seiliedig ar yr effaith y maent yn ei chael ar leihau allyriadau carbon. Y camau teithio cynaliadwy a gymerwyd amlaf oedd cerdded neu ddefnyddio cadair olwyn lle y bo’n bosibl a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle y bo’n bosibl. Y camau teithio cynaliadwy lleiaf cyffredin oedd rhannu ceir, beicio lle y bo’n bosibl, ac osgoi hedfan.
Cyfrifwyd nifer cyfartalog y camau teithio cynaliadwy a gymerwyd. Roedd nifer y camau a gymerwyd gan ymatebwyr yn amrywio yn ôl agweddau ymatebwyr tuag at newid hinsawdd. Dywedodd ymatebwyr a oedd o’r farn bod newid hinsawdd yn cael ei achosi ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan weithgarwch dynol’, a oedd o’r farn ei fod yn broblem ddifrifol, ac a oedd yn poeni ‘llawer’ neu ‘dipyn’ amdano, eu bod yn ymgymryd â mwy o gamau teithio cynaliadwy o gymharu ag ymatebwyr eraill.
Troednodiadau
[1] Y Cyhoedd, Cymuned Leol, Eich Cyngor, Busnesau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gwledydd y tu allan i’r DU.
[2] Effaith uwch: Diffodd opsiwn rhagwresogi ar foeler combi, lleihau tymheredd llif boeler, troi tymheredd dŵr poeth i lawr, gostwng gosodiadau rheiddiadur, gostwng tymheredd y thermostat, sychu dillad y tu allan neu ar hors ddillad. Effaith is: Defnyddio llai o ddŵr poeth, aros tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn i droi’r gwres ymlaen, awyru’r cartref neu rannu cartref mewn tywydd cynhesach, cadw rheiddiaduron yn glir i ganiatáu i wres ledaenu’n gyflymach, datgysylltu offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, agor llenni i ganiatáu i olau haul gynhesu’r tŷ, gwisgo dillad cynhesach, diffodd goleuadau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
[3] Amserydd yn troi goleuadau ymlaen, goleuadau clyfar, gwresogi clyfar, bylbiau golau sy’n arbed ynni; pen cawod sy’n effeithlon o ran dŵr, ffilmiau ffenestri solar neu wres, dyfeisiau sy’n synhwyro symudiadau ar oleuadau.
[4] Cynhyrchion Llaeth, Cig Coch, Cig Gwyn, Pysgod/Bwyd Môr, Ffrwythau/Llysiau.
[5] Effaith uwch: Prynu bwyd yn fwriadol gan fusnesau cynaliadwy, compostio gwastraff bwyd gartref, prynu bwyd a dyfir yn lleol yn fwriadol, prynu bwyd tymhorol yn fwriadol, coginio mewn swmp. Effaith is: Cynllunio prydau bwyd ymlaen llaw, gwirio bod bwyd yn cael ei storio’n gywir, defnyddio rhestr siopa, prynu bwyd rydych chi’n gwybod eich bod chi’n mynd i’w ddefnyddio a dim ond y bwyd hwnnw, ailgynhesu’r gweddillion yn hytrach na’u taflu i ffwrdd neu ddefnyddio gweddillion mewn pryd gwahanol, edrych i weld beth sydd yn yr oergell neu’r rhewgell cyn mynd i siopa, gwirio dyddiadau ‘gorau cyn’ a ‘defnyddio erbyn’ y bwyd rydych chi’n ei brynu.
[6] Benthyg neu rentu eitemau, addasu rhywbeth at ddibenion gwahanol yn hytrach na’i daflu i ffwrdd, prynu eitemau ail-law, trwsio pethau yn hytrach na phrynu rhai newydd, rhoi neu werthu eitemau diangen, dewis busnesau cynaliadwy yn fwriadol, prynu cynhyrchion â llai o ddeunydd pecynnu yn fwriadol, siopa yn agos at gartref, ailgylchu eitemau diangen neu fynd â nhw i gyfleuster ailddefnyddio, defnyddio cynhyrchion amldro.
[7] Cadw at 60mya ac is wrth yrru i arbed tanwydd, rhannu ceir, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio, ceisio osgoi defnyddio car/fan/beic modur, osgoi teithio diangen, cerdded/olwyno, osgoi hedfan.
Manylion cyswllt
Awduron: Colin Wright
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddol
Yr Is-adran Ymchwil a Gwybodaeth Gymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: YmchwilHinsawddAcAmgylchedd@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 43/2026
ISBN digidol 978-1-83745-205-7
