Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu WSP Ltd, mewn cydweithrediad ag Accent, i gynnal arolwg o Ganfyddiadau a Chamau Gweithredu Newid Hinsawdd yng Nghymru. Nod yr arolwg hwn yw casglu barn sampl o bobl yng Nghymru am eu canfyddiadau a’u camau gweithredu dilynol mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno archwilio’r canfyddiadau a’r camau gweithredu hyn yn y tymor byr a gweld sut y maent yn newid dros amser.

Fel rhan o'r prosiect ymchwil hwn, bydd WSP Ltd ar y cyd ag Accent yn casglu gwybodaeth drwy arolygon ar-lein ac wyneb yn wyneb. 

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd WSP Ltd ar y cyd ag Accent yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r arolygon ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac yn anonymeiddio’r data crai, cyn iddynt gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn cyfres o adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Yr unigolyn cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn WSP Ltd yw Bryan Whittaker.

Cyfeiriad e-bost: Bryan.Whittaker@wsp.com 
Rhif ffôn: +44 16 1886 2590

Hysbysiad preifatrwydd

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae WSP Ltd ac Accent wedi dewis eich cyfeiriad i gymryd rhan yn yr arolwg o ganlyniad i’w methodoleg samplu yn seiliedig ar ddewis cyfeiriadau o fapiau ar draws rhanbarthau Cymru. 

Fel rhan o'r arolwg (naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein) ni fydd eich enw neu fanylion cyswllt yn cael eu cynnwys yn yr arolwg. Os byddwch yn cwblhau eich arolwg ar-lein ar ôl dilyn y ddolen ar y cerdyn post, ni fydd yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP. Felly, mae'r ymatebion i'r arolwg yn gwbl ddienw. 

Os byddwch yn gwneud cais i gynnal yr arolwg yn Gymraeg (e.e. pan fydd cyfwelydd wyneb yn wyneb nad yw’n gallu siarad Cymraeg yn ymweld â chi) yna bydd angen i Accent gasglu’r wybodaeth bersonol ganlynol er mwyn i gyfwelydd Cymraeg allu cysylltu â chi dros y ffôn:

  • Enw
  • Rhif ffôn llinell dir neu rif ffôn symudol

Bydd Accent ond yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynnal arolwg gyda chi a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw ar wahân i'ch ymatebion i'r arolwg. 

Cynigir taleb i ymatebwyr yr arolwg i ddiolch am gymryd rhan yn yr arolwg. Os hoffech hawlio taleb ar ôl cwblhau’r arolwg, yna bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth bersonol ganlynol er mwyn i Accent allu dosbarthu’ch taleb:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post

Rhoddir y talebau gan Accent a ddarperir o fewn pedair wythnos i gwblhau holiadur yr arolwg. Dosberthir y talebau drwy e-bost, a fydd yn cynnwys dolen i'r daleb briodol a ddewiswyd neu'n eich cyfeirio i roi eich cyfeiriad er mwyn i'r daleb gael ei phostio atoch. Bydd Accent ond yn defnyddio’ch enw, eich cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post at ddibenion dosbarthu talebau a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw ar wahân i’ch ymatebion i’r arolwg.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i lywio ymgyrchoedd cyfathrebu a datblygiadau polisi sy'n gysylltiedig ag ymdrechion datgarboneiddio yng Nghymru a chyrraedd Sero Net.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i WSP Ltd ac Accent bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd WSP Ltd ac Accent yn defnyddio'r data hyn. Mae gan WSP Ltd ac Accent ardystiad hanfodion seiber. 

Wrth gynnal arolygon, mae, bydd Accent yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o’r enw Accis. Rydym wedi sicrhau bod Accis yn cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU ac yn cyrraedd ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Mae gan WSP Ltd ac Accent weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os oes amheuaeth o dorri rheolau, bydd WSP Ltd ac Accent yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru amdano, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny. 

Bydd WSP Ltd ac Accent yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio cyfres o adroddiadau a fydd yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. 

Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol?

Bydd WSP Ltd ac Accent yn dal data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd WSP Ltd ac Accent yn dileu unrhyw ddata personol sydd heb eu dileu eisoes dri mis ar ôl i’r contract ddod i ben. 

Bydd WSP Ltd ac Accent yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r prosiect hwn, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun. 
  • I ni gywiro gwallau yn y data hynny.
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau).
  • Er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau).
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Sir Gaer,
SK9 5AF.

Rhif Ffôn: 0303 123 1113.

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth 

Rhagor o Wybodaeth

Os bydd gennych ragor o gwestiynau ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Victoria West 
Cyfeiriad e-bost: victoria.west@gov.wales 
Rhif ffôn: 03000 258914

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: 

Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays, 
Caerdydd, 
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru