Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion

Prif amcanion y peilot oedd:

  • profi’r holiadur terfynol ar gyfer 2019-20, yn enwedig y modiwlau newydd sydd yn yr holiadur
  • profi’r deunyddiau arolwg a ddiweddarwyd (taflen a anfonwyd ymlaen llaw a chardiau dangos)
  • casglu adborth gan y cyfwelwyr
  • darparu mwy o wybodaeth am hyd cyfweliad a metrigau eraill y broses arolwg

Methodoleg

Dilynodd y weithdrefn samplu ar gyfer y peilot yr un cynllun samplu tebygolrwydd ar hap ag y gwnaeth y prif arolwg yn 2018-19,ac eithrio yn hytrach na chynnwys pob awdurdod lleol yng Nghymru, dewiswyd chwe awdurdod lleol yn bwrpasol, gan sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn cwmpasu gwahanol rannau o Gymru, a’r amrywiol lefelau o gyfraddau ymateb a gaed yn y flwyddyn arolwg flaenorol.

Darparwyd tabl grid Kish ar gyfer y cyfwelwyr gan gynnwys rhifau ar hap ar gyfer pob cyfeiriad yn y cwota. Defnyddiwyd y tabl rhif ar hap hwn, i hwyluso’r broses o ddethol ar hap, oedolion sy’n byw mewn cyfeiriadau samplu.

Canfyddiadau

Cynhaliwyd cyfanswm o 198 cyfweliad; cynhaliwyd 1 cyfweliad mewn trydedd iaith (heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg).

Roedd hyn yn cynrychioli cyfradd ymateb o 47.6% o gyfeiriadau cymwys. Ni ailgychwynnwyd dim o’r achosion anghynhyrchiol. Roedd y gyfradd ymateb gyfartalog yn isi na’r hyn a ddisgwylir hyd yn oed ar gyfer peilot gyda dilyniant gostyngol o’i gymharu â’r prif lwyfan. Mae hyn yn rhannol oherwydd lluniwyd sampl fwy ar gyfer y peilot hwn oherwydd bod cyfraddau ymateb ym mis Ionawr ychydig yn is yn nodweddiadol nag ar adegau eraill o’r flwyddyn ac yn rhannol oherwydd bod tair allan o’r chwe ardal peilot (Sir y Fflint, Abertawe a Bro Morgannwg) wedi cyflawni cyfraddau ymateb is na’r cyfraddau ymateb cyfartalog a gyflawnir fel arfer yn yr ardaloedd hyn yn y prif arolwg. Roedd hyn oherwydd cyfraddau cyswllt is na’r arfer yn yr ardaloedd hyn (o’u cymharu â’r prif lwyfan), gan fod y cyfraddau gwrthod yn debyg i’r rhai hynny a gyflawnir fel arfer ar y prif arolwg. Ni ddangosodd adborth gan y cyfwelydd unrhyw broblemau ynghylch cael ymateb ar y trothwy. Ar y prif lwyfan, disgwylir y bydd sicrhau y gwneir isafswm o alwadau cyn rhoi cod di-gyswllt i gyfeiriad, yn ogystal ag ailgychwyn achosion anghynhyrchiol yn arwain at gynnydd yn y cyfraddau ymateb ar gyfer yr ardaloedd hyn ac yn gyffredinol.

49.3 munud oedd hyd y cyfweliad (canolrif) a 49.7 munud oedd hyd y cyfweliad (cymedr) (ac eithrio anghysondebau ac achosion allanalion). Er bod hynny’n bedair munud yn fwy na hyd y cyfweliad targed ar gyfer y prif lwyfan, gellir esbonio’r cynnydd drwy nodi’r ffaith fod rhai is-samplau wedi cael eu cyfeirio’n fwriadol at gyfran uwch o bobl yn y peilot nag a fydd yn digwydd ar y prif lwyfan. Gwnaed hyn er mwyn cael amseriadau cywirach ar gyfer y modiwlau a’r cwestiynau holiadur perthnasol. Hefyd, wrth i gyfwelwyr gynefino â’r modiwlau newydd yn yr holiadur, disgwylir y bydd hyd y cyfweliad yn gyffredinol yn lleihau ychydig yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn arolwg.

Canfyddwyd bod y deunyddiau arolwg yn gweithio’n dda’n gyffredinol, ond nododd y cyfwelwyr fân newidiadau y dylid eu hystyried ar gyfer y cerdyn post atgoffa A5 a chardiau dangos yr holiadur.

Nododd cyfwelwyr fod yr holiadur, yn gyffredinol, yn llifo’n hwylus ac nad oedd problemau mawr yn digwydd yn ystod y cyfnod maes. Fodd bynnag, amlygodd yr adborth ychydig o adrannau adran lle byddai o fudd pe byddid yn eu symleiddio a’u gwella o ran llif ar gyfer yr ymatebydd.

Casgliadau ac argymhellion

Mae’n bosibl yr ystyrir rhai diweddariadau bach ar gyfer y cerdyn post A5, ond fel arall ystyriwyd deunyddiau arolwg ar gyfer y peilot yn addas a dylid eu gweithredu i mewn i flwyddyn arolwg 2019-20.

Dylid ystyried rhai newidiadau i gardiau dangos er mwyn sicrhau bod defnyddio cardiau dangos yn llifo’n hwylus yn ogystal â’r holiaduron.

Ar gyfer y prif lwyfan, dylid ystyried addasu is-samplu ar gyfer rhai modiwlau i leihau hyd y cyfweliad, ac i fynd i’r afael â materion a amlygwyd gyda llif a geiriad rhai o’r modiwlau holiadur newydd.

Manylion cyswllt

Martina Helme, Rachael Ryan a Zoe Brown: Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r adroddiad llawn ar gael ar gais.

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru

Chris McGowan
arolygon@llyw.cymru 

Rhif ymchwil gymdeithasol: 09/2020

Image
GSR logo

 

 

 

 

ISBN Digidol 978-1-80038-064-6