Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae 27% o bobl wedi cael apwyntiad gyda meddyg teulu ers mis Ebrill 2020. Roedd 81% o'r rhai a gafodd ymgynghoriad dros y ffôn yn fodlon â'r gofal a gawsant, sy’n debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf. Roedd 88% o bobl a gafodd apwyntiad wyneb yn wyneb yn fodlon, sy’n debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf.

Mae 14% o bobl wedi cael apwyntiad ysbyty ers mis Ebrill 2020. Yn y cyfnod hwnnw, roedd 77% o apwyntiadau ysbyty yn rhai wyneb yn wyneb, sy’n debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf.

Dywedodd 31% o bobl fod eu hiechyd yn dda iawn, a 44% yn dda.

Mae 4% o bobl yn ofalwyr, ac mae 4% yn ddefnyddwyr gofal. Dywedodd 71% o bobl a oedd wedi cael gofal cymdeithasol ers dechrau mis Ebrill fod y gwasanaethau cymorth yn ardderchog neu'n dda, lefel debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf 2020 ac yn 2018-19.

Dywedodd 14% o bobl eu bod yn credu eu bod wedi cael COVID-19 (y coronafeirws) ar ryw adeg, lefel debyg i’r hyn ydoedd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020.

Yfed alcohol

Dywedodd 82% o bobl eu bod wedi cael diod alcoholig yn y 12 mis diwethaf. O blith y rhain, dywedodd 18% eu bod yn yfed mwy nag arfer ers dechrau’r cyfyngiadau coronafeirws, sydd wedi gostwng o 25% a ddywedodd hyn ym mis Mehefin. Dywedodd 36% eu bod yn yfed llai nag arfer ers dechrau’r cyfyngiadau, sy’n debyg i’r hyn ydoedd ym mis Mehefin.

Ysmygu

Dywedodd 15% o bobl eu bod yn ysmygu ar hyn o bryd. O blith y rhain, mae 39% wedi bod yn ysmygu mwy nag arfer yn y 3 mis diwethaf. Mae 19% o ysmygwyr wedi ceisio rhoi’r gorau i ysmygu yn y 3 mis diwethaf.

Mae 18% o oedolion wedi defnyddio e-sigarét ar ryw adeg. O blith y rhain, dywedodd 28% eu bod yn defnyddio e-sigarét ar hyn o bryd.

Gweithgarwch corfforol

Dywedodd 15% o bobl eu bod yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos, sy’n debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf.

Dywedodd 87% o bobl eu bod wedi bod allan am dro yn yr wythnos ddiwethaf, sy’n debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf.

Dywedodd 56% o bobl eu bod wedi bod yn actif am o leiaf 150 munud yn ystod yr wythnos flaenorol, sy’n debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf ac yn 2019-20. Mewn gwrthgyferbyniad, dywedodd 29% o bobl eu bod wedi bod yn actif am lai na 30 munud yn ystod yr wythnos flaenorol, sy’n debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf ac yn 2019-20.

Dywedodd 24% o bobl eu bod wedi gwneud mwy o weithgarwch nag yr oeddent yn ei wneud cyn y cyfyngiadau, a dywedodd 34% eu bod wedi gwneud llai, y ddwy ganran yn debyg i’r hyn ydoedd ym mis Gorffennaf.

Cyflogaeth

Mae 52% o bobl mewn gwaith am dâl, sydd wedi cynyddu o 45% ym mis Mai 2020. Mae 4% ar ffyrlo, sydd wedi gostwng o 8% ym mis Gorffennaf, 9% ym mis Mehefin a 11% ym mis Mai 2020. O blith y rhai ar ffyrlo, nid yw 74% yn ôl yn y gwaith eto, ddim hyd yn oed yn rhan amser.

Image
Mae Siart 1 yn dangos bod y gyfran o bobl ar ffyrlo wedi gostwng o 11% ym mis Mai, i 9% ym mis Mehefin, 8% ym mis Gorffennaf a 4% ym mis Awst.

 

Mae 6% o aelwydydd yn cynnwys rhywun sydd ar ffyrlo.

Dywedodd 18% fod eu statws economaidd wedi newid ers dechrau pandemig y coronafeirws, sydd wedi gostwng o 25% ym mis Gorffennaf.

Y sefyllfa waith

O blith y rhai sy’n gweithio ar hyn o bryd, mae 9% yn cael eu talu i weithio rhwng 2 a 15 awr yr wythnos, 21% am 16 i 30 awr, 62% am 31 i 48 awr, a 5% am 49 awr neu ragor yr wythnos.

Ysgolion cynradd

Dywedodd 90% o rieni sydd â phlentyn oed cynradd fod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi plant gyda'u dysgu, lefel debyg i’r hyn ydoedd ym mis Mai, mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020.

Dywedodd 94% o rieni sydd â phlentyn oed cynradd eu bod yn hyderus yn eu gallu eu hunain i helpu eu plentyn i ddarllen yn Saesneg; o blith y rhain, mae 69% yn hyderus iawn a 25% yn weddol hyderus. Yn ogystal, mae 93% o rieni yn hyderus yn eu gallu i helpu eu plentyn i ysgrifennu yn Saesneg; o blith y rhain, mae 67% yn hyderus iawn a 26% yn weddol hyderus.

Mae 35% o rieni sydd â phlentyn oed cynradd yn hyderus yn eu gallu i helpu eu plentyn i ddarllen yn Gymraeg, ac mae 27% yn hyderus yn eu gallu i’w helpu i ysgrifennu yn Gymraeg.

Ysgolion uwchradd

Dywedodd 80% o rieni sydd â phlentyn oed uwchradd fod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi plant gyda'u dysgu.

Ymdeimlad o gymuned

Mae 68% o bobl yn cytuno: eu bod yn perthyn i’r ardal, bod pobl o wahanol gefndiroedd yn dod ymlaen yn dda gyda’i gilydd, a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch. Mae hyn wedi cynyddu o 52% yn 2018-19.

Image
Mae Siart 2 yn dangos bod mwy o bobl yn cytuno bod ymdeimlad o gymuned yn eu hardal leol yn yr arolygon misol eleni, o gymharu â phan ofynnwyd y cwestiynau hyn ddiwethaf yn arolwg blwyddyn gyfan 2018-19.

Biliau

Dywedodd 22% o bobl fod y coronafeirws wedi achosi problemau i sefyllfa ariannol eu haelwyd. Roedd y ffigur yn debyg ym mis Mai, mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020.

Gwybodaeth am ansawdd

Cynhaliwyd cyfweliadau ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan o’r blaen yn Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn cyfweliad wyneb yn wyneb.  Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu cynnal oedd asesiad llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Scott Armstrong
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 29/2020