Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae 20% o bobl wedi cael apwyntiad gyda meddyg teulu ers mis Ebrill 2020. Roedd 88% o'r unigolion hynny a gafodd ymgynghoriad dros y ffôn yn fodlon â'r gofal a dderbyniwyd, o gymharu â 95% o bobl a gafodd apwyntiad wyneb yn wyneb.

Mae 9% o bobl wedi cael apwyntiad ysbyty ers mis Ebrill 2020. Yn y cyfnod hwnnw, roedd 83% o apwyntiadau ysbyty yn rhai wyneb yn wyneb, o gymharu â 98% cyn dechrau mis Ebrill.

Image
Mae siart 1 yn dangos bod apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda meddygon teulu wedi syrthio o 91% cyn dechrau mis Ebrill i 31% wedi hynny, a bod apwyntiadau ysbyty wyneb yn wyneb wedi syrthio o 98% cyn dechrau mis Ebrill i 83% wedi hynny.

Dywedodd 78% o bobl a oedd wedi cael gofal cymdeithasol ers dechrau mis Ebrill fod y gwasanaethau cymorth yn ardderchog neu'n dda, lefel debyg i’r hyn ydoedd pan ofynnwyd y cwestiwn ddiwethaf yn 2018-19.

Ym mis Gorffennaf 2020, dywedodd 15% o bobl eu bod yn credu eu bod wedi cael COVID-19 (y coronafeirws) ar ryw adeg, lefel debyg i’r hyn ydoedd ym mis Mehefin 2020.

Smygu

Mae 13% o bobl yn dweud eu bod yn smygu ar hyn o bryd, gostyngiad ers yr arolwg blwyddyn lawn diwethaf yn 2019-20 (18%).

Gweithgarwch corfforol

Dywedodd 14% o bobl eu bod wedi beicio o leiaf unwaith yr wythnos yn y mis diwethaf.

Dywedodd 85% o bobl eu bod wedi bod allan am dro yn yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd 60% o bobl eu bod wedi bod yn actif am o leiaf 150 munud yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â 53% yn 2019-20. Mewn gwrthgyferbyniad, dywedodd 24% o bobl eu bod wedi bod yn actif am lai na 30 munud yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â 33% yn 2019-20.

Mae 27% o bobl yn dweud eu bod wedi gwneud mwy o weithgarwch nag yr oeddent yn ei wneud cyn cyflwyno'r cyfyngiadau, ac mae 34% yn dweud eu bod wedi gwneud llai.

Ffynonellau cymorth

Mae 95% o bobl yn dweud bod ganddynt berthnasau, ffrindiau neu gymdogion y gallant ofyn am help ganddynt.

Cyflogaeth

Mae 48% o bobl mewn gwaith am dâl, canlyniad tebyg i fis Mai 2020, ac mae 8% ar ffyrlo.

Dywedodd 25% fod eu statws economaidd wedi newid ers yr achosion o’r coronafeirws.

Y sefyllfa waith

Mae 74% o'r unigolion hynny sy'n gweithio ar hyn o bryd yn dweud y byddent yn cael eu talu'n llawn pe bai rhaid iddynt hunanynysu. Mae 40% o'r unigolion hynny sy'n gweithio ar hyn o bryd yn dweud eu bod yn gallu gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith, neu eu gwaith i gyd, gartref.

Dywedodd 74% fod y coronafeirws wedi achosi problemau yn eu bywyd gwaith.

Ysgolion cynradd

Mae 88% o rieni sydd â phlant oed cynradd yn dweud bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd i gefnogi plant gyda'u dysgu, lefel debyg i’r hyn ydoedd ym mis Mai 2020 a mis Mehefin 2020.

Mae 40% yn helpu eu plentyn gyda mathemateg neu rifau bob dydd, i lawr o 57% ym mis Mai. Yn yr un modd, mae 45% yn helpu eu plentyn gyda darllen ac ysgrifennu bob dydd, lefel debyg i’r hyn ydoedd ym mis Mai a mis Mehefin 2020.

Image
Mae siart 2 yn dangos y newidiadau rhwng mis Mai a Gorffennaf yn y gyfran o rieni plant ysgolion cynradd a oedd yn helpu eu plentyn gyda llythrennedd a mathemateg bob dydd.

Ysgolion uwchradd

Mae 77% o rieni sydd â phlant oed uwchradd yn dweud bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd i gefnogi plant gyda'u dysgu.

Biliau

Mae 4% o bobl ar ei hôl hi gyda biliau, neu'n cael trafferth yn gyson i dalu biliau, lefel debyg i’r hyn ydoedd ym mis Mai a mis Mehefin 2020.

Mae 4% o bobl wedi cael gwyliau ad-dalu ar gyfer o leiaf un benthyciad neu fil.

Dywedodd 17% o bobl fod y coronafeirws wedi achosi problemau i sefyllfa ariannol eu haelwyd, i lawr o 24% ym mis Mai a mis Mehefin 2020.

Credyd Cynhwysol

Mae 6% o oedolion oed gweithio wedi derbyn taliadau Credyd Cynhwysol yn ystod y 3 mis diwethaf. Mae 2% arall wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Tlodi bwyd

Mae 3% o bobl wedi cael bwyd, neu wedi bod eisiau bwyd, gan fanc bwyd yn y 12 mis diwethaf.

Gwybodaeth am ansawdd

Cynhaliwyd cyfweliadau ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan o’r blaen yn Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn cyfweliad wyneb yn wyneb.  Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu cynnal oedd asesiad llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd

diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid

gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Scott Armstrong
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 27/2020