Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyfranogiad mewn chwaraeon a galw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Mae’r sefydliad yn defnyddio dau brif arolwg ar raddfa fawr: yr 'Arolwg Chwaraeon Ysgol' a’r adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol’ yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r ddau i fonitro ac olrhain lefelau cyfranogiad ymhlith plant ac oedolion yn ogystal ag ymddygiad a thueddiadau mewn chwaraeon. Mae’r ymchwil yn helpu i dargedu buddsoddiad, llunio polisïau a gwneud penderfyniadau i sicrhau y gall Cymru fod yn wlad iachach a mwy egnïol i bawb.

Allbynnau ystadegol Chwaraeon Cymru

Dangosydd canlyniadau

Mae holl ganlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar gael i’w gweld drwy ein dangosydd canlyniadau.

Ebrill 2014 i Fawrth 2015