Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhai o’r prif ganlyniadau o fis Ebrill i fis Mehefin 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yr Arolwg Cenedlaethol wedi cynnwys dros 3,000 o bobl 16 oed a throsodd ac wedi ymdrin ag ystod eang o bynciau. Caiff canlyniadau’r arolwg ar gyfer y flwyddyn lawn (Ebrill 2021 i Fawrth 2022) eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022.

Caiff rhai canlyniadau eu cynnwys o flynyddoedd blaenorol, er mwyn rhoi cyd-destun. Fodd bynnag, gan gofio bod yr Arolwg Cenedlaethol wedi newid o fod yn arolwg wyneb yn wyneb i fod yn arolwg ffôn ym mis Ebrill 2020, dylid cymryd gofal wrth gymharu’n uniongyrchol gyda chanlyniadau cyn y dyddiad hwn.

Gwasanaethau Meddygon Teulu a gwasanaethau ysbyty

54%

o bobl wedi cael apwyntiad meddyg teulu yn y 12 mis diwethaf.

Mae nifer y bobl sydd wedi cael apwyntiad meddyg teulu wedi gostwng o 64% yn 2020-21 a 76% yn 2019-20. O’r rheini a gafodd eu gweld gan feddyg teulu yn y 12 mis diwethaf: ymgynghorodd 65% â nhw unwaith neu ddwy, 24% dair i bum gwaith a 11% chwe neu fwy o weithiau. Cafodd 51% o apwyntiadau eu cynnal dros y ffôn, o gymharu â 48% wyneb yn wyneb a 1% dros alwad fideo. O’r rheini a drefnodd eu hapwyntiadau eu hunain, roedd 73% yn credu ei bod yn hawdd gwneud apwyntiad ar amser cyfleus, ac roedd 88% yn fodlon â’r gofal a dderbyniwyd.

Mae 32% o bobl wedi cael apwyntiad ysbyty yn y 12 mis diwethaf, yn debyg i’r ffigur o 34% cyn y pandemig yn 2019-20. O’r bobl a gafodd apwyntiad yn y flwyddyn ddiwethaf, aeth 71% unwaith neu ddwy, 18% dair i bum gwaith a 11% chwe neu fwy o weithiau. Roedd 87% o apwyntiadau yn rhai wyneb yn wyneb, 11% yn rhai dros y ffôn a 2% dros alwad fideo.

Mae 96% o bobl yn dweud eu bod wedi cael eu trin ag urddas a pharch, ac mae 93% yn fodlon â’r gofal a gawsant.

Yr ardal a’r amgylchedd lleol

Mae 35% o bobl yn cytuno bod ganddynt gyfleoedd i gyfrannu at wneud penderfyniadau am sut y caiff eu gwasanaethau lleol eu rhedeg, o gymharu â 17% yn 2019-20. Mae 30% o bobl yn cytuno eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, o gymharu â 19% yn 2018-19. Mae’r ddau ffigur hwn yn dangos cynnydd amlwg a gall fod yn adlewyrchiad o newid yn ystod y pandemig, felly byddwn yn monitro hyn wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.

Mae’r rheini sy’n fodlon â’u hardal leol fel lle i fyw yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau (34%) na phobl sy’n anfodlon â’r ardal leol (mae 21% o’r bobl hyn yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau).

Image
Siart far wedi'i stacio sy'n dangos pa mor broblematig y mae pobl yn tybio yw pedwar mater amgylcheddol lleol ar wahân: tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel, baw cŵn, a graffiti a fandaliaeth

Mae 44% o bobl yn credu bod taflu sbwriel yn broblem (mawr neu gymedrol) yn eu hardal leol ac mae 19% o bobl yn meddwl bod cŵn yn baeddu yn broblem fawr (Siart 1). Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o feddwl bod graffiti neu fandaliaeth yn broblem (17%) na’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig (6%). Mae tipio anghyfreithlon yn broblem mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Ysgolion Cynradd

88%

o rieni yn dweud bod ysgol gynradd eu plentyn yn dod o hyd i ffyrdd o helpu gyda dysgu gartref.

Mae 39% o rieni yn dweud eu bod yn helpu eu plentyn bob dydd gyda llythrennau, darllen neu ysgrifennu, ac mae 27% o rieni yn dweud eu bod yn helpu gyda mathemateg bob dydd. Mae hyn wedi gostwng ers Ionawr-Mawrth 2021 pan fu ysgolion ar gau oherwydd pandemig y coronafeirws, a helpodd 49% o rieni gyda llythrennau a 48% gyda mathemateg yn ystod y cyfnod hwn.

Y ffordd fwyaf cyffredin o fynd i’r ysgol yw mewn car (48%); mae dulliau eraill yn cynnwys cerdded gydag oedolyn (39%) a phlant yn cerdded ar eu pennau eu hunain/gyda phlant eraill (11%). Mae’n bosibl bod newidiadau tymhorol yn effeithio ar deithio llesol i’r ysgol, a bydd darlun llawn ar gael pan gaiff y canlyniadau ar gyfer y flwyddyn lawn eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022.

Ysgolion Uwchradd

Mae 78% o rieni sydd â phlentyn oed ysgol uwchradd yn dweud bod ysgol y plentyn yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi plant gyda dysgu gartref.

Mae 65% o rieni sydd â phlentyn oed ysgol uwchradd yn dweud eu bod yn helpu eu plentyn gyda’i waith ysgol o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae disgyblion ysgol uwchradd yr un mod debygol o fynd i’r ysgol drwy gerdded ar eu pennau eu hunain neu gyda phlant eraill (33%) neu yn y car (32%) neu ar fws yr ysgol (32%).

Cyflogaeth a hyfforddiant

Mae 56% o oedolion 16 i 64 oed yn dweud eu bod naill ai’n gyflogai neu’n hunangyflogedig. Mae hyn yn cynnwys y 1% o oedolion 16 i 64 oed a ddywedodd eu bod wedi bod ar ffyrlo oherwydd y pandemig. Mae 3% o oedolion 16 i 64 oed yn ddi-waith.

O’r rheini nad ydynt mewn cyflogaeth nac yn hyfforddi ar hyn o bryd, ond y byddai’n hoffi cael swydd, collodd 14% eu swyddi blaenorol yn y flwyddyn ddiwethaf, a chollodd 77% eu swyddi dros flwyddyn yn ôl.

Mae 29% o bobl wedi bod ar gwrs addysg neu hyfforddiant ffurfiol, sef cyfran debyg i honno yn 2018-19. Pobl 16-44 oed sydd fwyaf tebygol o fynd ar gwrs addysg neu hyfforddiant ffurfiol (45%). Aeth 32% o’r rheini mewn ardal drefol ar gwrs hyfforddi o gymharu â 25% o’r rheini mewn ardaloedd gwledig.

Llygredd sŵn

Mae 25% o bobl yn dweud eu bod yn cael eu poeni’n rheolaidd gan sŵn yn dod o’r tu allan i’w cartref, sef cyfran debyg i honno yn 2017-18. Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o gael eu poeni gan sŵn (28%) na’r rheini mewn ardaloedd gwledig (21%).

Mae 22% o berchen-feddianwyr yn cael eu poeni gan sŵn, o gymharu â 36% mewn tai cymdeithasol a 34% mewn cartrefi wedi’u rhentu’n breifat. Eto, mae’r canlyniadau hyn yn debyg i’r rheini yn 2017-18.

Mae llai o bobl yn dweud eu bod yn cael eu poeni gan sŵn yn dod o du fewn i gartrefi eu cymdogion na phan ofynnwyd y cwestiwn hwn ddiwethaf yn 2017-18 (Siart 2). Fodd bynnag, mae mwy o bobl nawr yn dweud bod rhesymau eraill dros lygredd sŵn yn broblem (er enghraifft: grwpiau o bobl ifanc yn eu harddegau, cŵn yn cyfarth, a gwaith adeiladu).

Image
Siart yn dangos y mathau o sŵn sy’n peri’r drafferth fwyaf i bobl yn eu cartrefi, wedi'u plotio ar gyfer 2017-18 a mis Ebrill i fis Mehefin 2021.

Mae pobl 16 i 44 oed yn fwy tebygol na’r rheini 65 oed a throsodd i gael eu poeni gan sŵn y tu fewn i’w cartrefi sy’n dod o du fewn i gartrefi eu cymdogion (29% o gymharu â 14%) ac o gymdogion sydd y tu allan (54% o gymharu â 29%). Fodd bynnag, mae pobl 16 i 44 oed yn llai tebygol o gael eu poeni gan sŵn traffig, busnesau neu ffatrïoedd (36%) na’r rheini sy’n 65 oed ac yn hŷn (50%).

Newid hinsawdd

Mae 95% o bobl yn credu bod hinsawdd y byd yn newid. O’r rhain, mae 69% yn credu ei fod bendant yn newid a 26% yn credu ei fod yn newid yn ôl pob tebyg. Pan ofynnwyd pa mor bryderus oedd pobl am newid hinsawdd, dywedodd 34% o bobl eu bod yn bryderus iawn, 9% nad ydynt yn bryderus o gwbl, a dywedodd y gweddill eu bod yn weddol neu’n eithaf pryderus.

Mae 80% o bobl yn dweud bod gan y llywodraeth lawer o gyfrifoldeb wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, mae 71% yn credu bod llawer o’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau busnesau, ac mae 62% yn credu bod gan y cyhoedd lawer o gyfrifoldeb.

Image
Siart yn dangos sut mae barn pobl am achosion newid hinsawdd wedi newid ar draws y blynyddoedd 2016-17, 2017-18 a mis Ebrill i fis Mehefin 2021.

Mae Siart 3 yn dangos bod barn ar y rhesymau dros newid hinsawdd wedi newid dros amser, gyda mwy o bobl nawr yn dweud ei fod yn cael ei achosi’n gyfan gwbl, neu’n bennaf gan weithgarwch dynol: yn 2016-17 roedd 38% o bobl yn credu mai gweithgarwch dynol oedd yn ei achosi, o gymharu â 53% yn y canlyniadau diweddaraf hyn.  

Presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau

Mae effaith cyfnodau clo y coronafeirws yn arbennig o amlwg yn y canlyniadau ar bresenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau a digwyddiadau diwylliannol. Dim ond 17% o bobl aeth i ddigwyddiad celfyddydol yn y 12 mis diwethaf, o gymharu â 73% yn 2018-19. Yn yr un modd, aeth 6% o bobl i weld ffilm yn y sinema o gymharu â 57% yn 2018-19.

Roedd y niferoedd a gymerodd ran mewn digwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol hefyd lawer yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Byddwn yn adrodd ar hyn eto pan fydd y canlyniadau ar gyfer y flwyddyn 2020-21 lawn ar gael.

Mae 82% o bobl yn dweud eu bod yn cytuno y dylai cyllid cyhoeddus fod ar gael i brosiectau celfyddydol a diwylliannol, ac mae 88% o bobl yn cytuno bod y celfyddydau a’r diwylliant yn gwneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo. Mae’r canlyniadau hyn yn debyg i ganlyniadau 2018-19.

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

55%

o bobl ran mewn rhyw weithgarwch chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn y 4 wythnos ddiwethaf.

Yn yr un modd â phresenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau, mae’r pandemig wedi cael effaith amlwg ar y canlyniadau ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, roedd modd cymharu’r canlyniadau gyda blynyddoedd blaenorol ar gyfer dau weithgaredd nad oedd wedi’u cyfyngu: roedd cerdded mwy na dwy filltir (49%) a loncian neu redeg (14%) yn dal i fod yn weithgareddau cyffredin.

Gofynnwyd hefyd i bobl a oedd unrhyw chwaraeon neu weithgareddau yr hoffent eu gwneud, neu wneud mwy ohonynt. Mae 33% yn dweud eu bod am wneud mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn gyffredinol. Yn arbennig, mae 22% am wneud mwy o weithgarwch ffitrwydd (megis dosbarthiadau ffitrwydd, rhedeg/loncian, beicio neu nofio) ac mae 12% am wneud mwy o chwaraeon neu gemau (megis pêl-droed, rygbi, tenis bwrdd neu golff). Byddai 5% yn hoffi gwneud mwy o weithgareddau yn yr awyr agored fel cerdded, ceufadu neu hwylio.

Anifeiliaid anwes

Mae gan 52% o aelwydydd anifail anwes. Cŵn (33% o aelwydydd) a chathod (21% o aelwydydd) yw’r mathau mwyaf cyffredin o anifeiliaid anwes. Mae gan 5% o aelwydydd anifail bach blewog (bochdew, mochyn cwta, llygoden etc.) ac mae gan 2% aderyn. Mae’r canlyniadau hyn yn debyg i pan gafodd y cwestiynau eu gofyn ddiwethaf yn 2014-15.

Os oedd pobl wedi cael yr anifail anwes yn y pum mlynedd ddiwethaf, gofynnwyd iddynt o ble y cawsant ef. Cafodd cŵn eu prynu gan fwyaf gan werthwr preifat (28%), bridiwr trwyddedig (23%) neu gan deulu a ffrindiau (23%). Yn 2014-15, prynodd 38% o bobl eu ci gan werthwr preifat. Roedd pobl yn cael cathod gan deulu a ffrindiau gan fwyaf (35%) neu ganolfan achub (24%).  

Mae adroddiadau yn y cyfryngau’n awgrymu bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n berchen ar anifail anwes yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, nid yw’n glir o ganlyniadau’r arolwg bod hyn wedi digwydd yng Nghymru. O’r aelwydydd a oedd wedi cael ci yn y pum mlynedd ddiwethaf, dangosodd yr arolwg bod 21% wedi cael eu ci yn y flwyddyn ddiwethaf. O’r aelwydydd a oedd wedi cael cath yn y pum mlynedd ddiwethaf, roedd 25% wedi cael eu cath yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae gan 59% o gathod a chŵn yswiriant, ac mae gan 91% ficrosglodyn.

Gwybodaeth am ansawdd

Cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn gyda hapsampl o bobl 16 oed a throsodd. Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu cynnal oedd asesiad llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Richard Murphy
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 32/2021