Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn nodi canlyniadau ar ystod eang o bynciau a ofynnwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae'r arolwg yn cael ei gynnal yn barhaus ledled Cymru, ac mae’n cynnwys tua 12,000 o bobl 16 oed a throsodd bob blwyddyn.

Ers dechrau pandemig coronafeirws (COVID-19) yn 2020, mae'r Arolwg Cenedlaethol wedi cael ei gynnal dros y ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb fel o'r blaen. Mae rhai canlyniadau o flynyddoedd blaenorol wedi'u cynnwys i roi cyd-destun. Fodd bynnag, oherwydd y gwahaniaeth yn y dull a newidiadau posibl oherwydd y pandemig, dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol.

Cydlyniant cymunedol

Mae 64% o bobl yn dweud eu bod yn profi ymdeimlad o gymuned yn eu hardal leol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cytuno â'r tri datganiad:

  1. maent yn teimlo eu bod yn perthyn i'r ardal
  2. bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda â'i gilydd
  3. bod pobl yn trin ei gilydd â pharch
Image
Siart bar yn cymharu canran y bobl yn arolygon 2018-19 a 2021-22 a oedd yn cytuno gyda'r datganiadau: "Rwy’n teimlo fy mod yn perthyn i’m hardal leol"; "Mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda â’i gilydd"; "Mae pobl yn trin ei gilydd â pharch" a ph’un a oes ganddynt ymdeimlad o gymuned ai peidio.

Mae Siart 1 yn dangos bod ymdeimlad pobl o gymuned yn parhau i fod yn uwch nag mewn arolygon blynyddoedd cyn y pandemig (52% yn 2018-19) er ei fod yn is na'r uchafbwynt o 69% a adroddwyd yn 2020-21. Mae'r ymatebion i'r cwestiynau unigol hefyd wedi dangos cynnydd cyfatebol.

Mae 89% o bobl yn dweud eu bod yn fodlon gyda'u hardal leol fel lle i fyw ynddo, sy’n gynnydd o gymharu â 85% yn 2018-19. Mae canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Bywyd Cymunedol, 2020-21 (Yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) yn Lloegr yn yr un modd yn dangos cynnydd mewn cydlyniant cymunedol, a bod pobl bellach yn fwy bodlon â'u hardal leol fel lle i fyw, o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Gwasanaethau awdurdod lleol

74%

o bobl yn dweud eu bod yn fodlon bod gwasanaethau a chyfleusterau da ar gael yn eu hardal leol.

Mae hyn wedi cynyddu o 69% yn 2018-19. Bu cynnydd hefyd yng nghyfran y bobl sy'n dweud eu bod yn fodlon y byddent yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a'r cyfleusterau hyn, 86% yn 2021-22, o'i gymharu â 83% yn 2018-19.

Pan ofynnwyd iddynt am eu rhan mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â gwasanaethau a chyllidebau awdurdodau lleol, rhoddodd mwy o bobl ymateb cadarnhaol na chyn y pandemig. Mae 34% o bobl yn dweud eu bod yn cael cyfleoedd i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau am sut y caiff eu gwasanaethau lleol eu rhedeg, o'i gymharu â 17% yn 2019-20. Mae 30% o bobl yn dweud y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol, o'i gymharu â 19% yn 2018-19. Dyma gynnydd amlwg, a allai adlewyrchu'r newid yn y dull casglu neu fod o ganlyniad i'r pandemig neu gyfuniad o'r ddau, mae angen dadansoddiad pellach i edrych ar hyn.

Addysg a hyfforddiant ôl-orfodol

Mae 23% o bobl yn dweud bod ganddynt gynlluniau i ddechrau cwrs addysg neu hyfforddiant yn y tair blynedd nesaf o'i gymharu â 27% yn 2018-19. Mae'r cyfrannau'n amrywio yn ôl oedran gyda 52% o bobl ifanc 16 i 24 oed, 33% o bobl 25 i 44 oed, a 12% o bobl 45 oed a throsodd yn bwriadu dilyn trywydd addysg bellach.

Mae 55% o bobl yn y grŵp 16 i 24 oed eisiau astudio yn y brifysgol tra bod 54% o bobl 45 oed a throsodd yn dweud y byddai'n well ganddynt ddysgu ar-lein. (Siart 2)

Image
Siart bar yn dangos y lleoliadau y mae pobl yn eu ffafrio ar gyfer astudio, wedi’u trefnu yn ôl grŵp oedran.

Ymddygiadau ffordd o fyw

30%

o bobl yn bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau a llysiau bob dydd.

Mae polisi iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar bum ymddygiad ‘ffordd iach o fyw’:

  1. peidio ag ysmygu
  2. peidio ag yfed uwchlaw'r canllawiau
  3. bod yn bwysau iach
  4. bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau
  5. bod yn egnïol.

Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos bod 30% o bobl (16 oed a throsodd) yn dilyn 4 neu 5 o'r ymddygiadau ffordd iach o fyw, tra bod 93% yn dilyn 2 neu fwy o'r ymddygiadau hyn.

Mae 13% o oedolion yn ysmygwyr, ac mae 29% yn gyn-ysmygwyr. Nid yw 19% o bobl yn yfed alcohol, tra bod 16% yn yfed mwy na'r uchafswm canllaw o 14 uned yr wythnos. Mae 36% o bobl yn bwysau iach, tra bod 62% dros eu pwysau neu'n ordew (gan gynnwys 25% yn ordew). Dywed 30% o bobl eu bod wedi bwyta 5 dogn neu fwy o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol. Dywed 56% o bobl eu bod yn egnïol am o leiaf 150 munud yr wythnos flaenorol, a fyddai'n bodloni canllawiau gweithgareddau wythnosol.

Gall pynciau ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn sensitif i newidiadau yn y dull casglu, felly ni ellir cymharu canlyniadau'n uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol. Bydd dadansoddiad manwl pellach o'r canlyniadau hyn ar gael ar y wefan o 19 Gorffennaf 2022.

Ysgolion

54%

o rieni sydd â phlentyn yn yr ysgol gynradd yn dweud bod gan y plentyn ei gyfrifiadur personol, ei liniadur neu ei lechen ei hun.

Bu cynnydd ers 2020-21, pan oedd gan 45% o blant ddyfais bersonol, gall hyn fod o ganlyniad i'r pandemig a'r angen am addysg gartref. Dywedir bod gan 34% yn ychwanegol o blant oed ysgol gynradd fynediad at ddyfais a rennir. Mae gan 78% o blant ysgol uwchradd ddyfais bersonol i wneud eu gwaith. Mae hyn wedi aros yr un fath ag yn 2020-21.

Dywed 88% o rieni fod ysgol gynradd eu plentyn wedi eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi dysgu eu plentyn, tra bod 75% o rieni'n cytuno bod ysgol uwchradd eu plentyn wedi eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi eu plant.

Teithio llesol i blant

Mae 47% o blant cynradd yn cerdded i'r ysgol o gymharu â 33% o blant uwchradd. (Siart 3)

Image
Siart bar yn dangos y dulliau y mae plant yn eu defnyddio i deithio i’r ysgol ac o’r ysgol, wedi’u trefnu yn ôl ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae'r dull o deithio i'r ysgol yn amrywio yn dibynnu ar p’un a yw'r plentyn yn byw mewn ardal drefol neu wledig. Mae 51% o blant ysgol gynradd sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn cerdded i'r ysgol o gymharu â 39% sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Roedd y gwahaniaeth hwn yn fwy amlwg gyda chymudo mewn ysgolion uwchradd, lle mae 45% o blant mewn ardaloedd trefol yn cerdded i'r ysgol o gymharu â 12% o blant sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

Gweithgarwch corfforol plant

45%

o blant (3 i 17 oed) yn egnïol am awr neu fwy bob dydd o'r wythnos flaenorol.

Mae'r canlyniad hwn yn is nag yn 2016-17, lle dywedwyd bod 51% o blant (3 i 17 oed) yn egnïol am awr neu fwy bob dydd yn ystod yr wythnos flaenorol.

Mae plant hŷn yn llai tebygol o fod yn egnïol, gyda 35% o'r rhai 13 i 17 oed yn dweud eu bod yn egnïol bob dydd am yr wythnos gyfan o gymharu â 43% o'r rhai 8 i 12 oed a 58% o'r rhai 3 i 7 oed.

Defnydd o'r rhyngrwyd

93%

o oedolion eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd (gartref, yn y gwaith neu rywle arall).

Gofynnwyd i ddefnyddwyr y rhyngrwyd a oeddent wedi cyflawni rhai gweithgareddau ar y rhyngrwyd yn ystod y 3 mis diwethaf. Cafodd y gweithgareddau hyn eu grwpio'n bum math o sgil rhyngrwyd (Siart 4). Mae cyfran y bobl sy'n cymryd camau i gadw'n ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein wedi cynyddu ers 2019-20, yn ogystal â'r gyfran sy'n defnyddio sgiliau trafodion. Roedd 78% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd wedi cyflawni gweithgareddau a oedd yn ymwneud â phob un o'r 5 sgil hyn o gymharu â 73% yn 2019-20.

Image
Siart bar yn dangos canran y bobl a ddefnyddiodd pob un o’r sgiliau rhyngrwyd yn y 3 mis diwethaf, gan gymharu canlyniadau arolygon 2019-20 a 2021-22.

Gwasanaethau meddyg teulu

58%

o bobl apwyntiad meddyg teulu yn ystod y 12 mis diwethaf.

Cyn y pandemig, yn 2019-20, cafodd 76% o bobl apwyntiad meddyg teulu yn ystod y 12 mis blaenorol. Gostyngodd hyn i 64% o bobl yn ystod 2020-21. Mae angen ymchwilio mwy i’r gostyngiad pellach i 58% a welwyd yn 2021-22 ond gellir esbonio hyn i ryw raddau drwy fod pobl wedi dewis neu'n cael eu cyfeirio at weithwyr iechyd proffesiynol eraill yn hytrach na'u meddyg teulu. Roedd dynion yn llai tebygol o weld meddyg teulu (53%) na menywod (63%). Gwelodd 67% o'r rhai mewn amddifadedd materol feddyg teulu o'i gymharu â 57% o bobl nad oeddent mewn amddifadedd materol.

Iechyd deintyddol

94%

o'r rhai a gafodd apwyntiad deintyddol y GIG yn ystod y 12 mis diwethaf yn fodlon ar y gofal a gawsant.

Roedd 35% o'r bobl nad oeddent wedi bod at y deintydd yn ystod y 12 mis diwethaf wedi eisiau cael apwyntiad deintyddol. O'r rhai a oedd am gael apwyntiad gan y GIG ond heb lwyddo i gael un:

  • ni allai 43% gael apwyntiad pan oeddent am gael un oherwydd ôl-groniad ers y pandemig
  • ni allai 34% ddod o hyd i bractis deintyddol y GIG
  • nid oedd gan 15% bractis deintyddol y GIG yn eu hardal

Mae cyfran y bobl a gafodd apwyntiad yn ystod y 6 mis diwethaf wedi cynyddu ers Ionawr i Fawrth 2021, o 21% i 32%, ond mae'n parhau'n is na’r 77% o bobl cyn y pandemig (Siart 5).

Image
Siart bar yn dangos pryd y cafodd pobl apwyntiad deintyddol ddiwethaf, gan ddefnyddio data o 2019-20, mis Ionawr i fis Mawrth 2021 a 2021-22.

Nam ar y clyw

17%

o bobl yn dweud eu bod yn cael anhawster clywed.

Ni fu unrhyw newid yng nghyfran y bobl sy'n cael anhawster clywed o'i gymharu â'r amcangyfrifon yn 2018-19.

Mae 30% o bobl sy'n dweud bod ganddynt broblemau clyw hefyd yn dweud eu bod yn defnyddio cymhorthion clyw o leiaf beth o'r amser, canlyniad tebyg i'r adeg pan ofynnwyd y cwestiwn hwn ddiwethaf yn 2018-19. Mae 74% o'r rhai sy'n dweud eu bod yn defnyddio cymhorthion clyw wedi’u cael am ddim drwy'r GIG, mae 25% yn talu'n breifat ac mae 2% yn defnyddio cymysgedd o GIG a darpariaeth breifat.

Mae 15% o bobl yn dweud eu bod yn dioddef o tinnitus.

Gofal llygaid

72%

eu bod yn cael prawf llygaid o leiaf bob dwy flynedd.

Image
Siart bar yn dangos pa mor aml y cafodd pobl brofion llygaid.

Mae'r canlyniadau ar gyfer 2021-22 a ddangosir yn Siart 6 yn debyg i'r adeg pan ofynnwyd y cwestiynau hyn yn 2018-19. Roedd pobl a oedd yn profi amddifadedd materol yn fwy tebygol o beidio byth â chael prawf llygaid (16%) na'r rhai nad oeddent mewn amddifadedd materol (8%).

Gofynnwyd i bobl pam nad oeddent wedi cael prawf llygaid. Dywedodd 80% nad oedd ganddynt broblemau llygaid, nid oedd 8% wedi meddwl am gael prawf llygaid, dywedodd 3% nad oedd apwyntiadau ar gael ac nid yw 2% yn teimlo'n ddiogel i fynd.

Dywed 49% o bobl y byddent yn mynd at optometrydd neu optegydd yn y lle cyntaf pe bai ganddynt boen neu gochni yn eu llygaid, a dywed 39% y byddent yn mynd at eu meddyg teulu i ddechrau. Mae'r canlyniadau hyn yn dangos newid ers 2018-19 pan ddywedodd 40% y byddent yn mynd at optegydd, a 47% at eu meddyg teulu.

Ansawdd yr amgylchedd lleol

Mae 43% o bobl yn dweud bod sbwriel yn broblem (mawr neu gymedrol) yn eu hardal leol ac mae 19% o bobl yn dweud bod baw cŵn yn broblem fawr (Siart 7). Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o ddweud bod graffiti neu fandaliaeth yn broblem (15%) na'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig (6%). Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol (32%) yn ystyroed bod tipio anghyfreithlon yn broblem fwy yn yr ardal leol, o gymharu â phobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig (26%).

Image
Siart bar wedi’i stacio o faint o bobl sy’n credu bod materion fel tipio anghyfreithlon, sbwriel, cŵn yn baeddu a graffiti a fandaliaeth yn broblem yn eu hardal leol.

Boddhad â Llywodraeth Cymru, gwasanaethau iechyd ac addysg

Gofynnwyd i bobl nodi lefel eu boddhad ag addysg, a gwasanaethau iechyd yng Nghymru ar raddfa o sero i ddeg lle'r oedd 0 yn 'eithriadol o wael' a 10 yn 'eithriadol o dda’. Hefyd gofynnwyd iddynt am eu barn am waith Llywodraeth Cymru, ar raddfa rhwng 0 (anfodlon iawn) a 10 (bodlon iawn).

Y sgôr cyfartalog a roddwyd allan o 10 oedd:

  • 6.3 ar gyfer iechyd
  • 6.8 ar gyfer addysg
  • 6.4 ar gyfer Llywodraeth Cymru

Roedd y sgoriau iechyd ac addysg yn debyg i'r rhai a roddwyd pan ofynnwyd y cwestiwn ddiwethaf yn 2018-19. Roedd boddhad â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith wedi cynyddu i 6.4 o 5.4 yn 2018-19.

Mae Arolwg Cymdeithasol Ewrop (ESS) yn cynnwys cyfres debyg o dri chwestiwn ar foddhad ag iechyd, addysg a'r llywodraeth. Mae'r canlyniadau diweddaraf, o 2018-19, yn cynnwys 29 o wledydd.

Mae'r sgoriau a roddwyd ar gyfer Cymru yn yr Arolwg Cenedlaethol yn uwch na chanlyniadau'r DU ac Ewrop ar gyfer y tri chwestiwn. Roedd boddhad ymatebwyr y DU â gwasanaethau addysg yn 5.6 allan o 10, a boddhad â'r gwasanaethau iechyd yn 5.7. Roedd boddhad â llywodraeth y DU yn 3.8 allan o 10. Mewn gwledydd eraill, roedd y sgoriau'n amrywio o 2.6 o bob 10 yn fodlon â llywodraeth Croatia (gan ymatebwyr yng Ngroatia) i 6.7 yn y Swistir (gan ymatebwyr yn y Swistir).

Anifeiliaid anwes

53%

o aelwydydd anifail anwes.

Mae gan 36% o aelwydydd gi ac mae gan 20% gath. Mae gan 3% o aelwydydd anifail anwes bach blewog (bochdew, mochyn cwta, llygoden ac ati) ac mae gan 2% aderyn anwes. Mae'r canlyniadau hyn i gyd yn debyg i'r adeg pan ofynnwyd y cwestiynau ddiwethaf yn 2014-15.

Os cafwyd yr anifail anwes yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gofynnwyd i bobl o ble yr oeddent wedi'i gael. Prynwyd cŵn yn bennaf gan werthwr preifat (28%), bridiwr trwyddedig (30%), neu gan ffrindiau a theulu (21%). Yn 2014-15, prynodd 38% o bobl eu ci gan werthwr preifat. Roedd pobl yn cael cathod gan ffrindiau a theulu gan amlaf (34%) neu o ganolfan achub (27%).  Dywedir bod 61% o gathod a chŵn wedi'u hyswirio, a bod gan 91% ficrosglodyn.

Mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol

88%

o bobl yn cytuno bod y celfyddydau a diwylliant yn gwneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo.

Dywed 83% o bobl eu bod yn cytuno y dylid cael arian cyhoeddus ar gyfer prosiectau celfyddydol a diwylliannol. Mae'r rhain yn ganlyniadau tebyg i 2018-19.

Mae effaith cyfnodau clo y coronafeirws yn arbennig o amlwg yn y canlyniadau ar bresenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol er bod presenoldeb a chyfranogiad wedi cynyddu drwy gydol y flwyddyn wrth i'r cyfyngiadau lacio. Dros y flwyddyn lawn 2021-22, aeth 33% o bobl i ddigwyddiad celfyddydol yn y 12 mis blaenorol o'i gymharu â 73% yn 2018-19. Yn yr un modd, mae 21% o bobl yn dweud eu bod wedi gweld ffilm yn y sinema o'i gymharu â 57% yn 2018-19. Dywed 10% o bobl eu bod wedi ymweld ag amgueddfa yn ystod y 12 mis diwethaf o'i gymharu â 37% yn 2018-19.

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

56%

o bobl eu bod wedi cymryd rhan mewn rhyw gamp chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y 4 wythnos diwethaf.

Gofynnwyd i bobl pa weithgareddau corfforol y maent yn cymryd rhan ynddynt. Dywed 51% o bobl eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd (fel dosbarthiadau ffitrwydd, rhedeg/loncian, beicio, neu nofio) ac mae 14% yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu gemau (fel pêl-droed, rygbi, tenis bwrdd neu golff). Mae 6% yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel cerdded, caiacio neu hwylio.

Gofynnwyd i bobl hefyd a oedd unrhyw chwaraeon neu weithgareddau yr hoffent eu gwneud, neu wneud mwy ohonynt. Dywed 31% eu bod am wneud mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn gyffredinol. Yn benodol, mae 20% yn dweud eu bod am wneud mwy o weithgareddau ffitrwydd a 10% am wneud mwy o chwaraeon neu gemau, a hoffai 5% wneud mwy o weithgareddau awyr agored.

Dywed 34% o bobl eu bod yn cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. Dywed 20% o bobl sy'n cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos eu bod yn fodlon ar y swm hwnnw, tra hoffai 13% sy'n cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos wneud mwy fyth. Hoffai 18% o bobl nad ydynt yn cymryd rhan mor aml wneud mwy.

Gwybodaeth am ansawdd

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg ffôn sampl ar hap parhaus, ar raddfa fawr, sy'n cwmpasu pobl ledled Cymru. Dewisir cyfeiriadau ar hap, ac anfonir gwahoddiadau drwy'r post, yn gofyn am ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu'r rhif ffôn drwy borth ar-lein, llinell ymholiadau ffôn, neu'n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos hwnnw. Os na ddarperir rhif ffôn, gall cyfwelydd alw yn y cyfeiriad a gofyn am rif ffôn. Unwaith y ceir rhif ffôn, mae'r cyfwelydd yn defnyddio dull dewis ar hap i ddewis un oedolyn yn y cyfeiriad i gymryd rhan yn yr arolwg.

Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r system a ddefnyddir, gweler yr adroddiad ansawdd a’r adroddiad technegol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2020 yn dilyn asesiad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhad). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau drwy, er enghraifft:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • parhau i wneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau, i helpu defnyddwyr i ddeall yn well gyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. Yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaeth cyhoeddus eu defnyddio yn eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Tîm arolygon
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 165/2022