Neidio i'r prif gynnwy

Mae camgymeriad wedi ei nodi yn y dangosydd celfyddydau, diwylliant a threftadaeth sy’n seiliedig ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol o flwyddyn gwaith maes 2022-23 (mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023). Dylai’r defnydd o archifau, llyfrgelloedd, ac amgueddfeydd fod wedi ei gynnwys yn y dangosydd, ond ni ddigwyddodd hynny, ac felly adroddwyd yn anghywir bod gostyngiad mewn cyfranogiad o’i gymharu â 2019-20. Mae’r dangosydd diwygiedig yn dangos na fu gostyngiad o’i gymharu â 2019-20. Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer y dangosydd hwn wedi cael eu diwygio’n briodol, a chawsant eu hailgyhoeddi ar 17 Tachwedd 2023. Mae newidiadau wedi’u marcio drwy’r adroddiad gyda '(r)'.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r canlyniadau ar amrywiaeth eang o bynciau y gofynnwyd cwestiynau yn eu cylch yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.   Mae'r arolwg yn cael ei gynnal yn barhaus ledled Cymru, ac mae tua 12,000 o bobl 16 oed a throsodd yn cymryd rhan bob blwyddyn. Caiff ei gynnal mewn dwy ran: yn gyntaf, dros y ffôn ac wedyn ail adran ar-lein.

Caiff rhai o'r canlyniadau o flynyddoedd blaenorol eu cynnwys yn y datganiad hwn er mwyn cynnig cyd-destun. Fodd bynnag, gan ein bod wedi newid dull yr arolwg (o arolwg wyneb yn wyneb cyn 2020), dylid bod yn ofalus wrth lunio cymariaethau uniongyrchol.

Yr hinsawdd a'r amgylchedd

88%

o bobl yn dweud eu bod yn ymgymryd ag o leiaf un o chwe ymddygiad sydd o fudd i'r amgylchedd.

Gofynnwyd i bobl a ydynt yn ymgymryd â chwe math o ymddygiad sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd fel rhan o'u bywyd bob dydd (Ffigur 1). Gofynnwyd hefyd am y rhesymau dros ymgymryd â'r ymddygiadau hyn.

Ffigur 1: Ymddygiadau amgylcheddol, yn ôl blwyddyn

Image

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021-22 a 2022-23

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far fertigol yn dangos chwe ymddygiad cyffredin y mae pobl yn ymgymryd â nhw a all helpu'r amgylchedd, gan gymharu blynyddoedd 2021-22 a 2022-23. Yr ymddygiad mwyaf cyffredin, yr oedd 75% o bobl yn ymgymryd ag ef, oedd defnyddio llai o ynni gartref. Mae hyn o gymharu â 62% yn 2021-22. 

Dywedodd 84% o bobl mai'r prif reswm dros ddefnyddio llai o ynni gartref oedd cost ynni. Mae hyn yn gynnydd o 62% yn 2021-22. Yn yr un modd, dywedodd 43% o bobl mai cost oedd y prif reswm dros brynu llai o bethau newydd sbon o gymharu â 30% y flwyddyn flaenorol.

Cost hefyd oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros deithio llai mewn car (43%). Rhesymau iechyd neu ddietegol oedd y cymhelliant mwyaf cyffredin a oedd wedi annog pobl i fwyta llai o gig neu gynnyrch llaeth. Dywedodd 25% o bobl a oedd wedi teithio llai mewn awyren, mai newid yn yr hinsawdd oedd y rheswm dros hynny. 

Mae 97% o bobl yn meddwl bod hinsawdd y byd yn newid. Mae hyn wedi cynyddu o 93% yn 2016-17. Yn 2022-23, y grŵp oedran a oedd fwyaf tebygol o fod yn bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd oedd pobl rhwng 65 a 74 oed (47%) o gymharu â 32% o bobl rhwng 16 a 24 oed. Mae cyfanswm o 9% o bobl yn dweud nad ydynt yn bryderus o gwbl am newid yn yr hinsawdd.

Trwsio ac ailddefnyddio

90%

o bobl naill ai wedi gwerthu neu wedi rhoi eitemau yn ystod y 12 mis blaenorol.

Mae menywod yn fwy tebygol o werthu neu roi eitemau na dynion (93% o fenywod, 87% o ddynion). Yn gyffredinol, rhoddodd 78% o bobl eitemau i siopau elusen, rhoddodd 54% eitemau i deulu neu ffrindiau, a gwerthodd 41% eitemau ar-lein.

Mae 70% o bobl naill ai wedi derbyn neu wedi prynu eitemau ail-law yn ystod y 12 mis diwethaf, sef cynnydd o 57% yn 2018-19. O'r grŵp hwn, mae tebygol o dan 45 oed yn fwy tebygol o chwilio am eitemau ar-lein neu gan deulu a ffrindiau na phobl yn y grwpiau oedran hŷn. Pobl 65 mlwydd oed a hŷn yw’r grŵp mwyaf tebygol o beidio â derbyn neu brynu eitemau ail law.

Mae 40% o bobl wedi trwsio eitem cartref (neu wedi cael eitem o'r fath wedi'i thrwsio) yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae 45% o bobl wedi trwsio neu wedi addasu dillad yn ystod yr un cyfnod. Roedd dynion (44%) yn fwy tebygol na menywod (37%) o drwsio eitem cartref, ond roedd mwy o fenywod (51%) na dynion (39%) wedi addasu dillad a fyddai wedi mynd yn segur neu wedi cael eu taflu fel arall.

Presenoldeb a chyfranogi yn y celfyddydau

72%

o bobl wedi bod mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth neu wedi cyfranogi ynddynt o leiaf deirgwaith y flwyddyn. (r)

Mae hyn yn gyson â’r canlyniadau o 2019-20 pan ofynnwyd y cwestiynau hyn ddiwethaf, yn COVID-19. (r) Yn ogystal, roedd 64% wedi bod mewn digwyddiad celfyddydol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. (Ffigur 2) Dywedodd 18% o bobl eu bod wedi cyfranogi mewn gweithgaredd celfyddydol yn ystod y 12 mis blaenorol.

(r) Cafodd canran y bobl sy’n bresennol neu’n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth 3 gwaith neu fwy y flwyddyn ei chyfrifo yn anghywir ar gyfer canlyniadau 2022-23. Mae hyn wedi cael ei gywiro o XX/11/23.

Ffigur 2: Presenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol, fesul blwyddyn

Image

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2019-20 a 2022-23

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far lorweddol yn dangos mai dangosiad ffilm oedd y digwyddiad celfyddydol mwyaf cyffredin. Aeth 47% o bobl i ddigwyddiad o'r fath yn 2022-23 o gymharu â 54% yn 2019-20.

Dywedodd 63% o bobl eu bod wedi ymweld â safle treftadaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac roedd 31% wedi bod i amgueddfa. Mae'r defnydd o wasanaethau llyfrgell wedi lleihau o 32% yn 2019-20 i 25% yn 2022-23. Mae cyfran y bobl sy'n defnyddio archif neu swyddfa gofnodion wedi cynyddu o 5% yn 2019-20 i 8%.

Gofal plant

48%

o'r rhieni â phlant rhwng 0 a 14 oed yn trefnu gofal plant er mwyn iddynt allu gweithio, astudio neu hyfforddi.

Dywedodd 77% o'r rhieni nad oeddent yn defnyddio gofal plant nad oedd ei angen gan fod un rhiant o amgylch o hyd.

O'r rhieni a oedd wedi trefnu gofal plant, gofal plant wedi'i ddarparu gan deulu a ffrindiau oedd y math mwyaf cyffredin a oedd yn cael ei ddefnyddio, gyda 85% o'r grŵp hwn yn defnyddio'r opsiwn hwn. Roedd rhai rhieni yn defnyddio teulu a ffrindiau ochr yn ochr â gofal plant mwy ffurfiol fel meithrinfeydd a chlybiau ar ôl ysgol. Roedd 18% o rieni â phlant rhwng 0 a 14 oed yn defnyddio rhyw fath o ofal plant ffurfiol.

Amddifadedd

16%

o oedolion yng Nghymru yn cael eu hystyried fel oedolion mewn amddifadedd materol.

Ystyr amddifadedd materol yw pan na all pobl fforddio pethau sylfaenol fel cadw'r tŷ yn gynnes. Ceir rhagor o wybodaeth yn Termau a diffiniadau.

Mae amddifadedd ymhlith oedolion wedi cynyddu o 11% yn 2021-22. Mae amddifadedd ymhlith plant wedi cynyddu ers yr amcangyfrif diwethaf, ac mae gan 9% o rieni blant mewn amddifadedd materol o gymharu â 6% yn 2019-20. Gan ystyried oedolion sy'n bensiynwyr ar wahân, roedd eu lefel amddifadedd materol ar yr un lefel â 2021-22, sef 5%.

Dywedodd 63% o bobl nad oeddent yn cael unrhyw anawsterau wrth dalu biliau ac ymrwymiadau credyd. Mae'r gyfran hon wedi lleihau ers y llynedd (sef 76%) gan ddychwelyd i lefel a nodwyd ddiwethaf yn yr Arolwg Cenedlaethol yn 2016-17.

Gofynnwyd i bobl hefyd am eu gallu i fforddio bwyd. Dywedodd 2% nad ydynt yn gallu fforddio bwyta prydau gyda chig, pysgod neu gynhwysyn llysieuol cyfatebol o leiaf bob yn ail ddiwrnod. Dywedodd 5% eu bod wedi mynd heb bryd bwyd sylweddol o leiaf un diwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf naill. Dywedodd 3% eu bod wedi cael bwyd o fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf a dywedodd 3% arall eu bod wedi bod am wneud hynny, sef cynnydd ers 2021-22 pan oedd 2% wedi defnyddio banc bwyd ac roedd 1% arall wedi bod am wneud hynny.

Ymddygiadau ffordd o fyw

92%

o bobl yn dweud eu bod yn dangos 2 neu fwy o'r ymddygiadau cadarnhaol hyn.

Mae polisi iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar bump ymddygiad ‘ffordd o fyw iach’:

  1. ddim yn smygu
  2. ddim yn yfed mwy na'r canllawiau
  3. pwysau iach
  4. bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau
  5. bod yn egnïol

Mae 30% o bobl yn dangos 4 neu 5 ymddygiad iach.

Mae 13% o oedolion yn smygu, ac roedd 30% yn arfer smygu. Nid yw 17% o bobl yn yfed alcohol, ond mae 17% yn yfed mwy na'r uchafswm a argymhellir gan y canllawiau, sef 14 o unedau yr wythnos. Mae 37% o bobl o bwysau iach, ond mae 61% dros bwysau neu'n ordew (gan gynnwys 26% sy'n ordew). Mae 29% o bobl yn dweud eu bod wedi bwyta 5 dogn neu fwy o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol. Mae 55% o bobl yn dweud eu bod yn egnïol am o leiaf 150 o funudau yn ystod yr wythnos flaenorol, a fyddai'n bodloni'r canllawiau ar gyfer gweithgarwch wythnosol.

Gall pynciau sy'n ymwneud â ffordd o fyw ac iechyd fod yn sensitif i newidiadau mewn dull, felly nid oes modd cymharu'r canlyniadau yn uniongyrchol â'r canlyniadau a gafwyd cyn 2021-22. Caiff dadansoddiad pellach o'r canlyniadau hyn ei gyhoeddi ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol ar 25 Gorffennaf 2023.

Gwasanaethau gofal cymdeithasol

Dywedodd 5% o bobl eu bod wedi cael help ar eu cyfer nhw eu hunain gan wasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf. O'r bobl sy'n cael gofal, mae gan 33% becyn gofal wedi'i drefnu gan y cyngor lleol, ac mae 37% o'r grŵp hwn yn talu tuag at y gofal y maent yn ei gael. Dywedodd 3% arall y bu angen help arnynt ond na chawsant unrhyw help gan wasanaethau gofal a chymorth yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dywedodd 29% o bobl eu bod yn gofalu am aelodau o'u teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill neu'n rhoi help neu gymorth iddynt oherwydd salwch neu anabledd corfforol neu feddyliol hirdymor, neu oherwydd problemau sy'n gysylltiedig â henaint. (Ffigur 3)

Ffigur 3: Gofal a chymorth gan wirfoddolwyr

Image

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far fertigol yn dangos gwahanol gyfnodau amser mewn oriau bob wythnos. Mae 44% o bobl yn rhoi rhwng awr a 5 awr o ofal a chymorth ac ar yr ochr dde, mae 19% yn treulio 50 awr neu fwy bob wythnos fel gofalwyr gwirfoddol.

Dywedodd 7% o bobl eu bod yn cael help gan wasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru i ofalu am rywun arall neu i drefnu gofal i rywun arall. O'r grŵp hwn, mae 38% yn cael help i rywun sy'n rhan o'u haelwyd.

Chwaraeon a gweithgareddau corfforol

39%

o bobl yn dweud eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Gwnaethom ofyn i bobl pa weithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Mae 34% o bobl yn dweud eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd (fel dosbarthiadau ffitrwydd, rhedeg/loncian, beicio neu nofio) ac mae 56% yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu gemau (fel pêl-droed, rygbi, tennis bwrdd neu golff). Mae 6% yn cymryd rhan mewn campau awyr agored fel cerdded, caiacio neu hwylio.

Gofynnwyd i bobl hefyd a oedd unrhyw chwaraeon neu weithgareddau y byddent yn hoffi eu gwneud, neu wneud mwy ohonynt. Mae 27% yn dweud yr hoffent wneud mwy o chwaraeon neu weithgareddau corfforol yn gyffredinol. Yn benodol, mae 31% yn dweud yr hoffent wneud mwy o weithgareddau ffitrwydd a byddai 10% yn hoffi gwneud mwy o chwaraeon neu gemau. Byddai 5% yn hoffi gwneud mwy o gampau awyr agored.

O bawb, mae 26% yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos ac yn dweud eu bod yn fodlon â hynny, tra yr hoffai 13% sy'n cymryd rhan dair gwaith yr wythnos neu fwy wneud yn amlach hyd yn oed. Mae 14% o bobl yn cymryd rhan llai na thair gwaith yr wythnos ond byddent hefyd yn hoffi gwneud mwy o weithgareddau chwaraeon.

Defnyddio'r rhyngrwyd

93%

o oedolion yn dweud eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd (gartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall).

Mae 92% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn dweud eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd sawl gwaith y dydd. Mae hyn wedi cynyddu o 76% yn 2019-20.

Gofynnwyd i ddefnyddwyr y rhyngrwyd pa ddyfeisiau roeddent yn eu defnyddio i gysylltu â'r rhyngrwyd. (Ffigur 4) Mae 91% o'r grŵp hwn yn defnyddio ffôn clyfar i ddefnyddio'r rhyngrwyd o gymharu â 61% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn 2014-15. Mae'r defnydd o setiau teledu clyfar hefyd wedi cynyddu o 12% yn 2014-15 i 69% yn 2022-23.

Ffigur 4: Y dyfeisiau a ddefnyddir i ddefnyddio'r rhyngrwyd, yn ôl blwyddyn

Image

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2014-15 a 2022-23

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far lorweddol yn dangos sut mae'r defnydd o wahanol ddyfeisiau i ddefnyddio'r rhyngrwyd wedi newid ers gofyn y cwestiwn am y tro cyntaf yn 2014-15.

Roedd 80% o'r bobl sy'n defnyddio band eang gartref yn fodlon ar gyflymder y cysylltiad.

Trafnidiaeth

Roedd 40% o bobl wedi defnyddio gwasanaeth bws yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac roedd 30% o'r grŵp hwnnw yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos. Roedd 45% o bobl wedi defnyddio gwasanaethau trên yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda'r mwyafrif ohonynt (91%) yn defnyddio trên llai nag unwaith yr wythnos. Yn gyffredinol, dywedodd 4% o bobl nad oedd unrhyw wasanaethau bws yn eu hardal leol, a dywedodd 8% nad oedd unrhyw wasanaethau trên.

Y prif reswm a nodwyd gan bobl dros beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu dros beidio â'i defnyddio'n amlach oedd ei bod hi'n fwy cyfleus/haws defnyddio car. (Ffigur 5)

Ffigur 5: Rhesymau dros beidio â defnyddio bysiau a threnau

Image

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far lorweddol yn rhestru'r rhesymau pam nad yw pobl yn defnyddio bysiau a threnau fwy i deithio'n gyffredinol, er enghraifft i fynd i'r gwaith neu ar gyfer gweithgareddau hamdden.

Gofynnwyd i bawb, gan gynnwys y bobl nad oeddent wedi defnyddio bws neu drên yn ystod y 12 mis blaenorol, pa mor fodlon oeddent â dibynadwyedd ac amlder gwasanaethau. Dywedodd 52% eu bod yn fodlon ar y cyfan â'r gwasanaethau bws ac roedd 55% yn fodlon ar y gwasanaethau trên.

Gofynnwyd cyfres bellach o gwestiynau i'r bobl sy'n gweithio ac sy'n teithio i'r gwaith, gan gynnwys un cwestiwn am sut y byddent yn teithio fel arfer i'r gwaith. Mae 75% fel arfer yn teithio mewn car neu fan, 8% ar y bws a 5% ar y trên.

Pan ofynnwyd iddynt faint o'r gloch roedd eu taith i'r gwaith yn dechrau fel arfer, roedd dynion yn fwy tebygol o ddechrau'n gynnar yn y bore (cyn 7am) na menywod: 46%, o gymharu â 27% o fenywod. Roedd teithio i'r gwaith ar unrhyw adeg ar ddydd Sul hefyd yn fwy cyffredin ymhlith dynion.

Gwaith

56%

o bobl yn gweithio.

Mae 2% yn ddi-waith ac ystyrir bod 42% yn economaidd anweithgar. O blith y bobl sy'n gweithio: mae 85% yn weithiwr cyflogedig, mae 14% yn hunangyflogedig ac mae 1% yn perthyn i'r ddau gategori. Dywed 89% o gyflogeion fod ganddynt gontract parhaol, 5% contract tymor penodol, 3% contract dim oriau a 1% yn gweithio i asiantaeth.

Mae dynion yn fwy tebygol o weithio mewn swyddi yn y sector preifat na menywod (64% o ddynion yn gweithio yn y sector preifat o gymharu â 42% o fenywod), ond mae'r gwrthwyneb yn wir am y sector cyhoeddus (32% o ddynion a 53% o fenywod).

Ffigur 6: Teithio i'r gwaith, yn ôl grŵp oedran

Image

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far fertigol yn dangos y rhaniad o ran y patrwm teithio arferol i'r gwaith yn ôl grŵp oedran. Mae 77% o bobl rhwng 16 a 24 oed yn teithio i'r un gweithle bob dydd o gymharu â 56% o bobl rhwng 45 a 64 oed. Mae unigolion rhwng 16 a 24 oed yn llai tebygol o weithio o bell na grwpiau oedran hŷn, sef 16% o gymharu â 37% o bobl rhwng 25 a 44 oed.

Mae 34% o bobl yn dweud eu bod yn gweithio o bell ar gyfer rhywfaint o'u horiau gwaith, neu drwy'r amser. O'r rhai hynny nad ydynt fel arfer yn gweithio o bell, mae 21% yn dweud y byddai'n bosibl iddynt wneud eu gwaith o bell.

Llesiant ac unigrwydd

Gofynnwyd i bobl am eu lles meddwl. Caiff y canlyniadau eu sgorio gan ddefnyddio Graddfa Lles Meddwl Warwick-Edinburgh (WEMWBS), sef graddfa sy'n cynnwys 14 o gwestiynau hunanasesu â sgoriau yn amrywio o 14 i 70. Mae sgôr uwch (rhwng 58 a 70) yn awgrymu lles meddwl uchel, ond mae sgôr o 44 neu'n is yn awgrymu lles meddwl isel. Mae sgôr rhwng 45 a 57 yn awgrymu bod gan berson les meddwl canolig.

Sgôr gyfartalog WEMWBS yn 2022-23 yw 48.2. Mae hyn yn debyg i'r sgôr yn 2021-22. Mae gan 32% o bobl les isel, mae gan 55% les canolig ac mae gan 13% les uchel. Ar gyfartaledd, mae lles pobl ifanc yn is: mae gan bobl rhwng 16 a 24 oed sgôr o 47.4, o gymharu â sgôr o 51.1 i bobl 65 oed a throsodd.

Roedd yr arolwg hefyd yn cynnwys cyfres o gwestiynau sy'n asesu lefelau unigrwydd. Yn seiliedig ar y cwestiynau hyn, nodwyd bod 13% o bobl yn unig. Roedd y rhai hynny mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o fod yn unig: mae 34% o bobl mewn amddifadedd materol yn dweud eu bod yn unig, o gymharu â 9% o bobl nad oeddent mewn amddifadedd materol.

Ffigur 7: Unigrwydd, yn ôl ethnigrwydd

Image

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far fertigol yn dangos graddau unigrwydd wedi'u trefnu yn ôl ethnigrwydd. Mae 24% o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn dweud eu bod yn unig drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser o gymharu â 12% o bobl Wyn (Cymreig, Saesnig, Albanaidd neu Wyddelig Gogledd Iwerddon).

Iechyd deintyddol

92%

o'r bobl a gafodd apwyntiad deintyddol gan y GIG yn ystod y 12 mis diwethaf yn fodlon ar y gofal a gawsant.

Roedd 41% o'r bobl nad oeddent wedi gweld deintydd (naill ai gan y GIG neu'n breifat) yn ystod y 12 mis diwethaf wedi bod yn awyddus i gael apwyntiad. Roedd 83% o'r grŵp hwn wedi bod yn awyddus i gael apwyntiad y GIG, roedd 7% wedi bod yn awyddus i gael apwyntiad preifat a doedd dim ots gan 10% pa fath o apwyntiad ydoedd. O'r rhai hynny a oedd yn awyddus i gael apwyntiad y GIG ond nad oeddent wedi gallu cael apwyntiad:

  • dywedodd 56% eu bod wedi methu dod o hyd i le mewn practis deintyddol y  GIG / eu bod ar restr aros
  • nid oedd practis deintyddol y GIG yn ardal leol 21% ohonynt
  • dywedodd 18% nad oedd unrhyw apwyntiadau ar gael

Mae cyfran y bobl a gafodd apwyntiad yn ystod y 6 mis wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers dechrau'r pandemig: 21% yn 2020-21, 32% yn 2021-22 a 42% yn 2022-23.

Gamblo

63%

o bobl 18 oed a throsodd yn dweud eu bod yn cymryd rhan mewn rhyw fath o gamblo.

Gofynnwyd i bobl 18 oed a throsodd a oeddent yn gamblo ai peidio ac, os oeddent, pa fathau o weithgareddau roeddent yn gwario arian arnynt. Loterïau a chardiau crafu yw'r math mwyaf cyffredin o gamblo a nodwyd: mae 57% o bobl yn dweud eu bod wedi prynu'r rhain yn ystod y 12 mis diwethaf; nid oedd y ffigurau yn amrywio yn ôl rhyw. Fodd bynnag, mae mwy o ddynion (16%) na menywod (7%) yn dweud eu bod yn betio ar-lein neu'n chwarae gemau ar-lein am arian. (Ffigur 8)

Ffigur 8: Gweithgareddau gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ôl rhyw

Image

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far lorweddol yn dangos y mathau o weithgareddau gamblo y cymerodd bobl ran ynddynt yn ystod y 12 mis blaenorol, gan ddangos dynion a menywod ar wahân.

Gwybodaeth am ansawdd

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg mawr a pharhaus sy'n defnyddio hapsampl o bobl o bob cwr o Gymru. Caiff cyfeiriadau eu dewis ar hap, a chaiff gwahoddiadau eu hanfon drwy'r post, yn gofyn am rif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu'r rhif ffôn drwy borth ar-lein, drwy linell ymholiadau dros y ffôn neu'n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos hwnnw. Os na chaiff rhif ffôn ei ddarparu, mae'n bosibl y bydd cyfwelydd yn ymweld â'r cyfeiriad ac yn gofyn am rif ffôn. Ar ôl cael rhif ffôn, bydd y cyfwelydd yn defnyddio dull dewis ar hap i ddewis un oedolyn yn y cyfeiriad i gymryd rhan yn yr arolwg. Caiff adran gyntaf yr arolwg ei chynnal ar ffurf cyfweliad ffôn; caiff yr ail adran ei chynnal ar-lein (oni fydd yr ymatebydd yn amharod i'w chwblhau ar-lein neu'n methu â gwneud hynny, ac os felly, caiff y cwestiynau hyn hefyd eu holi dros y ffôn).

Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r system a ddefnyddir, gweler yr adroddiad Ansawdd a’r adroddiad Technegol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2020 yn dilyn asesiad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhad). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau drwy, er enghraifft:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • parhau i wneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau, i helpu defnyddwyr i ddeall yn well gyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd wrth gyflawni'r nodau llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth ar gyfer 16 o'r 50 dangosydd cenedlaethol.  

Gwybodaeth bellach am Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaeth cyhoeddus eu defnyddio yn eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Tîm arolygon
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 54/2023