Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau: Ebrill 2024 i Fawrth 2025
Detholiad yn unig o'r canlyniadau sydd yn y datganiad hwn ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r canlyniadau ar ddetholiad o'r pynciau niferus a gynhwyswyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ystod 2024-25. Roedd yr arolwg yn cynnwys tua 6,000 o bobl 16 oed a hŷn. Cafodd ei gynnal mewn dwy ran: adran o dan arweiniad cyfwelydd (naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb) ac yna adran hunangwblhau (ar-lein neu, os oedd yn gyfweliad wyneb yn wyneb, ar gyfrifiadur llechen y cyfwelydd).
Cafwyd problemau gwaith maes yn ystod 2024-25 gan arwain at gyfraddau ymateb is na'r blynyddoedd blaenorol, meintiau sampl llai, a rhai gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y sampl (gweler Gwybodaeth ansawdd). Oherwydd bod maint y samplau yn llai, mae'r cyfyngau hyder mewn cysylltiad ag amcangyfrifon yn ehangach nag yn y blynyddoedd blaenorol, yn enwedig ar gyfer daearyddiaethau llai ac is-grwpiau poblogaeth llai.
Er hynny, mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae'r arolwg yn parhau i ddarparu amcangyfrifon rhesymol, yn enwedig pan ddefnyddir nhw ochr yn ochr â ffynonellau amgen. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli unrhyw wahaniaethau ymddangosiadol rhwng 2024-25 a'r blynyddoedd blaenorol: gallai'r gwahaniaethau adlewyrchu problemau gwaith maes, neu newid gwirioneddol, neu'r ddau. Pan gaiff gwahaniaethau eu canfod, mae canlyniadau o ffynonellau eraill yn darparu cyd-destun defnyddiol i helpu i ddehongli'r gwahaniaethau ac rydym wedi cynnwys cyd-destun o'r fath yn y datganiad hwn lle bo ar gael. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau am bynciau penodol drwy gydol y flwyddyn, gan archwilio'r canlyniadau yn fwy manwl, ac wrth i ragor o ddata o ffynonellau eraill 2024-25, y gellir ei ddefnyddio i gymharu, ddod ar gael. Law yn llaw â hyn byddwn hefyd yn ychwanegu llawer mwy o siartiau a thablau i'r dangosydd canlyniadau.
Y Gymraeg
o bobl eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig eiriau o Gymraeg, ffigur tebyg i 2022-23.
Defnydd o'r rhyngrwyd
o bobl eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd (gartref, yn y gwaith, neu mewn mannau eraill), cynnydd o 93% yn 2022-23.
- Dywedodd 91% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd sawl gwaith y dydd, tebyg i 2022-23.
Gwaith
o bobl mewn gwaith eu bod yn gweithio o bell am rywfaint neu'r cyfan o'u horiau gwaith, o'i gymharu â 34% yn 2022-23.
Mae hyn yn cyd-fynd â lefelau gweithio o bell a geir yn Arolwg Barn a Ffordd o Fyw y DU (41% ym mis Ebrill 2025, 37% ym mis Ebrill 2023).
Ffigur 1: Nifer yr oriau a gafodd eu gweithio o bell gan bobl sy'n gweithio o bell, 2022-23 a 2024-25
Disgrifiad o Ffigur 1: Yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024-25, dywedodd 35% o bobl sy'n gweithio o bell o gwbl eu bod yn gwneud hyn am fwy na 32 awr yr wythnos, o'i gymharu â 61% yn 2022-23. Roedd 17% yn gweithio 8 awr neu lai o bell bob wythnos, o'i gymharu ag 8% yn 2022-23.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
O'r rhai nad ydynt fel arfer yn gweithio o bell, dywedodd 10% nad ydynt eisiau gweithio o bell a dywedodd 87% nad ydynt yn gallu gweithio o bell. Dywedodd y 3% arall nad ydynt eisiau gweithio o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Roedd y cwestiwn hwn yn newydd ar gyfer 2024-25.
Gofal plant
o rieni â phlant rhwng 0 a 14 oed yn defnyddio gofal plant er mwyn iddynt allu gweithio, astudio neu hyfforddi.
Mae'r lefel hon yn debyg i 2022-23 ac yn cyd-fynd â lefelau'r DU (canfu Arolwg Adnoddau Teuluol 2023-24 (Department of Work & Pensions) fod 50% o deuluoedd â phlant yn defnyddio gofal plant).
O'r rhieni a oedd yn defnyddio gofal plant, y math mwyaf cyffredin oedd gofal plant a ddarperir gan deulu a ffrindiau (86% o rieni sy'n defnyddio gofal plant). Unwaith eto, mae hon yn lefel debyg i 2022-23.
Roedd 25% o rieni â phlentyn hyd at 14 oed yn defnyddio rhyw fath o ofal plant ffurfiol, yn uwch na'r 18% a ganfuwyd yn 2022-23 ond yn debyg i lefel 2018-19.
Cydlyniant cymunedol
o bobl eu bod yn teimlo ymdeimlad o gymuned yn eu hardal leol.
Mae hyn yn golygu eu bod yn teimlo:
- eu bod yn perthyn i’w hardal leol
- bod pobl o wahanol gefndiroedd yn yr ardal leol yn dod ymlaen yn dda gyda'i gilydd
- bod pobl yn eu hardal leol yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth
Mae'r gyfran sy'n cytuno yn is nag yn 2021-22, pan gytunodd 64% â'r datganiadau hyn. Cafodd y newid ei yrru'n bennaf gan lai o bobl yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol: 79% yn 2021-22 o'i gymharu â 73% yn 2024-25; mae lefel 2024-25 yn debyg i'r lefel cyn y pandemig (a fesurwyd yn 2016-17 a 2018-19).
Dywedodd 32% o bobl eu bod yn gwirfoddoli, lefel debyg i 2022-23.
Yr ardal leol
o bobl eu bod yn fodlon â'u hardal leol fel lle i fyw ynddo, yn debyg i 2021-22, 2018-19 a 2016-17.
Ffigur 2: Cyfran y bobl sy'n fodlon bod gwasanaethau da ar gael yn eu hardal leol, a'u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol, 2017-18 i 2024-25
Disgrifiad o Ffigur 2: Pan ofynnwyd iddynt am eu cyfranogiad mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â gwasanaethau a chyllidebau'r awdurdodau lleol, dywedodd 19% o bobl eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Mae hyn yn is na 2021-22 (30%) ond mae'n debyg i'r lefel pan gafodd ei ofyn yn flaenorol yn 2018-19. Dywedodd 63% o bobl eu bod yn fodlon bod gwasanaethau a chyfleusterau da ar gael yn eu hardal leol. Mae hyn wedi gostwng o 74% yn 2021-22 ond mae'n debyg i'r lefel yn 2017-18.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Bu gostyngiad hefyd yng nghyfran y bobl sy'n dweud eu bod yn fodlon eu bod yn gallu cyrraedd y gwasanaethau a'r cyfleusterau hyn: 78% yn 2024-25. Unwaith eto, mae hyn yn ostyngiad o'i gymharu â 2021-22 (86%) ond mae'n debyg i'r lefel pan gafodd ei ofyn yn flaenorol yn 2017-18.
Canran y bobl sy'n teimlo'n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio, lefel debyg i 2021-22.
Defnyddio car
fod ganddynt fynediad at gar, lefel debyg i 2022-23.
Dywedodd 33% eu bod wedi osgoi neu leihau teithio mewn car, cyfran is na 2022-23 (40%) ond yn debyg i 2018-19 (er bod y cwestiwn wedi'i ddiwygio ers hynny).
Teithio llesol
Gofynnwyd i bobl pa mor aml yr oeddent yn cerdded am 10 munud neu fwy i gyrraedd rhywle (h.y. nid dim ond cerdded o ran mwynhad neu ymarfer corff), a pha mor aml yr oeddent yn teithio ar feic (eto, i gyrraedd rhywle, nid dim ond beicio o ran mwynhad neu ymarfer corff).
Ffigur 3: Cyfran y bobl a oedd yn cerdded neu'n teithio ar feic, 2021-22 i 2024-25
Disgrifiad o Ffigur 3: Dywedodd 52% o bobl eu bod yn cerdded am o leiaf 10 munud neu fwy i gyrraedd rhywle o leiaf unwaith yr wythnos, cyfran debyg i 2021-22 a 2022-23. Yn 2024-25, roedd 7% o bobl yn teithio ar feic o leiaf unwaith yr wythnos: yn debyg i lefel 2022-23 ond yn uwch na'r 5% a ganfuwyd yn 2021-22.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Gofynnwyd i rieni sut yr oedd eu plant yn teithio i'r ysgol. Dywedwyd bod 48% o blant ysgol gynradd yn cerdded i'r ysgol, a 33% o blant ysgol uwchradd. Mae'r lefelau'n debyg i'r tro diwethaf i hyn gael ei ofyn, yn 2021-22.
Chwaraeon a gweithgarwch corfforol
o bobl eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu'n fwy yr wythnos yn 2024-25, gostyngiad o 39% yn 2022-23.
Gofynnwyd i bobl pa weithgareddau chwaraeon yr oeddent wedi'u gwneud yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf. Dywedodd 59% o bobl eu bod wedi gwneud rhyw fath o chwaraeon, gemau, gweithgaredd ffitrwydd, neu weithgarwch awyr agored. Dywedodd 56% o bobl eu bod wedi gwneud gweithgareddau ffitrwydd (megis dosbarthiadau ffitrwydd, rhedeg/loncian, beicio, neu nofio) a dywedodd 19% eu bod wedi chwarae chwaraeon neu gemau (megis pêl-droed, rygbi, tennis bwrdd neu golff). Roedd 6% o bobl wedi gwneud gweithgareddau awyr agored fel dringo, mynydda, ceufadu, neu hwylio.
Gofynnwyd i bobl hefyd a oedd unrhyw weithgareddau chwaraeon yr hoffent eu gwneud, neu wneud mwy ohonynt. Dywedodd 35% o bobl eu bod am wneud mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol, cynnydd o 27% yn 2022-23.
Dywedodd 22% o bobl yr hoffent wneud mwy o weithgareddau ffitrwydd a dywedodd 12% yr hoffent wneud mwy o chwaraeon neu gemau. Dywedodd 6% yr hoffent wneud mwy o gampau awyr agored.
Ymddygiadau iach
o bobl 2 neu fwy o ymddygiadau iach, lefel debyg i 2022-23.
Mae polisi iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar bum ymddygiad iach:
- ddim yn smygu
- ddim yn yfed mwy na'r canllawiau
- pwysau iach
- bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau
- bod yn egnïol
Adroddodd 34% o bobl 4 neu 5 o'r ymddygiadau iach hyn, ffigur tebyg i 2022-23.
Dywedodd 10% o bobl eu bod yn smygwyr, o'i gymharu â 13% yn 2022-23. Mae hyn yn parhau â thuedd raddol ar i lawr dros y blynyddoedd diwethaf.
Ar gyfer yr ymddygiadau iach eraill, canfuwyd lefelau tebyg yn 2024-25 o'i gymharu â 2022-23:
Dywedodd 17% o bobl nad oeddent yn yfed alcohol, ond roedd 15% yn yfed mwy na'r uchafswm a argymhellir gan y canllawiau, sef 14 o unedau yr wythnos.
Roedd pwysau 36% o bobl yn iach ac roedd 62% dros bwysau neu'n ordew, yn seiliedig ar bwysau a thaldra a hunanadroddwyd.
Dywedodd 33% o bobl eu bod wedi bwyta 5 dogn neu fwy o ffrwythau a llysiau y diwrnod cynt.
Dywedodd 59% o bobl eu bod yn egnïol am o leiaf 150 o funudau yn ystod yr wythnos flaenorol, sy'n bodloni'r canllawiau ar gyfer gweithgarwch wythnosol.
Cyflyrau iechyd a gwasanaethau iechyd
o bobl fod ganddynt salwch neu gyflwr hirdymor sy'n cyfyngu ar eu gweithgareddau dyddiol, lefel debyg i 2022-23.
Gofynnwyd i bobl a gafodd apwyntiad gyda meddyg teulu yn ystod y 12 mis diwethaf am eu hymweliad diweddaraf. Roedd 86% yn fodlon â'r gofal a gawsant, yr un gyfran â phan ofynnwyd y cwestiwn ddiwethaf yn 2021-22.
Dywedodd 18% o bobl eu bod yn cael trafferth clywed. Dywedodd 68% o'r rhai sy'n defnyddio cymhorthion clyw eu bod wedi'u darparu am ddim drwy'r GIG a 30% yn talu'n breifat. Mae'r canfyddiadau hyn yn debyg i bryd y gofynnwyd y cwestiynau ddiwethaf, yn 2021-22.
Dywedodd 78% eu bod yn cael prawf llygaid o leiaf unwaith bob dwy flynedd. Mae hyn yn gynnydd o'i gymharu â 2021-22, pan oedd y gyfran yn 72%.
Dywedodd 46% o bobl y byddent yn mynd at optometrydd neu optegydd yn y lle cyntaf os oedd ganddynt boen neu gochni yn eu llygad, a byddai 39% yn mynd at eu meddyg teulu. Mae'r canlyniadau hyn yn debyg i'r rhai a gafwyd yn 2021-22.
Boddhad â Llywodraeth Cymru, gwasanaethau iechyd a'r system addysg
Gofynnwyd i bobl raddio eu boddhad â gwasanaethau iechyd a'r system addysg yng Nghymru gan ddefnyddio graddfa rhwng 0 a 10, gyda 0 yn golygu ‘gwael iawn’ a 10 yn ‘dda iawn’. Hefyd gofynnwyd iddynt am eu barn am waith Llywodraeth Cymru, ar raddfa rhwng 0 (anfodlon iawn) a 10 (bodlon iawn).
Yn 2024-25, y graddfeydd cyfartalog allan o 10 oedd:
- 6.2 ar gyfer y system addysg
- 5.1 ar gyfer gwasanaethau iechyd
- 4.8 ar gyfer Llywodraeth Cymru
Ffigur 4: Sgôr boddhad ar gyfer y system addysg, gwasanaethau iechyd, a Llywodraeth Cymru, 2018-19 i 2024-25
Disgrifiad o Ffigur 4: Roedd canlyniadau 2024-25 yn is nag yn 2021-22 pan oedd y sgôr gyfartalog yn 6.8 ar gyfer y system addysg, 6.3 ar gyfer gwasanaethau iechyd, a 6.4 ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae canlyniadau 2024-25 yn agosach at y canlyniadau a gafwyd pan ofynnwyd y cwestiynau yn 2018-19 (ond yn dal yn is).
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae'r cwestiynau wedi'u cymryd o'r Arolwg Cymdeithasol Ewropeaidd, ac felly mae canlyniadau cymharu o 2023-24 ar gael ar gyfer gwledydd eraill ledled Ewrop. Y canlyniadau ar gyfer y DU, yn seiliedig ar waith maes a wnaed yn ail hanner 2023 yw:
- 4.8 ar gyfer gwasanaethau iechyd (ddim yn wahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol o'r 5.1 a grybwyllir uchod ar gyfer Cymru)
- 5.4 ar gyfer y system addysg
- 3.0 ar gyfer Llywodraeth y DU
Fel yn achos ffigurau'r Arolwg Cenedlaethol, mae ffigurau'r DU ar gyfer iechyd a'r llywodraeth yn is nag yn 2018-19. Fodd bynnag, nid yw ffigur addysg y DU ar gyfer 2023-24 yn arwyddocaol wahanol i ffigur addysg y DU ar gyfer 2018-19.
Amddifadedd materol
o'r holl oedolion yng Nghymru eu dosbarthu’n rhai sy’n byw mewn amddifadedd materol.
Ystyr amddifadedd materol yw pan na all pobl fforddio pethau sylfaenol fel cadw'r tŷ yn gynnes. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Termau a diffiniadau.
Ffigur 5: Cyfran y bobl sy’n byw mewn amddifadedd materol, 2021-22 i 2024-25
Disgrifiad o Ffigur 5: Roedd amddifadedd materol ymhlith yr holl oedolion yn 11% yn 2024-25, o'i gymharu â 16% yn 2022-23. Mae ffigur 2024-25 yn debyg i'r hyn a gafwyd yn 2021-22. Mae cyfran yr oedolion o oedran gweithio sy'n byw mewn amddifadedd materol wedi gostwng i 14% yn 2024-25, o 19% yn 2022-23. Mae'r ffigur ar gyfer 2024-25 yn debyg i 2021-22. Mae cyfran y pensiynwyr sy'n byw mewn amddifadedd materol yn 5%, yn debyg i 2021-22 a 2022-23.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
O ran cyd-destun, mae’r lefelau amddifadedd a fesurir gan ddefnyddio'r Arolwg Adnoddau Teuluol wedi aros yn eithaf cyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd 68% o bobl nad oeddent yn cael unrhyw anawsterau wrth dalu biliau ac ymrwymiadau credyd. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu ers 2022-23, pan oedd yn 63%, ond mae'n is nag yn 2021-22, pan oedd yn 76%.
Gofynnwyd i bobl hefyd am eu gallu i fforddio bwyd. Dywedodd 1% o bobl nad oeddent yn bwyta prydau â chig, pysgod, neu ddewis llysieuol cyfatebol, o leiaf bob yn eilddydd gan nad oeddent yn gallu fforddio gwneud hynny. Roedd hyn yn debyg i 2022-23. Dywedodd 2% o bobl fod o leiaf un diwrnod wedi bod yn y pythefnos blaenorol pan na chawsant bryd sylweddol gan nad oeddent yn gallu ei fforddio. Roedd hyn eto yn debyg i 2022-23.
Dywedodd 73% o bobl eu bod wedi lleihau'r defnydd o ynni gartref yn ystod y flwyddyn (boed am resymau ariannol, amgylcheddol neu unrhyw resymau eraill), lefel debyg i 2022-23.
Llesiant
Gofynnwyd i bobl am eu llesiant meddyliol gan ddefnyddio Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS), sef graddfa sy'n cynnwys 14 o gwestiynau hunanasesu â sgoriau sy'n amrywio o 14 i 70. Mae sgôr uwch (58 i 70) yn cael ei ddosbarthu yn llesiant meddyliol uchel, 45 i 57 yn llesiant meddyliol canolig, a 44 neu is yn llesiant meddyliol isel.
Sgôr gyfartalog WEMWBS yn 2024-25 yw 48.4. Mae gan 33% o bobl lesiant meddyliol isel, mae gan 52% lesiant meddyliol canolig, ac mae gan 15% lesiant meddyliol uchel. Ar gyfartaledd, mae llesiant meddyliol pobl iau yn is: mae gan y rhai rhwng 16 a 44 oed sgôr o 47.5, o’i gymharu â sgôr o 49.7 ar gyfer y rhai 65 oed a hŷn. Mae'r ffigurau hyn i gyd yn debyg i rai 2022-23 ac eithrio gostyngiad ar gyfer pobl 65 oed a hŷn (y sgôr llesiant cymedrig ar gyfer y grŵp hwn yn 2022-23 oedd 50.7).
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg hapsampl, graddfa fawr a gynhelir dros y ffôn, sy'n cynnwys oedolion 16+ oed ledled Cymru. Dewisir cyfeiriadau ar hap, ac anfonir gwahoddiadau drwy'r post yn gofyn i bobl ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu rhif ffôn trwy borth ar-lein neu linell ymholiadau dros y ffôn. Pan nad oes rhif ffôn yn cael ei ddarparu, cynhelir teleparu â chronfeydd data o rifau ffôn sydd ar gael i weld a ellir dod o hyd i un ar gyfer y cyfeiriad.
Mae'r cyfwelydd wedyn yn galw'r rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad, yn darganfod faint o oedolion sy'n byw yno, ac yn dewis un ar hap (y person sydd â'r pen-blwydd nesaf) i gymryd rhan yn yr arolwg. Mae'r person a ddewisir yn cael ei gyf-weld dros y ffôn. Ar ôl cwblhau'r adran ffôn, gofynnir iddynt gwblhau adran ar-lein ac anfonir manylion atynt.
Os na cheir rhif ar gyfer y cyfeiriad, dewisir 46% o'r achosion hyn ar hap a bydd y cyfwelydd yn ymweld â'r cyfeiriad i ddewis ymatebydd. Yna bydd naill ai'n cynnal cyfweliad wyneb yn wyneb gyda nhw yn y cartref neu (os yw'n well ganddynt gyfweliad ffôn) bydd yn casglu rhif ffôn ar eu cyfer.
Mae'r arolwg yn para tua 40 i 45 munud ar gyfartaledd ac yn ymdrin ag ystod o bynciau. Cynigir taleb £15 i'r ymatebwyr i ddiolch iddynt am gymryd rhan. Yn 2024-25 roedd maint y sampl a gyflawnwyd bob mis yn rhyw 500 o bobl ar gyfartaledd, a'r gyfradd ymateb oedd 18.7% o'r rhai a oedd yn gymwys i gymryd rhan.
Wrth gymharu'r sampl heb ei phwysoli a gyflawnwyd â sampl 2022-23 heb ei phwysoli a gyflawnwyd, mae gan sampl 2024-25 rai gwahaniaethau megis: mwy o siaradwyr Cymraeg; llai o bobl 25 i 54 oed; mwy o bobl 75+ oed; mwy o bobl â chymwysterau lefel uwch; llai o bobl heb unrhyw gymwysterau; llai o bobl sy'n gweithio; a mwy o bobl mewn ardaloedd gwledig. O ran math o aelwyd, roedd mwy o aelwydydd un person yn sampl 2024-25 a llai o gyplau (â phlant neu heb blant). Roedd llai o bobl yn yr ardaloedd â'r lefelau incwm a chyflogaeth isaf, a mwy mewn ardaloedd lle y mae gan bobl lefelau uwch o gymwysterau a sgiliau. Roedd lledaeniad llai cyfartal o gyfweliadau ar draws y flwyddyn hefyd (er enghraifft, llai yn gymesur ym mis Chwefror a Mawrth) o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.
Defnyddir pwysoliadau’r arolwg i ddod â'r sampl yn agosach at y boblogaeth o ran oedran, rhyw, a maint yr awdurdod lleol, yn ogystal ag i wneud iawn am amrywiad o'r targed yn nifer y cyfweliadau ym mhob bwrdd iechyd ym mhob chwarter. Mae'r pwysoliadau'n lleihau ond ni fyddant yn dileu effeithiau gwahaniaethau yn y sampl a gyflawnwyd o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol ac â'r boblogaeth gyffredinol. Fel y nodwyd uchod, dylid cymryd gofal felly wrth gymharu'r canlyniadau â'r blynyddoedd blaenorol, a dylid archwilio unrhyw wahaniaethau yng nghyd-destun ffynonellau eraill. Byddwn yn cyhoeddi bwletinau am bynciau penodol dros y misoedd nesaf, wrth i gymaryddion pellach ddod ar gael o ffynonellau eraill, gan archwilio'r canlyniadau ac unrhyw wahaniaethau yn fwy manwl. Law yn llaw â hyn byddwn hefyd yn ychwanegu llawer mwy o siartiau a thablau i'r dangosydd canlyniadau.
Pan fo testun y datganiad hwn yn nodi gwahaniaeth rhwng dau ganlyniad arolwg, rydym wedi gwirio i sicrhau nad yw'r cyfyngau hyder (a elwir weithiau'n "ffin cyfeiliornad") ar gyfer y ddau ganlyniad yn gorgyffwrdd. Mae hyn yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol, h.y. bod siawns o lai na 5% neu 1 o bob 20 fod y canlyniadau yn deillio o hynodrwydd yn sampl yr arolwg yn hytrach nag yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol yn y boblogaeth ehangach. Pan na nodir gwahaniaeth, mae'r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd.
Mae holiadur yr arolwg ar gael ar ein tudalennau gwe.
Mae siartiau a thablau manwl o'r canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr Adroddiad ansawdd a'r Adroddiad technegol.
Datganiad cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â hwy.
Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael ei brosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.
Cyhoeddir ystadegau Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn modd hygyrch a threfnus, gyda rhag-gyhoeddiad ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Gellir lawrlwytho'r holl ddatganiadau am ddim.
Mae'r holl allbynnau'n cadw at y Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ar dudalennau gwe'r calendr o ddigwyddiadau i ddod. Yn ystod y prosesu, mae'r mynediad at y data wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy'n cael mynediad at y data cyn iddo gael ei ryddhau yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Mae'r ffigurau cyhoeddedig yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael.
Ansawdd
Fel y nodwyd uchod, mae maint y sampl a gyflawnwyd ar gyfer Arolwg Cenedlaethol 2024-25 (6,000 o ymatebwyr) yn llai nag a gynlluniwyd yn wreiddiol. Mae maint y sampl yn llai am i'r contractwr ddod ar draws problemau gwaith maes gan gynnwys cyfraddau ymateb is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae newidiadau hefyd yng nghyfansoddiad y sampl heb ei phwysoli a gyflawnwyd, o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Felly, ym mis Gorffennaf 2025, gofynnwyd i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau atal dros dro ein statws ystadegau swyddogol achrededig ar gyfer y datganiad cyntaf hwn ac ar gyfer allbynnau eraill yn seiliedig ar ddata 2024-25 ac fe roddwyd ataliad dros dro i ni. Mae'r ataliad dros dro yn adlewyrchu'r ffaith na fydd allbynnau 2024-25 yn gyffredinol yn darparu canlyniadau digon manwl gywir ar gyfer ardaloedd daearyddol bach ac is-grwpiau bach eraill, ac y dylid cymryd gofal wrth gymharu rhai o ganlyniadau 2024-25 â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol. Bydd yr holl allbynnau a seilir ar ddata 2024-25 yn cael eu dynodi’n ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad.
Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o amcangyfrifon i Gymru, yn enwedig os cânt eu defnyddio ochr yn ochr â ffynonellau amgen. Er hynny, dylai defnyddwyr nodi'r cyfyngau hyder ehangach, yn enwedig ar gyfer daearyddiaethau llai ac is-grwpiau poblogaeth llai.
Mae'r holl gamau sydd ynghlwm wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr proffesiynol ac mae'r ystadegau yn cael eu cynhyrchu heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. Sicrheir ansawdd yr holl ystadegau cyn eu cyhoeddi.
Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.
Mae'r gwaith sefydlu ar gyfer dyluniad arolwg ar-lein newydd yn mynd rhagddo'n dda. Bydd y prif waith maes yn dechrau ym mis Mawrth 2026, ac fe ddisgwylir y canlyniadau cyntaf yn haf 2027. Un o fanteision allweddol y dull newydd yw y bydd yn bosibl darparu meintiau sampl llawer mwy, ac felly amcangyfrifon llawer mwy manwl gywir ar gyfer is-grwpiau bach. Ar ôl i'r prif waith maes ddechrau o dan y dyluniad newydd yn 2026-27, byddwn yn gofyn am i’r dynodiad ystadegau swyddogol achrededig gael ei hadfer gan OSR ar gyfer allbynnau arolygon o 2026-27 ymlaen.
Gwerth
Mae'r datganiad hwn wedi'i gyhoeddi ar y cyfle cyntaf. Bydd bwletinau am bynciau penodol yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn.
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:
- darparu cyngor i'r gweinidogion
- llywio ystod eang o benderfyniadau polisi
Yn gysylltiedig â'r datganiad hwn mae Dangosydd Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru, sef offeryn rhad ac am ddim sy'n caniatáu i ddefnyddwyr yr arolwg weld a lawrlwytho siartiau a thablau canlyniadau.
Mae'r sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad hwn wedi'u datblygu i geisio gwneud yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Y rhain yw creu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth ac iach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol cyntaf eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol bellach yn casglu gwybodaeth ar gyfer 16 o'r 50 o ddangosyddion.
Yn 2024-25, casglodd yr arolwg wybodaeth a ddefnyddiwyd i adrodd yn erbyn yr 11 o ddangosyddion cenedlaethol canlynol.
Rhif y dangosydd 3
Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw.
Rhif y dangosydd 19
Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol.
Rhif y dangosydd 23
Canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.
Rhif y dangosydd 24
Canran y bobl sy’n fodlon â’u gallu i gyrraedd / cael mynediad at y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae arnynt eu hangen.
Rhif y dangosydd 25
Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio.
Rhif y dangosydd 26
Canran yr oedolion (16+ oed) sy’n adrodd eu bod yn teimlo’n fodlon iawn neu’n eithaf bodlon â’r ardal leol fel lle i fyw ynddo.
Rhif y dangosydd 27
Canran yr oedolion (16+ oed) sy'n cytuno â thri datganiad am eu hardal leol; teimlo eu bod yn perthyn i'r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch.
Rhif y dangosydd 28
Canran y bobl (16+ oed) sy'n gwirfoddoli.
Rhif y dangosydd 29
Ar gyfer pobl (16 oed neu hŷn), y sgôr llesiant meddyliol gymedrig yn ôl Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS).
Rhif y dangosydd 37
Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg.
Rhif y dangosydd 38
Canran y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Fel dangosyddion cenedlaethol o dan y Ddeddf, rhaid cyfeirio at y canlyniadau hyn mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi’r sefyllfa llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Mae'r Ddeddf yn datgan bod rhaid gosod cerrig milltir “...y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y caiff cynnydd yn erbyn carreg filltir genedlaethol eu cyflawni ac erbyn pryd y dylai gael ei chyflawni.
Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol ond, yn hytrach, maent yn fesurau cynnydd ar y cyd i Gymru.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig , ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.
Y diweddariad nesaf
Bydd bwletinau manylach ar bynciau penodol yn cael eu cynhyrchu dros y misoedd nesaf.
Disgwylir i'r cylch nesaf o ganlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol gael ei gyhoeddi yn haf 2027. Bydd y diweddariad yn cwmpasu canlyniadau o flwyddyn gwaith maes 2026-27.
