Arolwg Cenedlaethol Cymru: termau a diffiniadau 2024 i 2025
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig gwybodaeth am y termau a’r diffiniadau a ddefnyddir gan yr Arolwg Cenedlaethol, yn cynnwys y rheiny sy’n ymwneud ag amddifadedd materol, lefelau cymhwyster a safoni yn ôl oedran.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Introduction
Arolwg hapsampl ar raddfa fawr yw Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy'n cynnwys pobl ledled Cymru. Cyn mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb yng nghartrefi'r ymatebwyr. Ers mis Mai 2020, mae'r arolwg wedi cael ei gynnal dros y ffôn. Yn 2021, ychwanegwyd adran ar-lein ddilynol; ac ers 2024-25, mae cyfwelwyr wedi ymweld â chyfran o gyfeiriadau na lwyddwyd i'w cyrraedd dros y ffôn i gynnig cyfweliadau wyneb yn wyneb. I gael rhagor o fanylion am y fethodoleg, gweler yr adroddiad ansawdd. Gellir dod o hyd i wybodaeth am feintiau'r samplau yn yr adroddiad gwaith maes.
Mae'r prif ganlyniadau ar gyfer yr arolygon misol a chwarterol ar gael ar dudalennau gwe Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae siartiau a thablau manwl o'r canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. Mae'r adroddiad hwn yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y cyhoeddiadau hynny.
Amddifadedd ardal: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Defnyddir Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) fel y mesur swyddogol ar gyfer amddifadedd ardal yng Nghymru. Mae amddifadedd yn gysyniad ehangach na thlodi. Mae amddifadedd yn cyfeirio at broblemau ehangach a achosir gan ddiffyg adnoddau a chyfleoedd. Mae MALlC yn seiliedig ar wyth gwahanol fath o amddifadedd, sef: incwm, tai, cyflogaeth, mynediad at wasanaethau, addysg, iechyd, diogelwch cymunedol a'r amgylchedd ffisegol.
Mae Cymru wedi’i rhannu’n 1,909 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is ac mae pob un ohonynt yn cynnwys tua 1,600 o bobl. Cyfrifwyd graddau amddifadedd ar gyfer pob un o'r ardaloedd hyn: mae'r Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is fwyaf difreintiedig yn safle 1, a'r Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is leiaf difreintiedig yn safle 1,909. Yn ein cyhoeddiadau, rydym wedi grwpio gyda'i gilydd y bobl sy’n byw yn yr 20% o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is sydd fwyaf difreintiedig yn seiliedig ar sgôr MALlC ac wedi’u cymharu â’r 20% o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is sydd leiaf difreintiedig
Statws economaidd
Rhennir yr ymatebwyr yn dri grŵp fel a ganlyn, yn ôl yr hyn y dywedasant eu bod wedi'i wneud yn y 7 diwrnod blaenorol.
Mae ymatebwyr mewn gwaith:
- mewn unrhyw waith cyflogedig am dâl neu'n hunangyflogedig (neu i ffwrdd dros dro)
- ar gynllun hyfforddiant a noddir gan y llywodraeth
- yn gwneud gwaith di-dâl i fusnes yr ydych chi neu berthynas yn berchen arno
- yn aros i ddechrau swydd gyflogedig rydych eisoes wedi'i chael
- ar ffyrlo o'r gwaith oherwydd y coronafeirws
Mae ymatebwyr di-waith:
- yn ddi-waith ac yn chwilio am waith
- yn bwriadu chwilio am waith ond wedi eich atal gan salwch neu anaf dros dro (28 diwrnod neu lai)
Mae ymatebwyr economaidd anweithgar:
- yn myfyriwr llawnamser (gan gynnwys ar wyliau)
- yn methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd hirdymor
- wedi ymddeol
- yn gofalu am y cartref neu'r teulu
- yn gwneud rhywbeth arall
Ethnigrwydd
Mae gwahanol gategorïau fel arfer yn cael eu grwpio gyda'i gilydd at ddibenion dadansoddi (nid yw fel arfer yn bosibl darparu canlyniadau digon manwl gywir ar gyfer dadansoddiadau manylach).
Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd neu Wyddelig Gogledd Iwerddon)
Pobl sy'n diffinio'u hunain fel Gwyn Cymreig, Gwyn Seisnig, Gwyn Albanaidd, Gwyn Gwyddelig Gogledd Iwerddon, Gwyn Prydeinig.
Gwyn (Gwyddelig, Sipsi, Teithiwr Gwyddelig neu gefndir Gwyn arall)
Gwyn Gwyddelig, Sipsi Gwyn, Teithiwr Gwyn, cefndir Gwyn arall.
Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol
Pob ethnigrwydd arall (gan gynnwys Du Affricanaidd, Du Caribïaidd, Du Prydeinig, Du Cymreig, Asiaidd, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg).
Cymwysterau
Mae cymwysterau uchaf yr ymatebwyr wedi'u codio yn ôl lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC): lefel 1 yw'r lefel ar gyfer y cymwysterau isaf ac mae lefel 8 yn cyfateb i radd doethuriaeth neu gymhwyster cyfwerth. At ddibenion adrodd, mae ymatebwyr yn cael eu grwpio’n 5 categori, fel a ganlyn.
Lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC)
Lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC)
Lefelau 4 i 8 FfCC
Addysg uwch (Lefel 4+)
Lefel 3 FfCC
Safon uwch a chyfwerth (Lefel 3)
Lefel 2 FfCC
TGAU graddau A i C a chyfwerth (Lefel 2)
Is na Lefel 2 FfCC
TGAU is na gradd C (is na Lefel 2)
Dim cymwysterau
Dim cymwysterau
Amddifadedd materol
Mesur sydd wedi’i fwriadu i gyfleu canlyniadau tlodi hirdymor i aelwydydd, yn hytrach na’r straen ariannol fyrdymor, yw amddifadedd materol. Mae'r cwestiynau amddifadedd materol yn yr Arolwg Cenedlaethol wedi'u cymryd o'r Arolwg o Adnoddau Teulu.
Gofynnir i oedolion nad ydynt yn bensiynwyr am bethau fel ‘a ydynt yn cael gwyliau oddi cartref am o leiaf wythnos y flwyddyn’, ‘a oes ganddynt ddigon o arian i gadw eu cartref mewn cyflwr gweddus o ran addurniad’, neu ‘a ydynt yn gallu cynilo £10 y mis neu fwy yn rheolaidd’. Mae'r cwestiynau’n canolbwyntio ar a ydynt yn gallu fforddio’r eitemau hyn ai peidio.
Gofynnir cwestiynau ychydig yn wahanol i bensiynwyr megis ‘a yw eu cartref yn cael ei gadw'n ddigon twym’, ‘a oes ganddynt fynediad at gar neu dacsi, pan fo angen’ neu ‘a yw eu gwallt yn cael ei dorri'n rheolaidd’. Os nad oes ganddynt y pethau hyn, gofynnir iddynt nodi'r rheswm dros hynny.
Defnyddir atebion ymatebwyr i gyfrifo sgôr amddifadedd materol, fel pe na bai ganddynt unrhyw rai o'r eitemau o gwbl am resymau ariannol, byddai ganddynt sgôr o 100; a phe bai ganddynt yr holl eitemau, byddai ganddynt sgôr o 0. Caiff pobl nad ydynt yn bensiynwyr â sgôr o 25 neu uwch eu hystyried yn ddifreintiedig a chaiff pensiynwyr â sgôr o 20 neu uwch eu hystyried yn ddifreintiedig.
Mewn cyhoeddiadau, cyfunir mesurau amddifadedd pobl nad ydynt yn bensiynwyr a phensiynwyr i ddarparu newidyn ar gyfer amddifadedd ‘oedolion’. Gellir defnyddio’r termau amddifadedd ‘oedolion’ ac ‘aelwydydd’ yn rhyng-gyfnewidiol gan ddibynnu ar y cyd-destun.
Gofynnir set ychwanegol o gwestiynau sy'n ymwneud ag amddifadedd materol plant ar yr aelwyd. Cyfunir yr atebion â'r atebion i'r cwestiynau ar gyfer oedolion nad ydynt yn bensiynwyr er mwyn cyfrifo sgôr amddifadedd materol plant.
Ar gyfer pob un o'r tair set o gwestiynau ynglŷn ag amddifadedd, defnyddir dull wedi'i bwysoli i gyfrifo'r sgôr amddifadedd materol ar gyfer yr ymatebwyr perthnasol, fel y gwneir ar gyfer yr Arolwg o Adnoddau Teulu. Mae'r dull hwn yn caniatáu ar gyfer y ffaith bod absenoldeb rhai eitemau yn fwy anghyffredin, ac felly gellir ystyried bod hynny'n cynrychioli lefel uwch o amddifadedd ar gyfer rhai nag eraill. Felly, rhoddir pwysau uwch i eitemau sy'n fwy anghyffredin.
Unigrwydd
Gellir defnyddio gwahanol fesurau o unigrwydd at ddibenion dadansoddi data, ond mae’r Arolwg Cenedlaethol yn defnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld – gweler y termau a’r diffiniadau ar gyfer y raddfa unigrwydd 6 phwynt. Ar gyfer y raddfa hon, dangosir cyfres o chwe datganiad i ymatebwyr a gofynnir iddynt ddynodi i ba raddau y mae pob datganiad yn berthnasol i’r ffordd y maent yn teimlo. Mae tri datganiad am ‘unigrwydd emosiynol (UE)’ a thri am ‘unigrwydd cymdeithasol (UC)’.
- Rwy’n teimlo gwacter yn gyffredinol (UE)
- Rwy’n gweld eisiau cael pobl o fy nghwmpas (UE)
- Rwy’n aml yn teimlo fy mod yn cael fy niystyru (UE)
- Mae digonedd o bobl rwy'n gallu dibynnu arnyn nhw pan fydd gen i broblemau (UC)
- Mae llawer o bobl rwy'n gallu ymddiried yn gyfan gwbl ynddyn nhw (UC)
- Rwy'n teimlo'n agos at ddigon o bobl (UC)
Mae’r raddfa’n defnyddio tri chategori ymateb: Ydw (Oes) / Mwy neu lai / Nac ydw (Nac oes) – lle mae’r atebion niwtral a chadarnhaol yn cael sgôr o “1” ar y cwestiynau sydd wedi’u geirio’n negyddol (yn yr achos hwn, cwestiynau 1i 3). Ar y cwestiynau sydd wedi’u geirio’n gadarnhaol (cwestiynau 4 i 6), mae’r atebion niwtral a negyddol yn cael sgôr o “1”. Mae hyn yn golygu bod ateb o ‘fwy neu lai’ yn cael yr un sgôr ag ‘ydw (oes)’ neu ‘nac ydw (nac oes)’, gan ddibynnu ar y cwestiwn.
Mae’r sgoriau ar gyfer pob cwestiwn unigol yn cael eu hadio at ei gilydd i ddarparu mesur o unigrwydd ar y cyfan. Mae hyn yn rhoi ystod bosibl o sgoriau o 0 i 6, lle mae 0 yn dynodi’r lleiaf unig a 6 yn dynodi’r mwyaf unig. At ddibenion adrodd, rydym wedi ystyried bod pobl sydd â sgôr rhwng 4 a 6 yn unig.
Ymdeimlad o gymuned
Gofynnir i ymatebwyr i ba raddau y maent yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiadau canlynol:
- ‘Rwy'n perthyn i'r ardal leol.’
- ‘Yn yr ardal leol mae pobl o wahanol gefndiroedd yn dod ymlaen yn dda gyda'i gilydd.’
- ‘Mae pobl yn yr ardal leol yn trin ei gilydd â pharch.’
Cyfunir yr ymatebion ac ystyrir bod y rhai sy'n cytuno â'r tri datganiad yn teimlo bod ymdeimlad o gymuned yn eu hardal leol.
Cyfeiriadedd rhywiol
Pan adroddir yn erbyn cyfeiriadedd rhywiol, defnyddir y categorïau canlynol fel arfer (mae'r categorïau llai yn rhy fach i gynhyrchu canlyniadau manwl):
Heterorywiol neu strêt
Pobl sy'n diffinio’u hunain fel heterorywiol neu strêt.
Ymateb arall
Pob ymateb arall (yn cynnwys hoyw neu lesbiaidd, deurywiol, arall, ddim yn gwybod, ac mae'n well gen i beidio â dweud).
Llesiant goddrychol
Gofynnir i'r ymatebwyr ateb cyfres o gwestiynau am lesiant, gan sgorio eu hymatebion ar raddfa o 0 i 10, lle mae 0 yn golygu 'ddim o gwbl' a 10 yn golygu 'yn hollol'. Gofynnir y pedwar cwestiwn canlynol:
- ‘Ar y cyfan, pa mor fodlon ydych chi gyda'ch bywyd ar hyn o bryd?’
- ‘Ar y cyfan, i ba raddau ydych chi'n teimlo bod y pethau rydych chi'n eu gwneud yn eich bywyd yn werth chweil?’
- ‘Ar y cyfan, pa mor hapus oeddech chi'n teimlo ddoe?’
- ‘Ar y cyfan, pa mor bryderus oeddech chi'n teimlo ddoe?’
Ar gyfer boddhad â bywyd, teimlad fod y pethau a wnânt yn eu bywydau yn werth chweil, a hapusrwydd, ystyrir bod sgoriau 0 i 4 yn isel, 5 i 6 yn ganolig, 7 i 8 yn uchel a 9 i 10 yn uchel iawn. Ar gyfer gorbryder, caiff y raddfa ei grwpio fel yr ystyrir bod sgoriau 0-1 yn isel iawn, 2 i 3 yn isel, 4 i 5 yn ganolig a 6 i 10 yn lefelau uchel o orbryder.
Trefol a gwledig
Mae “trefol” yn cynnwys aneddiadau â phoblogaeth o 10,000 neu fwy a threfi bach a'u cyrion, lle mae'r ardal ehangach yn llai gwasgaredig. Mae “gwledig” yn cynnwys pob ardal arall.
Smygu
Gofynnir i ymatebwyr:
- a ydynt yn smygu (bob dydd neu'n achlysurol)
- a oeddent yn arfer smygu (bob dydd neu'n achlysurol)
- a ydynt heb smygu erioed
'Smygwyr presennol' yw'r rhai sy'n smygu naill ai bob dydd neu'n achlysurol; 'cyn-smygwyr' yw'r rhai a oedd yn arfer smygu bob dydd neu'n achlysurol; 'heb smygu erioed' yw'r rhai nad ydynt erioed wedi smygu; 'pobl nad ydynt yn smygu' yw'r rhai nad ydynt erioed wedi smygu ynghyd â chyn-smygwyr.
Yfed alcohol
Gofynnir set o gwestiynau i ymatebwyr am faint o alcohol maent yn ei yfed.
Mae'r canllaw alcohol wythnosol ar gyfer dynion a menywod yn awgrymu yfed dim mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.
Gofynnir i ymatebwyr nodi pa mor aml y gwnaethant yfed pob math o alcohol yn ystod y 12 mis diwethaf, a faint oeddent yn ei yfed fel arfer. Mae'r tabl sy'n dilyn yn dangos unedau alcohol ar gyfer y gwahanol fathau o ddiod sydd wedi'u cynnwys yn y cwestiynau. Addaswyd y cwestiwn o'i gymharu â fersiynau blaenorol i ddarparu ar gyfer y newid i arolwg dros y ffôn yn gyntaf, a chyfunwyd rhai mathau o alcohol.
| Math o ddiod | Mesur | Unedau o alcohol |
|---|---|---|
| Cwrw neu seidr | Peintiau | 2 |
| Cwrw neu seidr | Caniau mawr | 2 |
| Cwrw neu seidr | Caniau back | 1.5 |
| Cwrw neu seidr | Poteli | 1.5 |
| Gwin (gan gynnwys gwin wedi'i gyfnerthu a gwin pefriog) | Gwydr mawr (250ml) | 3 |
| Gwin (gan gynnwys gwin wedi'i gyfnerthu a gwin pefriog) | Gwydr safonol (175ml) | 2 |
| Gwin (gan gynnwys gwin wedi'i gyfnerthu a gwin pefriog) | Gwydr bach (125ml) | 1.5 |
| Gwin (gan gynnwys gwin wedi'i gyfnerthu a gwin pefriog) | Poteli (750ml) | 9 |
| Gwirodydd (gan gynnwys alcopops a gwirodlynnau) | Mesurau (sengl) | 1 |
Cyfrifir faint o bob math o ddiod a yfir bob wythnos ar gyfartaledd drwy luosi nifer yr unedau a yfir fel arfer ar ddiwrnod pan gaiff y math hwnnw o alcohol ei yfed, gyda ffactor sy'n cynrychioli pa mor aml y caiff ei yfed. Caiff y canlyniadau ar gyfer pob math o ddiod eu hadio at ei gilydd i roi ffigwr wythnosol cyffredinol. Y lluosyddion amlder a ddefnyddir yw:
| Amlder yfed | Ffactor lluosi |
|---|---|
| Bron bob dydd | 7.0 |
| 5 neu 6 gwaith yr wythnos | 5.5 |
| 3 neu 4 gwaith yr wythnos | 3.5 |
| Unwaith neu ddwywaith yr wythnos | 1.5 |
| Unwaith neu ddwywaith y mis | 0.375 |
| Unwaith bob ychydig fisoedd | 0.115 |
| Unwaith neu ddwywaith y flwyddyn | 0.029 |
Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur a gall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud fod yn wahanol i'r hyn y maent yn ei wneud mewn gwirionedd (er enghraifft, efallai fod pobl yn tueddu i danamcangyfrif faint o alcohol maent yn ei yfed). Er hynny, mae data o arolygon yn dal i fod yn ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng gwahanol grwpiau a thros amser.
Bwyta ffrwythau a llysiau
Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau am ystod o eitemau bwyd er mwyn pennu cyfanswm y ffrwythau, y llysiau a'r corbys a fwytawyd y diwrnod cynt.
Ar gyfer pob eitem o fwyd, gofynnir i'r ymatebwyr a oeddent wedi'i bwyta ac, os felly, faint oeddent wedi'i fwyta. Mae canllawiau'n awgrymu bwyta o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd. Mae'r cwestiynau a'r dadansoddiad yn seiliedig ar y cysyniad bod dognau yn 80g yr un, a throsir yr wybodaeth a gesglir yn ddognau safonol yn y cam dadansoddi.
Mae'r tabl sy'n dilyn yn dangos maint dognau ar gyfer y gwahanol eitemau bwyd sydd wedi'u cynnwys. Addaswyd y cwestiwn o'i gymharu â fersiynau blaenorol i ddarparu ar gyfer y newid i arolwg dros y ffôn, a chyfunwyd rhai mathau o ffrwythau.
| Eitem bwyd | Maint dogn |
|---|---|
| Salad | 1 bowlen fach |
| Corbys | 3 llwy fwrdd |
| Llysiau (ffres, amrwd, tun, wedi'u rhewi) | 3 llwy fwrdd |
| Prydau wedi'u gwneud yn bennaf o lysiau neu gorbys | 3 llwy fwrdd |
| Ffrwythau bach iawn (e.e. grawnwin, aeron) | 2 lond llaw |
| Ffrwythau bach neu ganolig (e.e. afalau, eirin) | 1 ffrwyth canolig, 2 ffrwyth bach |
| Ffrwythau mawr neu fawr iawn (e.e. grawnffrwyth, melon) | 1/2 ffrwyth mawr, 1 sleisen o ffrwyth mawr iawn |
| Ffrwythau wedi'u rhewi neu ffrwythau tun | 3 llwy fwrdd |
| Ffrwythau sych (e.e. rhesins, bricyll) | 1 llond llaw |
| Prydau wedi'u gwneud yn bennaf o ffrwythau | 3 llwy fwrdd |
| Sudd ffrwythau neu smwddi | 1 gwydr bach |
Yn ystod y cam dadansoddi, mae rheolau ar gyfer rhai bwydydd yn gymwys: ni all ymatebwyr gael mwy nag un dogn o'u cymeriant dyddiol o sudd ffrwythau, un dogn o gorbys, ac un dogn o ffrwythau sych. Mae'r rheolau hyn yn unol â chanllawiau, sy'n nodi y dylid bwyta amrywiaeth o ffrwythau a llysiau.
Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur a gall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud fod yn wahanol i'r hyn y maent yn ei wneud mewn gwirionedd. Er hynny, mae data o arolygon yn dal i fod yn ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng gwahanol grwpiau a thros amser.
Gweithgarwch corfforol
Mae canllawiau gweithgarwch corfforol yn argymell y dylai oedolion anelu at wneud o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol yn ystod yr wythnos. Fel arall, gellir sicrhau buddion tebyg drwy 75 munud o weithgarwch egnïol, neu gyfuniad cyfatebol o'r ddau.
Gofynnir i ymatebwyr ar ba ddyddiau yn yr wythnos flaenorol y gwnaethant gerdded, gwneud rhywfaint o weithgarwch corfforol cymedrol a gwneud rhywfaint o weithgarwch corfforol egnïol am o leiaf 10 munud ar y tro ac yna gofynnir iddynt faint o amser, ar gyfartaledd, y gwnaethant ei dreulio yn gwneud y gweithgareddau hyn bob tro. Gofynnir i'r ymatebwyr hefyd am eu cyflymder cerdded a faint o ymdrech yw hynny. Caiff cerdded ei gynnwys fel gweithgarwch cymedrol i'r rhai sy'n cerdded ar gyflymder arferol 'cymharol sionc' neu 'gyflym'. I'r rhai sy'n 65 oed a throsodd, caiff cerdded ar unrhyw gyflymder ei gynnwys os yw'r ymdrech yn ddigon i wneud iddynt anadlu'n gyflymach, teimlo'n gynnes neu chwysu. Cyfunir yr wybodaeth i roi amcangyfrif o'r nifer cyfatebol o funudau cymedrol o weithgarwch a wnaed yr wythnos flaenorol. Nodir bod y rhai sy'n gwneud lefel sy'n cyfateb i 150 munud neu fwy o weithgarwch cymedrol yn bodloni'r canllawiau. At ddibenion adrodd, nodir bod y rhai sy'n gwneud lefel sy'n cyfateb i lai na 30 munud o weithgarwch cymedrol yr wythnos flaenorol yn anweithgar.
Gall ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i'w fesur a gall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud fod yn wahanol i'r hyn y maent yn ei wneud (er enghraifft, efallai eu bod yn tueddu i oramcangyfrif eu lefelau o weithgarwch corfforol). Er hynny, mae data o arolygon yn dal i fod yn ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau ar gyfer yr ymddygiadau hyn rhwng gwahanol grwpiau a thros amser.
Mynegai Màs y Corff
Gofynnir i ymatebwyr nodi eu taldra a'u pwysau. Er mwyn diffinio 'dros bwysau' neu 'ordew', mae angen mesur sy'n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn pwysau oherwydd taldra. Cyfrifir Mynegai Màs y Corff (BMI) fel pwysau (kg) wedi'i rannu â thaldra wedi'i sgwario (m²). Fodd bynnag, nid yw BMI yn gwahaniaethu rhwng màs oherwydd braster y corff a màs oherwydd cyhyrau, ac nid yw ychwaith yn ystyried dosbarthiad y braster. Cyfrifir BMI ar gyfer yr holl ymatebwyr, ac eithrio menywod beichiog, gyda mesuriadau taldra a phwysau dilys a'u dosbarthu i'r grwpiau BMI (kg/m²) canlynol:
- llai na 18.5 yn dan bwysau
- 18.5 i dan 25 yn bwysau iach
- 25 i dan 30 yn dros bwysau
- 30 a throsodd yn ordew
- 40 a throsodd yn afiachus o ordew
Mae'r ymatebwyr yn nodi eu taldra a'u pwysau eu hunain, ac mae tystiolaeth i ddangos bod rhai pobl yn tueddu i dan-adrodd pwysau a/neu or-adrodd taldra, gan arwain at danamcangyfrif nifer y bobl sydd dros eu pwysau ac yn ordew.
Nifer yr ymddygiadau bywyd iach
Mae nifer yr ymddygiadau bywyd iach a ddilynir gan bob oedolyn yn deillio o gyfuno ymatebion ar gyfer y 5 ymddygiad canlynol:
- Peidio â smygu
- Peidio ag yfed mwy o alcohol na’r canllawiau wythnosol
- Bwyta 5 dogn neu fwy o ffrwythau neu lysiau y diwrnod cynt
- Bod yn gorfforol egnïol am o leiaf 150 munud yn ystod yr wythnos flaenorol
- Cynnal pwysau / mynegai màs y corff iach
Safoni yn ôl oedran
Defnyddir safoni yn ôl oedran mewn dadansoddiadau dethol er mwyn galluogi grwpiau i gael eu cymharu ar ôl addasu ar gyfer effeithiau unrhyw wahaniaethau yn eu dosbarthiadau oedran. Pan gaiff is-grwpiau gwahanol eu cymharu mewn perthynas â newidyn y mae gan oedran ddylanwad pwysig arno (fel iechyd), mae unrhyw wahaniaethau mewn dosbarthiadau oedran rhwng yr is-grwpiau hyn yn debygol o effeithio ar y gwahaniaethau a welwyd yn y cyfrannau o ddiddordeb.
Caiff y broses o safoni yn ôl oedran ei gwneud gan ddefnyddio'r dull safoni uniongyrchol. Cymhwysir y boblogaeth safonol, y caiff dosbarthiad oedran is-grwpiau ei addasu iddi, o Boblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013. Gwneir cyfrifiadau yn Stata. Cyfrifwyd y gyfran oedran safonedig p' fel a ganlyn, ble mai pi yw’r gyfran sy'n benodol i oedran yn y grŵp oedran i a Ni yw maint safonol y boblogaeth yn y grŵp oedran i:
Felly gellir ystyried p' yn gymedr pwysol o pi gan ddefnyddio'r pwysoliadau Ni. Cafodd safoni yn ôl oedran ei wneud gan ddefnyddio'r grwpiau oedran: 16 i 24, 25 i 34, 35 i 44, 45 i 54, 55 i 64, 65 i 74, 75 a throsodd.
Adborth neu wybodaeth bellach
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at arolygon@llyw.cymru. Rydym yn croesawu sylwadau gan ddefnyddwyr yr arolwg, gan gynnwys ynghylch cynnwys a chyflwyniad ein cyhoeddiadau.
