Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu IFF Research i gynnal Arolwg Cyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE).

Mae Arolwg Cyfranogwyr CGE yn arolwg o bobl sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant neu dderbyn cefnogaeth a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE).  Bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg dros y ffôn neu ar-lein.

Diben Arolwg Cyfranogwyr CGE yw darganfod a yw hyfforddiant / cefnogaeth CGE yn ddefnyddiol i bobl mewn meysydd megis chwilio am swydd a gwella sgiliau. 

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data’r ymchwil a byddant yn derbyn y wybodaeth a gesglir. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn unig, i gynhyrchu bwletinau ystadegol ac adroddiadau ymchwil.

Bydd dadansoddiad di-enw o’r wybodaeth a gesglir yn cael ei gynnwys mewn adroddiad i’w gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac IFF Research.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiad yn bwysig er mwyn helpu hysbysu polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn IFF Research yw Max Henley neu Guido Miani.

Cyfeiriad e-bost: esfparticipants@iffresearch.com

Rhif rhadffôn: 0800 652 0436

Pa ddata personol rydym yn ei gadw ac o le rydym yn cael y wybodaeth yma?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (DU RDDC) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae gofyn i bob gweithrediad a ariennir gan CGE ddarparu manylion eu cyfranogwyr i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (SCEC).  Mae’r sawl y cysylltwyd â nhw i gymryd rhan yn yr arolwg hwn wedi’u dewis o’r gronfa ddata hon o gyfranogwyr, a darperir eu manylion cyswllt (enw, e-bost a chyfeiriad post a rhif ffôn) a’r data personol canlynol i IFF Research:

  • Rhif adnabod y cyfranogwr;
  • Rhif unigryw’r dysgwr;
  • Rhyw;
  • Ethnigrwydd;
  • Dyddiad geni;
  • Statws mewnfudo;
  • Cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar y gallu i weithio;
  • Anabledd.

Defnyddir gwybodaeth gyswllt i gysylltu â chi i gymryd rhan yn yr arolwg a defnyddir y wybodaeth arall i'w chynnwys yn yr arolwg yn hytrach na gofyn i chi am y wybodaeth hon eto, os yw ar gael o'r gronfa ddata o gyfranogwyr. Defnyddir dyddiad geni i gyfrifo eich oedran yn hytrach na gofyn i chi. Defnyddir y rhif dysgu unigryw i wirio am ddyblygiadau h.y. os ydych chi wedi cymryd rhan mewn mwy nag un gweithrediad CGE er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn un arolwg yn unig.

Fel rhan o’r ymchwil hwn, bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd gan IFF Research i gwblhau arolwg, naill ai dros y ffôn neu ar-lein, gan ddarparu adborth ar y cwrs a fynychwyd a gwybodaeth ar yr hyn maen nhw wedi’i wneud ers hynny. Cyn yr arolwg, bydd cyfranogwyr yn derbyn llythyr neu e-bost yn eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg dros y ffôn neu os oes yn well ganddynt, i gwblhau’r arolwg ar-lein. Os byddwch yn cymryd rhan mewn arolwg ar-lein, yna bydd y ddolen a dderbyniwch i’r arolwg gan IFF Research yn ddolen bersonol.

Bydd IFF Research yn ychwanegu’r data uchod i’r wybodaeth ac ar ben hyn yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol: ethnigrwydd (os yw ar goll o'r gronfa ddata o gyfranogwyr) a gwybodaeth ychwanegol am iechyd ac anableddau.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn nodiadau atgoffa, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r e-bost neu'r rhif rhadffôn yn y llythyr gwahoddiad i’r arolwg a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd IFF Research yn defnyddio eich manylion at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig. 

Pan fydd yr arolwg yn cael ei gynnal drwy gyfweliad ffôn, bydd IFF Research yn recordio’r galwadau at ddibenion rheoli ansawdd. Os felly y mae, byddwn yn esbonio hyn i chi cyn i’r cyfweliad gychwyn, a bydd gennych gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i ni recordio’r drafodaeth. Bydd y recordiadau’n cael eu dileu cyn gynted â bod yr ymchwil gwaith maes wedi’i gwblhau.

Fel rhan o'u gweithdrefnau rheoli ansawdd, mae’n bosib y bydd IFF Research yn dymuno ailgysylltu â chyfranogwyr sy'n cwblhau'r cyfweliad arolwg ffôn i wirio rhywfaint o'r wybodaeth a ddarparwyd. Ar ddiwedd yr arolwg ffôn, bydd IFF Research yn gofyn i gyfranogwyr a ydynt yn fodlon i IFF gysylltu â nhw eto at y diben hwn.

Bydd eich atebion i’r arolwg yn cael eu cysylltu’n ddi-enw â ffynonellau data eraill fel rhan o fanc data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Diogel (CGDD) ac Amgylchedd Ymchwil Diogel Llywodraeth Cymru at ddibenion ‑ymchwil nad sy’n fasnachol yn unig oni bai eich bod yn gofyn i’r cyswllt hwn beidio â digwydd (gweler y nodyn esboniadol).

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at swyddog Llywodraeth Cymru yn unig ac yna’n ei ddileu o’r data ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o’r data rydym yn ei gasglu yn ‘ddata categori arbennig’ (yn yr achos hwn ethnigrwydd, iechyd ac anabledd) a’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ddefnyddiol am ei allu i gyflwyno blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, mae’n bosib y defnyddir y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn i:

  • Archwilio canfyddiadau o’r gefnogaeth a dderbyniwyd.
  • Archwilio a yw gweithrediadau a ariennir gan raglenni CGE yn cael effaith ac i ba raddau.
  • Datblygu argymhellion ar gyfer rhaglenni ariannu yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i IFF Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect yn unig all gyrchu’r data hwn. Bydd gwaith papur y prosiect yn cael ei gadw dan glo yn swyddfeydd IFF Research. Bydd IFF Research yn defnyddio’r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig.  Mae gan IFF Research ardystiad hanfodion seiber.

Mae gan IFF Research weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd IFF Research yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan IFF Research fel rhan o’r prosiect hwn yn cael ei gadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn mae ffolder wedi’i chreu sydd â mynediad wedi’i gyfyngu i’r tîm ymchwil uniongyrchol yn unig. Bydd y data personol a ddarparwch yn cael ei storio yn y ffolder cyfyngedig hwn. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig.

Bydd IFF Research yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw wybodaeth a ellir ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Mae data arolwg di-enw ar gael trwy Wasanaeth Data’r DU. Gall ymchwilwyr achrededig, megis academyddion ac ymchwilwyr y GIG, a chyrff sector cyhoeddus eraill yng Nghymru hefyd ofyn am fynediad at ddata nad yw ar gael drwy Wasanaeth Data’r DU. Mae Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yn craffu ar y ceisiadau hyn ac - os cânt eu cymeradwyo - cânt eu llywodraethu gan Gytundebau Mynediad at Ddata a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cytundebau ffurfiol hyn yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Bydd IFF Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan IFF Research dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.  Bydd IFF Research yn darparu’r wybodaeth a roddwyd i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn dileu’r data hwn erbyn 31 Rhagfyr 2026.

Mae gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (WGGC) hefyd fynediad at ran o’r data personol am gyfnod o dri mis, nes bod y data sy’n cysylltu â Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Diogel (CGDD) wedi’i gwblhau.

Hawliau unigol

Dan DU RDDC, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o’r prosiect hwn; mae gennych chi’r hawl i:

  • Gyrchu copi o’ch data;
  • Ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
  • Wrthod neu gyfyngu ar brosesu (mewn amgylchiadau penodol);
  • Ofyn i ni ‘ddileu’ eich data (mewn amgylchiadau penodol); ac i
  • Gyflwyno cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.

Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, cysylltwch â:

Enw: Charlotte Guinee

Cyfeiriad e-bost: Charlotte.Guinee@llyw.cymru

Rhif ffôn:  0300 250734

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru ar:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.

Nodyn esboniadol

Hoffai Llywodraeth Cymru gysylltu a pharu eich data dienw â gwybodaeth ddienw arall amdanoch sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, y GIG a sefydliadau cyhoeddus eraill.  Gwneir y gwaith cysylltu data hwn o fewn cyfleusterau diogel a chynhelir gwiriadau i sicrhau nad yw canlyniadau’r dadansoddiad yn datgelu pwy ydynt.  Bydd y data ar gael gan ddefnyddio Amgylchedd Ymchwil Diogel at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig i ymchwilwyr cymeradwy Llywodraeth Cymru, prifysgolion neu sefydliadau achrededig eraill, ar gyfer prosiectau sydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Prosiectau gyda budd cyhoeddus clir yn unig fydd yn cael eu cymeradwyo. 

Banc data dienw am boblogaeth Cymru yw Banc Data CGDD, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am storio’n ddiogel a defnyddio data dienw sy’n seiliedig ar unigolion ar gyfer ymchwil i wella iechyd, llesiant a gwasanaethau. Mae ymatebwyr yn gallu optio allan o gael eu hatebion wedi’u cysylltu. Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud hynny neu ar gysylltu data: Cysylltu a pharu data: hysbysiad preifatrwydd