Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Croeso Cymru, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, yn cynnal arolygon o lefelau defnydd llety yng Nghymru bob mis a The Research Solution sy’n cynnal yr arolygon hyn dros Lywodraeth Cymru. Y nod yw mesur lefelau defnydd ar draws amrywiaeth o gategorïau o lety er mwyn gallu dadansoddi perfformiad y sector llety yng Nghymru i gefnogi penderfyniadau strategol gan Lywodraeth Cymru ar y ffordd orau o gefnogi'r Diwydiant Llety.

Er mwyn hwyluso'r ymchwil, mae The Research Solution wedi casglu a storio gwybodaeth bersonol amdanoch chi a'ch busnes i hwyluso'r gwaith o gasglu data tra byddwch chi’n cymryd rhan yn yr ymchwil (i gael gwybodaeth am yr arolwg gweler Datganiad Preifatrwydd RIBOS).

Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copïau o ddata'r arolwg a geglir a chopi o'r gronfa ddata o gyfranogwyr gan The Research Solution ar ddiwedd y contract ym mis Rhagfyr 2021.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Llywodraeth Cymru yw:

Phil Nelson
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 3187

Pa ddata personol ydym ni’n eu cadw ac o ble ydym yn eu cael?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth am berson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at elfen all ei adnabod'.

Fel rhan o'r gwaith o gynnal Arolwg Defnydd Llety Cymru, mae The Research Solution wedi datblygu cronfa ddata o fusnesau sy'n cymryd rhan sy'n cynnwys y wybodaeth bersonol ganlynol:

  • eich enw
  • gwybodaeth gyswllt (cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost)

Caiff y data eu rhoi i Lywodraeth Cymru ar 31 Rhagfyr 2021. Caiff y manylion hyn eu trosglwyddo wedyn i'r cyflenwr newydd pan gaiff ei benodi a bydd ond yn eu defnyddio i allu cysylltu â'ch busnes yn ystod unrhyw Arolwg o Ddefnydd Llety yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn dileu ei chronfa ddata hi gan mai dim ond rhwng contractau y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw copi.

Mater gwirfoddol i chi yw cynnwys eich manylion yn y gronfa ddata ac os nad ydych am i'ch manylion gael eu cadw ar y gronfa ddata neu os nad ydych am gael eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolygon yn y dyfodol, gallwch ofyn am gael eich dileu o’r gronfa ddata. Gallwch wneud hynny pan fydd y contractwr newydd yn cysylltu â chi neu gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg gan ddefnyddio manylion Phil Nelson yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn. 

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae'r gronfa ddata yn sicrhau bod Arolwg Defnydd Llety Cymru yn cael ei gynnal yn effeithiol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni’i blaenoriaethau. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:

  • ddeall perfformiad y Diwydiant Llety yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol
  • llywio penderfyniadau strategol ynghylch cyllido a helpu’r diwydiant
  • llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau ym maes Twristiaeth a Lletygarwch

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i The Research Solution bob amser yn cael ei phrosesu a'i storio ar weinydd diogel a dim ond y nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy’n cael gweld y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd The Research Solution yn defnyddio'r data. Mae gan The Research Solution ardystiad Cyber Essentials.

Mae gan The Research Solution drefniadau i ddelio ag unrhyw achos tybiedig o dorri’r rheolau diogelu data. Os bydd achos tybiedig o dorri rheolau, bydd The Research Solution yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a bydd hithau’n eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu prosesu a'u cadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn crëwyd ffolder. Dim ond aelodau’r tîm ymchwil sy’n cael  mynd i’r ffolder honno. Bydd eich manylion cyswllt ac unrhyw ddata personol arall a ddarperir gennych yn cael eu storio yn y ffolder hon. Dim ond at ddibenion ymchwil y defnyddir y wybodaeth.

Am faint y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd The Research Solution yn rhoi copïau i Lywodraeth Cymru o'r setiau data llawn a gasglwyd, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, erbyn 31 Rhagfyr 2021. Bydd The Research Solution yn dileu'r holl wybodaeth o fewn 3 mis i ddiwedd y contract.

Bydd Llywodraeth Cymru yn storio'r gronfa ddata cyfranogwyr rhwng contractau ac yna'n dileu'r wybodaeth unwaith y bydd y contract newydd wedi'i roi a’r gronfa ddata wedi'i throsglwyddo i'r contractwr newydd. Disgwylir y bydd y contract newydd wedi’i lofnodi erbyn mis Mawrth 2022 a bydd Llywodraeth Cymru yn dileu ei chopi o'r gronfa ddata erbyn mis Mehefin 2022. Gallwch optio allan unrhyw bryd naill ai drwy gysylltu â'r contractwr presennol neu â Llywodraeth Cymru rhwng contractau.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon:

  • i gael gweld copi o'ch data eich hun
  • i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • er mwyn i'ch data gael eu 'dileu' (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn yn Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, cysylltwch â:

Phil Nelson
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 3187

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 ENQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru