Mae Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol yn asesu perfformiad busnesau, hyder busnesau a’r bwlch sgiliau yn niwydiannau creadigol Cymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol
Mae’r arolwg hwn yn cynnwys sampl o fusnesau a gweithwyr llawrydd o'r sector sgrin, y sector cerddoriaeth, y sector digidol a'r sector cyhoeddi yng Nghymru. Mae'n dilyn 3 o arolygon blaenorol a gynhaliwyd yn 2022, 2023 a 2024, gan ganiatáu i gymariaethau gael eu gwneud rhwng blynyddoedd a helpu i nodi tueddiadau dros amser. Fodd bynnag, nodir bod meintiau'r sampl yn wahanol o ran cynrychiolaeth y sector ac felly dylid ystyried hyn wrth gymharu rhai o'r canlyniadau.
Prif ddarganfyddiadau
Cwblhawyd yr arolwg gan 604 o ymatebwyr ar draws rhanbarthau Cymru o'r sectorau canlynol:
- digidol (31%)
- cerddoriaeth (30%)
- cyhoeddi (22%)
- sgrin (17%)
Pan ofynnwyd iddynt am statws cyflogaeth roedd:
- 48% o'r ymatebwyr wedi'u nodi fel perchnogion busnes neu gyfarwyddwyr
- 24% wedi'u nodi fel hunangyflogedig
- 20% wedi'u nodi fel cyflogeion
- 8% wedi'u nodi fel gweithwyr llawrydd
Mae tueddiadau trosiant busnes yn parhau i fod yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers 2024, gyda:
- 25% o fusnesau yn gweld cynnydd mewn trosiant
- 25% yn profi gostyngiad
- 50% yn gweld dim newid
Roedd costau cynyddol yn ffactor a nodwyd yn aml a oedd yn cyfrannu at newidiadau mewn trosiant yn 2025, yn enwedig ymhlith gweithwyr llawrydd a sefydliadau llai.
Roedd ymatebwyr yn fwy hyderus na pheidio am redeg eu busnes yn broffidiol. Dangosodd y sector digidol yr hyder mwyaf o'i gymharu â lefelau is yn y sectorau sgrin a cherddoriaeth.
Dywedodd tua 8 o bob 10 ymatebydd (79%) nad oeddent wedi derbyn unrhyw gyllid allanol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ymhlith y rhai a oedd wedi cael gafael ar gyllid, y ffynonellau mwyaf cyffredin oedd:
- Cymru Greadigol neu Lywodraeth Cymru
- grantiau'r cyngor
- Chyngor Celfyddydau Cymru
Yn 2025, nododd 78% o fusnesau nad oedd unrhyw weithgaredd recriwtio yn y 12 mis blaenorol. Lle digwyddodd recriwtio, roedd yn bennaf ar lafar, ffynonellau ar-lein, a'r cyfryngau cymdeithasol. Ymhlith y rhai oedd yn recriwtio, roedd prinder sgiliau a chyfyngiadau cyflog yn heriau oedd yn cael eu hadrodd yn aml.
Y meysydd mwyaf cyffredin o fylchau sgiliau oedd:
- sgiliau technegol sector-benodol
- sgiliau digidol a thechnoleg
- marchnata a brandio
- rheoli ac arweinyddiaeth
Mae ymwybyddiaeth o Gymru Greadigol yn parhau i fod yn uchel ar 71% yn 2025, yn gyson â'r blynyddoedd blaenorol (67% yn 2024 a 61% yn 2023).
Mae blaenoriaethau cymorth yn y dyfodol yn cynnwys:
- cymorth ariannol (43%)
- cyfleoedd rhwydweithio (20%)
- help gyda marchnata, hyrwyddo a gwelededd (19%)
- chymorth a chyngor busnes (13%)
Adroddiadau
Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol: 2025 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 655 KB
Cyswllt
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
