Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn ystod y cyfnod hwn o heintiadau uchel, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi canlyniadau pennawd cynnar o’r arolwg heintiadau Coronafeirws (COVID-19) ar ddydd Mercher. Mae'r datganiad hwn yn cyd-fynd â set ddata gyfyngedig sy'n cynnwys amcangyfrifon o bositifrwydd yn ôl gwlad a dadansoddiad amrywiaeth yn ôl gwlad. Dyma grynodeb o'r amcangyfrifon pennawd ar gyfer Cymru. Nid yw hyn yn disodli datganiad llawn yr arolwg heintiadau a gyhoeddir bob dydd Gwener am 12pm. Mae SYG wedi cynhyrchu datganiad sy’n egluro'r angen am yr amcangyfrifon pennawd ychwanegol.

Heddiw, mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon o nifer y bobl sy'n profi'n bositif ar gyfer COVID-19 yn yr wythnos yn diweddu 29 Ionawr 2022.

Prif bwyntiau

  • Yng Nghymru, parhaodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 i ostwng yn yr wythnos yn diweddu 29 Ionawr; amcangyfrifir bod gan 139,000 o bobl yng Nghymru COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 119,800 i 159,300), sy'n cyfwerth i oddeutu 1 o bob 20 o bobl.
  • Mae heintiau COVID-19 sy'n gydweddu â'r Omicron yn parhau i fod yr amrywiad mwyaf cyffredin yng Nghymru.

Mae nifer y bobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 wedi parhau’n uchel yn Lloegr ac wedi cynyddu yn ystod yr wythnos ddiweddaraf yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon. Yn yr Alban, gostyngodd canran y bobl a brofodd yn bositif am COVID-19 dros bythefnos, ond roedd y duedd yn ansicr yn ystod yr wythnos ddiweddaraf.

Cymhariaeth y DU

  • Yn Lloegr, parhaodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn uchel yn yr wythnos yn diweddu 29 Ionawr; amcangyfrifir bod gan 2,633,100 o bobl yn Lloegr COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 2,544,100 i 2,725,100), sy'n cyfwerth i oddeutu 1 o bob 20 o bobl.
  • Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn yr wythnos yn diweddu 29 Ionawr; amcangyfrifir bod gan 136,300 o bobl yng Ngogledd Iwerddon COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 118,200 i 155,200), sy'n cyfwerth i oddeutu 1 o bob 15 o bobl.
  • Yn yr Alban, gostyngodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 dros y pythefnos yn diweddu 29 Ionawr ond roedd y duedd yn ansicr yn ystod yr wythnos ddiweddaraf; amcangyfrifir bod gan 185,100 o bobl yn yr Alban COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 162,100 i 210,800), sy'n cyfwerth i oddeutu 1 o bob 30 o bobl.
Image
Mae'r siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 19 Rhagfyr 2021 i 29 ionawr 2022 ar gyfer pedair gwlad y DU.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl ganlyniadau yn rhai dros dro ac fallai bydd yn cael eu adolygu.

Mae'r ystadegau hyn yn cyfeirio at heintiau sy'n digwydd mewn cartrefi preifat, ac nid ydynt yn cynnwys heintiau a adroddir mewn ysbytai, cartrefi gofal a / neu sefydliadau cymunedol eraill.

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Nodwyd bod achosion yn cyfweld ag amrywiolion hysbys o Covid-19 yn seiliedig ar eu patrymau genetig. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ail-labelu Amrywiolion o Bryder ac Amrywiolion o Ddiddordeb. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am nodi amrywiolion yn yr arolwg ar wefan y SYG

Mae'r rhan fwyaf o heintiau'n gydweddu â'r amrywiolyn Omicron BA.1, felly rydym yn cyflwyno cyfanswm yr heintiau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

9 Chwefror 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sean White
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 32/2022