Neidio i'r prif gynnwy

Mae data gwrthgyrff ar gyfer Cymru ymhellach yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos mewn datganiad gwahanol.

Mae Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19)  yn cael ei gynnal ledled y DU a’i nod yw amcangyfrif:

  • faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol (positifedd)
  • faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol (digwyddedd)
  • faint o bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19

Mae’r arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith pobl mewn preswylfeydd preifat, sef poblogaeth gymunedol.

Cyfran y bobl yng Nghymru a gafodd COVID-19

Ar gyfer yr wythnos 11 i 17 Gorffennaf 2021 amcangyfrifir bod gan 0.47% o'r boblogaeth gymunedol COVID-19 (cyfwng credadwy o 95%: 0.31% i 0.67%).

Mae hyn yn gyfwerth i tua 1 o bob 210 o unigolion (cyfwng credadwy o 95%: 1 o bob 320 i 1 o bob 150), neu amcangyfrif o 14,400 o bobl i gyd (cyfwng credadwy: 9,500 i 20,500).

Mae’r duedd o ganran y bobl sy'n profi'n bositif wedi cynyddu yn ystod yr wythnos ddiweddaraf.

Gan fod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion positif, dylid bod yn ofalus wrth orddehongli unrhyw symudiadau bach yn y duedd ddiweddaraf.

Ceir rhagor o wybodaeth am y dosbarthiad o achosion positif ar wefan y SYG.

Sylwer bod yr oediad yn fwy mewn data o'r arolwg heintiadau nag o ffynonellau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 6 Mehefin i 17 Gorffennaf 2021. Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif yng Nghymru wedi cynyddu yn yr wythnos ddiweddaraf.

Mae’r achosion sy'n cytûn â'r amrywiolyn Delta wedi cynyddu yng Nghymru dros yr wythnos ddiweddaraf, sy’n cydweddu â'r duedd dros y pythefnos diweddaraf. Mae’r achosion sy’n cytûn â’r amrywiolyn Alffa ac mae'r achosion lle mae'r firws yn rhy isel i'r amrywiolyn fod yn adnabyddadwy yn parhau’n isel yn yr wythnos ddiweddaraf.

Mae achosion lle mae'r feirws yn rhy isel i'r amrywiolyn gael ei adnabod yn debygol o fod oherwydd bod unigolion wedi cael y feirws am gyfnod hwy.

Parheir i fonitro achosion sy'n cytûn ag amrywiolyn Alpha, amrywiolyn Delta ac amrywiolion eraill drwy'r arolwg. Gellir gweld data ar achosion sy'n cytûn â gwahanol amrywiolion yn y set ddata technegol ar wefan y SYG.

Image
Siart yn dangos amcangyfrifon o ganran yr achosion cadarnhaol sy’n gydnaws â'r amrywiolyn Alpha, sy'n gydnaws â'r amrywiolyn Delta a rhai sydd ddim yn adnabyddadwy.

Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn ôl blwyddyn unigol o oed ers 21 Chwefror 2021 ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban i’w gael yn set ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Amcangyfrifon o ddigwyddedd yng Nghymru

Mae amcangyfrifon ddigwyddedd o achosion PCR-positif wedi'u hailgyflwyno ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn dilyn cyfnod o bositifedd isel. Mae’r amcangyfrifon ar gael yn y tablau data ar wefan y SYG.

Mae digwyddedd heintiau newydd (nifer yr heintiau newydd mewn cyfnod penodol o amser) yn ein helpu i ddeall pa mor gyflym y mae heintiau yn cynyddu yn y boblogaeth. Mae hefyd yn cefnogi’r prif fesur o bositifedd (faint o bobl sy’n profi’n bositif unrhyw bryd) i roi dealltwriaeth fwy trylwyr o bandemig y coronafeirws (COVID-19).

I gael rhagor o wybodaeth am y dull newydd o amcangyfrif digwyddedd, gweler yr erthygl dulliau wedi’u diweddaru ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yng Nghymru, ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 3 Gorffennaf 2021, rydym yn amcangyfrif bod 2.93 o achosion newydd o brofion positif o’r coronafeirws (COVID-19) fesul 10,000 o bobl y dydd (cyfwng credadwy o 95%: 1.89 i 4.29).

Mae hyn yn gyfwerth â 890 o achosion positif newydd yng Nghymru y dydd (cyfwng credadwy o 95%: 570 i 1,300).

Pan fydd nifer yr achosion yn isel iawn, efallai na fydd yn bosibl i gynhyrchu amcangyfrif dibynadwy.

Amcangyfrifon ar gyfer gwledydd y DU

Yng nghanol yr wythnos ddiweddaraf (11 i 17 Gorffennaf 2021), roedd canran amcangyfrifedig y boblogaeth gymunedol â COVID-19 ledled y DU, yn amrywio o 0.47% yng Nghymru i 1.36% yn Lloegr.

Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif wedi parhau i gynyddu dros wythnos yn Lloegr, Cymru a'r Gogledd Iwerddon a dros bythefnos yn yr Alban. Mae'r duedd yn ansicr yn yr Alban dros yr wythnos diwetharaf.

Mae rhywfaint o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon pwynt unigol ar gyfer y gwledydd. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer dyddiau diwethaf y gyfres, a ddangosir fel llinellau toredig yn y siart isod, yn fwy ansicr.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 6 Mehefin i 10 Gorffennaf 2021 ar gyfer pedair gwlad y DU.

Mae'r tablau canlynol yn crynhoi cyfraddau positifedd a chyfraddau digwyddedd ledled gwledydd y DU.

Tabl 1: Cyfraddau positifedd profion ar draws gwledydd y DU ar gyfer yr wythnos o 11 i 17 Gorffennaf 2021
  Cyfraddau positifedd
 (Cyfyngau Credadwy 95%)
Cymru  0.47%
(0.31 i 0.67)
1 o bob 210 o bobl
(1 o bob 320 i 1 o bob 150)
14,400 o bobl
(9,500 i 20,500)
Lloegr 1.36%
(1.26 i 1.46)
1 o bob 75 o bobl
(1 o bob 80 i 1 o bob 70)
741,700 o bobl
(689,600 i 797,800)
Yr Alban 1.24%
(0.98 i 1.53)
1 o bob 80 o bobl
(1 o bob 100 i 1 o bob 65)
65,100 o bobl
(51,600 i 80,500)
Gogledd Iwerddon 0.59%
(0.31 i 0.98)
1 o bob 170 o bobl
(1 o bob 320 i 1 o bob 100)
10,900 o bobl
(5,700 i 17,900)

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19), Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Tabl 2: Amcangyfrifon swyddogol o gyfraddau digwyddedd ledled gwledydd y DU, 27 Mehefin i 3 Gorffennaf 2021
  Digwyddedd
(Cyfyngau Credadwy 95%) 
Cymru  2.93 o achosion i bob 10,000 o bobl y dydd
(1.89 i 4.29)
890 o achosion newydd y dydd
(570 i 1,300)
Lloegr 8.25 o achosion i bob 10,000 o bobl y dydd
(7.53 i 9.03)
45,000 o achosion newydd y dydd
(41,100 i 49,200)
Yr Alban 9.97 o achosion i bob 10,000 o bobl y dydd
(7.55 i 12.72)
5,200 o achosion newydd y dydd
(4,000 i 6,700)
Gogledd Iwerddon 3.21 o achosion i bob 10,000 o bobl y dydd
(1.86 i 5.15)
590 o achosion newydd y dydd
(340 i 940)

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19), Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Diffiniadau

Achosion sy'n cytûn ag amrywiolion

Achosion y nodwyd eu bod yn cytûn ag amrywiolion hysbys o Covid-19 yn seiliedig ar eu patrymau genetig. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ail-labelu Amrywiolion o Bryder ac Amrywiolion o Ddiddordeb. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am nodi amrywiolion yn yr arolwg ar wefan y SYG.

Poblogaeth gymunedol

Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth gymunedol. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.

Cyfyngau hyder

Mae cyfwng hyder yn dangos y lefel o sicrwydd i amcangyfrif, gan ddangos pa mor gywir yw amcangyfrif sampl. Mae’r cyfyngau hyder o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau, pe baem yn ailadrodd yr astudiaeth lawer o weithiau, y byddai’r gwir gwerth nad yw’n hysbys rywle rhwng y terfynau hyder isaf ac uchaf, 95% o’r amser. Mae gorgyffwrdd rhwng y cyfryngau hyder yn dangos ei bod yn bosibl nad oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dau amcangyfrif.

Cyfwng credadwy

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Digwyddedd

Nifer yr heintiadau newydd dros gyfnod penodol.

Amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelau ystadegol

Mae amcangyfrifon o bositifedd yn yr arolwg hwn yn seiliedig ar fodelau ystadegol o’r data gwaelodol. Mae’r model yn llyfnu’r gyfres i ddeall y tueddiad, ac mae’n cael ei adolygu bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd.

Amcangyfrifon pwynt

Mae amcangyfrifon pwynt yn seiliedig ar y tueddiad wedi’i fodelu, ac maent yn adlewyrchu’r pwynt cyfeirio mwyaf cynrychiadol ar gyfer yr wythnos o dan sylw.

Y gyfradd positifedd

Yr amcangyfrif o’r gyfran o bobl sy’n cael canlyniad positif i brawf am y coronafeirws (COVID-19) ar adeg penodol, gyda symptomau neu hebddynt, yn seiliedig ar swabiau trwyn a gwddf.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae canlyniadau’r arolwg wedi’u seilio ar swabiau trwyn a gwddf a ddarparwyd gan y cyfranogwyr. Mae is-grŵp o gyfranogwyr hefyd yn rhoi sampl o waed, wedi’i chymryd gan staff maes wedi eu hyfforddi.

Yn ogystal ag edrych ar ddigwyddedd cyffredinol, positifedd a lefel gwrthgyrff, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau. Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill. Cyfeirir at hyn fel poblogaeth gymunedol.

Mae’r arolwg yn cynnwys pob gwlad yn y DU, gan alluogi cyfrifo amcangyfrifon ar gyfer pob gwlad yn unigol, ac yn y pen draw ar gyfer y DU gyfan. Dechreuodd y maes gwaith yn Lloegr ar 26 Ebrill 2020. Mae hyn yn golygu bod rhagor o ddata cronnol ar gyfer Lloegr, sy’n galluogi dadansoddiadau mwy manwl ar hyn o bryd. Dechreuodd gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin 2020, wedyn yng Ngogledd Iwerddon ar 26 Gorffennaf 2020 ac yn yr Alban ar 21 Medi 2020.

Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy neu cyfyngau hyder o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae’r amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelu ystadegol. Mae gwaith modelu'n cael ei wneud o'r newydd bob wythnos gan ddefnyddio'r data am y 6 wythnos ddiwethaf. Mae'r model yn gweithio drwy hwyluso’r gyfres i ddeall y duedd ac mae'n cael ei diwygio bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd. Mae hyn yn golygu y gallai'r amcangyfrif diweddaraf am gyfnod cynharach fod yn wahanol i'r amcangyfrif swyddogol a gynhyrchwyd ar y pryd. Dengys Siart 1 y duedd ddiweddaraf wedi'i modelu a'r amcangyfrifon swyddogol (pwynt) a gyhoeddwyd ar y pryd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi bwletinau ystadegol wythnosol, tablau cyfeirio ac erthyglau ystadegol cyfnodol, gan gynnwys canlyniadau ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban ar ei gwefan. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

30 Gorffennaf 2021

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Lisa Bloemberg
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 217/2021