Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae data gwrthgyrff ar gyfer Cymru ymhellach yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos mewn datganiad gwahanol.

Mae Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19)  yn cael ei gynnal ledled y DU a’i nod yw amcangyfrif:

  • faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol (positifedd)
  • faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol (digwyddedd)
  • faint o bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19

Mae’r arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith pobl mewn preswylfeydd preifat, sef poblogaeth gymunedol.

Gellir dod o hyd i amcangyfrifon blaenorol yn setiau data’r Arolwg Heintiau Coronafeirws (COVID-19) (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)).

Cyfran y bobl yng Nghymru a gafodd COVID-19

Ar gyfer yr wythnos 3 i 9 Tachwedd 2022 amcangyfrifir bod gan 1.84% o'r boblogaeth gymunedol COVID-19 (cyfwng credadwy o 95%: 1.46% i 2.30%).

Mae hyn yn gyfwerth i tua 1 o bob 55 o unigolion (cyfwng credadwy o 95%: 1 o bob 70 i 1 o bob 45), neu 56,000 o yn ystod y cyfnod hwn (cyfwng credadwy 95%: 44,200 i 69,900).

Parhaodd canran y bobl a brofodd yn bositif yng Nghymru i ostwng yn ystod yr wythnos ddiweddaraf.

Gan fod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion positif, dylid bod yn ofalus wrth orddehongli unrhyw symudiadau bach yn y duedd ddiweddaraf.

Ceir rhagor o wybodaeth am y dosbarthiad o achosion positif ar wefan y SYG.

Sylwer bod yr oediad yn fwy mewn data o'r arolwg heintiadau nag o ffynonellau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Image
Mae'r siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 29 Medi i 9 Tachwedd 2022. Mae canran y bobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 wedi gostwng yng Nghymru yn yr wythnos ddiweddaraf.

Canran y bobl sy'n profi'n bositif yn ôl rhanbarth

Darperir amcangyfrifon wedi'u modelu ar gyfer rhanbarthau yng Nghymru. Darperir amcangyfrifon ar gyfer y saith diwrnod hyd at 9 Tachwedd 2022 yn seiliedig ar fodelu'r holl cyfnod saith diwrnod.

Ymddengys bod cyfraddau o achosion positif ar eu huchaf yn y rhanbarth sy'n cwmpasu Ceredigion; Sir Benfro; Sir Gaerfyrddin; Powys, er bod gwahaniaethau rhwng y rhanbarthau yn fach. Mae’r rhanbarth sy'n cwmpasu Abertawe; Castell-Nedd Port Talbot gyda cyfraddau o achosion positif sydd yn is.

Mae angen cymryd gofal wrth gymharu amcangyfrifon rhanbarthol yn erbyn yr amcangyfrif cenedlaethol cyffredinol. Mae'r amcangyfrifon rhanbarthol yn seiliedig ar fodel gwahanol ac ni ddylid eu cymharu â'r amcangyfrif positifedd cenedlaethol. Oherwydd meintiau sampl llai, mae mwy o ansicrwydd mewn amcangyfrifon ar gyfer rhanbarthau unigol, fel y dangosir gan gyfyngau credadwy mwy.  

Image
Ffigur 1: Amcangyfrifon o ganran y boblogaeth  yng Nghymru sy'n profi'n bositif am y  coronafeirws (COVID-19) fesul rhanbarth rhwng  3 i 9 Tachwedd 2022
Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon o ganran y boblogaeth yng Nghymru sy'n profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) fesul rhanbarth rhwng 3 Tachwedd i 9 Tachwedd 2022.

Amcangyfrifon ar gyfer gwledydd y DU

Yng nghanol yr wythnos ddiweddaraf (3 i 9 Tachwedd 2022), roedd canran amcangyfrifedig y boblogaeth gymunedol â COVID-19 ledled y DU yn amrywio o 1.73% yng Lloegr i 1.86% yng Ngogledd Iwerddon.

Gostyngodd canran y bobl a brofodd yn bositif ym mhob un o wledydd y DU yn yr wythnos ddiweddaraf.

Mae rhywfaint o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon pwynt unigol ar gyfer y gwledydd. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer dyddiau diwethaf y gyfres, a ddangosir fel llinellau toredig yn y siart isod, yn fwy ansicr.

Image
Mae'r siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 29 Medi i 9 Tachwedd 2022 ar gyfer pedair gwlad y DU.

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi cyfraddau positifedd ledled gwledydd y DU.

Tabl 1: Cyfraddau positifedd profion ar draws gwledydd y DU ar gyfer yr wythnos o 3 i 9 Tachwedd 2022
Gwlad Cyfraddau positifedd
(Cyfyngau Credadwy 95%)
Cymru  1.84%
(1.46 i 2.30) 
1 o bob 55 o bobl
(1 o bob 70 i 1 o bob 45)
56,000 o bobl
(44,200 i 69,900)
Lloegr* 1.73%
(1.63 i 1.82) 
1 o bob 60 o bobl
(1 o bob 60 i 1 o bob 55)
940,700 o bobl
(888,600 i 994,200)
Yr Alban* 1.85%
(1.54 i 2.20) 
1 o bob 55 o bobl
(1 o bob 65 i 1 o bob 45)
113,500 o bobl
(93,900 i 136,000)
Gogledd Iwerddon* 1.86%
(1.41 i 2.37) 
1 o bob 55 o bobl
(1 o bob 70 i 1 o bob 40)
34,200 o bobl
(26,000 i 43,500)

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19), Swyddfa Ystadegau Gwladol

* Y cyfnod cyfeirio yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yw 2 i 8 Tachwedd.

Diffiniadau

Achosion sy'n cytûn ag amrywiolion

Achosion y nodwyd eu bod yn cytûn ag amrywiolion hysbys o Covid-19 yn seiliedig ar eu patrymau genetig. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ail-labelu Amrywiolion o Bryder ac Amrywiolion o Ddiddordeb. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am nodi amrywiolion yn yr arolwg ar wefan y SYG.

Poblogaeth gymunedol

Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth gymunedol. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.

Cyfyngau hyder

Mae cyfwng hyder yn dangos y lefel o sicrwydd i amcangyfrif, gan ddangos pa mor gywir yw amcangyfrif sampl. Mae’r cyfyngau hyder o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau, pe baem yn ailadrodd yr astudiaeth lawer o weithiau, y byddai’r gwir gwerth nad yw’n hysbys rywle rhwng y terfynau hyder isaf ac uchaf, 95% o’r amser. Mae gorgyffwrdd rhwng y cyfryngau hyder yn dangos ei bod yn bosibl nad oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dau amcangyfrif.

Cyfwng credadwy

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Digwyddedd

Nifer yr heintiadau newydd dros gyfnod penodol.

Amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelau ystadegol

Mae amcangyfrifon o bositifedd yn yr arolwg hwn yn seiliedig ar fodelau ystadegol o’r data gwaelodol. Mae’r model yn llyfnu’r gyfres i ddeall y tueddiad, ac mae’n cael ei adolygu bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd.

Amcangyfrifon pwynt

Mae amcangyfrifon pwynt yn seiliedig ar y tueddiad wedi’i fodelu, ac maent yn adlewyrchu’r pwynt cyfeirio mwyaf cynrychiadol ar gyfer yr wythnos o dan sylw.

Y gyfradd positifedd

Yr amcangyfrif o’r gyfran o bobl sy’n cael canlyniad positif i brawf am y coronafeirws (COVID-19) ar adeg penodol, gyda symptomau neu hebddynt, yn seiliedig ar swabiau trwyn a gwddf.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae canlyniadau’r arolwg wedi’u seilio ar swabiau trwyn a gwddf a ddarparwyd gan y cyfranogwyr. Mae is-grŵp o gyfranogwyr hefyd yn rhoi sampl o waed, wedi’i chymryd gan staff maes wedi eu hyfforddi.

Yn ogystal ag edrych ar ddigwyddedd cyffredinol, positifedd a lefel gwrthgyrff, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau. Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill. Cyfeirir at hyn fel poblogaeth gymunedol.

Mae’r arolwg yn cynnwys pob gwlad yn y DU, gan alluogi cyfrifo amcangyfrifon ar gyfer pob gwlad yn unigol, ac yn y pen draw ar gyfer y DU gyfan.

Wrth gymharu Test and Trace (T&T) ac amcangyfrifon o’r Arolwg Heintiau COVID-19 mae'n bwysig i nodi bod T&T yn darparu gwybodaeth am nifer y bobl sydd wedi'u profi yn bositif, tra bod yr amcangyfrifon yn y datganiad hwn yn seiliedig ar gyfanswm y bobl sydd ar hyn o bryd wedi'u heintio ar adeg benodol (mynychder). Mae amcangyfrifon o'r arolwg hwn hefyd yn seiliedig ar sampl ar hap o'r boblogaeth, gan gynnwys pobl sy'n anghymesur. Mae unigolion anghymesur yn llai tebygol o fynd am brawf ac felly'n ymddangos yn y data T&T.

Dechreuodd y maes gwaith yn Lloegr ar 26 Ebrill 2020. Mae hyn yn golygu bod rhagor o ddata cronnol ar gyfer Lloegr, sy’n galluogi dadansoddiadau mwy manwl ar hyn o bryd. Dechreuodd gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin 2020, wedyn yng Ngogledd Iwerddon ar 26 Gorffennaf 2020 ac yn yr Alban ar 21 Medi 2020.

Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy neu cyfyngau hyder o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae’r amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelu ystadegol. Mae gwaith modelu'n cael ei wneud o'r newydd bob wythnos gan ddefnyddio'r data am y 6 wythnos ddiwethaf. Mae'r model yn gweithio drwy hwyluso’r gyfres i ddeall y duedd ac mae'n cael ei diwygio bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd. Mae hyn yn golygu y gallai'r amcangyfrif diweddaraf am gyfnod cynharach fod yn wahanol i'r amcangyfrif swyddogol a gynhyrchwyd ar y pryd. Dengys Siart 1 y duedd ddiweddaraf wedi'i modelu a'r amcangyfrifon swyddogol (pwynt) a gyhoeddwyd ar y pryd.

Mae’r SYG yn cyhoeddi bwletinau ystadegol wythnosol, tablau cyfeirio ac erthyglau ystadegol cyfnodol, gan gynnwys canlyniadau ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban ar ei gwefan. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y SYG.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

25 Tachwedd 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sean White
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 232/2022