Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r data gwrthgyrff a gyflwynir yn rhan o’r Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19) ar draws y DU gyfan. Gellir defnyddio’r data i adnabod unigolion sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu wedi datblygu gwrthgyrff drwy gael y brechlyn.

Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd ar heintiadau yn y gorffennol a/neu’r brechlyn, wedi’i ddiffinio fel profi’n bositif am wrthgyrff i SARS-CoV-2 yn seiliedig ar ganfyddiadau o Arolwg Heintiadau COVID-19. SARS-CoV-2 yw’r enw gwyddonol a roddir i’r feirws penodol sy’n achosi COVID-19.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, ac amcangyfrifon o bositifedd gwrthgyrff yn ôl oedran ar gyfer pob un o wledydd y DU ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyfran y bobl yng Nghymru a oedd â gwrthgyrff yn erbyn COVID-19

Rhwng 4 Chwefror a 3 Mawrth 2021, cafodd 30.5% (cyfwng hyder o 95%: 27.5% i 33.6%) o bobl 16 oed a hŷn ganlyniad prawf positif am wrthgyrff coronafeirws (COVID-19).

Mae’r amcangyfrif wedi’i bwysoli er mwyn iddo fod yn gynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan, ac mae’n cyfateb i oddeutu 1 o bob 3 person (cyfwng hyder o 95%: 1 o bob 4, i 1 o bob 3), neu oddeutu 773,000 o unigolion i gyd (cyfwng hyder o 95%: 697,000 i 852,000).

Er bod ansicrwydd gyda’r amcangyfrifon, mae’n ymddangos bod cyfraddau gwrthgyrff wedi cynyddu’n sylweddol yn y misoedd diwethaf. Wrth i fwy o bobl gael eu brechu mae nifer y bobl sydd â gwrthgyrff yn debygol o gynyddu.

Gall lefelau gwrthgyrff yn y gwaed ddirywio dros amser, sy’n golygu y gall rhai pobl sydd wedi cael COVID-19 yn y gorffennol gael canlyniad prawf negatif. Oherwydd hyn, dylid ystyried y ffigurau hyn fel amcangyfrif o gyffredinrwydd gwrthgyrff bob mis ac nid fel ffigurau cronnol.

Image
Mae'r siart yn dangos bod nifer y bobl sy'n profi'n bositif am wrthgyrff COVID-19 wedi codi'n barhaus ers 23 Gorffennaf 2020.

Yn y 28 diwrnod hyd at 3 Mawrth 2021, roedd canran y bobl 80 oed a throsodd a oedd yn profi'n bositif am wrthgyrff yn 62.2% (cyfwng hyder 95%: 48.8% i 76.7%).

Roedd canran y bobl a oedd yn profi'n bositif am wrthgyrff yn is ar gyfer rheini o dan 70 oed, yn amrywio o 20.0% i 27.4%. Gall y canrannau uwch a welir ar gyfer rheini sy'n 70 oed a throsodd fod o ganlyniad i gyfraddau brechu uwch.

Dylid gofalu nad ydym yn gorddehongli’r amcangyfrifon diweddaraf. Mae’r cyfyngau hyder yn eang a maint y sampl yn gymharol fychan, sy’n golygu bod ansicrwydd mawr yn y ffigurau hyn.

Image
"Mae'r siart yn dangos bod y canrannau o bobl a oedd yn profi'n bositif am wrthgyrff COVID-19 yn y  28 diwrnod hyd at 3 Mawrth 2021 yn uwch mewn grwpiau oedran dros 70 oed, gyda phobl 80 oed a throsodd â'r gyfradd uchaf.

Yn y 28 diwrnod hyd at 3 Mawrth 2021, roedd canran y bobl a oedd yn profi'n bositif am wrthgyrff yn ymddangos yn uwch ar gyfer menywod ar 35.2% (cyfwng hyder 95%: 30.8% i 39.9%) na dynion ar 25.5% (cyfwng hyder 95%: 21.6% i 29.7%).

Dylid gofalu nad ydym yn gorddehongli’r amcangyfrifon diweddaraf. Mae’r cyfyngau hyder yn eang a maint y sampl yn gymharol fychan, sy’n golygu bod ansicrwydd mawr yn y ffigurau hyn.

Image
Siart yn dangos yr amcan o ganran y boblogaeth yng Nghymru sy’n profi’n bositif am wrthgyrff coronafeirws (COVID-19) yn ôl rhyw, rhwng 15 Ionawr a 11 Chwefror 2021.

Yn y 28 diwrnod hyd at 3 Mawrth 2021, roedd canran y bobl a oedd yn profi'n bositif am wrthgyrff COVID-19 yn uwch ar gyfer menywod na dynion, ac mae hyn yn weddol gyson ar draws pob grŵp oedran.

Dylid gofalu nad ydym yn gorddehongli’r amcangyfrifon diweddaraf. Mae’r cyfyngau hyder yn eang a maint y sampl yn gymharol fychan, sy’n golygu bod ansicrwydd mawr yn y ffigurau hyn.

Image
Mae'r siart yn dangos bod canran y bobl a oedd yn profi'n bositif am wrthgyrff COVID-19 yn y 28 diwrnod hyd at 3 Mawrth 2021 yn uwch ar gyfer menywod na dynion, ac roedd hyn yn weddol gyson o fewn y gwahanol grwpiau oedran. 

Diffiniadau

Poblogaeth gymunedol

Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth gymunedol. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.

Cyfyngau hyder

Mae cyfwng hyder yn dangos y lefel o sicrwydd i amcangyfrif, gan ddangos pa mor gywir yw amcangyfrif sampl. Mae’r cyfyngau hyder o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau, pe baem yn ailadrodd yr astudiaeth lawer o weithiau, y byddai’r gwir gwerth nad yw’n hysbys rywle rhwng y terfynau hyder isaf ac uchaf, 95% o’r amser. Mae gorgyffwrdd rhwng y cyfryngau hyder yn dangos ei bod yn bosibl nad oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dau amcangyfrif.

Y gyfradd positifedd

Y gyfran o bobl a amcangyfrifir sy’n profi’n bositif am wrthgyrff rhag coronafeirws (COVID-19) ar adeg benodol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r gwaith o adrodd am amcangyfrifon gwrthgyrff wedi newid yn ddiweddar. Erbyn hyn, cyflwynir amcangyfrifon wedi'u pwysoli ar gyfer cyfnodau o 28 diwrnod o bositifedd gwrthgyrff, yn hytrach nag amcangyfrifon misol. Noder na ellir cymharu'r amcangyfrifon hyn yn uniongyrchol ag amcangyfrifon gwrthgyrff a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd yn seiliedig ar ganlyniadau profion gwaed o is-sampl dethol o unigolion 16 oed a hŷn a ddewiswyd ar hap, a ddefnyddir i brofi am wrthgyrff yn erbyn SARS-CoV-2. Gellir ei ddefnyddio i adnabod unigolion sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu wedi datblygu gwrthgyrff o ganlyniad i’r brechlyn.

Un ffordd mae’r corff yn ymladd COVID-19 yw drwy gynhyrchu gronynnau bach yn y gwaed a elwir yn wrthgyrff. Mae’n cymryd rhwng dwy a thair wythnos i wneud digon o wrthgyrff i ymladd yr haint. Mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefel isel, er y gall y lefelau hyn leihau dros amser nes eu bod mor isel na all y profion eu hadnabod. Gall gwrthgyrff helpu i atal unigolion rhag dal yr un haint ddwywaith.

Bydd presenoldeb gwrthgyrff yn cael ei fesur i ddeall pwy sydd wedi cael coronafeirws (COVID-19) yn y gorffennol ac effaith y brechlynnau. Ar ôl dal yr haint, ni wyddom yn llawn am ba mor hir mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefelau y gellir eu canfod. Ni wyddom chwaith, hyd yn hyn, ym mha ffordd mae bod â gwrthgyrff, nawr neu ar ryw adeg yn y gorffennol, yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddal COVID-19 eto.

Mae’r ystadegau hyn yn cyfeirio at heintiadau a adroddwyd yn y gymuned, sef aelwydydd preifat. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys heintiadau a adroddwyd mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu sefydliadau eraill. Mae’r boblogaeth a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn yn cyfeirio at y boblogaeth gymunedol 16 oed a hŷn.

Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda cyfyngau hyder o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae rhagor o wybodaeth am y canlyniadau profion gwrthgyrff yn cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadgau Gwladol ac yn cynnwys gwybodaeth am wrthgyrff ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a thudalennau arolwg safle Prifysgol Rhydychen.

Rhagor o wybodaeth am Arolwg Heintiau COVID-19 yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

30 Mawrth 2021

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Lisa Bloemberg
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 76/2021