Neidio i'r prif gynnwy

Yn 2021/22, cymerodd dros 120,000 o bobl ifanc ym mlynyddoedd 7 i 11 ysgolion uwchradd yng Nghymru ran yn yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr.

Mae'r arolwg yn rhoi dealltwriaeth fanwl o iechyd a lles pobl ifanc, gan gynnwys y boblogaeth gyfan ac is-grwpiau o'r boblogaeth.

Mae’r arolwg yn cynnwys:

  • iechyd meddwl a lles
  • defnyddio sylweddau a gamblo
  • gweithgarwch corfforol a deiet
  • bywyd ysgol
  • bywyd teuluol a chymdeithasol
  • perthnasoedd

Cymerodd cyfanswm o 123,204 o fyfyrwyr ym mlynyddoedd ysgol 7 i 11 ran yn yr arolwg. Cwblhaodd y myfyrwyr yr arolwg yn electronig yn yr ystafell ddosbarth.

Cyswllt

Eleri Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.