Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod cam cychwynnol y rhaglen, pwysleisiodd llawer o arweinwyr polisi fod angen ystyried barn dysgwyr fel rhan o’r broses o asesu gwelliant ac effeithiolrwydd ysgol.

Nod yr arolwg hwn oedd:

  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am foddhad dysgwyr a mesurau cysylltiedig ar gyfer myfyrwyr yn y chweched dosbarth mewn ysgolion (Blwyddyn 12 a 13)
  • gosod mesur sylfaenol ar gyfer boddhad dysgwyr a phynciau cysylltiedig ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 10 ac 11, gan gyfeirio’n benodol at agenda Llwybrau Dysgu 14-19.

Rhoddwyd holiaduron papur ar wahân i fyfyrwyr Blwyddyn 10 ac 11 a Blwyddyn 12 a 13 i’w cwblhau. Y meysydd pwnc bras a gwmpaswyd yn y ddau holiadur oedd: dewis; ansawdd yr addysgu; llwybrau dysgu; boddhad â’r addysgu a boddhad â’r profiad dysgu.

Cafwyd ymatebion gan 2,018 o fyfyrwyr o Blwyddyn 10 ac 11, a 1,783 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13.

Adroddiadau

Arolwg llais y dysgwr 2008 mewn ysgolion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 761 KB

PDF
761 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arolwg llais y dysgwr 2008 mewn ysgolion: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 199 KB

PDF
199 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.