Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr arolwg yn ein helpu i ddeall safbwyntiau dysgwyr mewn addysg ôl-16, ac ymateb i'r safbwyntiau hynny.

Cynhaliwyd yr arolwg yn flynyddol rhwng 2013 a 2015 ac mae adroddiad sy’n crynhoi’r canlyniadau dros y cyfnod hwn wedi’i gyhoeddi.

Prif ganfyddiadau

  • Mae dysgwyr ledled Cymru yn bositif iawn ynghylch eu profiad dysgu. Yn gyson ym mhob blwyddyn o’r arolwg, mae 85% o ddysgwyr wedi sgorio eu profiad nail ai fel ‘da’ neu ‘da iawn’.  
  • Mae dysgwyr fwyaf tebygol o grybwyll eu cwrs a chynnydd mewn dysgu, a’r help a’r gefnogaeth maent yn ei gael fel y pethau maent yn eu hoffi fwyaf am eu cwrs neu hyfforddiant.
  • Dros dair blynedd yr arolwg dywedodd 12% o ddysgwyr eu bod yn teimlo nad oes dim y gellid ei wella.  Awgrymodd 45% o ddysgwyr y gellir gwella’r addysg a’r dysgu roeddent yn ei gael. Roedd 41% o ddysgwyr yn teimlo y gellid gwella’r cyfleusterau yn eu coleg neu ddarparwr.
  • Roedd cyfran y dysgwyr a oedd yn cael cynnig y cyfle i ddysgu naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog wedi codi yn ystod cyfnod yr arolwg, o 45% ym mlynyddoedd 1 a 2, i 49% ym mlwyddyn 3.

Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r arolwg ar gyfer gwahanol sectorau, grwpiau ethnig, ac ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu. Darperir dadansoddiad o safbwyntiau a disgwyliadau newidiol dysgwyr sydd wedi cymryd rhan mewn bob tair blynedd yn yr un darparwr hefyd. 

Adroddiadau

Arolwg Llais y Dysgwr Cymru: crynodeb o ganlyniadau, 2013 i 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138 

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.