Neidio i'r prif gynnwy

Prif ganlyniadau'r arolwg, gan gynnwys dysgwyr mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion yn y gymuned a Chymraeg i oedolion ar gyfer 2015.

Mae’r wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â pha mor fodlon yw dysgwyr a ariennir gan Yr Adran Addysg a Sgiliau. Mae’r dysgwyr hyn yn cymryd rhan mewn addysg, ac maent wedi eu cofrestru â darparwyr hyfforddiant neu addysg ôl-16 yng Nghymru, rhwng 1 Rhagfyr 2014 a 20 Chwefror 2015.

Prif bwyntiau

  • Roedd 85% o’r dysgwyr a oedd wedi ymateb i’r arolwg craidd yn dweud bod eu profiad cyffredinol naill ai’n dda iawn neu’n dda.
  • Roedd 98% o’r dysgwyr a oedd wedi ymateb i’r arolwg hawdd ei ddarllen wedi dweud bod eu profiad cyffredinol naill ai’n dda iawn neu’n weddol dda.
  • Dysgwyr sy’n dilyn cynlluniau dysgu seiliedig ar waith ac oedolion sy’n dysgu yn y gymuned yw’r grwpiau mwyaf positif yn dal i fod, gyda 64% a 65% yn y drefn honno yn dweud bod eu profiad cyffredinol yn dda iawn.

Adroddiadau

Arolwg Llais y Dysgwr ôl-16 Cymru, 2015 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 613 KB

PDF
Saesneg yn unig
613 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.