Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Cefndir

Comisiynodd Llywodraeth Cymru (LlC) IFF Research (IFF) i dreialu Arolwg Masnach Cymru (TSW) ar ei rhan. Yn ei ail flwyddyn, mae’r arolwg yn cynhyrchu ystadegau arbrofol o wybodaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan fusnesau ar lif masnach i Gymru ac oddi yno. Cynhaliwyd yr ail flwyddyn hon o waith maes rhwng 19 Hydref 2020 a 7 Ionawr 2021, cyn i’r DU adael bloc masnachu’r UE yn swyddogol (31 Ionawr 2020).

Roedd y rhesymeg dros gael TSW yn deillio o’r angen i gael sylfaen dystiolaeth fwy manwl i fod yn sail i’r gwaith o lunio polisïau LlC. Byddai mwy o dystiolaeth yn galluogi LlC i wneud y canlynol:

  • cael gwell dealltwriaeth o economi Cymru, gan gynnwys rhyng-gysylltiadau rhwng busnesau yng Nghrymu a busnesau mewn rhannau eraill o’r DU a thramor
  • asesu effeithiau posibl cysylltiadau masnachu arfaethedig y DU yn y dyfodol, ar fusnesau yng Nghymru a’r economi ehangach, yn fwy cywir

Roedd Dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y canlynol:

  • cwmpasu cynnwys TSW
  • sefydlu'r sampl
  • sefydlu fframwaith llywodraethu ar gyfer goruchwylio TSW gyda rhanddeiliaid allweddol LlC
  • comisiynu’r gwaith maes prif gam a dadansoddi canlyniadau’r arolwg
  • sicrhau ansawdd y dadansoddiad a llunio’r cyhoeddiadau

Comisiynwyd IFF i:

  • gasglu data gan fusnesau sy’n ymateb
  • mynd ar drywydd busnesau nad oedd wedi llenwi’r arolwg erbyn y dyddiad cau
  • dilysu data busnes yr ymatebydd drwy ymchwil desg a galwadau ffôn eglurhaol
  • paratoi a darparu diweddariadau data, a’r ffeil ddata derfynol, i LlC
  • chynhyrchu amcangyfrifon o fasnach Cymru o’r ymatebion i’r arolwg

Mae’r Adroddiad technegol hwn yn rhoi trosolwg o gasgliad data’r flwyddyn arolwg hon, gan gynnwys darlun gweledol o daith y data, llinell amser yr arolwg gyda thempledi llythyrau a anfonwyd at fusnesau drwy gydol y gwaith maes.

Mae’r Adroddiad ansawdd cysylltiedig yn amlinellu agweddau ansawdd methodoleg yr arolwg a’r ystadegau a gynhyrchwyd. Mae’r datganiad canfyddiadau yn manylu ar ganlyniadau’r arolwg.

Strwythur yr Adroddiad

Mae’r Adroddiad technegol hwn yn ymdrin â phob elfen o broses casglu a danfon data TSW 2019. Mae’n rhoi trosolwg o’r prosiect, o’r cyswllt post cyntaf gyda busnesau a samplwyd, i’r prosesau dilysu, priodoli a phwysoli. Dyma strwythur cyffredinol yr adroddiad:

  • Mae’r trosolwg yn rhoi manylion y broses o gasglu data a’r daith, y rheswm dros y dull a ddewiswyd a gwybodaeth am yr astudiaeth beilot.
  • Mae’r sampl yn nodi sut cafodd y sampl ei dewis a pha fusnesau gafodd eu cynnwys yn y strategaeth samplu.
  • Mae’r llinell amser yn amlinellu amserlen y prosiect, ac mae’n cynnwys siart Gantt sy’n dangos llinell amser gwaith maes y prif gam.
  • Mae cyswllt â busnesau drwy’r post ac e-bost yn disgrifio’r gwahoddiad a’r llythyrau atgoffa a anfonwyd at fusnesau.
  • Mae llenwi’r arolwg yn rhoi trosolwg o gynnwys yr arolwg a chrynodeb o’r gwahanol fetrigau ymateb, gan gynnwys yr amser a dreuliwyd yn llenwi’r arolwg, y costau a gofnodwyd a nifer yr ymatebion a gwblhawyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, a’r ymatebion dros y ffôn.
  • Mae cyswllt gan fusnesau yn rhoi manylion yr hyfforddiant i bobl a wnaeth alwadau a’r ymholiadau a gafwyd gan fusnesau dros y ffôn ac e-bost.
  • Mae’r cymorth arall a gynigir i fusnesau yn rhoi gwybodaeth am y dogfennau Cwestiynau Cyffredin a roddwyd i fusnesau a samplwyd, a’r galwadau ffôn i atgoffa a wnaed drwy gydol y gwaith maes, gan gynnwys sut cafwyd rhifau ffôn. Darperir dadansoddiad o ganlyniad y galwadau ffôn hyn i atgoffa hefyd.
  • Mae’r cyfraddau ymateb yn crynhoi’r cyfraddau ymateb a gafwyd.
  • Mae Dilysu a Dadansoddi yn rhoi manylion y dilysu a’r penderfyniadau allweddol a wnaed wrth ddadansoddi’r canlyniadau, y fethodoleg briodoli a nifer yr achosion lle’r oedd gwerth wedi’i briodoli, a chrynodeb o’r fethodoleg bwysoli a ddefnyddiwyd a’r rhesymeg y tu ôl iddi.
  • Atodiadau, sy’n cynnwys gohebiaeth yr arolwg a’r holiadur.

Casglu data cyffredinol a thaith y data

Cynhaliwyd yr arolwg gan ddefnyddio dulliau gwthio i'r we. Anfonwyd llythyr gwahoddiad dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) at fusnesau sampl i ddechrau (Atodiad A) yn eu hannog i fynd ar-lein i lenwi TSW.

Image
Deiagram yn dangos y camau a chymerodd yr arolwg

Cafodd y gwaith maes ei gynnal pan oedd cyfyngiadau Covid-19 ar waith yng Nghymru a gweddill y DU. Roedd TSW yn wirfoddol; gwahoddwyd busnesau i gymryd rhan drwy lythyr gwahoddiad cychwynnol, wedi’i ddilyn gan alwad ffôn i gadarnhau eu bod wedi cael y llythyr gwahoddiad cychwynnol, un llythyr atgoffa, ac e-bost atgoffa dilynol (lle cadwyd cyfeiriad e-bost ar gyfer y busnes). Roedd y galwadau ffôn i gadarnhau eu bod wedi derbyn y llythyr a’r negeseuon e-bost i atgoffa yn helpu i leihau’r posibilrwydd o fusnesau yn y sampl yn peidio â chodi post swyddfa yn ystod cyfyngiadau COVID-19. Ar ben hynny, aeth IFF ati i wneud galwadau ffôn i atgoffa drwy gydol y cyfnod gwaith maes, gan fod llawer o fusnesau’n gweithio gartref yn ystod y pandemig.

Os oedd angen i’r ymatebwyr lenwi’r arolwg mewn mwy nag un eisteddiad (neu fod angen i fwy nag un person lenwi’r arolwg), gallent wneud hynny drwy roi eu cod mynediad eto.  Pan aethant yn ôl i’r arolwg, aethpwyd â’r ymatebwyr yn syth i’r pwynt olaf yn yr arolwg yr oeddent wedi’i gyrraedd. Dim ond ar gyfer un ymateb i arolwg yr oedd modd defnyddio pob cod mynediad, felly dim ond un ffurflen y gallai pob busnes ei chyflwyno.

Drwy gydol taith y data, cafodd yr holl ddata ei storio’n ddiogel yn system storio ar-lein Unicom Intelligence IFF.

Fel rhan o’r diweddariadau cynnydd rheolaidd rhwng IFF a LlC yn ystod y cyfnod gwaith maes, lluniwyd adroddiadau cyfradd ymateb wythnosol gan ddefnyddio data’r arolwg (a oedd yn dangos, er enghraifft, gwybodaeth am ba adrannau arolwg yr oedd ymatebwyr yn oedi arnynt, a maint a sector busnes yr ymatebwyr).

Profi a chynlluniau peilot gwybyddol

Ni chynhaliwyd profion a chynlluniau peilot gwybyddol ar gyfer ail flwyddyn TSW, er bod yr adran Amlinellu Cynnwys yr Arolwg yn rhoi manylion rhai o’r profion a gynhaliwyd ar gwestiynau newydd a oedd wedi’u cynnwys ar gyfer 2019. Gweler Adroddiad technegol, 2018 i gael gwybodaeth am brofion gwybyddol a gynhaliwyd yn y flwyddyn gyntaf.

Sampl

Mae Ystadegwyr Llywodraeth Cymru wedi dewis cwmnïau drwy ddefnyddio dull haenedig sy’n seiliedig ar gyflogaeth. Roedd rhai haenau’n defnyddio dull cyfrifo gyda hapsamplu o’r IDBR ar gyfer haenau eraill.

Roedd samplu’n digwydd ar lefel yr uned adrodd, a gofynnwyd i rai unedau ddarparu gwybodaeth am weithgareddau eu hunedau lleol yng Nghymru. Haenwyd y sampl yn ôl band maint cyflogaeth, a’r sector diwydiannol (Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (DDS) ar y lefel 2 ddigid).

Dosbarthiad Diwydiannol Safonol y DU o Weithgareddau Economaidd (DDS) (ONS)

Roedd y sampl yn eithrio busnesau o’r sectorau diwydiannol canlynol: gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, iechyd dynol a gweithgareddau gwaith cymdeithasol, gweithgareddau aelwydydd fel cyflogwyr a sefydliadau alldiriogaethol. Cafodd busnesau â statws cyfreithiol penodol eu heithrio o’r sampl hefyd, sef sefydliadau awdurdodau lleol, llywodraeth ganolog a’r rhan fwyaf o gyrff dielw (cynhwyswyd prifysgolion). Mae’r rhestr gyflawn o waharddiadau a’r rhai a gynhwysir yn y sector i’w gweld yn yr Adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Ar ôl ystyried yr holl waharddiadau, dewiswyd cyfranogwyr yr arolwg o boblogaeth o tua 33,000 o unedau adrodd gyda gweithgarwch yng Nghymru ac yn cyflogi tri neu fwy o bobl.

Roedd pob uned adrodd (cyfrifiad) gyda chyflogaeth o 20 neu fwy wedi’i chynnwys, ac roedd yn cynnwys y rhan fwyaf o’r sampl. Cymerwyd camau gweithredu gwahanol ar gyfer y rheini yng nghyflogaeth 3 i 19.

Tabl 1: Strata Sampl
Diffiniad Strata Canran y cofnodion a ddewiswyd Cofnodion wedi'u dewis
Cyflogaeth 20 + 100% 5,970
Cyflogaeth 3 i 19 a gwerthiannau/pryniannau a gofnodwyd y tu allan i Gymru mewn arolwg blaenorol 100% 178
Cyflogaeth 3 i 19 7% 1,852

Ffynhonnell: IDBR 

Cymerwyd hapsampl haenedig o’r busnesau sy’n weddill yn y band maint cyflogaeth 3 i 19 (y rheini sydd ag un uned leol yn unig yng Nghymru). Cafodd y busnesau hyn eu haenu ymhellach yn ôl maint cyflogaeth (‘3 i 9’ a ‘10 i 19’) a’r sector diwydiannol (adran DDS), gan gynhyrchu 1,852 o gofnodion gyda’i gilydd. Dyrannwyd y sampl yn seiliedig ar drosiant adran DDS; roedd sectorau â chyfanswm trosiant uwch yn derbyn cyfran uwch o’r sampl. Gwnaed addasiadau pellach i’r dyraniad sampl er mwyn osgoi tan-samplo neu or-samplo o fewn is-fandiau.

Roedd samplu cyfran fach o fusnesau gyda 3 i 19 yn sicrhau darpariaeth o bob band maint, gan leihau’r baich cyffredinol ar fusnesau a chynnal maint sampl ymarferol a chost-effeithiol. Y rhesymeg dros orgynrychioli busnesau mwy yn y sampl oedd sicrhau bod cyfran fawr o economi Cymru (cyfanswm trosiant IDBR Cymru) yn cael ei chofnodi. Amcangyfrifwyd bod yr 8,000 o fusnesau a samplwyd yn cyfrif am 90% o'r trosiant yng Nghymru (o fusnesau â chyflogaeth o 3 neu fwy).

Llinell Amser

Dechreuodd gwaith maes y prif gam ar 19 Hydref 2020 a daeth i ben ar 7 Ionawr 2021.

Tabl 2: Llinell amser gwaith maes y prif gam
Tasg Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen
Llythyr hysbysu cychwynnol 16/10/2020 16/10/2020
Gwaith maes y prif gam 19/10/2020 07/01/2021
Galwadau ffôn i atgoffa 29/10/2020 18/12/2020
Llythyr i atgoffa am yr hysbysiad 10/11/2020 10/11/2020
Galwadau dilysu 17/11/2020 08/01/2021
E-bost atgoffa 07/12/2020 07/12/2020
Diwrnod olaf y gwaith maes 07/01/2021 07/01/2021

Cyswllt â busnesau drwy’r post ac e-bost

Llythyrau atgoffa a gwahoddiad

Cafodd busnesau a samplwyd ar gyfer TSW lythyr gwahoddiad i wneud yr arolwg i ddechrau, a oedd yn ddwyieithog, a hynny ar 16 Hydref 2020, yn rhoi gwybod iddynt am yr arolwg a sut y gallent ei lenwi (mae copi i’w weld yn Atodiad B). 

Llythyrau a negeseuon e-bost atgoffa

Anfonwyd llythyr atgoffa dwyieithog drwy’r post 10 Tachwedd 2020 at y rheini nad oedd wedi llenwi’r arolwg eto, yn esbonio bod y dyddiad cau wedi cael ei ymestyn i 11 Rhagfyr 2020 (Atodiad B). O ganlyniad i’r llythyr atgoffa, cafwyd y nifer fwyaf o ymatebion dyddiol ar 16 Tachwedd 2020, gyda 101 wedi’u llenwi ar y dyddiad hwn.

Anfonwyd e-bost atgoffa (Atodiad C) at tua 1900 o ymatebwyr ddechrau mis Rhagfyr, at y busnesau hynny a oedd wedi gofyn am gael yr arolwg dros e-bost ar ôl cyswllt â’r rhai o IFF a wnaeth alwadau ffôn. Fodd bynnag, ychydig o effaith a gafodd hyn, gydag oddeutu 1% yn llenwi’r arolwg ar ôl derbyn yr e-bost atgoffa.

Llenwi'r arolwg

Amlinelliad o gynnwys yr arolwg

Roedd y rhan fwyaf o arolwg blwyddyn dau TSW (gan gasglu data 2019) wedi aros yr un fath â’r flwyddyn flaenorol (a gasglodd ddata 2017 a 2018). Cyflwynwyd rhai mân newidiadau i arolwg blwyddyn dau.

O ystyried y diffyg data am fasnach o fewn y DU, gofynnwyd i fasnachwyr domestig ddarparu eu 5 cynnyrch a werthodd fwyaf a gwerth pob un o’r 5 cynnyrch yna a werthodd fwyaf yn 2019. (Dim ond i fasnachwyr rhyngwladol ym mlwyddyn 1 y gofynnwyd y cwestiwn hwn, ond roedd y gyfradd ymateb (232 allan o 1,003 o ymatebwyr) yn golygu bod rhaid hepgor y data hwn wrth gyhoeddi).

Cafodd y tri chwestiwn mewnforio canlynol eu tynnu oherwydd cyfradd ymateb isel yn 2018 (229 allan o 836 o ymatebwyr).

  • Dewiswch hyd at 5 prif nwydd neu wasanaeth a gafodd eu mewnforio (o’r tu allan i’r DU) yn 2017 a 2018.
  • Rhowch y gwerth (£) ar gyfer pob un o’r 5 prif mewnforyn yn 2017 a 2018.
  • Rhowch y gwerth (£) ar gyfer pob un o’r lleoliadau mewnforio hyn yn 2017 a 2018.

Ychwanegwyd dau gwestiwn ‘ymatebion penodol’ newydd oherwydd diddordeb polisi ym meysydd testun i) Gwasanaethau Modd 5 a ii) contractau sector cyhoeddus rhyngwladol.

  • Dim ond i’r gwneuthurwyr a ddywedodd eu bod wedi gwerthu nwyddau yn 2019 y gofynnwyd y cwestiwn gwasanaethau “Modd 5”.
    “Wrth werthu’r nwyddau hynny, a oes unrhyw wasanaethau wedi’u gwreiddio yn y cynnyrch cyffredinol (e.e. data) neu sy’n cael eu cynnig fel rhan o werthu’r nwydd (e.e. contract gwasanaethu/cynnal a chadw neu gymorth meddalwedd, gwasanaeth tanysgrifio)?” (opsiynau ymateb ‘oes’/ ‘nag oes’).
  • Dim ond i’r rhai hynny a oedd yn allforio’n rhyngwladol yn 2019 y gofynnwyd y cwestiwn contractau sector cyhoeddus rhyngwladol.
    Ydych chi erioed wedi gwneud cais am gontractau’r sector cyhoeddus a/neu’r llywodraeth, neu wedi’u hennill, i ddanfon nwyddau neu wasanaethau yn (a) Ewrop (b) marchnadoedd tramor y tu allan i Ewrop (RoW)? (opsiynau ymateb ‘do’/ ‘naddo’).

Er mwyn gwneud yr arolwg mor fyr â phosibl a lleihau’r baich ar ymatebwyr, cafodd cwestiynau eu cyfeirio, lle bo modd, er mwyn i ymatebwyr neidio tudalennau a oedd yn amherthnasol iddynt yn awtomatig.

Er na allai ymatebwyr neidio drwy’r cwestiynau (oherwydd cyfyngiadau cyfeirio), gallent symud yn ôl yn yr arolwg i adolygu a golygu eu hatebion blaenorol cyn cyflwyno’r arolwg.  

Gofynnwyd i’r ymatebwyr yn arolwg blwyddyn dau am wybodaeth ar gyfer blwyddyn o ddata, ar gyfer 2019. Roedd hyn yn golygu bod baich yr arolwg wedi lleihau o’i gymharu â blwyddyn un, a oedd wedi gofyn am ddata gwerth dwy flynedd (2017 a 2018).

Metrigau ymateb

Roedd yr arolwg ar gael 24 awr y dydd yn ystod cyfnod y gwaith maes, er bod y cyfnodau prysuraf o weithgarwch fel arfer yn ystod oriau swyddfa.

Mae dwy ffynhonnell ddata y gellir eu hystyried wrth fesur yr amser a gymerwyd i lenwi’r arolwg: data a gasglwyd gan y system pan lenwyd arolygon ar-lein, a ffigurau a hunan-adroddwyd gan ymatebwyr yn yr arolwg.

Gan ystyried y metrigau system yn gyntaf, cofnodwyd amser cwblhau cyfartalog o 21 munud ar gyfer blwyddyn dau; gostyngiad o 28 munud neu 57% o arolwg blwyddyn un, a oedd wedi cymryd 49 munud ar gyfartaledd i’r ymatebwyr ei lenwi. Mae amser cwblhau cyfartalog arolwg blwyddyn dau o 21 munud yn cynnwys busnesau a lenwodd yr arolwg mewn un diwrnod yn unig (896).

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn cynghori cyrff cyhoeddus sy’n casglu data ystadegol y dylai baich yr arolwg ar ymatebwyr fod yn gymesur â’r manteision sy’n deillio o ddefnyddio data’r arolwg a gesglir. Felly, cafodd cwestiwn ei gynnwys yn yr arolwg yn gofyn i fusnesau amcangyfrif faint o amser roeddent yn teimlo ei fod wedi’i gymryd iddynt lenwi’r arolwg. Roedd y cwestiwn yn gofyn i ymatebwyr gynnwys:

  • yr amser a gymerwyd i ymgyfarwyddo â’r holiadur
  • amser pawb a helpodd y busnes i lenwi’r holiadur
  • yr amser a dreuliwyd yn echdynnu ac yn paratoi gwybodaeth o’u systemau
  • unrhyw amser arall a dreuliwyd mewn perthynas â'r holiadur

Dywedodd y rhan fwyaf (88%) o ficrofusnesau eu bod wedi llenwi'r arolwg mewn llai na dwy awr, o'i gymharu ag 84.5% o fusnesau bach a 75.2% o fusnesau canolig (Gweler Adran maint busnes). Dywedodd bron i dri chwarter y busnesau mawr (73.7%) eu bod wedi ei lenwi mewn llai na dwy awr, gyda 19.5% yn dweud eu bod wedi treulio dros dair awr yn llenwi’r arolwg. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys saith busnes a ddywedodd ei fod wedi cymryd dim o funudau i’w lenwi. Mae hefyd yn eithrio chwe busnes a ddywedodd fod yr arolwg wedi cymryd 24 awr neu fwy i’w lenwi.

Tabl 3: Canran yr amser y dywedodd ymatebwyr eu bod wedi’i dreulio yn llenwi TSW, yn ôl maint y busnes
Amser a dreuliwyd Micro (3 i 9) (a) Bach (10 i 49) (b) Canolig (50 i 249) (c) Mawr (250+) (d)
<1 awr 62.0 48.5 40.1 36.8
1 awr i < 2 awr 26.1 36.0 35.1 36.8
2 awr i < 3 awr 7.0 8.7 13.8 6.8
Dros 3 awr 4.9 6.7 11.0 19.5
Cyfanswm 100 100 100 100

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2019

(a) Microfusnesau (156)
(b) busnesau bach (642)
(c) busnesau canolig (335)
(d) busnesau mawr (154)

Roedd patrwm clir o lenwi’r arolwg yn ystod yr wythnos yn bennaf ac roedd yr arolwg yn cael ei gwblhau’r rhan fwyaf o’r amser yn ystod oriau busnes arferol.

317 oedd nifer y busnesau a lenwodd yr arolwg dros ddiwrnod neu fwy (e.e. fe wnaethon nhw ei ddechrau ddydd Llun ond heb glicio i’w gyflwyno tan ddydd Iau). Nid oedd yn bosibl sefydlu sawl munud yn ystod y cyfnodau hyn yr oedd yr ymatebwyr hyn yn weithredol yn yr arolwg.

Cost a adroddwyd ar gyfer cwblhau’r arolwg

Roedd cwestiwn yn TSW yn gofyn i ymatebwyr amcangyfrif faint oedd llenwi’r arolwg yn costio i’w busnes, gan gynnwys amser unrhyw un a oedd yn gysylltiedig â llenwi’r arolwg. 

O’r rheini a ddywedodd eu bod wedi amcangyfrif y costau a ysgwyddwyd wrth lenwi’r arolwg (1,213), amcangyfrifodd y mwyafrif (61.3%) fod yr arolwg wedi costio llai na £50 i’w busnes ei lenwi. Mae Tabl 4 yn amlinellu’r amcangyfrif o’r costau a hunan-adroddwyd, wedi’u dadansoddi yn ôl maint y cwmni.  O’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, roedd y costau a adroddwyd yn TSW 2019 yn llai ar gyfer cyfran fwy o fusnesau, y credir eu bod yn adlewyrchu’r baich llai ar fusnesau ym mlwyddyn dau oherwydd fe ofynnwyd am werth blwyddyn gyfeirio o ddata (2019), yn ogystal â’r ffaith bod y busnesau hynny a ymatebodd i TSW yn fwy cyfarwydd â’r arolwg. Ym mlwyddyn un, o'r rhai a ddywedodd eu bod wedi amcangyfrif y costau a ysgwyddwyd wrth lenwi’r arolwg (971), roedd 53.9% yn amcangyfrif bod yr arolwg yn costio llai na £50 i’w busnes ei lenwi; roedd y gweddill yn amcangyfrif ei fod yn costio £50 neu fwy i’w busnes ei lenwi.

Tabl 4: Amcangyfrif o’r costau a hunan-adroddwyd yn ôl maint y cwmni
Cost cwblhau’r arolwg (£) Micro (3 i 9) (a) Bach (10 i 49) (b) Canolig (50 i 249) (c) Mawr (250+) (d)
0 22.2 17.7 15.3 20.3
1 i <50 43.1 46.6 42.4 31.9
50 i <100 25.7 16.1 18.7 23.2
100 i <200 4.9 14.1 13.7 14.5
200+ 4.2 5.6 10.0 10.1
Cyfanswm 100 100 100 100

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2019

(a) Microfusnesau (156)
(b) busnesau bach (642)
(c) busnesau canolig (335)
(d) busnesau mawr (154)               

Costau Cydymffurfio

Amcangyfrifwyd costau cydymffurfio ar gyfer busnesau a lenwodd TSW gan ddefnyddio canllawiau GSS. Cyfrifwyd mai cyfanswm y gost i'r holl fusnesau lenwi'r arolwg oedd £27,319. Lle mae’r Baich = [{Nifer yr ymatebwyr x canolrif yr amser cwblhau (oriau)} + {Nifer y busnesau a ailgysylltwyd â nhw ar gyfer eu dilysu x Canolrif amser (oriau) a gymerwyd ar gyfer ail-gysylltu}] x cyfradd fesul awr (yn seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, tabl 14.6A 2019 gan ddefnyddio cyflog rheolwyr ac uwch swyddogion fesul awr). Cyfrifiad terfynol: Baich = [(1,287 x 1) + (64 x 0.15)] x 21.07 = £27,319.36.

Cyfrifir y gost ariannol hon ar sail yr amser i lenwi’r holiadur, cyfradd briodol fesul awr a chostau allanol a ysgwyddwyd (er enghraifft, costau i fusnes gael llyfrifydd neu gyfrifydd i helpu i lenwi’r arolwg). Mae’r cyswllt dilynol rhwng IFF ac ymatebwyr i ddilysu ymatebion hefyd wedi’i gynnwys mewn cyfrifiadau gan ei fod yn cyfrannu at faich ymatebwyr.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr faint o amser a chost oedd ynghlwm wrth lenwi'r TSW. Yn seiliedig ar y cwestiwn hunan-adrodd yn yr arolwg, canolrif yr amser cwblhau ar gyfer pob ymateb oedd tua 60 munud. Ailgysylltwyd â 64 o fusnesau dros y ffôn i’w dilysu. Roedd canolrif hyd y galwadau hyn tua 9 munud.

Arolygon a gwblhawyd yn Gymraeg a Saesneg 

Roedd TSW yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, gan fodloni ymrwymiad LlC i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Rhoddwyd cyfle i’r ymatebwyr lenwi’r arolwg naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg a gallent newid yn rhwydd rhwng y ddwy iaith wrth lenwi’r arolwg ar-lein.

Dim ond ar gyfer y rhai a gliciodd ‘cyflwyno’ ar dudalen olaf yr arolwg y casglodd y system wybodaeth ieithyddol; roedd hyn yn casglu’r iaith roeddent yn edrych arni ar y dudalen olaf. O’r 1,287 o ymatebwyr, cyflwynodd 1,284 yr arolwg yn Saesneg a thri yn Gymraeg, er mae’n bosibl bod rhai wedi llenwi rhannau o’r arolwg yn Gymraeg.

Casglu data dros y ffôn

Mewn achosion lle nad oedd busnesau’n gallu llenwi'r arolwg ar-lein, roedd y rhai o IFF a oedd yn delio â’r ffôn yn gallu casglu data dros y ffôn. Oherwydd cymhlethdod y wybodaeth a oedd yn cael ei chasglu, dewis olaf oedd hyn, lle’r oedd materion technegol neu seilwaith yn y busnes yn eu hatal rhag eu llenwi ar-lein, neu os oedd data’r busnes yn gymharol syml. Cwblhaodd cyfanswm o 5 o ymatebwyr yr arolwg dros y ffôn.

Cyswllt gan fusnesau

Roedd busnesau’n gallu cysylltu â IFF dros y ffôn a’r e-bost gydag unrhyw ymholiadau a oedd ganddynt ynghylch yr arolwg. Cafwyd cyfanswm o 389 o ymholiadau naill ai drwy e-bost (136) neu dros y ffôn (253); nifer llawer is na’r 973 o ymholiadau a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf. Fel arfer, roedd busnesau a oedd wedi cysylltu eisiau gofyn am newid eu manylion busnes, fel cyfeiriad busnes wedi’i ddiweddaru (161 o ymholiadau), gofyn cwestiynau cyffredinol am yr arolwg (57 ymholiad) neu optio allan o’r arolwg (56 ymholiad).

Roedd y rhai a wnaeth alwadau ffôn yn cofnodi ‘llythyrau marw’, llythyr nad oedd modd ei ddanfon ac fel arfer â chyfeiriad anghywir, ac yna wedi cynnal ymchwil desg i ddod o hyd i fanylion gwahanol ar gyfer y busnesau hyn. Dychwelwyd cyfanswm o 67 o lythyrau i IFF a chafwyd hyd i’r manylion diweddaraf ar gyfer 47 o’r busnesau hyn. Ni wnaeth nifer isel y llythyrau marw effeithio ar y gyfradd ymateb gyffredinol o 16% pan ddidynnwyd o’r sampl o 8,000.

Cefnogaeth arall a gynigir i fusnesau

Dogfennau Cwestiynau Cyffredin 

Ochr yn ochr â’r llythyr gwahoddiad cychwynnol, anfonwyd taflen Cwestiynau Cyffredin at fusnesau a oedd yn cynnwys:

  • manylion cefndirol am TSW a’i bwysigrwydd i LlC
  • gwybodaeth am IFF
  • sut i wirio bod yr arolwg yn ddilys
  • sut cafodd busnesau eu dewis
  • sicrwydd ynghylch cyfrinachedd
  • y dyddiad cau ar gyfer ei lenwi
  • sut i lenwi’r arolwg os nad oedd y busnes wedi’i leoli’n bennaf yng Nghymru, os nad oedd ganddo ddata i’w adrodd neu os oedd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr/derbynwyr

Roedd safle’r arolwg ar-lein yn cynnwys fersiwn hirach o’r Cwestiynau cyffredin, gyda mwy o wybodaeth fanwl na’r hyn y gellid ei chynnwys yn y llythyr gwahoddiad. Roedd gwybodaeth ychwanegol yn y Cwestiynau Cyffredin ar-lein yn ymwneud yn bennaf â’r arolwg ei hun, gan gynnwys:

  • mwy o fanylion ynghylch sut byddai’r data’n cael ei ddefnyddio
  • y broses ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw broblemau technegol gyda’r arolwg
  • sut mae rhoi adborth ar yr arolwg i LlC
  • sut derbyniodd IFF fanylion personol yr ymatebwyr yn ddiogel

Olrhain ymatebion 

Er mwyn annog busnesau i ymateb, bu’n rhaid gwneud galwadau ffôn i atgoffa rhwng 29 Hydref 2020 a 18 Rhagfyr 2020. O’r sampl o 8,000 o fusnesau, llwyddwyd i gysylltu â 6292 (79%), gyda 476 yn mynd ati i gwblhau’r arolwg.

Dulliau eraill o olrhain ymatebion

Mae’r cyfrif ceisio cysylltu yn cofnodi nifer yr ymdrechion a wnaed i gysylltu â phob busnes wrth olrhain ymatebion. Cyrhaeddwyd y rhan fwyaf o fusnesau o fewn un neu ddwy alwad, er bod angen mynd ar ôl rhai ohonynt fwy na hynny [Tabl 5]. Roedd nifer yr ymdrechion i gysylltu ar gyfartaledd yn 2.75.

Tabl 5: Dadansoddiad o’r broses olrhain ymatebion yn ôl nifer yr ymdrechion
Ymdrechion Nifer
0 1,525
1 2,000
2 1,268
3 887
4 562
5 397
6 315
7 262
8 311
9 366
10 95
11 9
12 2
13 1

Ar gyfartaledd, cymerodd ymatebydd 6 diwrnod i gyflwyno ei ddata o’r adeg y daeth ei sgwrs dros y ffôn i ben. O’r 465 o ymatebwyr a gafodd alwad i atgoffa ac a aeth ati wedyn i lenwi’r arolwg yn llwyddiannus (gan gynnwys y rheini nad oeddent wedi cytuno’n benodol i’w gwblhau, fel y rheini a gafodd neges llais), roedd cyfartaledd o 10.3 diwrnod wedi mynd heibio rhwng derbyn yr alwad a chyflwyno’r arolwg; roedd 24% (110) o’r ymatebwyr a gafodd alwad wedi mynd ati i gyflwyno data o fewn 24 awr ar ôl cael yr alwad, tra roedd 49% (230) wedi cymryd dros wythnos.

Cyfraddau ymateb

Cafwyd cyfradd ymateb gychwynnol o 16%, gyda 1,287 o ymatebwyr yn cymryd rhan yn yr arolwg allan o 8,000 o fusnesau posibl. Dim ond ymatebion lle’r oedd adrannau gwerthu a/neu brynu’r arolwg wedi’u cwblhau, a lle na nodwyd unrhyw anghysondeb yn y data, a gafodd eu cynnwys yn y dadansoddiad. Roedd yn galonogol gweld cynnydd o gyfradd ymateb blwyddyn un o 14%, yn enwedig o ystyried effaith barhaus cyfyngiadau COVID-19.

O ran cyfraddau ymateb ar gyfer busnesau yn ôl maint busnesau (yn seiliedig ar werthoedd cyflogaeth y DU yn yr IDBR), busnesau canolig oedd â’r gyfradd ymateb uchaf (19%), a busnesau mawr oedd â’r isaf (11%).

Tabl 6: Cyfraddau ymateb yn ôl maint busnes
Maint busnes Pob ymateb Sampl Cyfradd ymateb
Micro (3 i 9) 156 1,273 12%
Bach (10 i 49) 642 3,471 18%
Canolig (50 i 249) 335 1,794 19%
Mawr (250+) 154 1,462 11%
Cyfanswm 1,287 8,000 16%

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2019

Roedd y gyfradd ymateb yn weddol gyson ar draws gwahanol sectorau busnes, ond y rhai mewn Adeiladu a Gweithgynhyrchu oedd â’r cyfraddau ymateb uchaf (18%).

Tabl 7: Cyfraddau ymateb yn ôl sector busnes
Sector busnes Pob ymateb Sampl Cyfradd ymateb
Busnes a gwasanaethau eraill (a) 390 2,198 17%
Adeiladu 133 740 18%
Gweithgynhyrchu 215 1,208 18%
Y sector primaidd a chyfleustodau 55 401 14%
Masnach, llety a thrafnidiaeth 494 3,316 15%
Cyfanswm 1,287 8,000 16%

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2019

(a) Cafodd sectorau eu grwpio’n bum categori drwy gydol y broses o brosesu a dadansoddi data. Ar ôl ymgynghori â LlC, cytunwyd i grwpio sectorau gan ddefnyddio grŵp sector safonol a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr, ond cyfunwyd “Gwasanaethau nad ydynt ar gyfer y farchnad” â “Busnes a gwasanaethau eraill” oherwydd maint sail isel.

Dilysu a dadansoddi

Roedd yr holiadur ar-lein yn cynnwys archwiliadau dilysu awtomatig i dynnu sylw at unrhyw anghysondebau neu ddata anarferol. Mae rhagor o fanylion yn yr Adroddiad ansawdd.

Maint y busnes 

Drwy gydol y gwaith o brosesu a dadansoddi data TSW, cafodd busnesau eu grwpio’n gategorïau yn seiliedig ar nifer y gweithwyr oedd ganddynt (maint y busnes). Mae rhagor o fanylion yn yr Adroddiad ansawdd.

Priodoli

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y data y gellid ei ddadansoddi o’r arolwg, priodolwyd i fodelu gwerthoedd coll mewn ymatebion, ar sail gwerthoedd eraill (ymatebion) a ddarparwyd yn yr arolwg.

Drwy gydol yr arolwg, roedd gan yr ymatebwyr yr opsiwn o ateb cwestiynau ‘ticio blychau’ a oedd yn gofyn i ba gyrchfannau (e.e. Cymru, RUK) roedden nhw’n gwerthu iddynt, ac yna cafwyd cwestiwn dilynol yn gofyn am werthoedd y cyrchfannau hyn. Priodolwyd data pan atebodd ymatebwyr gwestiwn blwch ticio ond nid yn gallu darparu’r gwerthoedd gwirioneddol dilynol. Er enghraifft, priodolwyd gwerthoedd i fusnes a ddywedodd eu bod yn gwerthu Nwyddau yng Nghymru a RUK (ac nid REU na ROW), ond heb ddosrannu cyfanswm gwerth gwerthiant y Nwyddau rhwng y ddwy gyrchfan hyn.

Cafodd gwerthoedd coll eu priodoli ar sail dosrannu’r cyfanswm perthnasol a ddarparwyd gan yr ymatebydd, yn unol â’r cyfrannau cyfartalog o werthiannau/pryniannau a wnaed i bob cyrchfan ymysg busnesau o a) fath tebyg a b) dewis yr un cyfuniad o gyrchfannau.

Busnesau tebyg

Cyfrifwyd cyfrannau cyfartalog o fewn grwpiau priodoli a oedd yn grwpio busnesau yn ôl maint a sector, a olygai mai dim ond o werthoedd busnesau tebyg y cyfrifwyd y gwerthoedd. Dim ond os oedd o leiaf 10 busnes arall wedi darparu’r union werthoedd yn yr un gell â’r cofnod yr oedd angen ei briodoli y cyfrifwyd gwerthoedd ym mhob grŵp. O ganlyniad, cafodd tri grŵp priodoli eu creu i gyfrif am feintiau seiliau gwahanol o fewn gwahanol sectorau a chyfuniadau maint. Defnyddiwyd gwerthoedd cyflogaeth a gwybodaeth sector yn yr IDBR i ddyrannu ymatebwyr i’r grwpiau perthnasol. Yn gryno:

  • Roedd Grŵp Priodoli 1 yn seiliedig ar y 21 cod sector a 4 band maint
  • Unodd Grŵp Priodoli 2 godau’r sector yn 5 grŵp ehangach ond cadwodd y 4 band maint
  • Roedd Grŵp Priodoli 3 wedi cadw’r 5 grŵp sector ehangach fel Grŵp 1, ond hefyd wedi uno’r bandiau maint yn ddau fand ehangach

Os oedd busnes yr oedd angen ei briodoli wedi disgyn i gell grŵp priodoli gyda llai na 10 busnes yn rhoi’r union werthoedd, yna cawsant eu dyrannu i’r grŵp priodoli lefel nesaf i lawr, e.e. pe bai eu cell yn grŵp priodoli 1 yn cynnwys llai na 10 busnes, yna byddai eu cell grŵp priodoli 2 wedi cael ei defnyddio yn lle hynny.

Categoreiddio Grŵp Priodoli
Grŵp Priodoli 1

Sector diwydiant wedi’i gynnwys:

  1. Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
  2. Gweithgareddau cyrff a sefydliadau alldiriogaethol
  3. Gweithgareddau aelwydydd fel cyflogwyr; gweithgareddau cynhyrchu nwyddau a gweithgareddau diwahaniaeth gan aelwydydd at eu defnydd eu hunain
  4. Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
  5. Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  6. Y celfyddydau, adloniant a hamdden
  7. Adeiladu
  8. Addysg
  9. Trydan, nwy, stêm a’r cyflenwad aerdymheru
  10. Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
  11. Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol
  12. Gwybodaeth a chyfathrebu
  13. Gweithgynhyrchu
  14. Mwyngloddio a chwarelyddiaeth
  15. Gweithgareddau gwasanaeth eraill
  16. Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  17. Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
  18. Gweithgareddau eiddo tirol
  19. Cludo a storio
  20. Cyflenwad dŵr, carthffosiaeth, rheoli gwastraff a gweithgareddau adfer
  21. Masnach adwerthu a chyfanwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur

Band maint wedi’i gynnwys:

  1. Micro
  2. Bach
  3. Canolig
  4. Mawr
Grŵp Priodoli 2

Sector diwydiant wedi’i gynnwys:

  1. Y sector primaidd a chyfleustodau
  2. Gweithgynhyrchu
  3. Adeiladu
  4. Masnach, llety a thrafnidiaeth
  5. Busnes a gwasanaethau eraill

Band maint wedi’i gynnwys:

  1. Micro
  2. Bach
  3. Canolig
  4. Mawr
Grŵp Priodoli 3

Sector diwydiant wedi’i gynnwys:

  1. Y sector primaidd a chyfleustodau
  2. Gweithgynhyrchu
  3. Adeiladu
  4. Masnach, llety a thrafnidiaeth
  5. Busnes a gwasanaethau eraill

Band maint wedi’i gynnwys:

  1. Micro/Bach
  2. Canolig/Mawr

Yr un cyfuniad o gyrchfannau 

Ar wahân i’r cwestiynau a ofynnodd i gyfanswm gwerth gael ei rannu yn ôl nwyddau a gwasanaethau, ar gyfer pob math o gwestiwn, roedd nifer o gyfuniadau gwahanol o gyrchfannau y gallai busnesau fod wedi’u dewis [Tabl 8]. Dim ond ymysg busnesau a oedd hefyd wedi dewis yr un cyfuniad o atebion yng nghell y grŵp priodoli y cyfrifwyd y cyfrannau cyfartalog.

Tabl 8: Cyfuniad enghreifftiol o gyrchfannau (Lleoliadau a ddewiswyd ar gyfer gwerthu nwyddau)
# Cymru Y DU REU ROW Enghraifft o gyfuniad
1 le Na Na Na WXXX
2 le le Na Na WUXX
3 le le le Na WUEX
4 le le le le WUER

A’r 12 cyfuniad sy’n weddill ar gyfer y gyfres hon o gwestiynau.

Yn y celloedd grŵp priodoli hyn o fathau tebyg o fusnesau a’r un cyfuniad o gyrchfannau, cyfrifwyd y cyfrannau cyfartalog o werthiannau neu bryniannau a ddyrannwyd ar draws y cyrchfannau hyn, yn hytrach na’r gwerthoedd ariannol cyfartalog. Yna cyfrifwyd y gwerthoedd coll ar gyfer pob cofnod drwy gymhwyso’r cyfrannau cyfartalog hyn i’r union werth a ddarparwyd gan y busnes hwnnw [Tabl 9]. Er enghraifft, os oedd busnes yn dweud ei fod wedi cael gwerthiant Nwyddau o £1,000 yn 2019, ond heb ddweud sut roedd hyn wedi’i rannu rhwng Cymru, y DU, REU a ROW, byddai’r cyfrannau cyfartalog yn cael eu defnyddio isod.

Tabl 9: Enghraifft o sut y defnyddiwyd cyfrannau cyfartalog
  Nwyddau Cymru Y DU REU ROW
Cyfrannau cyfartalog wedi’u cyfrifo 100% 17% 63% 14% 6%
Gwerthoedd a ddarparwyd cyn priodoli £1,000 - - - -
Gwerthoedd ar ôl priodoli £1,000 £170 £630 £140 £60

I gyd, priodolwyd ar draws 32 o newidynnau, gan ganiatáu i gyfanswm o 708 o werthoedd, ar draws 208 o fusnesau, gael eu priodoli. Ar draws y 32 newidyn hyn, y nifer uchaf o werthoedd fesul newidyn oedd yn gallu cael eu priodoli oedd 75 a’r isaf oedd 0. Roedd y ganran uchaf o gyfanswm y gwerthoedd a roddwyd yn amrywio o 0% i 6.97%.

Pwysoliad

Cafodd data’r arolwg eu pwysoli a’u grosio i gyfanswm poblogaeth y busnesau, yn ôl IDBR 2019. Dyma’r ystadegau diweddaraf am y boblogaeth fusnes a oedd ar gael gan yr ONS adeg y samplo.

Gyda’i gilydd, cafodd dau bwysoliad eu creu, pwysoliad ‘ar sail uned’ a phwysoliad ‘ar sail trosiant’. Cafodd y ddau fath hyn o bwysoliad eu creu i gyfrif am y ffaith bod tua hanner yr arolwg yn casglu gwerthoedd trosiant, a’r hanner arall yn casglu ymatebion ar gyfer cwestiynau ticio blychau a oedd yn addas i gael eu pwysoli i gynrychioli poblogaeth fusnes Cymru o ran unedau adrodd.  Defnyddiwyd y pwysau ‘ar sail unedau’ ar gyfer dadansoddi cwestiynau ‘ticio blychau/codau’ a defnyddiwyd pwysoliadau ‘seiliedig ar drosiant’ ar gyfer dadansoddi cwestiynau seiliedig ar drosiant.

Roedd y broses pwysoli/grosu yn cynnwys y camau canlynol:

  • Cam 1: Cyfrifo dau bwysoliad heb ymateb o gymharu â sampl cychwynnol yr arolwg
  • Cam 2: Cyfrifo dau bwysoliad gros ‘ar sail unedau’ ac ‘ar sail trosiant’ i gyfanswm y boblogaeth
  • Cam 3: Lluosi'r pwysoliadau hyn gyda’i gilydd i greu’r pedwar pwysoliad olaf a oedd eu hangen

Cam 1: Pwysoliadau heb ymateb 

Gan nad oedd yr arolwg yn orfodol, roedd rhywfaint o amrywiad naturiol yn y cyfraddau ymateb rhwng gwahanol fathau o fusnesau, a oedd wedi golygu bod proffil yr arolwg yn wahanol i sampl gychwynnol yr arolwg. I addasu ar gyfer y gwahaniaethau hyn, cyfrifwyd pwysoliadau heb ymateb, gan ddefnyddio RIM (dull iteru ar hap), a’i ddefnyddio i sicrhau bod proffil yr arolwg yn cyd-fynd â’r sampl.

Cyfrifwyd pwysoliadau heb ymateb drwy gymharu proffil y cyfweliadau a gyflawnwyd â’r 8,000 o fusnesau yn y sampl gychwynnol. Cymharwyd y newidynnau, a lle’r oedd gwahaniaeth o 2 bwynt canran neu fwy rhwng proffil y cyfweliad a gafwyd a phroffil y sampl, defnyddiwyd pwysoliad heb ymateb.

Newidynnau a ddefnyddiwyd i gyfrifo pwysoliadau heb ymateb
Cyflogaeth Sector (5 band)

Grwpiau:

  1. Y sector primaidd a chyfleustodau
  2. Gweithgynhyrchu
  3. Adeiladu
  4. Masnach, llety a thrafnidiaeth
  5. Busnes a gwasanaethau eraill
Maint (gweithwyr IDBR y DU, 4 band)

Grwpiau:

  1. Micro (<10 o weithwyr)
  2. Bach (10-49 o weithwyr)
  3. Canolig (50 - 249 o weithwyr)
  4. Mawr (250+ o weithwyr)
Trosiant IBR (wedi bandio)

Grwpiau:

  1. <£1 miliwn
  2. £1 miliwn - <£5 miliwn
  3. £5 miliwn - <£10 miliwn
  4. £10 miliwn - <£20 miliwn
  5. £20 miliwn - <£50 miliwn
  6. £50 miliwn - <£100 miliwn
  7. £100 miliwn+
Rhanbarth (IDBR)

Grwpiau:

  1. AA. Gogledd-ddwyrain Lloegr
  2. Gogledd-orllewin Lloegr (BA BB)
  3. DC. Swydd Efrog a'r Humber
  4. ED. Dwyrain Canolbarth Lloegr
  5. FE. Gorllewin Canolbarth Lloegr
  6. GF. Dwyrain Lloegr
  7. GG. Dwyrain Lloegr
  8. HH. Llundain
  9. JG. De-ddwyrain Lloegr
  10. KJ. Gogledd-orllewin Lloegr
  11. WW. Cymru
Nifer y canghennau yng Nghymru (wedi bandio)

Grwpiau:

  1. 0
  2. 1
  3. 2
  4. 3+
A yw’r busnes yn gyfan gwbl Gymreig

Grwpiau:

  1. Ydi
  2. Nac ydi

Cam 2: Pwysoliadau ‘ar sail unedau’ ac ‘ar sail trosiant’ gros

Defnyddiwyd y pwysoliadau heb ymateb ar gyfer y data, ac yna cyfrifwyd dau grid pwysoli gwahanol, gan grwpio celloedd yn ôl pedwar band maint a phum band sector (roedd y nifer lleiaf o fusnesau mewn unrhyw un gell yn chwech ac felly ni chafodd unrhyw gell ei huno).

Grwpiau grid pwysoli

Bandiau maint:

  1. Micro (<10)
  2. Bach (10-49)
  3. Canolig (50-249)
  4. Mawr (250+)

Bandiau sector:

  1. Y sector primaidd a chyfleustodau
  2. Gweithgynhyrchu
  3. Adeiladu
  4. Masnach, llety a thrafnidiaeth
  5. Busnes a gwasanaethau eraill

Roedd y ddau grid pwysoli gwahanol yn cymharu:

  • nifer yr unedau (gwerthu a phrynu) a gyflawnwyd yn yr arolwg o’i gymharu â’r boblogaeth
  • cyfanswm trosiant (gwerthu a phrynu) yn yr arolwg o’i gymharu â’r boblogaeth
Grid uned

Ar gyfer y grid uned, crëwyd pwysoliad ar gyfer pob cell yn y grid i grosio nifer y cofnodion ym mhob cell i nifer y busnesau yn y gell honno yn y boblogaeth (h.y. os oedd 20 cofnod yn y gell a bod 100 yn y boblogaeth yna cafodd pob cofnod bwysoliad o 5). Nid oedd gwerthoedd cyflogaeth y DU a nodwyd yn yr arolwg yn cael eu defnyddio oherwydd bod glanhau data wedi datgelu nad oedd y rhain mor ddibynadwy o’u cymharu â data cyflogaeth IDBR. Roedd hyn yn debygol gan y byddai’r arolwg, mewn rhai achosion, wedi cael ei lenwi gan staff sydd â gwybodaeth am y busnes yng Nghymru ond nid o reidrwydd gyda’r trosolwg ar draws y DU. Felly, cyfrifwyd y grid uned gan ddefnyddio’r gwerthoedd cyflogaeth a ddarparwyd yn yr IDBR.

Grid trosiant

Ar gyfer y grid trosiant, crëwyd pwysoliad ar gyfer pob cell o’r gridiau i grosio swm y trosiant ar gyfer pob cell (o’r boblogaeth ac o’r sampl a gyflawnwyd gennym) a’i gymhwyso i bob £ o drosiant, fel y byddai pob ymatebydd yn y gell honno yn cael pwysoliad o’i gymharu ag union swm y trosiant. Darparwyd ffigur trosiant IDBR yn y newidynnau atodol enghreifftiol ac fe’i defnyddiwyd oherwydd, er bod yr arolwg yn gofyn am drosiant Cymru yn benodol, mae’r maes trosiant IDBR yn ymwneud â throsiant y DU ac roedd angen ffigur trosiant dibynadwy i lefel y gros.

Cam 3: Creu’r pedwar pwysoliad olaf  

Yna lluoswyd y pwysoliadau ‘ar sail unedau’ a’r pwysoliadau ‘ar sail trosiant’ gyda’r pwysau heb ymateb i greu’r pwysoliad terfynol.

Tabl 10: Y ddau bwysoliad olaf
Pwysoliad Wedi’i gymhwyso i ddadansoddi...
1 PWYSOLIAD_UNED Cwestiynau cod yn yr arolwg
2 PWYSOLIAD_TROSIANT Cwestiynau gwerth yn yr arolwg

Rhestr o dermau

Wedi rhoi’r gorau i fasnachu: nid yw busnes sydd wedi rhoi’r gorau i fasnachu bellach yn gweithredu nac yn ymwneud â gweithgarwch economaidd.

Segur: mae cwmni segur yn gwmni sydd, mewn termau cyfreithiol, heb ‘drafodiadau cyfrifyddu sylweddol’ yn ystod blwyddyn ariannol.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data: y rheoliad yng nghyfraith yr UE ar ddiogelu data a phreifatrwydd yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Nwyddau: nwyddau neu ddeunyddiau o gynhyrchiad y cwmni ei hun.

Cofrestr Ryngadrannol o Fusnesau: mae’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau yn rhestr gynhwysfawr o fusnesau’r DU a ddefnyddir gan y llywodraeth at ddibenion ystadegol.

Pryniannau: prynu unrhyw nwyddau neu wasanaethau gan fusnes, gan gynnwys is-gontractio gwasanaethau, prynu nwyddau neu wasanaethau o rannau eraill o fusnes yr ymatebydd, a phryniannau gan gyflenwyr y tu allan i Gymru (mewnforion) a’r DU (mewnforion rhyngwladol).

Gwerthiannau: gwerthu unrhyw nwyddau neu wasanaethau gan fusnes i gwsmer, gan gynnwys is-gontractio gwasanaethau, darparu nwyddau neu wasanaethau i rannau eraill o fusnes yr ymatebydd, a gwerthiannau a wneir i gwsmeriaid y tu allan i Gymru (allforion) a’r DU (allforion rhyngwladol).

Gwasanaethau: darparu neu gyflenwi gwasanaethau i fusnes neu gwsmer arall.

Byrfoddau

GDPR: Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

IDBR: Cofrestr Ryngadrannol o Fusnesau

IFF: IFF Research

ONS: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

PAYE: Cynllun treth incwm Talu Wrth Ennill

REU: Gweddill yr UE

RIM: Dull Iteru ar Hap

ROW: Gweddill y byd

RUK: Gweddill y Deyrnas Unedig

DDS: Dosbarthiad Diwydiannol Safonol

TSW: Arolwg Masnach Cymru

LlC: Llywodraeth Cymru