Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r dudalen hon yn darparu geirfa o dermau a thalfyriadau a ddefnyddir yn adroddiadau'r Arolwg Masnach Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhestr o dermau

Allforion

Gwerthiannua i gyrchfannau tu hwnt i’r DU

Busnesau bach

Busnesau gyda 3 i 49 o weithwyr.

Busnesau Canolig

Busnesau â rhwng 50 i 249 o weithwyr.

Busnesau mawr

Busnesau â 250 neu fwy o weithwyr.

Cofrestr Ryngadrannol o Fusnesau

Mae’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau yn rhestr gynhwysfawr o fusnesau’r DU a ddefnyddir gan y llywodraeth at ddibenion ystadegol.

Cyfanswm masnach

Gwerth gwerthiannau + pryniannau.

Gwerthiannau

Gwerthu unrhyw nwyddau neu wasanaethau gan fusnes i gwsmer, gan gynnwys is-gontractio gwasanaethau, darparu nwyddau neu wasanaethau i rannau eraill o fusnes yr ymatebydd, a gwerthiannau a wneir i gwsmeriaid y tu allan i Gymru (allforion) a’r DU (allforion rhyngwladol).

Gweddill y DU

Y Deyrnas Unedig i gyd ac eithrio Cymru.

Gwasanaethau

Darparu neu gyflenwi gwasanaethau i fusnes neu gwsmer arall.

Heb i dyrannu

Gwerth unrhyw werthiannau neu bryniannau nad oedd yn bosibl eu dyrannu i gyrchfan neu i dorri i lawr ymhellach.

Nwyddau

Nwyddau neu ddeunyddiau o gynhyrchiad y cwmni ei hun.

Mewnforion

Pryniannau sy'n tarddu o wledydd y tu allan i'r DU.

Pryniannau

Prynu unrhyw nwyddau neu wasanaethau gan fusnes, gan gynnwys is-gontractio gwasanaethau, prynu nwyddau neu wasanaethau o rannau eraill o fusnes yr ymatebydd, a phryniannau gan gyflenwyr y tu allan i Gymru (mewnforion) a’r DU (mewnforion rhyngwladol).

Segur

Mae cwmni segur yn gwmni sydd, mewn termau cyfreithiol, heb ‘drafodiadau cyfrifyddu sylweddol’ yn ystod blwyddyn ariannol.

Wedi rhoi’r gorau i fasnachu

Nid yw busnes sydd wedi rhoi’r gorau i fasnachu bellach yn gweithredu nac yn ymwneud â gweithgarwch economaidd.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

Y rheoliad yng nghyfraith yr UE ar ddiogelu data a phreifatrwydd yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Talfyriadau

AMC

Arolwg Masnach Cymru

CThEF

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

DDS

Dosbarthiad Diwydiannol Safonol

GDPR

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

GDU

Gweddill y Deyrnas Unedig

IDBR

Cofrestr Ryngadrannol o Fusnesau

IFF

IFF Research

n.e.c.

Heb eu dosbarthu mewn categori arall

RIM

Dull Iteru ar Hap

LIC

Llywodraeth Cymru

SIC

Safon Dosbarthiad Diwydiannol

SYG

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Tu hwnt I’r UE

Gweddill y byd (tu hwnt i’r UE/ Tu allan i’r UE)

UE

Undeb Ewropeaidd