Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg Arolwg Masnach Cymru (AMC) hwn yn trafod y manylion technegol (e.e. dosbarthiad samplau a chyfraddau ymateb, cost cydymffurfio, ac ati) ar gyfer casglu data 2021. Mae hefyd yn cwmpasu'r fethodoleg gyffredinol a ddefnyddiwyd dros nifer o flynyddoedd ac yn amlinellu agweddau ansawdd methodoleg yr arolwg a'r ystadegau a gynhyrchwyd. Mae'r prif ddatganiad ystadegol ar wahân yn manylu ar ganlyniadau'r arolwg. Cyhoeddir tablau data cysylltiedig ochr yn ochr â'r adroddiad, ac maent yn darparu’r amcangyfrifon diwygiedig diweddaraf, gyda data gwerthiant wedi’i ôl-ddyddio i 2018. Gellir dod o hyd i ddadansoddiadau manwl o arolygon blaenorol hefyd ar-lein.

Oni nodir yn wahanol, y flwyddyn Arolwg Masnach Cymru y cyfeirir ati drwy gydol yr adroddiad hwn yw blwyddyn pedwar Arolwg Masnach Cymru (AMC 2021), a gasglodd ddata 2021.

Cefndir yr ystadegau hyn

Mae Arolwg Masnach Cymru yn cynhyrchu ‘Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad’, [troednodyn 1] gan amcangyfrif gwerth (yn y prisiau presennol) [troednodyn 2] masnach a gynhelir gan fusnesau a leolir yng Nghymru. Mae’n casglu data sy’n ymwneud â gwerthoedd masnach flynyddol (gwerthiannau a phryniannau) y mae unedau busnes sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn eu cynnal â rhannau eraill o’r DU, yr UE a gweddill y byd (gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE).

Caiff y gwerthiannau a phryniannau eu dadansoddi yn ôl math (nwyddau neu wasanaethau) a lleoliad daearyddol bras y partner masnach. Mae'r cwestiynau'n ymdrin â masnach o fewn y DU ac yn rhyngwladol ill dau. Mae ymatebion i'r arolwg yn caniatáu i amcangyfrifon ystadegol gael eu cynhyrchu sy'n cwmpasu gwerth masnach i fusnesau yng Nghymru a nifer y busnesau sy'n cynnal y fasnach hon.

Hyd yma mae’r arolwg wedi’i gynnal yn flynyddol ers 2019, pan gomisiynodd Llywodraeth Cymru IFF Research (IFF) i dreialu Arolwg Masnach Cymru ar ei rhan. Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer AMC 2021 rhwng 22 Medi 2022 a 4 Ionawr 2023. Cynhyrchodd yr arolwg ystadegau o wybodaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan fusnesau ar lifoedd masnach i Gymru ac oddi yno yn 2021.

Deilliodd y rhesymeg ar gyfer Arolwg Masnach Cymru o'r angen i gael sylfaen dystiolaeth fanylach i danategu gwaith llunio polisïau Llywodraeth Cymru. Byddai tystiolaeth gynyddol yn galluogi Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

  • cael gwell dealltwriaeth o economi Cymru, gan gynnwys rhyng-gysylltiadau rhwng busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a busnesau mewn rhannau eraill o’r DU a thramor
  • asesu’n fwy cywir effeithiau posibl cydberthnasau masnachu arfaethedig y DU yn y dyfodol, ar fusnesau yng Nghymru a’r economi ehangach

Roedd dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y canlynol:

  • cwmpasu cynnwys Arolwg Masnach Cymru
  • tynnu'r sampl
  • cynnal fframwaith llywodraethu ar gyfer trosolwg Arolwg Masnach Cymru gyda rhanddeiliaid allweddol Llywodraeth Cymru
  • comisiynu gwaith maes y prif gam a dadansoddi canlyniadau arolygon
  • sicrhau ansawdd y dadansoddiadau a llunio'r cyhoeddiadau

Comisiynwyd IFF i wneud y canlynol:

  • casglu data gan fusnesau a ymatebodd
  • mynd ar ôl busnesau nad oeddent wedi cwblhau'r arolwg erbyn y dyddiad cau
  • dilysu data busnes ymatebwyr trwy ymchwil ddesg a galwadau ffôn egluro lle roedd busnesau wedi rhoi eu cydsyniad i IFF gysylltu â nhw eto
  • cynnal priodoli i fodelu ymatebion coll i’r arolwg (mae priodoli o fewn blwyddyn wedi’i wneud bob blwyddyn, ond dyma’r flwyddyn gyntaf y llwyddwyd i briodoli gwerthiannau dros y blynyddoedd. Gweler 'Priodoli' yn yr adran Dadansoddi isod am ragor o wybodaeth)
  • cynhyrchu amcangyfrifon o fasnach Cymru o ymatebion arolwg wedi'u pwysoli
  • paratoi a chyflwyno diweddariadau data, a'r ffeil ddata derfynol, i Lywodraeth Cymru

Hanes a chyd-destun ehangach

Comisiynodd Llywodraeth y DU adolygiadau o ystadegau economaidd ac maent wedi argymell gwelliannau i ystadegau rhanbarthol ers tro. Edrychodd Adolygiad Allsopp 2004 ar ystadegau ar gyfer llunio polisi economaidd, a wnaeth argymhellion i wella ystadegau masnach ranbarthol, ac ar gyfer dylunio arolygon newydd a phresennol i ystyried yr angen am ystadegau rhanbarthol. Gwnaeth Adolygiad Bean 2016 o Ystadegau Economaidd y DU (HM Treasury, Cabinet Office, The Rt Hon Matt Hancock MP, a The Rt Hon George Osborne), a gyhoeddwyd yn ddiweddarach, argymhellion pellach i wella ystadegau rhanbarthol ‘annigonol’, ond tynnodd sylw at y potensial i ddata gweinyddol lenwi rhai o'r bylchau ochr yn ochr â chwmpas gwell o arolygon busnes.

Yn dilyn y refferendwm ar ymadael â’r UE yn 2016, sefydlodd Llywodraeth Cymru ei thîm Polisi Masnach ei hun. Tyfodd y gofyniad am dystiolaeth fasnach, gyda Polisi Masnach: Materion Cymru (2018) Llywodraeth Cymru'n galw am well tystiolaeth i ategu penderfyniadau polisi masnach, a thynnodd sylw at fylchau yn y data masnach ar gyfer Cymru yn ogystal â materion methodolegol posibl a nodwyd gyda ffynonellau data presennol. Nid oedd unrhyw ddata ar fasnach rhwng y DU o Gymru ar hyn o bryd, a data cyfyngedig ar gael yn ôl nodweddion busnes (fel maint a sector).

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyhoeddi ystadegau masnach chwarterol ar gyfer Cymru ar symud nwyddau, gyda data gwerth (mewn prisiau cyfredol) a chyfaint yn dod o ddatganiadau tollau. Mae llawer o ddadansoddiadau data CThEF yn dosrannu masnach ar gyfer busnesau DU gyfan i Gymru yn seiliedig ar eu rhaniad cyflogaeth. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl nad yw data CThEF ar gyfer Cymru yn adlewyrchu’n gywir werthoedd a marchnadoedd allforio penodol unedau busnes Cymru. Cyhoeddir Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar lefel dau ddigid y Dosbarthiad Masnach Ryngwladol Safonol (SITC) [troednodyn 3], ac nid yw'n cynnwys unrhyw fanylion am ddemograffeg fusnes (e.e. maint busnes). Nid yw hyn wedi'i ddadgyfuno'n ddigonol ar gyfer anghenion tystiolaeth Llywodraeth Cymru. Ymhellach, oherwydd Ymadael â'r UE, bu newidiadau i sut mae CThEF yn casglu data masnach rhwng Prydain Fawr a’r UE, gan symud o system Intrastat yr UE i ddatganiadau tollau ar gyfer allforion ym mis Ionawr 2021 a mewnforion ym mis Ionawr 2022. Arweiniodd hyn at doriad i'r gyfres amser Ystadegau Masnach Ranbarthol, gan wneud cymariaethau dros amser yn anos.

Nid yw data CThEF yn cynnwys masnach mewn gwasanaethau. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn gweinyddu Arolwg Blynyddol o Fasnach Ryngwladol mewn Gwasanaethau (ITIS) sy’n cynhyrchu ystadegau arbrofol ar lefel Cymru, gyda'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrifon islaw lefel Cymru (SYG) ar gyfer masnach mewn nwyddau a gwasanaethau (a gyhoeddwyd hefyd yn y prisiau cyfredol) ers 2021.

O ystyried y cyfyngiadau gyda data ar y pryd, cafodd Arolwg Masnach Cymru ei dreialu yn 2019 gyda’r nod o gasglu gwybodaeth gadarn yn uniongyrchol gan fusnesau ar lifoedd masnach i Gymru ac oddi yno.

Mae'r ystadegau a gynhyrchwyd gan Arolwg Masnach Cymru wedi rhoi gwell tystiolaeth i lunwyr polisi Llywodraeth Cymru ei defnyddio i hysbysu Gweinidogion. Mae’r ffigurau masnach rhwng y DU wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i gael dealltwriaeth fanylach o farchnad fewnol y DU nag oedd yn bosibl o’r blaen. Defnyddir y data hwn gan Swyddfa’r Farchnad Fewnol yn ei hadroddiadau blynyddol ar weithrediad marchnad fewnol y DU (Office for the Internal Market). Mae data Arolwg Masnach Cymru rhyngwladol a domestig hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y SYG i gynhyrchu amcangyfrifon masnachu nwyddau a gwasanaethau arbrofol a thros dro rhwng rhanbarthau’r DU. Disgwylir i'r rhain gael eu cyhoeddi yn 2024, ar Lefel Diriogaethol Ryngwladol 1 (ITL 1), a fydd yn cwmpasu Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, a'r naw rhanbarth yn Lloegr.

Mae Cynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru, ymrwymiad Gweinidogol yn Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026, hefyd yn defnyddio Arolwg Masnach Cymru fel rhan o'i sylfaen dystiolaeth. Mae’r arolwg hefyd yn rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru gynnal ymchwil ddilynol gydag ymatebwyr sydd wedi cytuno iddi ailgysylltu â nhw, gan ganiatáu mewnwelediad pellach i gwestiynau polisi allweddol a amlygwyd yn y canlyniadau. Mae dau adroddiad ymchwil dilynol ar raddfa fach (sy’n ailgysylltu ag ymatebwyr 2020) wedi’u cyhoeddi hyd yma ar Reolau Tarddiad a Gwasanaethau Modd 5.

Yn 2023, lansiodd Llywodraeth Cymru brosiect tair blynedd yn archwilio dichonolrwydd adeiladu cyfrif economaidd rhanbarthol llawn i Gymru (Blog Digidol a Data), a elwir yn dabl Mewnbwn Allbwn. Diben hyn yw galluogi dadansoddiad, nid yn unig o sut mae'r economi yn 'gweithio', ond hefyd sut mae'n ffitio o fewn systemau eraill – er enghraifft, economïau'r DU a byd-eang, amgylchedd naturiol Cymru, neu'r hinsawdd. Rhagwelir y bydd data Arolwg Masnach Cymru yn cyfrannu at y prosiect hwn.

Cryfderau a chyfyngiadau

Mae'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr arolwg yn dal i gael eu datblygu ac mae rhai cyfyngiadau hysbys o ran ansawdd data. Asesir anweddolrwydd amcangyfrifon, gan archwilio ffyrdd o wella eu hansawdd ymhellach. Cyhoeddir fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad gyda'r bwriad o wella eu hansawdd dros amser trwy adborth gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid a datblygu'r fethodoleg.

Bydd amcangyfrifon Arolwg Masnach Cymru yn parhau i fod ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad tra bod gwaith datblygu yn parhau i wella eu cwmpas a'u hansawdd. Mae'r cyfyngiadau sydd wedi arwain at nodi'r ystadegau hyn fel rhai ‘sy’n cael eu datblygu' wedi'u rhestru yn yr adran hon. Fodd bynnag, mae'r data a'r dadansoddiad yn dal i fod o werth ar yr amod bod defnyddwyr yn eu gweld yng nghyd-destun yr wybodaeth ansawdd data a ddarperir.

Cryfderau

  • Arolwg Masnach Cymru yw’r unig gasgliad uniongyrchol o ddata masnach sy’n benodol i weithrediadau busnes a leolir yng Nghymru. Mae busnesau yn adrodd yn uniongyrchol ar weithgarwch eu lleoliadau Cymreig. Mae hyn yn cyferbynnu ag ystadegau rhanbarthol presennol, sy'n casglu ymatebion ar lefel y DU y mae canlyniadau lefel Cymru yn cael eu modelu ohonynt.
  • Arolwg Masnach Cymru yw’r unig arolwg masnach sy’n casglu data masnach rhwng y DU, wedi’i ddadansoddi fesul pob gwlad yn y DU, gan fusnesau yng Nghymru.
  • Canlyniadau Arolwg Masnach Cymru yw'r unig ffynhonnell o fasnach rhwng y DU a gynhelir gan fusnesau yng Nghymru.
  • Caiff canlyniadau eu dadansoddi yn ôl maint busnes.
  • Caiff canlyniadau eu dadansoddi yn ôl Dosbarthiadau Diwydiannol Safonol.
  • Cesglir masnach nwyddau a gwasanaethau yn gyson.
  • Mae’r fethodoleg yn caniatáu amcangyfrifon o gyfanswm y fasnach (nwyddau a gwasanaethau) y mae busnesau yng Nghymru yn ei gwneud gyda phob rhan o’r DU, yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gweddill y byd (Di-UE).
  • Mae'r arolwg yn caniatáu ar gyfer ymchwil ddilynol gyda busnesau sy'n cydsynio ar bynciau a materion sy'n berthnasol i bolisi, e.e. Gwasanaethau Modd 5 a Rheolau Tarddiad.

Cyfyngiadau

  • Fel arolwg gwirfoddol ac ar-lein, mae cyfraddau ymateb isel o’u cymharu â dulliau eraill o gasglu data sy’n mwy costus, neu’n orfodol. Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd o gamgymeriadau diffyg ymateb, sy'n effeithio ar y gallu i gynhyrchu rhai dadansoddiadau ar lefel is.
  • Mae amrywioldeb yn y sampl a gyflawnwyd ar draws blynyddoedd yn effeithio ar y gallu i wneud cymariaethau cadarn ar draws blynyddoedd. Er hynny, mae'r fethodoleg briodoli ychwanegol ar draws y blynyddoedd yn gwneud cymariaethau lefel uchel ar draws y blynyddoedd yn fwy cyraeddadwy, y mae'r adroddiad canlyniadau yn eu cyflwyno. Mae dadansoddiadau mwy gronynnog wedi dangos mwy o amrywioldeb, a thrafodir cymariaethau penodol yn adrannau cymaroldeb a chydlyniad yr adroddiadau canlyniadau.
  • Mae sylw anghyflawn i fusnesau, sectorau a chyfanswm masnach Cymru yn ein dull samplu yn golygu nad yw’r amcangyfrifon yn cwmpasu’r holl weithgarwch masnach yng Nghymru ac ni ddylid eu defnyddio i gyfrifo cydbwysedd masnach, na’u cymharu â chyfanswm gwerth ychwanegol gros / cynnyrch domestig gros. Er enghraifft, dim ond pryniannau busnes sydd wedi'u cynnwys ac mae pryniannau uniongyrchol i ddefnyddwyr ar goll. Mae hyn yn golygu nad yw gwariant defnyddwyr o Gymru dramor (e.e mewnforion twristiaeth) a gwariant defnyddwyr mewn rhannau eraill o'r DU wedi'i gynnwys, tra bod gwariant twristiaid sy'n prynu oddi wrth fusnesau yng Nghymru yn cael ei gofnodi.
  • Darparodd rhai ymatebwyr werthoedd amcangyfrifedig yn eu hymatebion felly bydd gan y gwerthoedd a ddarperir raddau amrywiol o ddibynadwyedd.
  • Mae adborth yn awgrymu bod rhai ymatebwyr yn ei chael hi'n anodd dyrannu gwerthiannau i gwsmeriaid mewn rhannau eraill o'r DU.
  • Gofynnwyd i ymatebwyr ddyrannu masnach ar sail eu partner uniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi, nid ffynhonnell wreiddiol neu gyrchfan derfynol pryniant neu werthiant. Gall symud nwyddau drwy gadwyni cyflenwi yn y DU felly guddio tarddiad rhyngwladol neu gyrchfan derfynol yng nghanlyniadau Arolwg Masnach Cymru, a all fod o arwyddocâd arbennig i’r sector manwerthu sy’n defnyddio canolbwyntiau dosbarthu yn y DU.
  • O fewn y dadansoddiad, mae nifer o achosion lle amlygir data gwerthiannau neu bryniannau ‘heb eu dyrannu’ lle nad oedd yr ymatebydd yn gallu dyrannu i gyrchfan benodol. Weithiau gellir chwyddo effaith gwerthiannau neu bryniannau heb eu dyrannu oherwydd y pwysoliad. Gallai hyn fod wedi arwain at danamcangyfrif y ffigurau cyffredinol.
  • Mae’r chwe grŵp sector a ddefnyddiwyd i gategoreiddio busnesau yn ôl cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol yn yr arolwg yn eang i sicrhau bod meintiau sylfaen yn ddigon mawr i'w dadansoddi. Mae hyn yn golygu nad yw'n bosibl hidlo canlyniadau yn ôl rhai sectorau diddordeb penodol sy'n dod o fewn categorïau ehangach, e.e. bwyd a diod.
  • Mae Arolwg Masnach Cymru yn dibynnu ar ffrâm sampl Cofrestr Busnes Rhyngadrannol (SYG) y SYG, sydd ag oedi. Mae hyn yn golygu efallai na fydd pob blwyddyn o’r Gofrestr Busnes Rhyngadrannol yn adlewyrchu data 'amser real' ar gyfer yr un flwyddyn. Gall diddymiad/ansolfedd busnes mewn unrhyw un flwyddyn olygu y gallai'r pwysoli a'r grosio fod yn anghywir.
  • Mae'r arolwg yn gofyn cwestiynau ar werth masnach ond nid cyfaint masnach. Mae hyn yn ei gwneud yn heriol deall newidiadau dros amser yng ngoleuni newidiadau mewn chwyddiant.

Sampl

Modd

Dewiswyd dull gwthio i'r we fel y dull mwyaf priodol i fodloni nodau ac amcanion Arolwg Masnach Cymru o ystyried maint yr arolwg. Gwahoddir ymatebwyr i gymryd rhan trwy lythyr post cychwynnol gyda llythyrau atgoffa pellach a galwadau ffôn i fynd ar drywydd yr arolwg, ond mae'r holiadur yn cael ei gwblhau ar-lein. Ceir y ffrâm sampl o Gofrestr Busnes Rhyngadrannol (SYG) y SYG, cofnod cynhwysfawr o gyfeiriadau busnes, sy'n sicrhau bod cwmpas sampl Arolwg Masnach Cymru yn gyson ag arolygon busnes eraill. Fodd bynnag, mae’r Gofrestr Busnes Rhyngadrannol yn cynnwys cyfeiriadau e-bost cyfyngedig, felly mae angen llythyr postio cychwynnol yn cysylltu â busnesau ac yn eu gwahodd i ymateb i’r holiadur ar-lein.

Maint a ffrâm y sampl

Dewisir 8,000 o fusnesau ar gyfer y sampl.

Mae ffrâm y sampl yn cynnwys busnesau yn y DU sydd ag unedau lleol yng Nghymru. Dewisir y sampl o Gofrestr Busnes Rhyngadrannol y SYG, sy'n rhestru busnesau o gofnodion TAW neu TWE. Mae ffrâm y sampl wedi'i chyfyngu i unedau adrodd sydd ag unedau lleol yng Nghymru ac sydd wedi bodoli'n ddigon hir i allu rhoi'r flwyddyn lawn o ddata y gofynnir amdani.

Mae busnesau â chyflogaeth o lai na thri o bobl wedi'u heithrio, ynghyd â'r rhestr o sectorau isod. Penderfynwyd gwaharddiadau'r sector yn unol â mesurau masnach ar gyfer cyfrifon cenedlaethol yn ogystal â cheisio cysoni gwaharddiadau a wnaed gan arolygon tebyg eraill. Roedd busnesau o statws cyfreithiol penodol hefyd wedi'u heithrio o'r sampl. Sefydliadau awdurdodau lleol, llywodraeth ganolog a'r rhan fwyaf o gyrff dielw oedd y rhain (er bod prifysgolion wedi'u cynnwys).

Adrannau eithriedig y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol [troednodyn 4]

  • O – Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
  • Q – Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol
  • T – Gweithgareddau cartrefi fel cyflogwyr; gweithgareddau cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau diwahaniaeth aelwydydd at eu defnydd eu hunain
  • U – Gweithgareddau sefydliadau a chyrff alldiriogaethol

Yn ogystal â'r rhestr o adrannau’r Dosbarthiad Diwydiannol Safonol uchod, mae nifer o ddosbarthiadau Dosbarthiad Diwydiannol Safonol is hefyd wedi'u heithrio:

  • 06 – Echdynnu petrolewm crai a nwy naturiol
  • 84 – Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
  • 86 – Gweithgareddau iechyd dynol
  • 87 – Gweithgareddau gofal preswyl
  • 88 – Gweithgareddau gwaith cymdeithasol heb lety
  • 93 – Gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau difyrrwch a hamdden
  • 94 – Gweithgareddau sefydliadau aelodaeth
  • 96 – Gweithgareddau gwasanaeth personol eraill
  • 97 – Gweithgareddau cartrefi fel cyflogwyr personél domestig
  • 98 – Nwyddau a gwasanaethau diwahaniaeth sy'n cynhyrchu gweithgareddau aelwydydd preifat at eu defnydd eu hunain
  • 99 – Gweithgareddau sefydliadau a chyrff alldiriogaethol
  • 642 – Gweithgareddau cwmnïau daliannol
  • 791 – Gweithgareddau asiantaethau teithio a threfnwyr teithiau
  • 851 – Addysg cyn-gynradd
  • 852 – Addysg gynradd
  • 8299 – Gweithgareddau gwasanaethau cymorth busnes eraill nad ydynt wedi'u dosbarthu mewn man arall
  • 9101 – Gweithgareddau llyfrgell ac archif
  • 03110 – Pysgota morol
  • 47799 – Manwerthu nwyddau ail-law eraill mewn siopau (heb gynnwys hen bethau)
  • 49320 – Cwmnïau tacsis
  • 56290 – Gwasanaethau bwyd eraill
  • 56301 – Clybiau trwyddedig
  • 64110 – Gweithgareddau'r banc canolog
  • 79901 – Gweithgareddau tywyswyr twristiaid
  • 79909 – Gweithgareddau gwasanaeth archebu eraill nad ydynt wedi'u dosbarthu mewn man arall

Dyluniad y sampl

Mae samplu haenog yn digwydd ar lefel yr uned adrodd. Haenwyd y sampl yn ôl band maint cyflogaeth, a Dosbarthiad Diwydiannol Safonol y sector diwydiannol ar lefel dau ddigid.

Un o nodau trosfwaol y sampl yw casglu cyfran mor fawr o gyfanswm economi Cymru (trosiant busnes) â phosibl. Hyd yma mae'r sampl wedi dewis 8,000 o unedau adrodd, gyda ffocws ar fusnesau mwy.

Adolygir y strwythur a chynllun y sampl bob blwyddyn, wrth i'r ystadegau hyn barhau i ddatblygu. Darperir yr haenau a nifer y cofnodion a ddewisir bob blwyddyn isod.

Ar ôl ystyried yr holl eithriadau, dewiswyd cyfranogwyr yr arolwg o boblogaeth o tua 33,000 o unedau adrodd gyda gweithgarwch yng Nghymru a chyflogaeth o dri neu fwy o bobl.

Dewisodd ystadegwyr Llywodraeth Cymru gwmnïau gan ddefnyddio dull haenedig yn seiliedig ar gyflogaeth. Defnyddiodd rhai haenau (cyflogaeth o 20 o bobl neu fwy) ddull cyfrifiad, sef mwyafrif y sampl.

Ar gyfer Arolwg Masnach Cymru 3, cyflwynwyd elfen o samplu cyfleustra i'r haenau busnesau bach a microfusnesau (cyflogaeth 3 i 19) i gynnwys busnesau a ymatebodd yn flaenorol mewn nod i leihau amrywioldeb ymatebwyr.

Cymerwyd sampl haenedig ar hap o’r busnesau oedd yn weddill yn y band maint cyflogaeth 3-19 (y rhai sydd ag o leiaf un uned leol yng Nghymru). Haenwyd y busnesau hyn ymhellach yn ôl maint cyflogaeth ('3 i 9' a '10 i 19') a'r sector diwydiannol (adran Dosbarthiad Diwydiannol Safonol) - gweler Tabl 1.

Dyrannwyd y sampl ar sail trosiant yr adran Dosbarthiad Diwydiannol Safonol; derbyniodd sectorau gyda chyfanswm trosiant uwch gyfran uwch o'r sampl. Gwnaethpwyd addasiadau pellach i'r dyraniad sampl er mwyn osgoi is-samplu neu or-samplu o fewn is-fandiau.

Mae Tabl 1 yn dangos dadansoddiad y sampl ar gyfer AMC 2021.

Tabl 1: Cyfanswm y boblogaeth sampl yn ôl strata AMC 2021
Diffiniad yr haen  Canran y cofnodion a ddewiswyd Cofnodion a ddewiswyd
Cyflogaeth o 20 neu fwy o bobl 100% 5984
Cyflogaeth o 3 i 19 o bobl a chwblhawyd yr arolwg yn flaenorol 100% 282
Cyflogaeth o 3 i 19 o bobl (a heb gwblhau’r arolwg o’r blaen) 6% 1734

Ffynhonnell: Cofrestr Busnes Rhyngadrannol, SYG

Roedd samplu cyfran fechan o fusnesau gyda 3 i 19 o weithwyr yn sicrhau bod bandiau o bob maint yn cael eu cwmpasu, gan leihau’r baich cyffredinol a roddir ar fusnesau a chynnal maint sampl ymarferol a chost-effeithiol. Y rhesymeg dros orgynrychioli busnesau mwy yn y sampl oedd sicrhau bod cyfran fawr o economi Cymru (cyfanswm trosiant Cofrestr Busnes Rhyngadrannol Cymru) yn cael ei dal. Amcangyfrifwyd bod yr 8,000 o fusnesau a samplwyd yn cyfrif am 98.7% o drosiant Cymru (gan fusnesau â chyflogaeth o dri o bobl neu fwy).

Casglu data a’i daith

Cynhaliwyd yr arolwg gan ddefnyddio dull gwthio i'r we. I ddechrau, anfonwyd llythyr gwahoddiad post dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) at fusnesau a samplwyd (copïau wedi'u cynnwys yn yr Atodiad Cyfathrebu), gan eu hannog i fynd ar-lein i gwblhau Arolwg Masnach Cymru.

Ffigur 1: Trosolwg o'r daith ddata

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: siart llif sy'n dangos y broses gwaith maes o'r sampl a dynnwyd a'i baratoi i ddosbarthu'r cyswllt arolwg, glanhau data, prosesu ac yn olaf data ac allbynnau adrodd.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru 2023

Yn yr un modd ag iteriadau blaenorol o'r arolwg, roedd Arolwg Masnach Cymru yn wirfoddol; gwahoddwyd busnesau i gymryd rhan trwy lythyr gwahoddiad cychwynnol, ac yna galwad ffôn i gadarnhau derbyn y llythyr gwahoddiad cychwynnol, un llythyr atgoffa, a dau e-bost atgoffa dilynol (lle roedd cyfeiriad e-bost ar gyfer y busnes), gweler Tabl 2. Yn ogystal, bu IFF yn mynd ar drywydd galwadau drwy gydol cyfnod y gwaith maes er mwyn ateb unrhyw gwestiynau gan fusnesau ac annog cwblhau’r arolwg.

Pe bai angen i ymatebwyr gwblhau'r arolwg mewn mwy nag un sesiwn (neu fod angen i fwy nag un unigolyn lenwi'r arolwg), gallent wneud hynny trwy ail-fewnbynnu eu cod mynediad.  Pan wnaethant ailymuno â'r arolwg, aethpwyd â'r ymatebwyr yn syth at y pwynt olaf yn yr arolwg yr oeddent wedi'i gyrraedd. Dim ond ar gyfer un ymateb i arolwg yr oedd yn bosibl defnyddio pob cod mynediad, felly dim ond un datganiad y gallai pob busnes ei gyflwyno.

Drwy gydol y broses o gasglu data, cafodd yr holl ddata ei storio'n ddiogel yn system storfa ar-lein Unicom Intelligence IFF.

Fel rhan o ddiweddariadau cynnydd rheolaidd rhwng IFF a Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod gwaith maes, lluniwyd adroddiadau cyfradd ymateb wythnosol gan ddefnyddio data arolwg (a oedd yn dangos, er enghraifft, wybodaeth am ba adrannau o'r arolwg yr oedd ymatebwyr yn oedi ynddynt, a maint busnes a sector yr ymatebwyr).

Dylunio, profi a pheilota’r arolwg

Cynhaliwyd profion gwybyddol gyda 32 o fusnesau cyn yr Arolwg Masnach Cymru cyntaf yn 2019 a chynhaliwyd peilot pellach cyn y trydydd yn 2021. Roedd adborth gan fusnesau yn llywio datblygiad cwestiynau a'r dull casglu a ddefnyddiwyd. Ceir rhagor o fanylion am y profion gwybyddol a datblygiad blwyddyn un Arolwg Masnach Cymru yn Arolwg Masnach Cymru 2018: Adroddiad Technegol [troednodyn 5].

Arhosodd mwyafrif arolwg Arolwg Masnach Cymru blwyddyn pedwar (casglu data 2021) yr un fath â'r flwyddyn flaenorol (casglu data 2020). Cyflwynwyd rhai mân newidiadau i arolwg blwyddyn pedwar, a chynhaliwyd rhai profion cwestiwn ysgafn gyda nifer fach o fusnesau:

  • Ychwanegwyd un cwestiwn ymateb caeedig newydd oherwydd diddordeb polisi ym maes testun nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol. Dim ond i'r rhai oedd yn gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau y gofynnwyd y cwestiwn hwn:

Yn 2021, a wnaeth gweithrediad y busnes yng Nghymru WERTHU NWYDDAU/GWASANAETHAU amgylcheddol? Mae nwyddau/gwasanaethau amgylcheddol yn gynhyrchion a weithgynhyrchir yn bennaf at ddibenion diogelu’r amgylchedd, a/neu ar gyfer rheoli adnoddau naturiol.

  • Gwnaethpwyd gwelliant i gwestiwn ar  wasanaethau Modd 5 yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr na chafodd ei ddeall yn dda yn yr arolwg blaenorol. Roedd y cwestiwn diwygiedig a gynhwyswyd yn arolwg Blwyddyn 4 yn gofyn i ymatebwyr:

Yn y broses o werthu’r nwyddau hynny, a oes unrhyw wasanaethau sy’n cael eu darparu ochr yn ochr â’r cynnyrch fel rhan o werthu’r nwyddau? Er enghraifft, tanysgrifiad parhaus ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio, neu hyfforddiant, neu danysgrifiad meddalwedd cysylltiedig fel storfa cwmwl gyda ffôn.

  • Cafodd cwestiwn ar gaffael cyhoeddus, a gyflwynwyd yn Arolwg Masnach Cymru 2019, ei dynnu gan nad oedd hwn bellach yn cael ei ystyried yn gwestiwn blaenoriaeth i gydweithwyr polisi.

Ydych chi erioed wedi gwneud cais am, neu wedi ennill, contractau sector cyhoeddus a/neu’r llywodraeth i ddarparu nwyddau neu wasanaethau naill ai yn yr Undeb Ewropeaidd neu mewn marchnadoedd tramor y tu allan i Ewrop (h.y. gweddill y byd)?)

Er mwyn gwneud yr arolwg mor fyr â phosibl a lleihau'r baich ar ymatebwyr, cyfeiriwyd cwestiynau lle'r oedd hynny'n bosibl i ganiatáu i ymatebwyr golli tudalennau nad oeddent yn berthnasol iddynt yn awtomatig.

Er na allai ymatebwyr gamu ymlaen drwy'r cwestiynau (oherwydd cyfyngiadau llwybro), gallent symud yn ôl yn yr arolwg i adolygu a golygu eu hatebion blaenorol cyn cyflwyno'r arolwg.

Llinell amser

Dechreuodd y prif waith maes ar 20 Medi 2022 a daeth i ben ar 4 Ionawr 2023, gan redeg am tua 15 wythnos.

Tabl 2: Llinell amser gwaith maes y prif gam
Tasg Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen Cyrhaeddiad Rhagor o wybodaeth
Llythyr post cychwynnol 20/09/2022 Amherthnasol Anfonwyd at 8,000 o fusnesau Cyflawnwyd 153 o eitemau cyn dechrau mynd ar drywydd dros y ffôn
Mynd ar drywydd dros y ffôn 04/10/2022 14/12/2022   Cysylltwyd â 4,505 yn llwyddiannus  Cytunodd 1,391 ar lafar i gwblhau'r arolwg. Aeth o leiaf 23% o'r rhai a gytunodd i’w gwblhau ymlaen i wneud hynny (mae hyn yn debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel oherwydd anawsterau cofnodi hyn). 
Llythyr atgoffa drwy'r post 18/10/2022 Amherthnasol   26/10/22 – cynhaliwyd y nifer fwyaf o gyfranogwyr dyddiol a gymerodd ran yn yr arolwg (148 o ymweliadau).
Galwadau dilysu 13/10/2022 16/12/2022    
E-bost atgoffa cyntaf  28/11/2022 Amherthnasol Anfonwyd at 1,426 o ymatebwyr Agorwyd 20% o'r e-byst hyn. Cyflawnwyd 217 rhwng anfon yr e-byst cyntaf a'r ail e-byst
Ail e-bost atgoffa  13/12/2022 Amherthnasol Anfonwyd at 1,596 o ymatebwyr Agorwyd 16% o’r e-byst. Cyflawnwyd 84 ar ôl anfon e-bost a chyn cau'r arolwg.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021)

Cyswllt drwy'r post ac e-bost â busnesau

I ddechrau, anfonwyd llythyr gwahoddiad dwyieithog at fusnesau a samplwyd yn rhoi gwybod iddynt am yr arolwg a sut y gallent ei gwblhau [Manylir Tabl 2 y dyddiadau allweddol ar gyfer y cyswllt post ac e-bost]. Crëwyd dwy fersiwn o’r llythyr, un ar gyfer busnesau nad oeddent wedi cwblhau’r arolwg blaenorol ac un arall yn diolch i fusnesau a gwblhaodd yr arolwg blaenorol. Roedd pob llythyr yn cynnwys trosolwg o gynnwys a phroses yr arolwg. (Gellir gweld copïau o'r holl ddeunyddiau cyfathrebu (llythyrau ac e-byst) yn yr Atodiad Cyfathrebu).

Yna, anfonwyd llythyr atgoffa dwyieithog [gweler Tabl 2 am ddyddiadau] at y rhai nad oeddent wedi cwblhau’r arolwg eto, gan esbonio bod y dyddiad cau wedi’i ymestyn.

Anfonwyd e-bost atgoffa hefyd at y busnesau hynny a oedd wedi gofyn i'r arolwg gael ei anfon atynt dros e-bost yn dilyn cyswllt â'r rhai sy'n delio â galwadau IFF. Er na ellir priodoli’n uniongyrchol yr ymatebion a ddilynodd bob cam yn syth, rhoddir syniad o gyfraddau ymateb cyfatebol o amgylch y dyddiadau hyn yn y golofn gwybodaeth bellach yn Nhabl 2.

Cwblhau’r arolwg

Metrigau ymateb

Roedd yr arolwg ar gael 24 awr y dydd yn ystod cyfnod y gwaith maes, er bod y cyfnodau prysuraf o weithgarwch fel arfer yn ystod oriau swyddfa. Dros bob blwyddyn arolwg, bu tueddiad clir o gwblhau arolygon yn bennaf yn ystod yr wythnos yn ystod oriau busnes arferol, gan amlaf rhwng 11am a 12pm.

Mae dwy ffynhonnell data y gellir eu hystyried wrth fesur yr amser a gymerir i gwblhau’r arolwg: data a gasglwyd gan y system pan gwblhawyd arolygon ar-lein, a ffigurau hunangofnodedig a ddarparwyd gan ymatebwyr yn yr arolwg. Dangosir y rhain yn Nhabl 3.

Tabl 3: Metrigau system o'r amser a gymerwyd i gwblhau'r arolwg
Metrigau system  AMC 2019 AMC 2021 
Busnesau a gwblhaodd yr arolwg mewn un diwrnod   982
Canolrif yr amser cwblhau cyfartalog 21 munud 21 munud
Busnesau a gwblhaodd yr arolwg dros ddiwrnod neu fwy (e.e. fe ddechreuon nhw ddydd Llun a heb glicio ar y botwm cyflwyno tan ddydd Iau)   232

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn cynghori cyrff cyhoeddus sy’n casglu data ystadegol y dylai baich yr arolwg ar ymatebwyr fod yn gymesur â’r manteision sy’n deillio o ddefnyddio data’r arolwg a gasglwyd. Felly cynhwyswyd cwestiwn yn yr arolwg yn gofyn i fusnesau am amcangyfrif o faint o amser yr oeddent yn teimlo ei fod wedi'i gymryd iddynt gwblhau'r arolwg. Roedd y cwestiwn yn gofyn i ymatebwyr gynnwys y canlynol:

  • yr amser a gymerwyd i ymgyfarwyddo â'r holiadur
  • amser pawb a helpodd y busnes i gwblhau'r holiadur
  • yr amser a dreuliwyd yn tynnu a pharatoi gwybodaeth o'u systemau; ac
  • unrhyw amser arall a dreuliwyd mewn perthynas â'r holiadur.

Dengys Tabl 4 fod mwyafrif y busnesau wedi nodi eu bod wedi cwblhau'r arolwg mewn llai na dwy awr [troednodyn 6].

Tabl 4: Canran amser hunangofnodedig ymatebwyr a dreuliwyd yn cwblhau AMC 2021, yn ôl maint busnes
Amser Micro (3 i 9) [Nodyn 1] Bach (10 i 49) [Nodyn 2] Canolig (50 i 249) [Nodyn 3] Mawr (250+) [Nodyn 4]
<1 awr 65 52.6 47.1 40
1 awr i < 2 awr 24.4 32.7 30.9 34.5
2 awr i <3 awr 7.3 7.9 13.5 10.3
3 awr 3.3 6.8 8.4 15.2
Cyfanswm (%) 100 100 100 100

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

Nodyn 1: Y nifer o ficrofusnesau  (123)

Nodyn 2: Y nifer o fusnesau bach (584)

Nodyn 3: Y nifer o fusnesau canolig (333)

Nodyn 4: Y nifer o fusnesau mawr (165)

Cost adroddedig cwblhau'r arolwg

Gofynnodd cwestiwn yn Arolwg Masnach Cymru i ymatebwyr amcangyfrif faint oedd cost cwblhau’r arolwg i’w busnes, gan gynnwys amser unrhyw un a oedd yn ymwneud â llenwi’r arolwg. 

O'r rhai a nododd gostau amcangyfrifedig yr aethpwyd iddynt wrth gwblhau'r arolwg, amcangyfrifodd dros hanner fod yr arolwg wedi costio eu busnes llai na £50 i'w gwblhau. Mae hyn yn cymharu'n debyg â rowndiau blaenorol Arolwg Masnach Cymru. Mae Tabl 5 yn amlinellu'r costau amcangyfrifedig hunangofnodedig wedi'u dadansoddi yn ôl maint cwmni.

Tabl 5: Costau amcangyfrifedig hunangofnodedig a adroddwyd gan % yr ymatebwyr, fesul maint cwmni
Cost cwblhau'r arolwg (£) Micro (3 i 9) [Nodyn 1] Bach (10 i 49) [Nodyn 2] Canolig (50 i 249) [Nodyn 3] Mawr (250+) [Nodyn 4]
0 25.2 20.3 14.8 22.8
1 i <50 45.5 44 42.1 26.3
50 i <100 17.1 17.5 19 18
100 i <200 8.1 12.4 14.8 17.4
200+ 4.1 5.8 9.2 15.6
Cyfanswm 100 100 100 100

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

Maint y sampl: 1,214 o fusnesau

Nodyn 1: Y nifer o ficrofusnesau  (123)

Nodyn 2: Y nifer o fusnesau bach (587)

Nodyn 3: Y nifer o fusnesau canolig (337)

Nodyn 4: Y nifer o fusnesau mawr (167)

Costau cydymffurfio

Amcangyfrifwyd costau cydymffurfio ar gyfer busnesau a gwblhaodd Arolwg Masnach Cymru yn unol â chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Cyfrifwyd cyfanswm y gost amcangyfrifedig i bob busnes gwblhau'r arolwg [troednodyn 7] i fod yn £27,993. Cyfrifir y gost ariannol hon ar sail yr amser a gymerwyd i gwblhau'r holiadur, cyfradd fesul awr briodol a chostau allanol yr aethpwyd iddynt (er enghraifft, costau ceidwad llyfrau neu gyfrifydd i fusnes i’w gynorthwyo i gwblhau'r arolwg).

Yn seiliedig ar y cwestiwn hunangofnodedig yn yr arolwg, canolrif yr amser cwblhau ar gyfer yr holl ymatebion oedd tua 60 munud. Mae cyswllt dilynol rhwng IFF ac ymatebwyr i ddilysu ymatebion hefyd wedi'i gynnwys yn y cyfrifiadau gan ei fod yn cyfrannu at faich yr ymatebwyr. Cysylltwyd eto â 47 o fusnesau dros y ffôn i'w dilysu. Tua 19 munud oedd hyd cyfartalog y galwadau hyn (ni chyfrifwyd galwadau o dan ddau funud).

Yn cwblhau yn Gymraeg a Saesneg

Mae Arolwg Masnach Cymru yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, gan fodloni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Rhoddwyd cyfle i’r ymatebwyr gwblhau’r arolwg yn y Gymraeg neu’r Saesneg a gallent newid yn hawdd rhwng y ddwy iaith drwy gydol yr arolwg wrth gwblhau’r arolwg ar-lein.

Roedd y system ond yn casglu gwybodaeth iaith ar gyfer y rhai a gliciodd ar y botwm cyflwyno ar dudalen olaf yr arolwg; roedd hyn yn dal yr iaith yr oeddent yn edrych arni ar y dudalen olaf. O'r 1,214 o ymatebwyr (a gyflwynodd ar y dudalen olaf), cyflwynodd 1,212 yr arolwg yn Saesneg a dau yn Gymraeg, er efallai fod rhai wedi cwblhau rhannau o’r arolwg yn Gymraeg.

Casglu data ffôn

Mewn achosion lle nad oedd busnesau'n gallu cwblhau ar-lein, roedd y rhai oedd yn delio â galwadau IFF yn gallu casglu data dros y ffôn. Oherwydd cymhlethdod yr wybodaeth oedd yn cael ei chasglu, dim ond pan fetho popeth arall y darparwyd hyn, lle’r oedd materion technegol neu seilwaith o fewn y busnes yn eu hatal rhag cwblhau ar-lein, neu lle’r oedd data’r busnes yn gymharol syml. Cwblhaodd un ymatebydd AMC 2021 dros y ffôn – mae hyn yn cymharu â phump a gwblhawyd dros y ffôn ar gyfer AMC 2019.

Cyswllt a wnaed gan fusnesau

Roedd busnesau'n gallu cysylltu ag IFF dros y ffôn ac e-bost gydag unrhyw ymholiadau oedd ganddynt mewn perthynas â'r arolwg. Dengys Tabl 6 y derbyniwyd cyfanswm o 1,042 o ymholiadau naill ai drwy e-bost (265) neu dros y ffôn (672) [troednodyn 8]; Cyfrol llawer uwch na'r 389 o ymholiadau a dderbyniwyd ym mlwyddyn dau.

Tabl 6: Ymholiadau ffôn ac e-bost a dderbyniwyd gan fusnesau
Natur yr ymholiadau  Nifer
Cwestiynau cyffredinol am yr arolwg 248
Diwygiad gan y busnes 264
Methu gwneud yr arolwg cyn y dyddiad cau 23
Wedi derbyn llythyr/galwad ond wedi cwblhau yn barod 41
Angen cymorth/cyngor ar gwblhau'r arolwg 41
Angen help gyda phroblemau technegol eraill wrth ddefnyddio'r arolwg 29
Angen nodyn atgoffa o'u cod mynediad 4
Eisiau rhoi ffigurau dros y ffôn 1
Eisiau gwneud cwyn 3
Eisiau i'r arolwg gael ei ailagor 2
Ni ddechreuodd busnes fasnachu tan ar ôl cyfnod y gwaith maes 0
Ymatebydd eisiau optio allan 125
Dim un o'r rhain / arall 261
Cyfanswm 1042

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

Roedd y rhai oedd yn delio â galwadau yn cofnodi ‘llythyrau marw’, sef llythyr nad oedd modd ei ddosbarthu ac fel arfer â chyfeiriad anghywir, ac yna'n cynnal ymchwil ddesg i ddod o hyd i fanylion eraill ar gyfer y busnesau hyn. Cafodd cyfanswm o 182 o lythyrau eu dychwelyd i IFF. Nid oedd y nifer isel o lythyrau marw yn effeithio ar y gyfradd ymateb gyffredinol o 16% pan gawsant eu tynnu o'r sampl o 8,000.

Cefnogaeth arall a gynigiwyd i fusnesau

Hysbysiad preifatrwydd

Mae hwn yn ofyniad o dan GDPR y DU wrth gasglu unrhyw ddata personol, a chyhoeddwyd hysbysiad preifatrwydd ar-lein yn manylu ar yr union sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol yr ymatebwyr.

Dogfennau cwestiynau cyffredin

Ochr yn ochr â'r llythyr gwahoddiad cychwynnol, anfonwyd taflen cwestiynau cyffredin at fusnesau a oedd yn cynnwys y canlynol:

  • manylion cefndirol ar Arolwg Masnach Cymru a'i bwysigrwydd i Lywodraeth Cymru
  • gwybodaeth am IFF
  • sut i wirio bod yr arolwg yn ddilys
  • sut y dewiswyd busnesau
  • sicrwydd ynghylch cyfrinachedd
  • y dyddiad cau ar gyfer cwblhau
  • sut i gwblhau’r arolwg os nad oedd y busnes wedi’i leoli’n bennaf yng Nghymru, nad oedd ganddo ddata i’w adrodd, neu os oedd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr/derbynwyr

Roedd gwefan yr arolwg ar-lein yn cynnwys fersiwn hirach o'r cwestiynau cyffredin, gyda mwy o fanylion nag y gellid eu cynnwys gyda'r llythyr gwahoddiad. Roedd gwybodaeth ychwanegol a gynhwyswyd yn y cwestiynau cyffredin ar-lein yn ymwneud yn bennaf â’r arolwg ei hun, gan gynnwys y canlynol:

  • mwy o fanylion ar sut y byddai data a ddarparwyd yn cael ei ddefnyddio
  • y broses ar gyfer adrodd am unrhyw faterion technegol a brofwyd gyda'r arolwg
  • sut i roi adborth ar yr arolwg i Lywodraeth Cymru
  • sut y derbyniodd IFF fanylion personol ymatebwyr yn ddiogel

Mynd ar drywydd ymatebion

I annog busnesau i ymateb, aeth IFF ati ar eu trywydd dros y ffôn.

Cyrhaeddwyd y rhan fwyaf o fusnesau o fewn un neu ddau o alwadau, er bod rhai yr oedd angen mynd ar eu holau ymhellach [Tabl 7]. Nifer cyfartalog yr ymdrechion cysylltu a wnaed oedd 2.24. Cafodd pob busnes â rhif ffôn ei alw o leiaf unwaith. Mae'r rhai a gofnodwyd fel '0' yn cynnwys cyfuniad o fusnesau a oedd eisoes wedi cwblhau'r arolwg cyn iddynt gael eu galw yn ogystal â'r rhai nad oedd modd dod o hyd i rif ffôn ar eu cyfer.

Tabl 7: Dadansoddiad o'r broses o fynd ar drywydd ymatebion yn ôl nifer y ceisiadau
Ceisiadau  Nifer
0 3,306   
1 1,114
2 639
3 785
4 649
5 467
6 364
7 453
8 146
9 51
10 19
11 i 20 7

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

Ar gyfartaledd, cymerodd ymatebydd wyth diwrnod i gyflwyno ei ddata o'r pwynt y daeth ei sgwrs â'r sawl oedd yn delio â'r alwad i ben. O’r 326 o ymatebwyr a dderbyniodd alwad i fynd ar eu trywydd ac a aeth ymlaen wedyn i gwblhau’r arolwg yn llwyddiannus (gan gynnwys y rhai nad oeddent yn cytuno’n benodol i’w gwblhau, megis y rhai y gadawyd neges llais ar eu cyfer), aeth 20 diwrnod heibio ar gyfartaledd rhwng derbyn y neges gyntaf a chyflwyno'r arolwg.

Cyfraddau ymateb

Cyflawnwyd cyfradd ymateb o 16%, gyda 1,264 o ymatebwyr yn cymryd rhan yn yr arolwg allan o 8,000 o fusnesau posibl. Roedd hyn yn cyfateb i gyfanswm ychydig yn llai na’r AMC (2019) (1,272). Roedd hyn yn cyfateb i gyfanswm ychydig yn llai na Arolwg Masnach Cymru 2 (1,272). Dim ond ymatebion lle’r oedd adrannau gwerthu a/neu bryniannau’r arolwg wedi’u cwblhau, a lle nad oedd unrhyw anghysondebau o fewn y data wedi’u nodi, a gafodd eu cynnwys yn y dadansoddiad. Roedd cynnydd wedi llusgo y tu ôl i’r hyn a gyflawnwyd ar gyfer yr arolygon blaenorol trwy gydol cyfnod y gwaith maes.

Yn hanesyddol, mae'r arolwg wedi derbyn cyfraddau ymateb rhwng 14% ac 17% (Bl1: 14%, Bl2: 16%, Bl3: 17%, Bl4: 16%).

O ran cyfraddau ymateb ar gyfer busnesau yn ôl maint busnes (yn seiliedig ar werthoedd cyflogaeth y DU o fewn y Gofrestr Busnes Rhyngadrannol), busnesau canolig eu maint oedd â'r gyfradd ymateb uchaf (19%), a microfusnesau oedd â'r gyfradd ymateb isaf (10%) [Tabl 8].

Tabl 8: Cyfraddau ymateb yn ôl maint busnes (rhag-ddilysu)
Size Pob ymateb Sampl Cyfradd ymateb
Micro (3 i 9) 126 1305 10%
Bach (10 i 49) 614 3444 18%
Canolig (50 i 249) 351 1836 19%
Mawr (250+) 173 1415 12%
Cyfanswm 1264 8000 16%

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

Roedd y gyfradd ymateb yn weddol gyson ar draws gwahanol sectorau busnes, ond y rhai mewn Adeiladu a Gweithgynhyrchu oedd â’r cyfraddau ymateb uchaf (17%) [Tabl 9].

Tabl 9:Cyfraddau ymateb fesul sector busnes (rhag-ddilysu)
Sectors Pob ymateb Sampl Cyfradd ymateb
Busnes a Gwasanaethau Eraill [Troednodyn 9] 396 2441 0.16
Adeiladu 135 784 0.17
Gweithgynhyrchu 205 1229 0.17
Sector Cynradd a Chyfleustodau 57 438 0.13
Masnach, Llety a Thrafnidiaeth 471 3108 0.15
Cyfanswm  1264 8000 0.16

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021

Dadansoddiad

Bandiau maint busnes

Drwy gydol y broses o brosesu data a dadansoddi Arolwg Masnach Cymru, caiff busnesau eu grwpio i gategorïau yn seiliedig ar werthoedd gweithwyr y DU (maint busnes). Defnyddir pedwar band maint yn y dadansoddiad (Gweler Tabl 8). Fodd bynnag, dim ond tri band maint (bach – sy'n cwmpasu microfusnesau, canolig a mawr) a ddefnyddiwyd at ddibenion adrodd.

Defnyddir gwerthoedd gweithwyr y DU er mwyn sicrhau bod meintiau sylfaen yn ddigon mawr ar gyfer dadansoddi, er mwyn gwella’r gallu i gymharu â data CThEF a’r SYG, ac oherwydd tystiolaeth anecdotaidd o brofion gwybyddol bod y rhan fwyaf o fusnesau yn gwneud penderfyniadau masnach yn seiliedig ar eu gweithrediadau cyffredinol yn y DU.

Grwpiau sector

Mae'r Gofrestr Busnes Rhyngadrannol yn darparu cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol ar gyfer pob busnes yn Arolwg Masnach Cymru, ac mae'r rhain wedi'u grwpio i sicrhau bod meintiau sylfaen yn ddigon mawr i'w dadansoddi.

Grwpiau'r sector

  • Busnes a Gwasanaethau Eraill
    • Gwybodaeth a chyfathrebu
    • Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
    • Gweithgareddau eiddo tiriog
    • Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
    • Gweithgareddau gweinyddol a chymorth y gwasanaeth
    • Celfyddydau, adloniant a hamdden
    • Gweithgareddau gwasanaeth eraill
  • Adeiladu
  • Gweithgynhyrchu
  • Sector Cynradd a Chyfleustodau
    • Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
    • Mwyngloddio a chwarela
    • Cyflenwad trydan, nwy, stêm ac aerdymheru
    • Cyflenwad dŵr; gweithgareddau carthffosiaeth, rheoli gwastraff ac adfer
  • Masnach, Llety a Thrafnidiaeth
    • Masnach cyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
    • Cludo a storio
    • Llety a gweithgareddau gwasanaeth bwyd
  • Gwasanaethau Di-farchnad
    • Addysg
    • Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol (wedi'u heithrio)
    • Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol (wedi'i eithrio)

Mae gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â’r farchnad yn cael eu cyfuno â gwasanaethau busnes a gwasanaethau eraill oherwydd meintiau sylfaen isel, sy’n golygu bod y pum categori canlynol yn cael eu defnyddio drwy gydol y broses o brosesu data a chynnal gwaith dadansoddi Arolwg Masnach Cymru:

  • Busnes a Gwasanaethau Eraill
  • Adeiladu
  • Gweithgynhyrchu
  • Sector Cynradd a Chyfleustodau
  • Masnach, Llety a Thrafnidiaeth

Priodoli

Er mwyn gwneud y mwyaf o’r data y gellid ei ddadansoddi o’r arolwg, gwnaed priodoli i fodelu ymatebion coll i’r arolwg o fewn blynyddoedd (ar gyfer data Gwerthiant a Phryniant) ac ar draws blynyddoedd (ar gyfer data gwerthiant yn unig):

  • Priodoli o fewn blwyddyn (gwerthiant a phryniant): Wedi'i gymhwyso i'r data a ddarparwyd gan fusnesau a gymerodd ran ym mlwyddyn yr arolwg ond nad oeddent yn gallu darparu rhai gwerthoedd, e.e. gallent ddarparu cyfanswm eu gwerthiant ond ni allent ddosrannu hyn i nwyddau a gwasanaethau. Roedd gwerthoedd coll yn seiliedig ar werthoedd penodol eraill yn yr arolwg (a chyfrannau cyfartalog) a ddarparwyd gan fusnesau tebyg eraill.
  • Priodoli o fewn blwyddyn (gwerthiant): Wedi'i gymhwyso i fusnesau a samplwyd na chymerodd ran ym mlwyddyn yr arolwg. Roedd ymatebion coll yn seiliedig ar eu hymatebion a roddwyd i flynyddoedd arolwg eraill ac ymatebion gan fusnesau tebyg eraill yn y flwyddyn arolwg goll. Mae gwaith datblygu ar y gweill i sicrhau priodoli ar draws y blynyddoedd ar gyfer pryniannau mewn arolygon masnach yn y dyfodol.

Priodoli o fewn blwyddyn

Drwy gydol yr arolwg, roedd gan ymatebwyr yr opsiwn o nodi i ba gyrchfannau (er enghraifft, Cymru, gweddill y DU, yr UE, y Tu hwnt i’r UE) y gwnaethant werthu iddynt, ac yna cwestiwn dilynol yn gofyn am werthoedd gwerthiannau a phryniannau i’r cyrchfannau dethol hyn. Cafodd priodoli o fewn blwyddyn ei wneud pan nododd ymatebwyr y cyrchfan ond ni allent ddarparu'r union werthoedd dilynol. Felly, priodolwyd gwerthoedd pan ddewisodd busnes fod ganddo werthiannau nwyddau yng Nghymru a gweddill y DU (ac nid yr UE neu’r Tu hwnt i’r UE), ond nad oedd wedyn wedi dosrannu cyfanswm ei werth gwerthu nwyddau rhwng y ddau gyrchfan hyn.

Priodolwyd gwerthoedd coll yn seiliedig ar ddosrannu’r cyfanswm perthnasol a ddarparwyd gan yr ymatebydd yn unol â chyfrannau cyfartalog y gwerthiannau/pryniannau a wnaed i bob cyrchfan ymhlith busnesau o a) math tebyg (eglurir yn yr adran ganlynol) a b) wrth ddewis yr un cyfuniad o gyrchfannau.

Cafodd priodoli ei gynnal i fusnesau hefyd a nododd fod ganddynt werthiannau/pryniannau nwyddau a gwasanaethau ond nad oeddent yn gallu dosrannu'r cyfanswm gwerthoedd hyn rhwng nwyddau a gwasanaethau. Priodolwyd gwerthoedd coll yn seiliedig ar ddosrannu cyfanswm y gwerthiannau/pryniannau a ddarparwyd gan yr ymatebydd yn unol â chyfrannau cyfartalog y gwerthiannau/pryniannau a wnaed i nwyddau a gwasanaethau ymhlith busnesau o fath tebyg.

Unwaith y bydd busnes wedi cael gwerthoedd gwerthu neu brynu wedi'u priodoli yn yr arolwg, ni chaiff unrhyw briodoli pellach ei gyfrifo, h.y. os caiff ei werth gwerthu yn y DU ei briodoli, nid yw ei werthoedd dadgyfunedig ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gymwys i'w priodoli.

Busnesau tebyg

Cyfrifwyd cyfrannau cyfartalog o fewn grwpiau priodoli yn ôl maint a sector busnes, sy'n golygu mai dim ond trwy ddefnyddio gwerthoedd a roddwyd gan fusnesau tebyg y cyfrifwyd gwerthoedd priodoledig. Dim ond os oedd o leiaf deg busnes arall wedi darparu union werthoedd yn yr un grŵp â'r cofnod yr oedd angen ei briodoli y cyfrifwyd gwerthoedd o fewn pob grŵp. O ganlyniad, crëwyd tri grŵp priodoli (manylion isod):

  • Roedd Grŵp Priodoli 1 yn seiliedig ar y 21 o godau sector a phedwar band maint.
  • Cyfunodd Grŵp Priodoli 2 y codau sector yn bum grŵp ehangach ond cadwodd y pedwar band maint.
  • Cadwodd Grŵp Priodoli 3 y pum grŵp sector ehangach fel yng Ngrŵp 1, ond unodd hefyd y bandiau maint yn ddau fand ehangach.

Os oedd busnes yr oedd angen ei briodoli'n perthyn i grŵp priodoli a oedd yn cynnwys llai na deg busnes yn rhoi union werthoedd (e.e. Grŵp priodoli 1), yna fe'i dyrannwyd i'r grŵp priodoli lefel nesaf (Grŵp priodoli 2).

Categoreiddio grwpiau priodoli

Grŵp priodoli 1

Y sectorau diwydiant a chyhwyswyd
  1. Llety a gweithgareddau'r gwasanaeth bwyd
  2. Gweithgareddau sefydliadau a chyrff allgyrsiol
  3. Gweithgareddau aelwydydd fel cyflogwyr; gweithgareddau diwahaniaeth sy'n cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau cartrefi at eu defnydd eu hunain
  4. Gweithgareddau gweinyddol a chymorth y gwasanaeth
  5. Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  6. Celfyddydau, adloniant a hamdden
  7. Adeiladaeth
  8. Addysg
  9. Cyflenwad trydan, nwy, stêm ac aerdymheru
  10. Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
  11. Gweithgareddau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol Dynol
  12. Gwybodaeth a chyfathrebu
  13. Gweithgynhyrchu
  14. Mwyngloddio a chwarela
  15. Gweithgareddau gwasanaeth eraill
  16. Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  17. Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; Nawdd Cymdeithasol Gorfodol
  18. Gweithgareddau eiddo tiriog
  19. Cludiant a storio
  20. Cyflenwad dŵr; gweithgareddau carthffosiaeth, rheoli gwastraff ac adfer
  21. masnach gyfanwerthol a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
Roedd y maint band yn cynnwys
  1. Micro
  2. Bach
  3. Canolig
  4. Mawr

Grŵp priodoli 2

Y sectorau diwydiant a chyhwyswyd
  1. Sector Cynradd a Chyfleustodau
  2. Gweithgynhyrchu
  3. Adeiladaeth
  4. Masnach, Llety a Thrafnidiaeth
  5. Busnes a Gwasanaethau Eraill
Roedd y maint band yn cynnwys
  1. Micro
  2. Bach
  3. Canolig
  4. Mawr

Grŵp priodoli 3

Y sectorau diwydiant a chyhwyswyd
  1. Sector Cynradd a Chyfleustodau
  2. Gweithgynhyrchu
  3. Adeiladaeth
  4. Masnach, Llety a Thrafnidiaeth
  5. Busnes a Gwasanaethau Eraill
Roedd y maint band yn cynnwys
  1. Micro / Bach
  2. Canolig/Mawr

Yr un cyfuniad o gyrchfannau

Ar wahân i'r cwestiynau a oedd yn gofyn i gyfanswm gwerth gael ei rannu yn ôl nwyddau a gwasanaethau, ar gyfer pob math o gwestiwn roedd nifer o wahanol gyfuniadau o gyrchfannau y gallai busnesau fod wedi'u dewis [Tabl 10]. Dim ond ymhlith busnesau a oedd hefyd wedi dewis yr un cyfuniad o atebion o fewn cell y grŵp priodoli y cyfrifwyd cyfrannau cyfartalog.

Tabl 10: Cyfuniadau enghreifftiol o gyrchfannau
Lleoliadau wedi'u dewis ar gyfer gwerthu nwyddau 
# Cymru GDU UE Tu hwnt i’r UE Enghraifft o gyfuniad
1 Ydy Nac ydy Nac ydy Nac ydy WXXX
2 Ydy Nac ydy Nac ydy Nac ydy WUXX
3 Ydy Nac ydy Nac ydy Nac ydy WUEX
4 Ydy Nac ydy Nac ydy Nac ydy WUER
Hefyd, y 12 cyfuniad sy'n weddill ar gyfer y set hon o gwestiynau          

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

O fewn y grwpiau priodoli sy'n cynnwys mathau tebyg o fusnes a'r un cyfuniad o gyrchfannau, cyfrifwyd y cyfrannau cyfartalog o werthiannau neu bryniannau a ddyrannwyd ar draws y cyrchfannau hyn, yn hytrach na gwerthoedd ariannol cyfartalog. Yna cyfrifwyd gwerthoedd coll ar gyfer pob cofnod trwy gymhwyso'r cyfrannau cyfartalog hyn i gyfanswm y gwerth gwirioneddol a ddarparwyd gan y busnes hwnnw [Tabl 11]. Er enghraifft, pe bai busnes yn dweud bod ganddo werthiant nwyddau o £1,000 mewn blwyddyn benodol ond heb ddweud sut y cafodd hyn ei rannu rhwng Cymru, gweddill y DU, yr UE a’r Tu hwnt i’r UE, byddai’r cyfrannau cyfartalog yn cael eu cymhwyso fel isod.

Tabl 11: Enghraifft o sut y cymhwyswyd cyfrannau cyfartalog
  Nwyddau  Cymru  GDU UE Tu hwnt i’r UE
Cyfrannau cyfartalog wedi'u cyfrifo 100% 17% 63% 14% 6%
Gwerthoedd a ddarparwyd cyn priodoli £1,000 - - - -
Gwerthoedd ar ôl priodoli £1,000 £170 £630 £140 £60

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

Yn gyfan gwbl, cafodd priodoli o fewn blwyddyn ei gyfrifo ar draws 32 o newidynnau, gan ganiatáu i gyfanswm o 652 o werthoedd, ar draws 112 o fusnesau, gael eu priodoli. Ar draws y 32 newidyn hyn, y nifer uchaf o werthoedd fesul newidyn yr oedd modd eu priodoli oedd 85 a’r isaf oedd 0. Roedd y ganran uchaf o gyfanswm y gwerthoedd a briodolwyd yn amrywio o 0% i 14.5%.

Mewnbynnu ar draws blwyddyn

Roedd busnesau nad oeddent wedi cwblhau’r arolwg yn gymwys i gael eu hymatebion wedi’u priodoli os oeddent yn bodloni pob un o’r meini prawf canlynol:

  • Nid oeddent wedi cymryd rhan yn y flwyddyn arolwg gyfredol (y flwyddyn “darged”) ond wedi cael eu samplu, h.y. gwahoddiad i gymryd rhan. Ni fyddai wedi bod yn addas priodoli ymatebion i fusnesau na fwriadwyd erioed eu cynnwys y flwyddyn honno.
  • Roeddent eisoes wedi cwblhau datganiad mewn arolwg gwahanol (blwyddyn “a gyflawnwyd”), gan alluogi priodoli ymateb ar gyfer y flwyddyn “darged”.
  • Roedd ganddyn nhw drosiant Cofrestr Busnes Rhyngadrannol y DU o £100 miliwn neu fwy, neu roedd ganddyn nhw drosiant Cymru o £10 miliwn neu fwy, yn y flwyddyn “a gyflawnwyd”. Roedd hyn er mwyn canolbwyntio dadansoddiad priodoli ar fusnesau a fyddai'n cael mwy o effaith ar gyfanswm y trosiant a adroddwyd ar gyfer y flwyddyn “darged”.
  • Roedd ganddyn nhw fwy nag 20 o weithwyr yng Nghymru yn y flwyddyn “darged”.

Roedd 249 o fusnesau yn bodloni’r meini prawf hyn ym Mlwyddyn 4 ac yn gymwys i gael eu hymateb i’r arolwg wedi’i briodoli. Priodolwyd ymateb busnesau i’r arolwg ar gyfer y flwyddyn “darged” yn seiliedig ar naill ai:

  • Ymatebion a roddwyd ganddynt yn y flwyddyn arolwg flaenorol, h.y. faint o drosiant a adroddwyd ganddynt ym Mlwyddyn 3.
  • Ymatebion yr oeddent wedi’u priodoli i’r flwyddyn arolwg flaenorol (Blwyddyn 3) yn seiliedig ar drosiant yr oeddent wedi’i adrodd yn y blynyddoedd cyn hynny (e.e. Blwyddyn 2) [troednodyn 10].

Cymhwyswyd newid canrannol i ymatebion “a gyflawnwyd” yn flaenorol oherwydd rhagdybir y bydd trosiant yn newid flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cyfrifwyd y newid canrannol a ddefnyddiwyd trwy:

  • Nodi busnesau a oedd wedi ymateb i'r blynyddoedd “a gyflawnwyd” a “tharged [troednodyn 11].  Roedd hyn yn 572 o fusnesau ym Mlynyddoedd 3 a 4 (47% o holl fusnesau Blwyddyn 4).
  • Crynhoi cyfanswm y trosiant a adroddwyd ar gyfer y ddwy flynedd hyn o fewn busnesau tebyg (pedwar band maint fesul pum grŵp sector eang).
  • Cyfrifo'r newid canrannol rhwng y ddwy flynedd hyn o drosiant ar gyfer pob un o'r meintiau hyn fesul grwpiau sector, e.e. gwelodd busnesau Gweithgynhyrchu Mawr gynnydd o 8% yn y trosiant a adroddwyd rhwng y ddwy flynedd.

Dim ond os oedd o leiaf deg busnes arall wedi cymryd rhan yn y blynyddoedd “a gyflawnwyd” a “tharged” y cymhwyswyd canrannau. Pe bai llai na deg busnes wedi gwneud hynny, roedd y newid canrannol yn seiliedig yn lle hynny ar y newid yn nhrosiant y DU (fel y darperir yn y Gofrestr Busnes Rhyngadrannol) ar gyfer y busnes hwnnw rhwng y blynyddoedd “a gyflawnwyd” a “tharged”.

Unwaith y cafodd y newidiadau canrannol eu cyfrifo a'u neilltuo i fusnesau unigol, cynhaliwyd gwiriadau ansawdd ehangach gyda ffynonellau data eraill ar y cyd â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthoedd wedi'u modelu yn gadarn. Arweiniodd y gwiriadau hyn at newid canrannol o 0% i rai busnesau neu iddynt gael eu heithrio o'r broses briodoli. 

At ei gilydd, cafodd ymatebion 249 o fusnesau eu priodoli i Flwyddyn 4.

Cymhwyswyd yr un newid canrannol i ymatebion gwerthu (nid ymatebion pryniannau) a chopïwyd ymatebion gwerthu 'wedi'u modelu' i'r ffeil ddata.

Pwysoli

Mae data ymateb o'r arolwg wedi'i bwysoli a'i grosio hyd at gyfanswm poblogaeth y busnesau (yn deillio o ffrâm y sampl), i gynhyrchu amcangyfrifon lefel Cymru. Cymhwysir gwerth a phwysau uned i gynhyrchu amcangyfrifon o werth masnach a nifer y busnesau sy'n ymwneud â masnach.

Mae pwysoli'r canlyniadau yn ystyried tebygolrwydd anghyfartal busnesau ac effaith diffyg ymateb ar y sampl a gyflawnwyd.

Wrth i waith datblygu ar gyfer yr ystadegau hyn barhau, bydd y dull samplu a phwysoli yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Roedd y pwysau ar gyfer gwerthiannau a phryniannau yn wahanol yn y dadansoddiad presennol oherwydd cyflwyno priodoli ar draws y blynyddoedd a gymhwyswyd i'r data gwerthiannau.

Yn gyfan gwbl, crëwyd pedair set o bwysau: dau ar gyfer gwerthu a dau ar gyfer pryniannau. Roedd y ddau bwysau o fewn gwerthiannau a phryniannau i gyfrif am y ffaith bod tua hanner yr arolwg wedi casglu atebion seiliedig ar werth a’r hanner arall wedi casglu ymatebion ar gyfer cwestiynau blychau ticio a oedd yn gweddu i gael eu pwysoli i gynrychioli poblogaeth fusnes Cymru o ran unedau adrodd. Defnyddiwyd y pwysoliadau 'seiliedig ar unedau' ar gyfer dadansoddi cwestiynau seiliedig ar 'blwch ticio / cod' a defnyddiwyd pwysoliadau 'yn seiliedig ar werth' ar gyfer dadansoddi cwestiynau seiliedig ar drosiant a chost.

Roedd y broses bwysoli/grosio yn cynnwys y camau canlynol:

  • Cam 1: Cyfrifo dau bwysau diffyg ymateb (ar gyfer cwestiynau sy'n seiliedig ar unedau a chwestiynau sy'n seiliedig ar werth) o gymharu â sampl gychwynnol yr arolwg.
  • Cam 2: Cyfrifo pwysau grosio 'seiliedig ar uned' a 'seiliedig ar werth' ar gyfer gwerthu a phrynu.
  • Cam 3: Lluosi'r pwysau diffyg ymateb â'r pwysau gwerthu a phrynu i greu'r pedwar pwysau terfynol sydd eu hangen.

Cam 1: Pwysau diffyg ymateb

Gan nad oedd yr arolwg yn orfodol, roedd rhywfaint o amrywiad naturiol mewn cyfraddau ymateb rhwng gwahanol fathau o fusnesau, a arweiniodd at fod proffil yr arolwg ychydig yn wahanol i broffil sampl gychwynnol yr arolwg. I addasu ar gyfer y gwahaniaethau hyn, cyfrifwyd pwysau diffyg ymateb, gan ddefnyddio dull ailadroddol ar hap, a'u cymhwyso i gysoni proffil yr arolwg â'r sampl. Cyfrifwyd pwysau diffyg ymateb drwy gymharu proffil y cyfweliadau a gyflawnwyd â’r 8,000 o fusnesau yn y sampl gychwynnol. Cymharwyd y newidynnau, a lle'r oedd gwahaniaeth o ddau bwynt canran neu fwy rhwng y proffil cyfweliad a gyflawnwyd a phroffil y sampl, defnyddiwyd pwysau diffyg ymateb.

Cyflogaeth Sector (5 band)

  1. Sector Cynradd a Chyfleustodau
  2. Gweithgynhyrchu
  3. Adeiladu
  4. Masnach, Llety a Thrafnidiaeth
  5. Busnes a Gwasanaethau Eraill

Maint (gweithwyr Cofrestr Busnes Rhyngadrannol y DU, 4 band)

  1. Micro (<10 o weithwyr)
  2. Bach (10-49 o weithwyr)
  3. Canolig (50-249 o weithwyr)
  4. Mawr (250+ o weithwyr)

Trosiant Cofrestr Busnes Rhyngadrannol (wedi bandio)

  1. <£1 miliwn
  2. £1 miliwn – <£5 miliwn
  3. £5 miliwn – <£10 miliwn
  4. £10 miliwn – <£20 miliwn
  5. £20 miliwn – <£50 miliwn
  6. £50 miliwn – <£100 miliwn
  7. £100 miliwn+

Rhanbarth (Cofrestr Busnes Rhyngadrannol)

  1. AA. Gogledd-ddwyrain Lloegr
  2. BA BB. Gogledd-orllewin Lloegr
  3. DC. Swydd Efrog a'r Humber
  4. ED. Dwyrain Canolbarth Lloegr
  5. AB. Gorllewin Canolbarth Lloegr
  6. GF. Dwyrain Lloegr
  7. GG. Dwyrain Lloegr
  8. HH. Llundain
  9. JG. De-ddwyrain Lloegr
  10. KJ. De-orllewin Lloegr
  11. WW. Cymru

Nifer y canghennau yng Nghymru (wedi'u bandio)

  1. 0
  2. 1
  3. 2
  4. 3+

A yw’r busnes yn gwbl Gymreig ai peidio

  1. Ydy
  2. Nac ydy

Cam 2: Grosio pwysau 'seiliedig ar uned' a 'seiliedig ar werth' ar gyfer gwerthiannau a phryniannau

Cymhwyswyd y pwysau diffyg ymateb i'r data, ac yna cyfrifwyd dau grid pwysoli gwahanol, gan grwpio celloedd yn ôl pedwar band maint a phum band sector fel yr amlinellwyd uchod (y nifer lleiaf o fusnesau mewn unrhyw un gell oedd chwech ac felly ni chyfunwyd celloedd).

Cymharwyd y ddau grid pwysoli gwahanol:

  • nifer yr unedau a gyflawnwyd yn yr arolwg o’u cymharu â'r boblogaeth
  • cyfanswm trosiant (gwerthiannau a phryniannau) yn yr arolwg o’i gymharu â'r boblogaeth

Ar gyfer y grid uned, crëwyd pwysau ar gyfer pob cell o'r grid i grosio nifer y cofnodion ym mhob cell i nifer y busnesau yn y gell honno yn y boblogaeth (h.y. os oedd 20 cofnod yn y gell a bod 100 yn y boblogaeth, derbyniodd pob un cofnod bwysau o 5). Ni ddefnyddiwyd gwerthoedd cyflogaeth y DU a adroddwyd yn yr arolwg oherwydd datgelodd glanhau data nad oedd y rhain mor ddibynadwy o gymharu â data cyflogaeth y Gofrestr Busnes Rhyngadrannol. Roedd hyn yn debygol gan y byddai'r arolwg wedi'i gwblhau mewn rhai achosion gan staff â gwybodaeth am y busnes yng Nghymru ond nid o reidrwydd gyda'r trosolwg DU gyfan. Felly cyfrifwyd y grid unedau gan ddefnyddio'r gwerthoedd cyflogaeth a ddarparwyd yn y Gofrestr Busnes Rhyngadrannol.

Ar gyfer y grid trosiant, crëwyd pwysau ar gyfer pob cell o’r gridiau i grosio swm y trosiant ar gyfer pob cell (o’r boblogaeth ac o’r sampl a gyflawnwyd gennym) a’i gymhwyso i bob £ o drosiant fel y byddai pob ymatebydd yn y gell honno yn cael pwysau sy'n gymharol i union swm eu trosiant. Defnyddiwyd ffigur trosiant y Gofrestr Busnes Rhyngadrannol oherwydd, er bod yr arolwg yn holi am drosiant Cymru yn benodol, mae maes trosiant y Gofrestr Busnes Rhyngadrannol yn ymwneud â throsiant y DU ac roedd angen ffigur trosiant dibynadwy i’w grosio.

Cam 3: Creu'r pedwar pwysau terfynol

Yna lluoswyd y pwysau 'seiliedig ar uned' a'r pwysau 'seiliedig ar werth' â'r pwysau nad oeddent yn ymateb i greu'r pwysau terfynol ar gyfer gwerthu a phrynu [Tabl 12].

Tabl 12: Pedwar bwysau terfynol
Pwysau Wedi'i gymhwyso i ddadansoddi
UNIT_WEIGHT_SALES Cwestiynau gwerthu wedi'u codio yn yr arolwg 
VALUE_WEIGHT_SALES Cwestiynau am werth gwerthiannau yn yr arolwg
UNIT_WEIGHT_PURCHASES Cwestiynau prynu wedi'u codio yn yr arolwg
VALUE_WEIGHT_PURCHASES Cwestiynau am werth pryniannau yn yr arolwg

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru (2021), Llywodraeth Cymru

Cywirdeb

Gwall diffyg ymateb

Y cyfyngiad mwyaf ar gywirdeb canlyniadau yw'r gwall diffyg ymateb. Mae’n hysbys bod cyfraddau ymateb ar gyfer arolygon ar-lein yn nodweddiadol isel o gymharu â dulliau eraill, mwy costus, o gasglu data megis dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Ymhellach, mae Arolwg Masnach Cymru yn arolwg gwirfoddol, tra bod arolygon tebyg a gynhelir gan y SYG yn orfodol, gan arwain at gyfraddau ymateb o ryw 60% neu fwy.

Mae diffyg ymateb yn arwain at lai o feintiau sylfaen, felly ni ddarperir dadansoddiadau o amcangyfrifon lefel Cymru oni bai fod meintiau sylfaen yn caniatáu hynny.

Mae'r dull priodoli ar draws y blynyddoedd yn un ffordd o fodelu'r diffyg ymateb i wella cywirdeb yr amcangyfrifon.

Gwall samplu

Mae gwallau samplu yn codi oherwydd bod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar sampl ar hap o'r boblogaeth yn hytrach na'r boblogaeth gyfan. Mae'r canlyniadau a geir ar gyfer unrhyw hapsampl unigol yn debygol o amrywio trwy siawns o'r canlyniadau a fyddai'n cael eu cael pe bai'r boblogaeth gyfan yn cael ei harolygu (h.y. cyfrifiad), a gelwir yr amrywiad hwn yn wall samplu. Yn gyffredinol, po leiaf yw maint y sampl, y mwyaf yw'r gwall samplu posibl.

Mae dyluniad y sampl ar gyfer Arolwg Masnach Cymru yn anelu at leihau hyn trwy ddefnyddio dull cyfrifiad i'r busnesau mwyaf (yn ôl cyflogaeth) a chanolbwyntio'r dyraniad sampl sy'n weddill i'r sectorau diwydiannol sydd â'r trosiant mwyaf.

Bydd y gwall samplu yn cael ei archwilio ymhellach fel rhan o'r rhaglen gwaith gysylltiedig â'r ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad hyn.

Atebion coll

Mae atebion coll yn digwydd am sawl rheswm, gan gynnwys gwrthod ateb cwestiwn penodol neu anallu i’w ateb. Mae llwybro o fewn yr arolwg yn atal ymatebwyr rhag gweld cwestiynau nad ydynt yn berthnasol. Defnyddir priodoli o fewn blynyddoedd i fodelu rhai ymatebion coll.

Mae'r canlyniadau'n cynnwys categori 'heb ei ddyrannu' sy'n ganlyniad i ymatebwyr yn llenwi'r holiadur yn rhannol – er enghraifft, busnes yn darparu gwerth cyfanswm gwerthiant nwyddau i'r DU ond yn methu â darparu dadansoddiad o werthiannau i wledydd ar wahân y DU. Er bod hyn yn cyfyngu ar ddefnyddioldeb rhai canlyniadau, mae deall yr anhawster a gaiff ymatebwyr wrth ateb cwestiynau penodol yn bwysig tra bod gwaith datblygu yn parhau.

Atebion anghywir

Achos posibl o ragfarn yw gwall ymatebwyr wrth ddarparu atebion. Mae gan arolwg ar-lein Arolwg Masnach Cymru sawl gwiriad dilysu ar waith i atal hyn. Mae'r arolwg ar-lein yn caniatáu i wiriadau awtomatig gael eu cynnal wrth i’r ymatebydd lenwi'r holiadur ac i atebion gael eu nodi fel atebion amheus. Mae gwiriadau dilysu yn cynnwys:

  • Gwiriadau rhesymeg sy'n cadarnhau bod dadansoddiadau yn symio i'r cyfansymiau a ddarparwyd.
  • Rhoi crynodeb i ymatebwyr o'r atebion a roddwyd, ar ffurf rhifol ac ysgrifenedig, gan oresgyn dryswch posibl wrth fewnbynnu gwerthoedd mawr.

Pan fydd ymatebion yn methu gwiriadau awtomatig, gofynnir i'r ymatebydd adolygu a chywiro'r ymateb neu gadarnhau ei fod yn gywir (gyda'r opsiwn o roi rheswm).

Mae atebion anghywir hefyd yn cael eu lleihau trwy lwybro ymatebwyr i gwestiynau cymwys yn unig, yn seiliedig ar ymatebion i gwestiynau hidlo.

Dilysiad terfynol

Cynhelir gwiriadau dilysu awtomatig ar bob ymateb i'r arolwg a gyflwynir i dynnu sylw at unrhyw anghysondebau sy'n weddill a fyddai'n annilysu'r ymateb. Adolygir ymatebion y tynnir sylw atynt gan y contractiwr a chaiff data ei ddiwygio os oes angen, a hynny drwy gyfuniad o ymchwil ddesg a ffonio ymatebwyr yn ôl pan gydsyniwyd i hynny.

Mae hefyd yn ofynnol i'r contractiwr gyflawni gwiriadau sicrhau ansawdd eraill ar y data ar ôl i'r gwaith maes ddod i ben. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar y sylwadau a ddarparwyd yn yr arolwg i asesu a oedd unrhyw ymatebwyr wedi tynnu sylw at faterion penodol wrth gwblhau’r arolwg a allai effeithio ar ddibynadwyedd eu hymatebion.

Sicrhau ansawdd

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau sicrhau ansawdd a dadansoddiadau ar y data ymateb a ffeiliau canlyniadau a ddarperir gan y contractiwr. Mae'r holl ystadegau cyhoeddedig yn destun sicrwydd ansawdd yn unol â’r canllawiau ar ystadegau o ansawdd yn y llywodraeth gan Wasanaeth Ystadegau'r Llywodraeth.

Amseroldeb

Daw pob cam o sampl Arolwg Masnach Cymru o ddyfyniad blynyddol o'r Gofrestr Busnes Rhyngadrannol. Mae’r Gofrestr Busnes Rhyngadrannol yn cael ei diweddaru gan ddefnyddio ffynonellau data gweinyddol a seiliedig ar arolygon gydag amrywiaeth o ddyddiadau cyfeirio, sy’n golygu y gallai data busnes fod wedi cael ei ddiweddaru ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad echdynnu. Mae hyn yn golygu nad yw'r data nodweddion busnes a ddefnyddir wrth samplu a phwysoli ar gyfer Arolwg Masnach Cymru ond mor gyfredol â'r fersiwn ddiweddaraf o'r Gofrestr Busnes Rhyngadrannol.

Mae gwaith maes Arolwg Masnach Cymru yn dechrau yn yr hydref, gan gasglu data ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol. Yna caiff y canlyniadau eu dadansoddi a'u cyhoeddi'r flwyddyn ganlynol - er enghraifft, casglwyd data 2018 yn 2019 a chyhoeddwyd y canlyniadau yn 2020. Fodd bynnag, oherwydd problemau a gafwyd gyda chanlyniadau AMC 2020, ni chyhoeddwyd y canfyddiadau ar gyfer y flwyddyn honno ar unwaith. Heb os, cafodd y canlyniadau anghyson ar gyfer 2020 eu heffeithio’n fawr gan effeithiau COVID-19 ar fasnach a chasglu data yn gyffredinol. Arweiniodd hyn at adolygiad o'r fethodoleg a chyflwyniad priodoli ar draws y blynyddoedd ar gyfer gwerthiannau. Mae canlyniadau 2020 wedi’u cyhoeddi yn 2023, ynghyd ag ôl-gyfres ddiwygiedig o ffigurau gwerthiant hyd at 2018.

Hygyrchedd ac eglurdeb

Data

Darperir holl ddata Arolwg Masnach Cymru mewn taenlenni hygyrch fformat agored.

Rheoli datgelu

Rydym yn cymryd gofal i sicrhau nad yw busnesau unigol yn hawdd eu hadnabod o'r canlyniadau cyhoeddedig. Rydym yn dilyn y gofynion ar gyfer cyfrinachedd a mynediad at ddata a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Cyfeirir yr ymatebwyr at Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Masnach Cymru am ragor o wybodaeth am ddiogelwch a chyfrinachedd y data a ddarperir ganddynt.

Gofynion iaith

Cedwir at safonau’r Gymraeg ar gyfer casgliadau ac allbynnau data Arolwg Masnach Cymru. Cynhyrchir ein llythyrau gwahoddiad, holiadur, llinell gymorth ffôn, gwefan, cyhoeddiadau canlyniadau, adroddiadau technegol a setiau data yn Gymraeg ac yn Saesneg. Anelwn at ysgrifennu'n glir (gan ddefnyddio Cymraeg Clir / Saesneg Syml).

Cymaroldeb a chydlyniaeth

Mae cymharu'r canlyniadau a gynhyrchir gan Arolwg Masnach Cymru â ffynonellau data presennol yn elfen allweddol o'n gwaith datblygu.

Mae adroddiadau canlyniadau blynyddol yn cynnwys cymhariaeth fanwl o amcangyfrifon diweddaraf Arolwg Masnach Cymru yn erbyn blynyddoedd blaenorol ac ystadegau amgen a gyhoeddwyd gan CThEF a'r SYG. Mae anghysondebau yn cael eu trafod a chyfyngiadau yn ein hamcangyfrifon yn cael eu hamlygu.

Adborth

Mae gwaith datblygu ar Arolwg Masnach Cymru yn parhau ac mae cynlluniau ar waith i wella amcangyfrifon trwy ddod â data o arolygon eraill i mewn. Rydym yn parhau i geisio adborth ar ein cynlluniau ac ar yr allbynnau a gynhyrchwyd hyd yma. Mae rhanddeiliaid mewnol yn cymryd rhan yn rheolaidd drwy Fwrdd Prosiect TSW sy'n cyfarfod bob chwarter i drafod datblygiad parhaus yr arolwg. Mae adborth a chyfathrebu ehangach bob amser yn cael ei groesawu gan y Tîm Masnach ac mae croeso i unrhyw ddefnyddiwr gysylltu ar unrhyw adeg trwy ein flwch post. Gellir anfon adborth i ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Troednodiadau

[1] Cyfeiriwyd at ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad yn flaenorol fel 'ystadegau arbrofol'.

[2] Nid yw data prisiau cyfredol yn cael eu haddasu i ddileu effeithiau chwyddiant.

[3] Rhestr cynhwysfawr categorïau SITC

[4] Dosbarthiad Diwydiannol Safonol o Weithgareddau Economaidd y DU (SYG)

[5] Arolwg Masnach Cymru 2018: Adroddiad Technegol.

[6] Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys saith busnes a ddywedodd ei bod wedi cymryd dim munud iddynt ei gwblhau. Mae hefyd yn eithrio chwe busnes a ddywedodd fod yr arolwg wedi cymryd 24 awr neu fwy iddynt ei gwblhau.

[7] Lle mae: Baich = [{Nifer yr ymatebwyr x amser cwblhau canolrifol (oriau)} + {Nifer y busnesau a ailgysylltwyd i'w dilysu x Yr amser canolrifol (oriau) a gymerwyd ar gyfer ailgysylltu}] x Cyfradd fesul awr (yn seiliedig ar Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2022, Tabl 14.6A, gan ddefnyddio cyflog canolrifol fesul awr rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion).  Cyfrifiad terfynol: Baich = [(1,264 x 1) + (51 x 0.12)] x 22.04 = £27,993.44.

[8] Nid yw hyn yn rhoi cyfanswm yr ymholiadau gan y gallai ymholiadau lluosog gael eu cynnwys o fewn un e-bost neu alwad ffôn.

[9] Cafodd sectorau eu grwpio i bum categori drwy gydol y broses o brosesu a dadansoddi data. Ar ôl ymgynghori â Llywodraeth Cymru, cytunwyd i grwpio sectorau gan ddefnyddio grwpiau sector safonol a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr, ond cyfunwyd “Gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â'r farchnad” â “Gwasanaethau busnes a gwasanaethau eraill” oherwydd meintiau sylfaen isel.

[10] Gellid ‘mond priodoli ymatebion busneau oddi o flwyddyn dilyniannol flaenorol. Ni all ymatebion 'neidio' ymlaen y flwyddyn h.y. ni ellir cofnodi ymatebion blwyddyn 4 yn seiliedig ar ymatebion blwyddyn 1. Gellid priodoli ymatebion busnes dros nifer o flynyddoedd diwethaf, ond byddai hyn bob amser yn cael ei wneud trwy gyfrifiannu gwerthoedd ymlaen un flwyddyn ar y tro.

[11] Ni ddefnyddiwyd data wedi’u phriodoli i gyfrifo newidiadau canrannol rhwng blynyddoedd o fewn maint a grwpiau sector.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jonathan Burton
Ymchwilydd: Mair Smith
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099