Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r ystadegau hyn?

Arolwg sampl blynyddol yw hwn a gynhelir rhwng mis Mehefin a mis Hydref bob blwyddyn sy’n gofyn i ffermwyr am ddefnydd tir, niferoedd da byw a phobl sy’n gweithio ar y fferm. Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf ym 1867 a pharhaodd yn gyfrifiad o bob fferm tan ganol y 1990au. Yn wir, mae rhai’n dal i gyfeirio at yr arolwg (yn anghywir) fel y Cyfrifiad Mehefin neu Amaethyddol.

Arolwg Mehefin yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am dir amaethyddol, da byw a gweithwyr fferm sy’n cwmpasu pob fferm hysbys. Mae hyn yn wahanol i systemau gweinyddol, megis y cymorthdaliadau amaethyddol, sy’n rhoi gwybodaeth bendant am ystod gyfyngedig o ffermydd.

Fel arfer, anfonir yr arolwg i tua 11,000 o ffermydd bob blwyddyn ond mewn rhai blynyddoedd mae angen sampl mwy. Dyma pryd mae angen gwybodaeth fanylach am bynciau penodol (e.e. llety anifeiliaid) a bod angen sicrhau bod hyn a hyn o ffermydd yn cael eu cynnwys.

Fel rheol, cyhoeddir canlyniadau’r arolwg ym mis Tachwedd yn dilyn yr arolwg. Maent hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r DU gyfan sy’n cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Dilynir hyn gan ymarfer priodoli sy’n cynhyrchu canlyniadau priodoledig ar gyfer pob fferm unigol a oedd naill ai heb gael ei chynnwys yn y sampl neu wedi cael ffurflen ond heb ymateb. Yna, mae’r broses briodoli yn caniatáu adeiladu set ddata ar lefel fferm unigol. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf posibl ar gyfer dadansoddi’r data. Mae hyn hefyd yn sail i’n cyhoeddiadau ystadegol eraill sy’n seiliedig ar yr arolwg.

Ystadegau ardaloedd bach amaethyddol

Ffeithiau a ffigurau ffermio

StatsCymru

Felly, mae’r cyfaddawd allweddol rhwng lefel y manylder a geisir a chadernid yr amcangyfrif sy’n deillio o hynny. Trafodir hyn ymhellach yn Data Coll yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn. Nid yw’r data priodoledig yn honni bod yn gywir ar lefel fferm unigol. Bydd gan bob fferm ei nodweddion ei hun na fyddant yn cael eu cynrychioli yn y broses briodoli. Mae’r gwahaniaethau hyn yn mynd yn llai amlwg wrth i ddata o fwy o ffermydd gael eu cydgrynhoi.

Defnyddwyr canlyniadau’r arolwg

Defnyddir canlyniadau’r arolwg gan amrywiaeth o ddefnyddwyr. Gellir dosbarthu’r prif ddefnyddwyr sy’n hysbys i ni i’r grwpiau canlynol.

Meysydd eraill yn Llywodraeth Cymru

Defnyddir amcangyfrifon yr arolwg yn eang o fewn Llywodraeth Cymru o’r prif gyhoeddiadau rheolaidd ac o ddadansoddiadau ad hoc i fynd i’r afael â chwestiynau polisi penodol. Mae’r arolwg yn cyfrannu mewn sawl ffordd gan gynnwys:

  • fel gwybodaeth sylfaenol sy’n dangos beth yw’r sefyllfa yn y sector ar hyn o bryd a sut mae’n newid;
  • helpu i ddatblygu polisi newydd drwy ddangos graddfa debygol y problemau a’u heffaith
  • helpu i fonitro’r polisi presennol drwy ddangos sut mae pethau’n newid dros amser
  • helpu i dynnu samplau cynrychioliadol o ffermydd yng Nghymru i gynorthwyo gyda gwerthuso polisïau sy’n bodoli eisoes, yn enwedig wrth geisio cyrraedd ffermydd nad ydynt yn rhan o gynlluniau grant penodol
  • cysylltu â ffynonellau data eraill i roi darlun mor llawn â phosibl o amaethyddiaeth Cymru. Er enghraifft, cysylltu â gwybodaeth am daliadau gan Taliadau Gwledig Cymru

Defnyddir data ym maes iechyd anifeiliaid hefyd wrth asesu effeithiau posibl achosion amrywiol o glefydau neu gyfyngu ar ledaeniad clefydau.

Defnyddir y data yn helaeth gan economegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn eu gwaith yn asesu a dadansoddi’r economi amaethyddol yng Nghymru (e.e. drwy’r Arolwg Busnesau Fferm).

Cyrff eraill y Llywodraeth yng Nghymru

Llywodraeth leol

Mae nifer y ffermydd yn ffactor a ddefnyddir yn fformiwla dosbarthu refeniw Llywodraeth Leol. Helpu awdurdodau i ddeall natur ffermio yn eu hardal.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Helpu i gynllunio digwyddiadau sy’n hyrwyddo gweithio’n ddiogel ar ffermydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Helpu i ddeall dosbarthiad ffynonellau llygredd gwasgaredig o amaethyddiaeth a sut y gallai hyn effeithio ar iechyd dalgylchoedd afonydd amrywiol.

Parciau Cenedlaethol

Cefndir cyffredinol ar weithgarwch o fewn y Parciau Cenedlaethol.

Llywodraeth y tu allan i Gymru

Darperir canlyniadau’r arolwg wrth i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) lunio canlyniadau’r DU. Defnyddir data’r arolwg o bryd i’w gilydd mewn gwahanol brosiectau ac astudiaethau i agweddau amrywiol ar amaethyddiaeth. Comisiynir y rhain gan DEFRA ar lefel y DU, Prydain, neu Gymru a Lloegr.

Mae angen y data hyn ar sefydliadau rhyngwladol (fel y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Masnach y Byd) er mwyn asesu hyd a lled cynhyrchiant bwyd yn fyd-eang. Yn hanesyddol, 3 darparwyd ystadegau manwl hefyd i Eurostat ar gyfer dadansoddi ystadegau amaethyddol ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

Cyrff y sector amaethyddo

Dyma gyrff allweddol y sector sy’n defnyddio canlyniadau’r arolwg yn rheolaidd:

Undebau ffermio

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (Cymru) ac Undeb Amaethwyr Cymru yn bennaf. Yn gyffredinol, mae’r ystadegau’n eu galluogi i gynnal gwybodaeth gyffredinol am sefyllfa bresennol y sector amaethyddol yn ogystal â bod yn ymwybodol o’r tueddiadau diweddaraf.

Hybu Cig Cymru

Ei rôl yw monitro sefyllfa’r diwydiant cig coch yng Nghymru. Mae niferoedd da byw yr arolwg yn darparu un o nifer o fewnbynnau sydd eu hangen arno er mwyn cyflawni hyn.

Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol (ADAS)

Byddant yn gwneud gwaith ymgynghori, ymchwil a chynghori ar bolisi ym meysydd yr amgylchedd a datblygu gwledig. Mae’n gwmni annibynnol ond fe’i comisiynir yn aml gan Lywodraeth Cymru ac adrannau eraill y llywodraeth. Mae data arolygon amaethyddol yn aml yn fewnbwn sydd ei angen i’w alluogi i wneud hyn.

Eraill

Mae angen data ar gyrff eraill yn y sector sy’n fwy arbenigol ond mae hyn yn digwydd yn llai aml.

Y cyfryngau

Darperir datganiadau cyntaf o ganlyniadau’r arolwg i gysylltiadau yn y wasg ffermio. Nid oes cymaint o ddiddordeb o du’r cyfryngau cyffredinol, ond yn y gorffennol maent wedi cael sylw gan y teledu, radio a’r cyfryngau ysgrifenedig.

Ymchwilwyr

Yn aml academyddion a/neu arbenigwyr sy’n canolbwyntio ar bwnc penodol. Mewn llawer o achosion, cyfunir data’r arolwg amaethyddol â data o ffynonellau eraill at ddibenion modelu. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys ystadegau ar nifer y gwartheg ar gyfer astudio nwyon tŷ gwydr, a manylion am dyfu cnydau âr wrth asesu effaith defnyddio plaladdwyr.

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA) gynt. Darperir data manwl o’r arolwg i’r corff hwn er mwyn gwneud gwaith modelu os bydd achos difrifol o glefyd neu argyfwng arall.

Ymholiadau cyffredinol

Mae pob math o ymholiadau wedi dod i law yn y gorffennol. Mae’r rhain yn tueddu i fod yn gyfuniad o alwadau ffôn a negeseuon e-bost i’n mewnflwch cyffredinol (ystadegau.amaeth@llyw.cymru). Mae’r categori hwn yn cynnwys ffermwyr unigol, plant ysgol, myfyrwyr ôl-raddedig ac aelodau eraill o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn amaethyddiaeth neu yng Nghymru yn gyffredinol.

Y Cylch Prosesu Data

Samplu

Mae’r samplu ar gyfer yr arolwg yn seiliedig ar fynd ati’n gyntaf i haenu’r boblogaeth (pob fferm weithredol) yn seiliedig ar faint y fferm. Yn y cyd-destun hwn mae maint yn golygu maint economaidd yn hytrach nag arwynebedd daearyddol.

Mesurir maint ffermydd gan yr Uned Maint Ewropeaidd (ESU). Mae’n fesur o drosiant economaidd y daliad. Bydd gan bob daliad gweithredol ddata sy’n gysylltiedig ag ef ar gyfer defnydd tir a niferoedd da byw ac felly ESU. Mae defnyddio ESU fel mesur o faint ffermydd yn un hanesyddol a’r mesur presennol o faint ffermydd yw Allbwn Safonol (mesur o elw). Rydym wrthi’n adolygu methodoleg yr arolwg gyda’r bwriad o’i seilio ar y mesur hwn yn lle. Fodd bynnag, mae’r egwyddorion a amlinellir isod yn berthnasol o hyd.

Cyfrifir yr ESU ar gyfer pob daliad drwy gymhwyso cyfernod i bob newidyn yn nata’r daliad hwnnw, a’r canlyniad yw’r cyfernod wedi’i luosi â maint y newidyn hwnnw sy’n bresennol. Mewn geiriau eraill, swm wedi’i bwysoli o nifer y da byw ac arwynebeddau cnydau.

Er mwyn helpu i ddehongli’r mesur hwn, mae’r tabl canlynol yn dangos faint o anifeiliaid neu faint o dir o ddefnydd penodol sydd ei angen i roi gwerth un Uned Maint Ewropeaidd. Dyma ddetholiad byr o rai o’r prif newidynnau, a fwriedir fel enghraifft.

Eitem Angen ar gyfer 1 ESU Measur
Defaid: mamogiaid magu 29.3 nifer
Gwartheg: buchod magu llaeth 1.0 nifer
Gwartheg: buchod magu eidion 3.1 nifer
Moch: hychod magu 2.8 nifer
Moch: eraill 63.2 nifer
Ieir Dodwy 271.3 nifer
Ieir bwyta (brwyliaid) 563.4 nifer
Gwenith 1.4 hectar
Haidd 1.6 hectar
Ceirch 1.2 hectar
Tatws 0.3 hectar

Yna caiff daliadau eu grwpio’n 6 grŵp maint (a ddiffinnir isod) a’u samplu ar y cyfraddau canlynol:

Grŵp maint Meini prawf (mewn ESU) Cyfradd samplu
Daliadau newydd am 100%
Dim ESU 0 0%
Bach iawn >0 ac<8 33%
Bach =>8 ac<40 40%
Canolig =>40 ac<100 60%
Mawr =>100 ac<200 100%
Mawr iawn =>200 100%

Daliadau newydd yw’r rhai sydd wedi’u cofrestru yn ystod y 12 mis blaenorol yn bennaf. Gan nad oes dim yn hysbys am y daliadau hyn, maent i gyd yn cael eu cynnwys fel rhan o’r sampl.

Mae’r fframwaith hwn yn eithrio daliadau â dim ESU o’r sampl gan fod dim ESU, drwy ddiffiniad, yn golygu nad oes unrhyw weithgarwch amaethyddol ar y daliad (ac felly fawr ddim diben anfon ffurflen).

Mae nifer y daliadau sy’n arbenigo mewn moch a/neu ddofednod yn gymharol fach (tua 250 o unedau mwy) ac felly gellir eu targedu gyda ffurflen ar wahân sy’n canolbwyntio ar y gweithgareddau hyn. Mae’r daliadau hyn wedi’u heithrio o’r brif ffrâm samplu a nodir uchod. Cesglir y data drwy arolwg papur yn bennaf. Mae nifer y gwartheg yn dod o’r System Olrhain Gwartheg ers 2007. Rydym yn parhau i archwilio meysydd eraill lle gellir defnyddio data gweinyddol er mwyn lleihau’r baich ar ffermwyr.

Cyflwynwyd ffurflenni ar-lein ar gyfer arolwg 2020 a chafwyd dechrau addawol gydag 1 o bob 5 ffurflen yn cael eu cyflwyno ar-lein. Ceir rhagor o wybodaeth am y cyflwyniad hwn yn adroddiad canlyniadau arolwg 2020 ac mewn Blog Digidol a Data ar y pwnc.

Dilysu a gwirio

Caiff yr holl ffurflenni arolwg eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru lle cânt eu gwirio am wallau sylfaenol (e.e. arwynebeddau’n cael eu rhoi mewn erwau ac nid hectarau) a’u cywiro lle bo angen. Yna cânt eu hanfon i gipio data ac yna caiff y data hwn eu llwytho ar gyfer gwiriadau dilysu pellach.

Caiff unrhyw ddata sy’n methu unrhyw un o’r rheolau dilysu eu gwirio. Ar ôl gwirio, gellir cywiro’r data neu efallai eu bod yn gywir (ond y tu allan i baramedrau’r hyn a fyddai i’w ddisgwyl fel arfer). Yn yr achos cyntaf, y gobaith yw y bydd y cywiro yn golygu bod y data diwygiedig yn cael eu dilysu bellach. Yn yr ail achos, nodir bod gwerth(oedd) y data yn gywir ac yn dderbyniol.

Ar ddiwedd yr arolwg bydd rhywfaint o ddata â gwallau dilysu yn weddill o hyd. Fel arfer, bydd y rhain lle na fu modd cysylltu â’r ffermwr i ddatrys y mater. Mae’r data hyn wedi’u heithrio o’r broses amcangyfrif.

Amcangyfrif

Gellir cymharu’r data a gymerwyd o ffurflenni’r arolwg â data a oedd yn hysbys o’r blaen ar gyfer yr un fferm. Gellir crynhoi data o ffermydd tebyg i gyfrifo tueddiadau a gellir ymestyn y tueddiadau hyn i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y boblogaeth, proses a elwir yn codi.

Fodd bynnag, nid yw’r dull hwn yn addas ar gyfer rhai cwestiynau ar y ffurflen. Mae’r rhain mewn meysydd lle mae swm cyfyngedig o ddata sampl a/neu ddata sylfaenol. Yn yr achosion hyn, gall nifer fach iawn o “allanolynnau” (arsylwadau sy’n wahanol iawn i’w gwerthoedd data sylfaenol) gael effaith bellgyrhaeddol ar yr amcangyfrif. (Byddai’r rhain yn tueddu i gael eu canslo neu o leiaf yn cael dylanwad llawer llai lle’r oedd symiau mwy o ddata ar gael).

Felly rhennir y newidynnau yn ddau grŵp. Y rhai lle mae digon o ddata i allu defnyddio’r dull codi gwreiddiol a’r rhai lle nad oes digon o ddata. Dangosir y grwpiau hyn isod – mae’r rhan fwyaf wedi’u rhestru yn ôl adran yn hytrach na chwestiwn unigol. Nid oes trothwy rhifiadol o ran nifer yr arsylwadau sydd eu hangen i ddisgyn i un grŵp neu’r llall. Mae’r data yn rhannu’n daclus i feysydd lle mae cannoedd neu filoedd o arsylwadau a meysydd lle nad oes llawer o gwbl (llai na 100 yn y rhan fwyaf o achosion a llai na 50).

Adrannau/cwestiynau sy’n defnyddio dull codi (gyda llawer o arsylwadau) Adrannau/cwestiynau sy’n defnyddio arsylwadau diweddaraf (heb lawer o arsylwadau)
Cnydau âr (13 cwestiwn) Garddwriaeth (6 chwestiwn)
Glaswellt a thir arall nad yw’n dir âr (5 cwestiwn) Moch (12 cwestiwn)
Defaid (6 chwestiwn) Dofednod (8 cwestiwn)
Ceffylau (2 gwestiwn) Geifr (3 chwestiwn)

Y broses symlaf yw’r un sy’n defnyddio’r arsylwadau diweddaraf felly mae’r dull hwn yn cael ei ddisgrifio’n gyntaf. Ar gyfer pob cwestiwn unigol, cyfrifir dwy restr o ddaliadau. Pob daliad yn y flwyddyn gyfredol sydd ag unrhyw werth ar gyfer y newidyn hwnnw a rhestr gyfatebol o’r flwyddyn flaenorol. Yna caiff y rhestri hyn eu cyfuno. Caiff unrhyw ddaliadau nad ydynt yn weithredol mwyach eu dileu. Yna caiff pob daliad werth ar gyfer y newidyn hwnnw yn unol â’r broses ganlynol:

  • cymerir y data a roddwyd yn y flwyddyn gyfredol lle mae ar gael
  • os nad oes data ar gyfer y flwyddyn gyfredol yna cymerir y gwerth o’r flwyddyn flaenoro

Sylwer y bydd daliadau â gwerth (heblaw dim) yn y flwyddyn flaenorol sy’n dychwelyd sero yn y flwyddyn gyfredol yn cael y gwerth sero hwnnw. Cyfrifir yr amcangyfrif terfynol drwy adio pob daliad. Noder na ddefnyddir unrhyw duedd (yn wahanol i’r dull codi) oherwydd bod prinder data yn ei gwneud yn amhosibl cyfrifo un synhwyrol.

Cyfrifir yr amcangyfrifon a gynhyrchir gan y dull codi fel a ganlyn. Yn gyntaf, mae pob daliad sydd â gwallau dilysu sy’n weddill yn cael eu heithrio o’r broses godi. Mae’r broses godi’n cael ei chyflawni ar gyfer un cwestiwn ar y tro. Dylid nodi mai dim ond daliadau â gwallau dilysu yn y maes penodol hwnnw sy’n cael ei godi sy’n cael eu heithrio. Hynny yw, er enghraifft, pe bai amcangyfrif ar gyfer defaid yn cael ei godi, byddai daliadau â gwallau dilysu ar gyfer cnydau yn cael eu cynnwys yn y broses.

Yn yr un modd â’r gwallau dilysu, mae daliadau y credir eu bod yn allanolynnau yn cael eu heithrio o’r broses godi. Fel y soniwyd uchod, eithriadau yw daliadau lle gallai’r newid rhwng y gwerth sylfaenol a’r gwerth a arsylwyd gael effaith anghymesur ar yr amcangyfrif a godir. Unwaith eto, dim ond data sy’n berthnasol i’r cwestiwn sy’n cael ei amcangyfrif sy’n cael eu heithrio. Gan fod y broses hon yn seiliedig ar nifer gymharol fawr o arsylwadau, mae effaith allanolynnau yn lleihau’n fawr. Mae’r allanolynnau hynny a nodir yn perthyn i ddau gategori.

  1. Y daliadau hynny lle mae’r data sylfaenol yn un o’r gwerthoedd mwyaf ar gyfer y newidyn hwnnw ac mae’r gwerth a welwyd yn sero neu’n gyfran fach iawn o’r gwerth sylfaenol (neu i’r gwrthwyneb).
  2. Daliadau yn y grwpiau maint mwy sy’n dangos gwahaniaethau sylweddol iawn rhwng y data sylfaenol a’r gwerthoedd a arsylwyd. Mae’r grwpiau maint mwy yn cael mwy o sylw gan eu bod yn cynnwys llawer llai o ddaliadau ac mae elfen o’r codi yn cynnwys codi yn ôl haenau unigol (gweler isod).

Fel y soniwyd eisoes, mae’r codi’n cael ei wneud ar gyfer pob eitem unigol yn yr arolwg. Ar ôl dileu gwallau dilysu ac allanolynnau, mae’r broses godi yn cynnwys cynhyrchu dau amcangyfrif drwy ddulliau amgen.

Llunnir yr amcangyfrif cyntaf trwy rannu daliadau yn ôl eu grŵp neu haen maint a chodi amcangyfrif unigol ar gyfer pob haen. Yna caiff yr amcangyfrifon hyn eu crynhoi i gynhyrchu’r amcangyfrif cyffredinol ar gyfer yr eitem. Mae’r ail amcangyfrif yn codi un amcangyfrif ar gyfer yr eitem (waeth beth fo’r haen).

Yna caiff y ddau amcangyfrif, ynghyd â’u gwallau safonol cysylltiedig, eu cymharu a dewisir yr un gorau (yr un â’r lleiaf o wallau fel rheol). Yna ychwanegir y data sydd heb eu cynnwys yn y codi (gwallau dilysu a allanolynnau) at yr amcangyfrif a godwyd a ddewiswyd i gynhyrchu’r amcangyfrif terfynol.

Priodoli

Mae’r broses amcangyfrif yn cynhyrchu canlyniadau ar gyfer Cymru gyfan a chyhoeddir y rhain cyn gynted â phosibl, ganol mis Tachwedd fel arfer. Fodd bynnag, mae galw mawr am ddadansoddiadau manylach amrywiol o’r arolwg (a restrir yn adran Defnyddwyr yr adroddiad hwn). Er mwyn darparu’r rhain, mae angen i ni gynhyrchu gwerthoedd priodoledig ar lefel daliadau unigol ar gyfer y ffermydd hynny sy’n dal i fod yn weithredol ond nad oeddent wedi’u samplu neu a oedd heb ymateb yn yr arolwg diweddaraf. (DS nid yw hyn yn berthnasol i wartheg gan fod data’r System Olrhain Gwartheg yn cwmpasu’r boblogaeth gyfan). Ar gyfer y daliadau hyn, mae’r duedd a welwyd ar y daliadau hynny ag adroddiadau yn y flwyddyn gyfredol yn cael ei chymhwyso i’r gwerth sylfaenol ar gyfer pob cwestiwn yn ei dro. Felly, o gyfuno’r data hyn â’r gwerthoedd gwirioneddol a arsylwyd, y swm ar draws pob daliad fydd y cyfanswm ar gyfer Cymru.

Mae hyn wedyn yn darparu set ddata sy’n cynnig yr hyblygrwydd mwyaf posibl ar gyfer unrhyw ddadansoddiadau trawsbynciol. Fodd bynnag, rhaid cymryd gofal gan na fwriedir i’r broses gynhyrchu gwerth priodoledig cywir ar lefel daliadau unigol. Ni fydd newidiadau ar ffermydd unigol yn unffurf. Felly dylai unrhyw ddadansoddiad a wneir fod ar lefel gydgasglu addas fel y bydd unrhyw ganlyniad a geir yn ddigon cadarn.

Gwybodaeth o ansawdd

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn gofyn am ryddhau data ar lefel o gydgasglu sy’n ddigonol i sicrhau bod y canlyniadau’n ddigon cadarn ac felly’n 'addas i’r diben'. Gan fod y canlyniadau’n deillio o arolwg sampl, maent yn destun gwahanol ffynonellau o ansicrwydd. Y ffynonellau allweddol o ansicrwydd yw:

  • data coll
  • cofrestr o ffermydd
  • lleoliad daearyddol ffermydd

Data coll

Arolwg sampl o ffermydd yw Arolwg Amaethyddol Mehefin. Nid yw pob fferm yn cael ei dewis ar gyfer y sampl. Nid yw pob fferm a ddewisir yn llenwi’r holiadur. Amcangyfrifir cyfansymiau cyffredinol Cymru o ganlyniadau’r arolwg drwy dybio bod y cynnydd o’r llynedd ar gyfer y boblogaeth gyfan yr un fath â’r hyn a welwn yn y sampl. O gofio ein bod wedi cymryd sampl ar hap o ffermydd, cefnogir y dybiaeth hon gan ddamcaniaeth ystadegol. Dengys dadansoddiad o’r canlyniadau gwirioneddol fod yr amcangyfrifon hyn yn ddigon cadarn ar lefel gyfanredol hefyd.

Bydd yr amcangyfrifon hyn ar eu gorau pan fydd llawer o ffermydd o faint tebyg sydd, yn fras, yn dilyn yr un patrymau. Mae hyn yn wir am ffermydd gwartheg a defaid yng Nghymru fel rheol. Mae’r amcangyfrifon yn fwy trafferthus pan fydd gweithgaredd dan ddylanwad nifer fach o ffermydd mawr neu pan fydd cryn anwadalrwydd. Byddai cynhyrchwyr ieir arbenigol yn enghraifft o’r cyntaf tra byddai ffermydd bach iawn neu anfasnachol yn enghraifft o’r olaf.

Ar gyfer daliadau na chawsant eu samplu neu a oedd heb ymateb, rydym yn ceisio priodoli ar gyfer y gwerthoedd coll hyn. Un o gyfyngiadau’r fethodoleg hon yw’r dybiaeth y bydd gan fferm briodoledig yr un set o weithgareddau amaethyddol ag a oedd ganddi yn y flwyddyn sylfaenol. Ar gyfer y daliad unigol ni ellir newid y mathau o gnydau a dyfir na’r da byw a gedwir, er y bydd yr arwynebeddau a’r niferoedd yn newid.

Mae’n amlwg nad yw’r canlyniadau priodoledig hyn ar lefel fferm yn arbennig o gywir ar gyfer ffermydd unigol. Maent yn ddefnyddiol drwy fod yn floc adeiladu hyblyg i adeiladu ystod eang iawn o amcangyfrifon cyfanredol. Daw cywirdeb yr amcangyfrifon cyfanredol hyn o gyfuno nifer fawr o ffermydd unigol. Dengys theori ystadegol sut mae’r broses gydgasglu hon yn arwain at amcangyfrifon mwy cywir.

Cofrestr o ffermydd

Nid oes cofrestr orfodol o ffermydd yn y DU. Mae natur wirfoddol y gofrestr yn golygu y bydd problemau bob amser ynghylch ffermydd coll (eithriadau anghywir) a ffermydd sydd wedi rhoi’r gorau i weithredu ond sy’n dal i fod ar y gofrestr (cofnodion anghywir). Yn anad dim, bydd problemau o ran pa mor gyflym rydym yn cael gwybod am newidiadau.

Mae dwy brif ffynhonnell wybodaeth arferol ar gyfer y gofrestr

  1. Cysylltiadau â systemau gweinyddol. Mae’r gofrestr yn cael ei diweddaru gyda gwybodaeth o wahanol systemau gweinyddol. Y prif ffynonellau yw’r system talu cymorthdaliadau a’r gofrestr orfodol o geidwaid gwartheg (BCMS). Daw data o bryd i’w gilydd o systemau gweinyddol eraill.
  2. Gohebiaeth drwy gynnal yr arolygon amaethyddol amrywiol. Mae hyn yn rhoi enw a chyfeiriadau wedi’u diweddaru ynghyd â nifer y ffurflenni sy’n cael eu dychwelyd heb gyrraedd pen eu taith.

Mae nifer o resymau pam y byddai angen cofrestru fferm. Defnyddir y cod cofrestru (rhif CPH) ar gyfer olrhain symudiadau anifeiliaid a phan gaiff anifeiliaid eu gwerthu neu eu lladd. Mae hyn yn golygu bod gan ffermydd sydd am werthu eu hanifeiliaid gymhelliant cryf i fod wedi eu cofrestru. Yng Nghymru mae ffermydd heb dda byw yn brin, er eu bod yn bodoli. Mae gan ffermydd lle cedwir anifeiliaid am resymau anfasnachol lai o gymhelliant i gofrestru.

Prin yw’r cymhelliant i ffermwr ddatgofrestru pan fydd fferm yn rhoi’r gorau i weithredu. Mae’r achosion hyn o ffermydd nad ydynt yn gweithredu mwyach yn cael eu canfod mewn sawl ffordd drwy’r Arolwg a gwahanol systemau gweinyddol. Fodd bynnag, disgwyliwn fod hyn yn llai gwir ar gyfer ffermydd newydd. Goblygiad hyn yw y byddwn yn parhau i amcangyfrif tir ar gyfer y ffermydd caeedig tra bod y tir wedi’i werthu neu ei rentu allan mewn gwirionedd, gan arwain at gyfrif dwbl.

O’r ffynonellau hyn, mae’n amlwg y bydd gwybodaeth y gofrestr ar ei gorau pan fyddwn yn cysylltu’n rheolaidd â’r ffermydd. Bydd y wybodaeth ar ei gorau ar gyfer ffermydd sy’n rhan o’r system cymhorthdal amaethyddol oherwydd bod ganddynt y rheswm cryfaf i fod wedi eu cofrestru. Yng Nghymru mae’r rhan fwyaf o ffermydd yn hawlwyr.

Ar gyfer daliadau y tu allan i’r system gymorthdaliadau mae pedwar math allweddol o ddaliad y gwyddom fod diffyg gwybodaeth amdanynt.

  1. Cynhyrchwyr dofednod arbenigol.
  2. Cynhyrchwyr moch arbenigol.
  3. Garddwriaethwyr arbenigol
  4. Y daliadau lleiaf oll gan gynnwys rhai anfasnachol.

Mae’r cynhyrchwyr arbenigol yn bryder penodol gan mai ychydig o’r rhain sydd yng Nghymru o hyd ac mae’r sectorau hyn dan ddylanwad nifer fach o ffermydd. Mae’r mwyaf eithafol ar gyfer cynhyrchwyr ieir lle mae mwy na 90% o’r adar ar lai nag 1% o’r ffermydd sydd ag ieir.

Nid yw’r ffermydd lleiaf yn gwneud cyfraniad sylweddol at y rhan fwyaf o newidynnau amaethyddol. Fel arfer, bydd gan y daliadau hyn lai o lawer nag 1% o gyfanswm Cymru. Sylwer bod y ffermydd lleiaf oll yn cyfrannu cyfran sylweddol o gyfanswm nifer y ceffylau yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae nifer fawr o’r ffermydd bach iawn hyn. Gall hyn fod yn bwysig os mai’r hyn rydym am ei wybod yw pob daliad sydd â gweithgaredd penodol, er enghraifft ceidwaid da byw ar adeg argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau.

Lleoliad daearyddol ffermydd

Mae Arolwg Amaethyddol Cymru yn casglu gwybodaeth ar lefel ffermydd unigol. Mae’r ffermydd hyn yn gasgliadau o dir sy’n cael eu ffermio gyda’i gilydd fel uned. Nid ydynt o reidrwydd yn gaeau sy’n ffinio. Gall y caeau ar fferm fod wedi’u gwasgaru dros ardal eang. Felly, er y byddwn yn gwybod nifer yr anifeiliaid ar fferm, ni wyddom ble mae’r anifeiliaid yn pori. Yn yr un modd, er ein bod yn gwybod cyfanswm arwynebedd y cnydau, ni wyddom ble mae’r cnydau’n cael eu tyfu.

Mae’n bosibl amcangyfrif lleoliad cyffredinol fferm. Gall yr amcangyfrifon hyn ddefnyddio ffiniau caeau digidol lle mae’r rhain ar gael drwy’r system gymorthdaliadau neu wybodaeth am gyfeiriadau fel arall. Yna gallwn lunio amcangyfrifon daearyddol drwy dybio bod yr holl weithgarwch ar fferm yn digwydd yn y lleoliad amcangyfrifedig hwn. Yn amlwg, amcangyfrif yw hwn a fersiwn o realiti sydd wedi’i symleiddio’n fawr.

Mae cywirdeb yr amcangyfrifon daearyddol yn dibynnu’n bennaf ar ddefnyddio ardaloedd sy’n cynnwys nifer digon mawr o ffermydd. Gyda nifer fawr o ffermydd bydd y gwall net cyffredinol yn gostwng gan fod cofnod anghywir ar un fferm yn cael ei wrthbwyso gan eithriad anghywir ar un arall. Fodd bynnag, ar gyfer lleoliad penodol iawn, gyda niferoedd bach o ffermydd, rhaid i lefel y gwall oherwydd y problemau o ran lleoliad fod yn fwy arwyddocaol.

Cryfderau a Gwendidau

Cryfderau

Yr arolwg yw’r unig ffynhonnell wybodaeth sy’n cwmpasu pob math o ffermio yng Nghymru. Mae’r data a gesglir gan Taliadau Gwledig Cymru (RPW) er mwyn gweinyddu eu cynlluniau talu yn fwy helaeth mewn rhai meysydd (e.e. defnydd tir) ond mae’n destun nifer o gyfyngiadau.

  • Dim ond gwybodaeth ar gyfer hawlwyr sydd gan RPW. Byddai hyn yn cwmpasu tua 16,000 o ffermydd yng Nghymru. Mae’r gofrestr ffermio sy’n sail i’r arolwg yn cynnwys tua 24,000 o ffermydd.
  • Ni fydd pob math o fferm yn hawlio taliadau. Mae daliadau garddwriaeth, moch a dofednod arbenigol i gyd yn enghreifftiau lle mae hyn yn wir.
  • Gall y ffigurau da byw a gesglir gan RPW fod yn gyfyngedig mewn rhai achosion. Er enghraifft, dim ond y ffaith ei fod yn cadw dros 500 o famogiaid y byddai’n rhaid i ffermwyr ei nodi ar RPW. Mae’r arolwg yn casglu niferoedd gwirioneddol sy’n golygu bod modd cyfrifo tueddiadau mwy cywir.
  • Yr arolwg yw’r unig ffynhonnell wybodaeth am bobl sy’n gweithio ar y fferm.

Mae’r arolwg wedi’i gynnal yn flynyddol ers 1867. Mae hyn yn darparu cyfres amser ar gyfer rhai o’r newidynnau allweddol sy’n dyddio’n ôl 150 a mwy o flynyddoedd. Yn aml, gall y cyd-destun hanesyddol hwn fod yn bwysig wrth edrych ar niferoedd cyfredol. Er enghraifft, dim ond degfed o’r ffigur ydoedd 50 mlynedd yn ôl yw nifer y moch yng Nghymru heddiw. Mae’r gyfres amser hanesyddol hon wedi’i chynnwys yn y data sy’n cyd-fynd â chanlyniadau’r arolwg.

Mae arolwg cyfatebol yn cael ei gynnal yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r gwahaniaethau daearyddol (ee ansawdd tir, hinsawdd) rhwng gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig yn golygu bod arferion ffermio yn amrywio mewn gwahanol rannau o’r wlad. Felly, er bod yr arolwg yn amrywio rhywfaint o ran manylion yr hyn a gesglir ym mhob gwlad, mae’n caniatáu cymharu arferion ffermio (cyfredol a hanesyddol) rhwng gwahanol rannau o’r DU.

Gwendidau

Fel y soniwyd yn yr adran data coll, amcangyfrifon yn seiliedig ar yr ymatebion a gafwyd yw canlyniadau’r arolwg. Dywed theori ystadegol wrthym mai’r po fwyaf o ymatebion a dderbynnir, po fwyaf cadarn fydd yr amcangyfrif (hy po leiaf fydd y tebygolrwydd o wall).

Magu gwartheg a defaid yw prif sectorau ffermio Cymru. Y prif reswm am hyn yw bod daearyddiaeth Cymru yn anaddas iawn ar gyfer ffermio âr. Felly bydd gan amcangyfrifon ar gyfer y sectorau da byw hyn debygolrwydd llawer is o wall na sectorau ffermio eraill sy’n llai cyffredin yng Nghymru.

Fel y gwelwyd gydag arolygon eraill y llywodraeth, mae’r arolwg hwn wedi dioddef o gyfradd ymateb sy’n lleihau dros nifer o flynyddoedd. Yn ogystal, mae eisoes yn ofynnol i ffermwyr gwblhau gwaith papur manwl at ddibenion taliadau/cymhorthdal ac iechyd anifeiliaid, a gallai hyn gael effaith andwyol ar y gyfradd ymateb ar gyfer arolwg ystadegol.

Mae dulliau amrywiol wedi’u rhoi ar waith i geisio mynd i’r afael â’r broblem hon. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • adolygu cynnwys a chynllun y ffurflen i’w gwneud yn haws ei deall
  • darparu opsiwn ar-lein ar gyfer llenwi’r ffurflen
  • rhoi cyhoeddusrwydd i bwysigrwydd yr arolwg drwy’r wasg ffermio
  • postio cardiau atgoffa i’r rhai sydd heb ymateb
  • cysylltu â ffermwyr yn uniongyrchol drwy gyfleuster Neges Ddarlledu RPW

Newidiadau i’r arolwg

O bryd i’w gilydd, mae manylion sut y cynhelir yr arolwg yn newid. Mae’r rheswm dros y newidiadau hyn yn ddeublyg.

Newidiadau wedi’u cynllunio. Mae’r rhain bron bob amser yn newidiadau i’r cwestiynau a ddefnyddir ar gyfer yr arolwg. Mae enghreifftiau’n cynnwys ceisio symleiddio’r cwestiynau sy’n ymwneud â chnydau âr a’r cwestiynau am bobl sy’n gweithio ar y fferm. Gwneir cyn lleied â phosibl o newidiadau o’r fath gan ei fod yn osgoi unrhyw amhariad ar y data cyfres amser wrth gymharu canlyniadau blynyddoedd gwahanol. Mae gwneud y newidiadau hyn yn gallu arwain at ansicrwydd ynghylch sut y caiff data eu hadrodd hefyd. Os gofynnir yr un cwestiynau i ffermwyr bob blwyddyn, gallwn fod yn ffyddiog bod y niferoedd y maent yn eu cofnodi yn cael eu gwneud ar yr un sail.

Newidiadau heb eu cynllunio. O bryd i’w gilydd, bydd yna ddigwyddiadau sy’n ein gorfodi i ystyried elfennau hanfodol (ee maint sampl, amseru) cynnal yr arolwg mewn blwyddyn benodol. Yn wir, a yw’r arolwg yn cael ei gynnal hyd yn oed. Mae digwyddiadau o’r fath yn gymharol brin. Cyn 2020, y digwyddiad diwethaf oedd yr argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001. Arweiniodd y pandemig COVID-19 at ohirio cynnal arolwg 2020 am 10 wythnos. Ceir rhagor o fanylion am effeithiau COVID-19 ar yr arolwg yn y datganiad o ganlyniadau arolwg 2020.

Cysondeb ystadegau’r DU

Mae pob un o bedair gwlad y DU yn cynnal arolwg amaethyddol tebyg ym mis Mehefin bob blwyddyn. Caiff y gwaith o gyhoeddi data’r DU ei gydgysylltu gan yr Adran Bwyd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Defra).

Mae cryn gysondeb yn y diffiniadau o fathau o dda byw rhwng y pedwar arolwg. Mae rhai problemau gyda mathau o gnydau. Ar y cyfan, mae hyn o ganlyniad i raniad dwyrain/gorllewin ym Mhrydain. Ucheldir yn bennaf yw tir yr ochr orllewinol (gan gynnwys Cymru) ac nid yw’n addas ar gyfer cnydau âr. Ar y llaw arall, iseldir yw’r tir yn y dwyrain yn bennaf. Felly mae gwrthgyferbyniad mawr rhwng yr ardaloedd cyfyngedig sy’n addas ar gyfer tyfu cnydau yng Nghymru a’r ardaloedd enfawr o gnydau a geir ar ochr ddwyreiniol Lloegr.

Mae rhai gwahaniaethau ym mhoblogaeth darged ffermydd. Nid yw Lloegr yn samplu’r ffermydd lleiaf oll. Disgrifio’r boblogaeth fel “ffermydd sylweddol”. Dim ond ar nifer y ffermydd y bydd hyn yn effeithio mewn gwirionedd am fod y trothwyon wedi’u gosod ar lefel isel fel bod y ffermydd, hyd yn oed gyda’i gilydd, yn cyfrannu ychydig iawn o anifeiliaid a thir. Mae’r Alban yn cynnwys pob fferm sy’n hawlio taliadau ac yna’n samplu detholiad o ffermydd nad ydynt yn hawlio.

Gwerthuso

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Asesir hyn gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (cangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU). Cafodd canlyniadau’r arolwg hwn eu gwirio am gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer diwethaf yn 2018.

Yn dilyn yr adolygiad hwn, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyflwyno’r cyfleuster i gwblhau’r arolwg ar-lein
  • parhau i ddefnyddio iaith glir, annhechnegol i gyflwyno’r ystadegau a’u cyd-destun i gynulleidfa mor eang â phosibl
  • cyflwynir y prif 'ddata diweddaraf' ar frig pob adran gan mai dyma fydd o’r diddordeb mwyaf i’n defnyddwyr allweddol
  • darperir data hanesyddol i gyd-fynd â’r datganiad hwn ynghyd â sylwadau’n esbonio’r ffactorau wrth wraidd tueddiadau hanesyddol
  • ehangu’r manylion ynghylch sut y defnyddir y data ym meysydd eraill Llywodraeth Cymru
  • defnyddio cylchgronau eraill Llywodraeth Cymru ac Undebau’r Ffermwyr sy’n cael eu dosbarthu i ffermwyr er mwyn eu hannog i ddychwelyd eu ffurflenni arolwg
  • ar ddechrau 2020, lleihau hyd y Datganiad hwn yn y dyfodol drwy sicrhau bod yr Atodiad Methodoleg ar gael fel dogfen annibynnol ar ein gwefan y gellir cyfeirio ati drwy hyperddolen o’r ddogfen hon