Adroddiad, Dogfennu
Arolwg Natur, Gwanwyn 2025: Yr Adroddiad Cyntaf ar Ddata Sylfaenol
Crynodeb o ganlyniadau rhagarweiniol yr arolwg natur a gynhaliwyd yn ystod gwanwyn 2025.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 151 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
- Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno crynodeb o ganlyniadau rhagarweiniol yr Arolwg Natur a gynhaliwyd yn ystod gwanwyn 2025. Cyn datblygu'r arolwg hwn, roedd tystiolaeth anecdotaidd yn tynnu sylw at risgiau fel colli gwybodaeth, bylchau mewn sgiliau, a diffyg amrywiaeth yn y gweithlu natur presennol. Datblygwyd yr Arolwg o'r Gweithlu Natur i fynd i'r afael â'r prinder data ffurfiol a chasglu data sylfaenol er mwyn siapio polisïau a gwneud gwaith strategol ar gynllunio’r gweithlu. Mae'r arolwg yn gam cyntaf sylfaenol tuag at ddeall y gweithlu natur.
- Mae'r crynodeb hwn yn rhoi cipolwg ar statws y gweithlu natur yng Nghymru. Roedd yr arolwg ar agor rhwng 18 Mawrth ac 18 Awst 2025. Cafodd yr arolwg 1,180 o ymatebion dilys gan unigolion a oedd yn derbyn tâl ac fel arall. Gallai unrhyw un a oedd yn meddwl ei fod yn ‘cyfrannu at adfer natur yng Nghymru’ ymateb.
- Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ac ailgyflwyno'r canlyniadau. Dim ond barn y rhai a ddewisodd gymryd rhan y maent yn ei hadlewyrchu. Roedd unigolion yn cymryd rhan yn yr arolwg o’u gwirfodd, ac yn ateb pob cwestiwn o’u gwirfodd hefyd. Nid oedd pawb wedi ateb pob cwestiwn, ac roedd llawer o gwestiynau wedi cael eu hidlo'n fwriadol gan Smartsurvey e.e. 'Os ydych chi mewn gwaith gyda thâl... beth yw ffynhonnell y cyllid?' Yn yr achos hwnnw, gofynnwyd am ateb dim ond gan weithwyr oedd yn cael eu talu am eu gwaith. Felly, mae'r 'rhif sylfaen' yn amrywio ar gyfer pob cwestiwn. Os oedd nifer yr ymatebion yn llai na 1180, rhoddir union nifer yr ymatebion (rhif sylfaen).
- Dylid dehongli’r data'n ofalus, ac mae tuedd ymateb yn berthnasol iddynt; dylid defnyddio canfyddiadau fel canllaw cyffredinol yn unig i farn a phrofiadau ymatebwyr, yn hytrach nag fel cynrychiolaeth gynhwysfawr o'r sector i gyd. Roedd pawb yn cymryd rhan yn wirfoddol, ac roedd yr unigolion yn cynnwys staff oedd yn derbyn tâl a gwirfoddolwyr, o unrhyw rôl, o unrhyw sector, ledled Cymru. Er bod y data'n rhoi cipolwg o’r gweithlu natur, dim ond y rheini a ddewisodd ymateb a adlewyrchir. Ym mhob achos, os ailgyflwynir y canlyniadau hyn, dylid defnyddio’r geiriad 'o'r rhai a ymatebodd'.
- Mae canlyniadau’r data sylfaenol cyntaf i’w gweld yn Atodiad A. Bydd rhagor o waith dadansoddi manwl yn dilyn.
Gwersi a ddysgwyd; myfyrdodau cyntaf ar fethodoleg a dulliau gweithredu
- Roedd y fethodoleg yn llwyddiannus ar y cyfan, ac yn goresgyn llawer o’r heriau sy’n gysylltiedig â delio gyda gweithlu gwasgaredig a chymhleth ei natur. Roedd yn dileu'r angen i sefydliadau gasglu data. Cyn yr arolwg, nid oedd yn hysbys faint o bobl oedd mewn gwaith am dâl ym maes natur, na faint fyddai'n ymateb, ond tybiwyd y gallai'r nifer fod yn llai na chant. O ran gwirfoddolwyr, roedd y rhain hyd yn oed yn anoddach eu rhagweld oherwydd dim ond unwaith y cafodd pawb ei gyfrif, gan gynnwys y rheini a oedd yn gwirfoddoli ac yn gwneud gwaith am dâl. Felly, roedd cyfranogiad yn uwch na'r disgwyl, gyda dros 1,000 o ymatebion yr oedd modd eu defnyddio.
- Fodd bynnag, roedd yr ymateb ar draws Cymru yn anghyson, gyda 649 o ymatebion gwag / anghyflawn neu nad oedd modd eu defnyddio. Mae hyn yn awgrymu bod meysydd i'w gwella. Roedd y cwestiwn ar gymwysterau uchaf yn cyfeirio at lefelau NVQ, gyda thabl chwilio ar gyfer cymwysterau penodol cyfatebol. Mae'n ymddangos nad oedd llawer o'r rhai a ymatebodd (heblaw am NVQ lefel 7) yn gallu nodi eu lefel cymhwyster NVQ uchaf. Yn y dyfodol, dylid enwi cymwysterau penodol e.e. Lefel ‘O’/TGAU/HND, Safon Uwch, gradd israddedig ac ati.
- Roedd defnyddio Smartsurvey yn effeithiol iawn, ac yn ffordd effeithlon o gasglu data. Mae defnyddio hynny a deallusrwydd artiffisial ar gyfer dadansoddi ac ysgrifennu adroddiadau wedi arbed cryn dipyn o amser staff. O ystyried y niferoedd uwch na'r disgwyl, ni fyddai'r staff wedi gallu ymdopi ag arolwg o'r maint hwn heb ddefnyddio'r technolegau hyn. Fodd bynnag, roedd y gofynion angenrheidiol i wirio â llaw ac ysgrifennu adroddiadau ychwanegol yn fwy o waith o lawer na’r disgwyl. Byddai angen ystyried hyn ar gyfer unrhyw ddefnydd yn y dyfodol. Mae'r adroddiad ar wersi a ddysgwyd yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Cydnabyddiaeth
- Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a helpodd i ddylunio a threialu'r arolwg ac i bawb a ymatebodd.
Y camau nesaf
- Bydd yr adroddiad nesaf yn edrych ar isadrannau o'r data e.e. yn edrych ar wahân ar y rhai yn y gweithlu sy’n derbyn tâl a'r rhai sy'n gwneud gwaith gwirfoddol. Bydd croesdablu’n digwydd hefyd, er enghraifft yn ôl oedran, rhywedd ac ati, lle mae nifer yr ymatebion yn caniatáu hynny. Gall hynny gynnwys cymryd cwestiwn penodol a'i ddadansoddi yn ôl e.e. math o waith (e.e. llawnamser/rhan-amser) neu yn erbyn gwybodaeth ddemograffig fel oedran neu leoliad daearyddol. Bydd y gwaith dadansoddi’n ceisio nodi’r nodweddion cyffredin/gwahaniaethau mewn barn neu brofiadau yn ôl demograffeg a nodweddion gwahanol. Y bwriad yw cyfrannu at y camau nesaf ar gyfer cynllunio'r gweithlu natur.
Arolwg Natur Gwanwyn 2025: yr adroddiad cyntaf ar ddata sylfaenol
Mae'r rhifau mewn cromfachau'n dangos faint a ymatebodd i'r cwestiwn hwnnw. Roedd yr ymatebwyr yn cael eu 'llwybro' yn ôl eu hatebion i gwestiynau blaenorol e.e. dim ond y rheini mewn swyddi lle’r oeddent yn derbyn tâl oedd yn ateb cwestiynau am gyflog.
- Rôl ym maes Adfer Natur (1,180)
Gofynnwyd i'r ymatebwyr am eu rhan nhw yn y gwaith o adfer natur. O'r 1,180 o bobl a ymatebodd, dywedodd 39% eu bod yn ymgymryd â rolau lle’r oeddent yn derbyn tâl a rhai gwirfoddol. Dywedodd 27% arall mai dim ond gwirfoddoli yr oeddent, a dywedodd 24% mai dim ond rolau gyda thâl oedd ganddynt. - Gwaith am Dâl ym maes Adfer Natur (780)
Dywedodd 780 o bobl eu bod mewn gwaith lle’r oeddent yn derbyn tâl (yn/ddim yn gwneud gwaith gwirfoddol hefyd). Pan ofynnwyd iddynt am natur eu gwaith am dâl, dywedodd 43% eu bod yn gweithio'n llawnamser ac 14% arall yn rhan-amser, ond ym mhob achos, roedd eu holl amser yn ymwneud ag adfer natur. Roedd 27% arall yn gweithio'n llawnamser ac 11% yn rhan-amser, ond dim ond rhan o'u gwaith am dâl oedd yn mynd ar adfer natur; - Cyfnod y Cyllid ar gyfer Rolau gyda Thâl (752)
Gofynnwyd i ymatebwyr mewn rolau gyda thâl am faint yr oedd eu cyllid yn para. Dywedodd bron i hanner (49%) nad oedd cyfyngiad amser ar y cyllid oedd yn berthnasol i’w rôl. Ond roedd 21% mewn swyddi gyda llai na dwy flynedd o gyllid. Dywedodd 17% arall fod natur eu cyllid mor gymhleth, nid oedd yn ffitio i unrhyw gategori. - Rolau gyda Thâl, Cyfansoddiad Cyflog (739)
O ran sut yr oedd cyflogau'n cael eu hariannu, roedd y darlun yn gymhleth i weithwyr sy'n cael tâl. Unwaith eto, dywedodd tua hanner (48% o'r ymatebwyr) fod ganddynt un rôl lle’r oeddent yn cael eu talu, wedi'i hariannu gan un ffynhonnell. Yn ôl chwarter arall (27%), roedd ganddynt un rôl gyda thâl, ond roedd yn cael ei chefnogi gan nifer o ffynonellau cyllid. Ond roedd gan 12% fwy nag un rôl gyda thâl, gyda nifer o ffynonellau cyllid. Roedd gan 7% arall rôl lle’r oeddent yn cael eu talu, ond nid oedd dim un o'r categorïau'n egluro'r cyllid. - Prif Gyflogwr Rolau gyda Thâl (740)
O'r rhai mewn gwaith am dâl, gofynnwyd i ymatebwyr nodi eu prif gyflogwr. Roedd y grŵp mwyaf dros 260 o bobl (36%) yn gweithio i elusennau oedd yn rhoi pwyslais ar natur neu sefydliadau nid-er-elw, ac roedd dros 100 (15%) yn cael eu cyflogi mewn swyddogaethau rheoleiddio fel Cyfoeth Naturiol Cymru neu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Ymatebodd 45 o bobl (6%) o Barciau Cenedlaethol. Roedd dros 80 o bobl (11%) wedi ymateb fel gweithwyr i gyflogwyr yn y sector preifat sy'n ymwneud â natur neu fel gweithwyr hunangyflogedig. - Gwaith di-dâl (1,068)
Ymatebodd 1,068 o bobl (gan gynnwys y rhai hefyd sy'n gwneud rolau talu). O'r rhain, gwnaeth 47% waith di-dâl neu wirfoddoli gyda elusen sydd â ffocws ar natur a 5% gyda Pharc Cenedlaethol. - Amser a dreulir ar Adfer Natur (1089)
Gofynnwyd i'r holl ymatebwyr, gyda'i gilydd (rolau gyda thâl a di-dâl), faint o amser rydych chi'n amcangyfrif sy’n mynd tuag at adfer neu wella natur yng Nghymru? Dywedodd 28% eu bod yn cyfrannu hyd at un diwrnod gwaith yr wythnos, 54% rhwng un a phum diwrnod, ac roedd tua 17% yn gweithio mwy na phum diwrnod yr wythnos yn gwneud hynny. - Pob Rôl, Cwmpas Daearyddol (1092)
O ran ffocws daearyddol, roedd 41% o'r ymatebwyr yn gweithio mewn un ardal awdurdod lleol. Dywedodd 21% 'Gan amlaf rydw i'n gweithio mewn un ardal awdurdod lleol yng Nghymru, ond rydw i hefyd yn gwneud gwaith mewn mwy nag un ardal/ar lefel Cymru gyfan/y tu allan i Gymru'. Roedd 34% yn gweithio ar draws nifer o ardaloedd neu ledled Cymru, a dim ond 2% oedd yn gweithio y tu allan i Gymru. - Pob Rôl, Ardal Waith yn yr Awdurdod Lleol (680)
O'r 680 a ddewisodd ardal ddaearyddol benodol lle'r oeddent yn gweithio, nid oedd y gwasgariad yn gyson. Yr ardaloedd gwaith a nodwyd amlaf oedd Sir Benfro – 120 o bobl (18%), Powys – 80 o ymatebwyr (12%), a Gwynedd – 66 neu 10%. Ymatebodd 58 o bobl (9%) o Abertawe, o'i gymharu â dim ond 33 o Gaerdydd (5%), er mai nhw oedd â’r boblogaeth fwyaf, a gan gofio hefyd bod llawer o brif swyddfeydd yn y ddinas. - Pob Rôl, Hyfforddiant a Ddilynwyd (1,086)
Dywedodd hanner yr holl ymatebwyr (50%), a oedd yn derbyn tâl ac fel arall eu bod wedi cael hyfforddiant a oedd yn berthnasol i'w rôl ym myd natur yn ystod y 12 mis diwethaf. Fodd bynnag, roedd pum mlynedd wedi mynd heibio ers i 15% gael hyfforddiant a oedd yn berthnasol i'w rôl, a dywedodd 16% nad oeddent wedi ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant a oedd yn berthnasol i'w rôl ym myd natur. - Pob Rôl, Oriau Hyfforddi yn ystod y 12 mis diwethaf (1,089)
Pan ofynnwyd iddynt faint o hyfforddiant a gawsant yn ystod y 12 mis diwethaf, dywedodd 28% nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant o gwbl. Roedd 29% wedi cael hyd at un diwrnod gwaith, ac roedd 17% wedi cael hyd at ddau ddiwrnod gwaith o hyfforddiant. - Pob Rôl, Hyfforddiant neu Astudiaethau Presennol (1,089)
Pan ofynnwyd am eu hyfforddiant neu eu hastudiaethau presennol; roedd 31% o'r ymatebwyr yn cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith, 6% mewn Addysg Bellach a dim ond pump o bobl yn dilyn prentisiaeth. - Pob Rôl, Lefel Cymhwyster Uchaf (1,174)
Gofynnwyd i ymatebwyr – rhai oedd yn cael tâl ac fel arall – am eu cymhwyster uchaf, a chafwyd ateb gan 1,174. Roedd gan un o bob pump, sef tua 20%, gymhwyster NVQ lefel 7. Fodd bynnag, roedd 40% naill ai wedi dewis “Dim un o'r uchod”, neu “Arall”. Nid ydym yn gwybod pa gymhwyster arall sydd ganddyn nhw. Mae gan bob cymhwyster lefel NVQ cyfatebol, felly mae'n bosibl nad oeddent yn gwybod beth oedd lefel NVQ eu cymhwyster nhw. Darparwyd tabl chwilio, er enghraifft, i drosi lefel 'Safon Uwch' yn lefel 'NVQ', ond mae'n bosibl nad oedd y cyfranogwyr wedi defnyddio hwn neu nad oeddent yn ei ddeall. Mewn unrhyw arolwg yn y dyfodol, adolygir sut y cesglir data am gymwysterau, gan gynnwys defnyddio lefelau NVQ yn hytrach nag enw go iawn y cymhwyster (gradd, Lefel O/TGAU, HNC, Safon Uwch). - Pob Rôl, Gwybodaeth a Phrofiad (1,171)
Gofynnwyd i ymatebwyr oedd yn derbyn tâl ac fel arall ddewis tri maes gwaith a oedd yn disgrifio eu gwybodaeth a'u profiad orau. Y meysydd arbenigedd a nodwyd amlaf (gyda thâl ac fel arall) oedd arolygon a gwaith maes (27%), gwaith ymarferol ar y tir (26%), ac ecoleg (23%). - Pob Rôl, Rhwystrau sy'n Wynebu'r Gweithlu (1,158)
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis y tri rhwystr mwyaf sylweddol sy'n wynebu'r gweithlu natur yng Nghymru. O'r holl ymatebion, y rhai a nodwyd fwyaf oedd diffyg cyllid tymor hir gan 660 o bobl (58%), wedi'i ddilyn gan ddim digon o gyllid prosiect gan 350 o bobl (30%), dim llawer o flaenoriaeth i natur gan 350 (29%), a cholli staff profiadol gan dros 220 o bobl (19%). - Pob Rôl, Cyfeiriad Cartref (1,173)
O ran man gwaith; y lleoliadau cartref mwyaf cyffredin oedd Sir Benfro (14%), Gwynedd (9%), a Phowys (9%). - Pob Rôl, Oedran (1,148)
Gyda'i gilydd – gweithwyr oedd yn cael tâl a gwirfoddolwyr – roedd ystod oedran yr ymatebwyr o 20 i dros 80 oed. Roedd 41% o'r ymatebwyr rhwng 50 a 69 oed. Roedd 13% dros 70 oed ac roedd 10% dan 30 oed. Bydd dadansoddiad pellach yn edrych ar weithwyr sy’n cael tâl a gwirfoddolwyr ar wahân, i ganfod a oes gwahaniaethau rhwng proffil oedran y rhai sydd mewn gwaith a phroffil oedran y rhai sy’n gwneud gwaith gwirfoddol. - Pob Rôl, Hunaniaeth Rhywedd (1,162)
Nododd 54% o'r ymatebwyr eu bod yn fenywod a nododd 43% eu bod yn ddynion. - Pob Rôl, Cyflyrau Iechyd (1,157)
Dywedodd 22% o'r ymatebwyr fod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor a oedd wedi para dros 12 mis neu y disgwyliwyd iddo bara dros 12 mis. - Pob Rôl, Gallu o ran y Gymraeg (1,164)
Dywedodd 12% o'r ymatebwyr eu bod yn rhugl yn y Gymraeg. Roedd 11% yn gallu siarad ‘dipyn go lew’ o Gymraeg. Dywedodd 66% o'r ymatebwyr y gallent ddweud ychydig eiriau neu siarad ychydig o Gymraeg. Dywedodd 11% nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg o gwbl. - Pob Rôl, Gallu i Weithio yn Gymraeg (1,164)
Yn unol â'r ymatebion am y gallu i siarad Cymraeg, dywedodd 24% o'r ymatebwyr y gallent gyflawni eu rôl drwy gyfrwng y Gymraeg. - Pob Rôl, Ethnigrwydd (1,152)
Dewisodd 1,152 o bobl ymateb i'r cwestiwn hwn, a dewisodd 28 o bobl beidio. O'r rhai a ymatebodd, nododd 98% eu bod yn Wyn. Roedd 16 o bobl wedi nodi'n benodol eu bod yn perthyn i un o'r grwpiau canlynol: Asiaidd, Du, Arabaidd neu grwpiau Cymysg/Aml-ethnig. Nododd chwe pherson arall eu bod yn perthyn i unrhyw grŵp ethnig arall. - Cyfradd Ymateb ac Ansawdd Data
Oherwydd natur agored yr arolwg, nid oes modd cyfrifo cyfradd ymateb ffurfiol. Fodd bynnag, mae nifer yr ymatebion (1,180) yn darparu sail gadarn ar gyfer dadansoddi. Roedd 1,180 o ymatebion i'r cwestiwn cyntaf, a'r ymateb isaf oedd lleoliad gwaith gyda thâl mewn awdurdod lleol (680 o ymatebion)
Wedi dweud hynny, roedd tua 649 o ymatebion yn anghyflawn neu'n wag. Os nad oedd rhywun wedi ‘cyflwyno’ yn ffurfiol, nid oedd caniatâd i ddefnyddio’r data. O ganlyniad, nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Nid ydym yn gwybod pam na chwblhawyd yr ymatebion.
Atodiad B
Cynllun yr arolwg a’r dulliau a ddefnyddiwyd
Cyflwyniad
- Roedd yr arolwg yn wirfoddol ac yn hunan-ddewisol. Ni ddefnyddiwyd diffiniad o'r "gweithlu natur", oherwydd amrywiaeth y rolau a phrinder data cynhwysfawr. Cafodd yr arolwg ei ddylunio i fod yn gynhwysol ac yn hunan-ddewisol, gan gynnwys unrhyw un a oedd yn credu ei fod yn cyfrannu at adfer byd natur. Cydnabuwyd natur gymhleth y sector, gan gynnwys rolau llawnamser, rhan-amser a rolau sy'n seiliedig ar brosiectau, yn ogystal â chyfraniadau di-dâl. Roedd yr arolwg yn agored i unigolion a oedd yn byw neu'n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys y rheini mewn rolau trawsffiniol neu oedd yn gweithio o bell. Roedd hefyd yn cynnwys y rheini mewn rolau polisi, rheoleiddio, gorfodi a chyflawni gweithredol.
- Datblygwyd yr arolwg yn electronig gan ddefnyddio Smartsurvey, gyda mewnbwn gan randdeiliaid. Fe’i profwyd drwy ddau gynllun peilot bach. Roedd yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), gydag ymatebwyr yn dewis pa iaith i’w defnyddio. Gwahoddwyd yr ymatebwyr i ymuno â rhestr rhanddeiliaid ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Roedd cymryd rhan yn wirfoddol, ac roedd data'n cael eu storio ar wahân i sicrhau cyfrinachedd.
Gwybodaeth am y rheini a dargedwyd; y gweithlu natur
- Roedd yr arolwg yn fwriadol yn osgoi unrhyw ddiffiniad cadarn o'r gweithlu natur. Roedd y dull cynhwysol, hunan-ddewisol yn adlewyrchu natur gymhleth ac amrywiaeth rolau ar draws y sector. Roedd unrhyw un a oedd yn meddwl ei fod yn cyfrannu at adfer byd natur yn gallu llenwi’r arolwg. Roedd yn broses hunan-ddewisol. Ni wnaed unrhyw ymgais i ddiffinio'r gweithlu natur. Roedd myrdd o rolau, gyda rhai'n gweithio'n llawnamser ar natur, eraill yn rhan-amser, wedi'u hariannu gan amrywiaeth o brosiectau. Roedd yn ddarlun cymhleth iawn, ac o ganlyniad, annhebygol oedd hi y byddai modd adnabod pob sefydliad/busnes. Ystyriwyd y byddai sefydliadau mwy yn ei chael yn anodd rhoi adroddiad cywir ar y gweithlu natur. Er mwyn osgoi dyblygu, gofynnwyd i'r ymatebwyr lenwi'r arolwg unwaith yn unig, ni waeth faint o rolau oedd ganddynt.
i. Cwmpas Roedd yr arolwg yn ceisio cyrraedd ymarferwyr sy'n adfer natur ar lawr gwlad, ond hefyd y rheini ym maes polisi, rheoleiddio neu orfodi – unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru, gan gydnabod realiti gweithio ar draws ffiniau ac o bell. Roedd y diffiniad hyblyg hwn yn briodol ac yn helpu i sicrhau nad oedd neb sy’n cyfrannu at adferiad natur Cymru yn cael ei eithrio.
ii. Rolau di-dâl/gwirfoddol a gyda thâl, roedd cynllun yr arolwg yn caniatáu i unigolion adrodd ar gyfraniadau gyda thâl a heb dâl, gan gydnabod pwysigrwydd gwirfoddoli yn y sector.
iii. Rolau swyddi: mae'r arolwg yn cynnwys swyddogaethau llawnamser, rhan-amser a rhai sy'n seiliedig ar brosiectau. Bwriad yr arolwg oedd cyrraedd amrywiaeth eang o gyfranwyr, gan gynnwys rolau ar y tir, ymarferwyr a rheolwyr gwirfoddolwyr, ond hefyd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau (e.e. aelodau etholedig, Prif Swyddogion Gweithredol), yr unigolion sy'n cyfrannu at gyflawni prosiectau natur; pobl sy'n gweithio ym maes cyfathrebu, rheoli gwirfoddolwyr, cyllid, codi arian a rheoli prosiectau. Roedd yr ehangder hwn yn adlewyrchu natur gymhleth gwaith adfer natur yn y byd go iawn. Er nad oedd yr arolwg wedi'i anelu at staff mewnol Llywodraeth Cymru na'r Senedd, roedd y natur hunan-ddewisol yn golygu y gallai rhai fod wedi cymryd rhan.
iv. Gwirfoddoli; Roedd y gwaith casglu data yn cynnwys gweithwyr di-dâl. Mae gwirfoddoli yn rhan allweddol o gyflawni dros fyd natur. Ond dim ond unwaith y gwnaeth pob person lenwi’r arolwg, ni waeth faint o rolau oedd ganddynt. Felly, pe byddai unigolyn yn gweithio i gontractwr preifat yn adfer mawnogydd, yn gwirfoddoli i'w grŵp natur lleol a hefyd yn gynghorydd cymuned yn goruchwylio prosiectau natur yn lleol, dim ond unwaith y byddai'n llenwi'r arolwg. - Gwybodaeth a gasglwyd am y gweithlu: Lluniwyd 21 o gwestiynau i gwmpasu amrywiaeth o feysydd sydd o ddiddordeb i ddatblygu a chynllunio'r gweithlu yn y dyfodol;
i. Demograffeg; oedran, rhywedd, hil, anabledd, gallu o ran y Gymraeg.
ii. Gwybodaeth am y gweithlu; llawnamser/rhan-amser, ffynhonnell gyllido, cyfnod y swydd, categori'r cyflogwr, lleoliad, cymwysterau a hyfforddiant.
iii. Gwybodaeth am natur; rôl eang, meysydd arbenigedd, cymhwyster uchaf, hyfforddiant diweddar ayb.
iv. Argraffiadau o waith cynllunio’r gweithlu ar hyn o bryd, blaenoriaethau a phroblemau. - Rhestr Rhanddeiliaid. Gwahoddwyd ymatebwyr hefyd i ymuno â rhestr rhanddeiliaid ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol, er mwyn adeiladu sianel gyfathrebu uniongyrchol gyda'r gweithlu a lleihau'r ddibyniaeth ar ddulliau dosbarthu anuniongyrchol. Roedd cymryd rhan yn wirfoddol. Gofynnwyd i'r derbynwyr gytuno i fod ar y rhestr rhanddeiliaid a chytuno i'w cyfeiriad e-bost gael ei gadw am 5 mlynedd. Y bwriad oedd creu rhestr gyswllt i gysylltu â'r gweithlu natur yn uniongyrchol e.e. arolygon manylach ar gymwysterau a sgiliau. Cafodd y data eu cadw mewn arolwg ar wahân ac mewn cronfa ddata ar wahân.
Y broses o ddylunio’r arolwg
- Smartsurvey: Defnyddiwyd Smartsurvey gan mai hyn a hyn o adnoddau oedd ar gael, ond yn fwy na dim er mwyn ceisio cyrraedd cynifer o bobl â phosibl. Adnodd electronig i gynnal arolygon ydyw, ac mae'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn eithaf hawdd ei ddefnyddio er mwyn creu’r arolwg. Roedd y swyddogaeth llwybro yn sicrhau mai dim ond cwestiynau a oedd yn berthnasol iddyn nhw oedd yn cael eu gofyn i’r ymatebwyr. Datblygwyd yr arolwg cwbl electronig gyda mewnbwn gan randdeiliaid, a chynhaliwyd dau gynllun peilot bach i brofi methodoleg a chwestiynau.
- Ar-lein yn unig: Roedd yr arolwg ar gael i'w lenwi ar-lein, gan gynnwys ar ffonau symudol addas. Cafodd ei anfon drwy e-bost ac, yn hollbwysig, gallai pobl ei anfon ymlaen at eu cysylltiadau, gan ymestyn y cyrhaeddiad. Tybiwyd bod gan unrhyw un mewn gwaith cyflogedig fynediad at adnoddau TGCh. Roedd yn bosibl nad oedd gan rai gwirfoddolwyr fynediad annibynnol at TGCh, ond eu bod yn gwirfoddoli i fudiad gyda TGCh. Roedd gwneud hyn ar-lein yn fantais sylweddol, ond roedd cyfyngiadau posibl hefyd o ran darpariaeth TGCh a llythrennedd.
- Dwyieithog: Roedd yr arolwg yn ddwyieithog. Roedd pawb yn cael dewis ym mha iaith i ymateb. Fodd bynnag, ar gyfer rhai cwestiynau, os oedd angen rhagor o wybodaeth ar y defnyddiwr, byddai’n cael ei gyfeirio i ffwrdd oddi wrth yr arolwg, i wefan .gov, am ragor o wybodaeth. Roedd gwefan .gov yn uniaith Saesneg, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Dull Dosbarthu
- Amserlen: lansiwyd yr arolwg ar 18 Mawrth. Derbyniwyd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn ystod yr 8 wythnos gyntaf. Yn dilyn yr ohebiaeth derfynol bod yr arolwg ar fin dod i ben, cafodd ei gau'n ffurfiol ar 18 Awst.
- Dosbarthu: Dosbarthwyd yr arolwg drwy e-bost i gysylltiadau hysbys gyda chais i'w rannu ymhellach h.y. y rheini gyda chyfeiriad e-bost. Bwriad hyn oedd cyrraedd cynulleidfa eang. Roeddem yn gwybod bod hyn yn gyfaddawd wrth ystyried y dull dosbarthu. Roedd y dull samplu ‘pelen eira’ hwn yn dibynnu ar ddosbarthu anuniongyrchol. Y bwriad oedd cyrraedd unigolion y tu hwnt i restr cysylltiadau uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roedd y ffaith bod yr arolwg yn hunan-ddewisol yn golygu nad oedd rhai gweithwyr neu wirfoddolwyr wedi'i gwblhau.
- Roedd y cysylltiadau'n cynnwys sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol (ENGOS), cyrff ymbarél e.e. WCVA ac ati, llywodraeth leol a sefydliadau statudol e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd y sefydliadau hyn yn cynnwys y rheini sy'n ymwneud â chyflawni a datblygu polisi ac ati, a’r rheini sy’n derbyn grantiau. Yna gofynnwyd i dderbynwyr ei anfon ymlaen at unrhyw un arall oedd yn ystyried ei hun yn rhan o'r gweithlu natur. Roedd hyn yn arbennig o bwysig i gontractwyr a oedd yn gweithio ar brosiectau natur, nad oedd manylion cyswllt ar eu cyfer. Roedd y fethodoleg yn dibynnu ar y rhai sy'n caffael gwasanaethau i anfon yr arolwg at y contractwyr a ddefnyddiwyd.
- Ni ddefnyddiwyd arolwg o gyflogwyr oherwydd natur wasgaredig y gweithlu a'r baich posibl ar adrannau Adnoddau Dynol, yn enwedig mewn sefydliadau mawr (na fyddai o bosibl wedi cael gwybodaeth am lwybrau cyllido neu'r cymwysterau a'r hyfforddiant diweddaraf). Hefyd oherwydd y baich posibl o lenwi'r arolwg, eto i sefydliadau mawr sydd â llawer o weithwyr.
- Dyblygu: Roedd y dull yn cydnabod y risg o ddyblygu, oherwydd gallai’r unigolion dderbyn yr arolwg sawl gwaith. Ni chafwyd unrhyw gwynion.
- Cyhoeddusrwydd; rhoddodd staff CCRA gyhoeddusrwydd i'r arolwg mewn cyfarfodydd rhanddeiliaid a chynadleddau, a chynnwys y ddolen yn llofnod yr e-bost. Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog hysbysiad i'r wasg yn cyhoeddi y byddai gwaith casglu data’n cael ei gynnal. O ystyried nad oedd y boblogaeth wirioneddol yn hysbys, nid yw’n glir pa mor llwyddiannus ydoedd, er ein bod yn gallu dweud bod dros 1,000 wedi derbyn yr arolwg ac wedi ei gwblhau.
Sampl/cyfradd ymateb
- Cyfradd ymateb. Nid oedd modd rhagweld na chyfrifo'r gyfradd ymateb ar ôl yr arolwg oherwydd diffyg gwybodaeth am nifer y bobl oedd yn gwneud gwaith am dâl neu wirfoddol ar gyfer natur. Roedd y set ddata derfynol yn cynnwys 1,180 o ymatebion.
- Rhoi’r gorau i gymryd rhan: nid oes modd gwybod beth oedd y gyfradd gadael. Nid ydym yn gwybod a fyddai'r ymateb cyffredinol ac ansawdd y data wedi bod yn well gydag arolwg electronig, arolwg i’w gwblhau â llaw, neu arolwg yn defnyddio Adrannau Adnoddau Dynol. Roedd y gweithlu natur yn un cysylltiedig iawn ac roedd nifer o grwpiau a fforymau, a oedd yn golygu bod modd ei ddosbarthu drwy e-bost, yn hytrach na gwybod enw sefydliad neu gyfeiriad cyswllt. Ond roedd yr arolwg electronig yn dibynnu ar fynediad at adnoddau TGCh drwy gyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae hyn yn wendid ac yn gyfyngiad posibl, er ei bod yn annhebygol, i'r gweithlu sy’n derbyn tâl, y byddai llawer ohonynt mewn gwaith a heb fynediad at TGCh.
- Byddai angen dosbarthu arolygon i’w cwblhau â llaw i grŵp anhysbys a gwasgaredig iawn (heb fanylion cyswllt) ac yna eu dychwelyd drwy'r post. Mae'r naill a'r llall yn rhwystr sylweddol rhag cymryd rhan. Efallai na fyddai’r Adrannau Adnoddau Dynol yn gwybod pwy oedd yn y gweithlu natur a/neu efallai na fyddai’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael. Mae'n ymddangos bod y fethodoleg wedi bod yn llwyddiannus, gyda dros 1,000 o ymatebion.
- Ni wnaeth pawb ateb pob cwestiwn. Cafwyd 1,180 o ymatebion. Ond, er enghraifft, dim ond 780 o ymatebwyr a ddywedodd eu bod mewn gwaith am dâl. Ar y llaw arall, roedd pob un ohonynt wedi ateb y cwestiwn am statws llawnamser neu ran-amser. Ond, dim ond 740 ohonynt a atebodd y cwestiwn am eu cyflogwr.
- Ymatebion Dilys/Heb Gwblhau: Dim ond ymatebion a ystyriwyd yn ddilys gan Smartsurvey a gafodd eu cynnwys; cafodd 649 o ymatebion anghyflawn eu heithrio, yn bennaf oherwydd nad oedd yr ymatebwyr wedi cyrraedd diwedd yr arolwg ac felly nid oeddent wedi rhoi caniatâd i ddefnyddio’r data. O'r ffurflenni anghyflawn, nid oes modd dweud faint o'r bobl hynny oedd wedi 'ailgychwyn' ac wedi mynd ymlaen i lenwi un arall. Mae hefyd yn bosibl bod rhai wedi agor yr arolwg ac wedi sylweddoli mai 'Cymru yn unig' ydoedd ac nad oedd yn berthnasol iddynt. Efallai na fyddai eraill wedi gallu defnyddio'r dechnoleg neu fod rhesymau eraill yn berthnasol.
Cyfyngiadau'r dull a ddefnyddiwyd
- I grynhoi'r uchod, nodwyd sawl cyfyngiad:
- Gonestrwydd ac Ymddiriedaeth: Mynegodd rhai a oedd yn ymwneud â dyluniad a chynllun peilot yr arolwg amheuon ynghylch hyder ymatebwyr i ddarparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru a chyfrinachedd data. Bu'r arolwg yn destun prosesau rheoli ac adolygu helaeth ac fe'i cymeradwywyd gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) Llywodraeth Cymru. Rhaid cofio bod dros 1,000 o bobl wedi ymateb.
- Ymateb Isel neu Anghyson: Mae'n ymddangos bod y natur hunan-ddewisol a dosbarthu'n anuniongyrchol wedi arwain at gyfranogiad anghyson yn ôl ardal ddaearyddol e.e. Sir Benfro.
- Defnyddio arolwg ar-lein a Smartsurvey: efallai fod y ffaith bod hwn yn arolwg ar-lein wedi arwain at lai o bobl yn cymryd rhan. Cynhaliwyd cynllun peilot bach i brofi'r arolwg a’r dechnoleg. Roedd wedi cael ei ddefnyddio gan adrannau eraill, ond efallai heb ddefnyddio'r fethodoleg ‘pelen eira’. Roedd cydweithwyr cyfathrebu yn rhan o'r gwaith i sicrhau bod yr arolwg yn bodloni'r canllawiau. Arolwg o'r gweithlu ydoedd, a disgwylid y byddai gan ymatebwyr fynediad at gyfrifiaduron a ffonau symudol. Ond gallai fformat digidol yr arolwg fod wedi eithrio unigolion heb fynediad i'r rhyngrwyd, neu o bosibl yn fwy tebygol, pobl heb y sgiliau digidol angenrheidiol. Gallai hyn fod wedi cyfrannu at y niferoedd a gwblhaodd yr arolwg yn rhannol. Ond nid oes modd dweud sut byddai casglu â llaw a/neu drwy adrannau Adnoddau Dynol wedi effeithio ar gyfraddau ymateb nac ar ansawdd ymatebion.
- Dyblygu: Nid oedd modd atal rhywun rhag cael mwy nag un gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg. Gofynnwyd i ymatebwyr lenwi'r arolwg unwaith yn unig. Bwriad yr arolwg oedd cael ei ddosbarthu mor eang â phosibl, er mwyn cynnwys cynifer o bobl â phosibl. Yn y cyflwyniad i'r arolwg, tynnwyd sylw at hyn, a gofynnwyd i ymatebwyr ei lenwi unwaith yn unig.
- Samplu Pelen Eira: Cyflwynodd y dull hwn rywfaint o ansicrwydd o ran pwy oedd yn derbyn yr arolwg a thueddiadau posibl mewn ymatebion.
- Gwirio data: Gwiriwyd canlyniadau Smartsurvey â llaw. Ar ben hynny, cafodd yr holl wybodaeth a gynhyrchwyd gan Co-Pilot ei gwirio ddwywaith.
Dulliau dadansoddi (gan gynnwys offer deallusrwydd artiffisial a gwiriadau ansawdd)
- Cynhaliwyd y gwaith dadansoddi drwy ddefnyddio Smartsurvey. Dadansoddwyd ac adroddwyd ar ddata gan ddefnyddio hwnnw a Microsoft Co-Pilot. Roedd y canlyniadau'n ymwneud â'r rhai a ymatebodd yn unig, ni chofnodwyd unrhyw beth am y rhai nad oedd wedi ymateb.
Y broses sicrhau ansawdd
- Cynhyrchwyd y dadansoddiad cwestiwn wrth gwestiwn syml gan ddefnyddio Smartsurvey i ddechrau. Roedd hon yn broses syml, gyda thablau'n cael eu cynhyrchu'n awtomatig. Nid oedd yr adroddiad yn hawdd iawn i ymdrin ag ef. Felly, defnyddiwyd Co-Pilot i greu crynodeb syml iawn, gan nodi cyfansymiau ar gyfer pob cwestiwn.
- Roedd sicrhau ansawdd yn rhan allweddol o’r broses ddadansoddi.
- Cafodd y ffigurau eu talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf er mwyn osgoi dirnadaeth ffug o gywirdeb.
- Nodwyd, mewn cwestiynau lle mai dim ond un ymateb y gallai'r ymatebydd ei roi, efallai na fyddai'r atebion yn dod i 100% (h.y. gallai fod ychydig yn fwy neu'n llai)
- Cynhyrchodd Smartsurvey ddogfen wedi'i lawrlwytho o’r data sylfaen ac fe’i rhoddwyd yn Excel er mwyn gwirio ystyr. Yn ôl y disgwyl, nifer y rhesi oedd 1,180. Roedd y teclynnau gwirio synnwyr, gan gynnwys amcangyfrif, yn bwysig iawn. Ni ellid tybio bod y data a gynhyrchwyd yn gywir, roedd yn bwysig canfod unrhyw wallau ac anghysondebau.
- Ymchwiliwyd i anomaleddau a chadarnhawyd eu bod yn adlewyrchu'r ymatebion gwirioneddol. Nid oedd yr ymatebion yn 'anghywir', gan eu bod yn adlewyrchu'r hyn yr oedd yr ymatebwyr wedi'i ddweud, ond roeddent yn nodedig o ran dehongli a defnyddio'r data.
- Nid oedd dosbarthiad daearyddol, yn ôl awdurdod lleol, yn dilyn y boblogaeth yng Nghymru.
- Data cymwysterau; dywedodd 40% fod ganddynt NVQ lefel 7 ond nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr eraill wedi dewis lefel cymhwyster penodol. Mae'n debygol nad oedd pobl yn deall lefelau NVQ.
- Cafodd allbynnau a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial o Co-Pilot eu croeswirio gydag allbynnau Smartsurvey, er cywirdeb.
- Roedd ymatebwyr yn gallu hepgor cwestiynau, ac roedd rhesymeg llwybro yn golygu bod y rhif sylfaen yn wahanol ar gyfer y rhan fwyaf o gwestiynau. Cafodd data eu gwirio i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r rhai a ymatebodd, fel y dangosir yn y tabl isod;
Cyfanswm yr ymatebwyr, yn ôl cwestiwn
Ymatebwyr fesul cwestiwn Cwestiwn |
Wedi ateb y cwestiwn allan o 1,80 |
Wedi hepgor y cwestiwn |
|---|---|---|
| 1. Gan feddwl am eich rôl yn y gwaith o adfer natur, yng Nghymru, beth sy'n eich disgrifio chi orau? Dewiswch yr un ymateb mwyaf priodol. | 1180 | 0 |
| 2. Beth sy'n disgrifio orau eich gwaith gyda thâl (llawnamser neu ran-amser) ym maes adfer natur yng Nghymru? Dim ond os ydych chi mewn gwaith gyda thâl yng Nghymru y dylech chi ateb. Ticiwch yr un ymateb mwyaf priodol. | 780 | 400 |
| 3. Ar gyfer eich rôl/rolau gyda thâl ym maes adfer natur, yng Nghymru, a oes cyfyngiad amser i’r cyllid ar gyfer eich swydd(i)? | 752 | 428 |
| 4. Ar gyfer eich rôl/rolau gyda thâl yng Nghymru, sut mae eich cyflog yn cael ei ffurfio? | 739 | 441 |
| 5. Gan feddwl am eich rôl/rolau gyda thâl yng Nghymru, beth sy'n disgrifio eich prif gyflogwr orau? Dewiswch yr un opsiwn sy'n disgrifio eich amgylchiadau chi orau. | 740 | 440 |
| 6. Gan feddwl am eich gwaith gwirfoddol neu waith di-dâl yng Nghymru, beth yw'r disgrifiad gorau o'r sefydliad rydych chi'n gwirfoddoli iddo? Dewiswch yr un opsiwn sy'n disgrifio eich amgylchiadau chi orau. | 1068 | 112 |
| 7. Gyda'i gilydd, gan ystyried eich rôl/rolau gyda thâl a di-dâl, faint o amser ydych chi'n amcangyfrif rydych chi'n ei gyfrannu at adfer neu wella natur yng Nghymru? Os ydych chi'n gweithio'n rhan-amser, os oes gennych chi fwy nag un swydd a/neu os ydych chi'n gwirfoddoli, dylech gynnwys yr holl amser o'r wythnos rydych chi'n ei dreulio’n gwneud gwaith adfer natur. Peidiwch â chynnwys amser yn astudio neu rôl/rolau nad ydynt yn gysylltiedig ag adfer natur. | 1089 | 91 |
| 8. Gan feddwl am y brif rôl rydych chi’n ei gwneud gyda thâl neu fel arall, yng Nghymru, beth sy'n eich disgrifio chi orau? | 1092 | 88 |
| 9. Dewiswch yr ymateb mwyaf priodol (un yn unig) | 680 | 500 |
| 10. Ydych chi wedi cael hyfforddiant sy'n berthnasol i'ch rôl/rolau (gyda thâl a/neu ddi-dâl)? | 1086 | 94 |
| 11. I gyd gyda’i gilydd, faint o hyfforddiant ydych chi wedi'i gael yn ystod y 12 mis diwethaf, sy'n berthnasol i'ch rôl/rolau mewn natur (gyda thâl a/neu ddi-dâl)? | 1089 | 91 |
| 12. Beth sy'n disgrifio orau eich astudiaethau/hyfforddiant presennol, sy'n ymwneud ag adfer natur? | 1089 | 91 |
| 13. Beth yw eich cymhwyster uchaf ar hyn o bryd? (Lefelau NVQ) Mae rhagor o wybodaeth am lefelau NVQ ar gael ar GOV.UK. | 1174 | 6 |
| 14. Er mwyn i ni gael darlun ohonoch chi, dewiswch y 3 datganiad sy'n eich disgrifio chi a’ch gwybodaeth a'ch profiad cyffredinol orau. | 1171 | 9 |
| 15. Yn eich barn chi, beth yw'r rhwystrau mwyaf sylweddol sy'n wynebu'r gweithlu natur yng Nghymru? Dewiswch y tri datganiad sy’n disgrifio orau beth yw’r materion pwysicaf yng Nghymru. | 1158 | 22 |
| 16. Beth yw cyfeiriad eich prif gartref? | 1173 | 7 |
| 17. Ym mha flwyddyn gawsoch chi eich geni? | 1148 | 32 |
| 18. Beth yw eich hunaniaeth o ran rhywedd? | 1162 | 18 |
| 19. Oes gennych chi unrhyw salwch neu gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol sy'n para 12 mis neu y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy? | 1157 | 23 |
| 20. Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau eich gallu i siarad Cymraeg? | 1165 | 15 |
| 21. Rwy'n gallu cyflawni fy rôl ym maes adfer natur yn Gymraeg. | 1164 | 16 |
| 22. Sut byddech chi’n disgrifio eich ethnigrwydd? | 1152 | 28 |
Proses sicrwydd KAS
- Ar ôl ysgrifennu'r adroddiad, roedd proses Sicrhau Ansawdd KAS yn mynnu bod y canrannau a gynhyrchwyd gan Smartsurvey yn cael eu gwirio â llaw. Yna cafodd y daenlen Excel wreiddiol ei haddasu er mwyn
a. cyfrif nifer yr ymatebwyr a atebodd gwestiwn penodol a chroesgyfeirio hynny â'r nifer a adroddwyd gan Smartsurvey.
b. Defnyddiwyd Excel i ail-gyfrifo'r canrannau, yn seiliedig ar nifer yr ymatebion.
Mynd ati â llaw i wirio cwestiwn 18: rhywedd:
- Gwiriad 1; creodd Smartsurvey yr adroddiad hwn. Roedd yn dweud bod 1,162 wedi ymateb a bod 18 wedi hepgor y cwestiwn. Roedd 495 wedi dweud eu bod yn ddynion a 629 wedi dweud eu bod yn fenywod. Roedd 38 wedi dewis 'arall' neu 'mae'n well gen i beidio â dweud'.
- Cafodd cyfanswm yr ymatebion eu gwirio; 495+629+38 = 1,162.
- Roedd yn amlwg bod y rhaniad rhwng dynion a menywod yn eithaf tebyg, gydag ychydig mwy o fenywod ac ymateb 'arall/mae'n well gen i beidio â dweud’ bach iawn; roedd y canrannau a adroddwyd, sef 42%/54%/3%, yn adlewyrchu hynny.
- Gwnaed cyfrifiad manwl ar gyfer pob un; 495/1162, 629/1162 a 38/1162. Mae'r cyfrifiadau hyn yn darparu'r un ffigurau â Smartsurvey; 42%/54%/3%.
Mynd ati â llaw i wirio cwestiwn 8: Lleoliad gwaith di-dâl.
- Gwiriad 1; creodd Smartsurvey yr adroddiad hwn. Roedd yn dweud bod 1,092 wedi ymateb a bod 88 wedi hepgor y cwestiwn.
- Cafodd cyfanswm yr ymatebion eu gwirio; 448+234+373+24+13 = 1,092
- Roedd yn amlwg bod ‘ateb 1’ tua dwywaith ateb 2 a byddai ateb 3 yn bwynt canol rhwng atebion un a dau. Mae 400 allan o 1000 yn 40%, felly mae 448/1092 tua 40% ac yn y blaen.
- Gwnaed union gyfrifiad ar gyfer pob un; 448/1092, 234/1092 a 373/1092 ac ati. Mae'r cyfrifiadau hyn yn darparu'r un ffigurau â Smartsurvey.
- Gwnaed y gwaith gwirio hwn ar draws pob un o'r 22 cwestiwn. Gwiriwyd hefyd y datganiadau a grëwyd gan Co-Pilot.
Ysgrifennu’r adroddiad
- Ysgrifennwyd adroddiad cryno o'r data. Fel y nodwyd uchod, cynhyrchwyd ambell un gan ddeallusrwydd artiffisial. Cynhwyswyd adran methodoleg a dysgu gwersi.
Cyhoeddi Data
- Roedd yr arolwg yn ddienw. Roedd cyfrinachedd bob amser yn bryder i dderbynwyr a chadwyd gwybodaeth y rhestr rhanddeiliaid ar wahân i ymatebion yr arolwg. Trafodwyd yr arolwg ei hun a'r hysbysiad preifatrwydd yn fanwl gyda chydweithwyr KAS. Cafodd ffigurau eu talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, oherwydd gallai cynnwys lleoedd degol roi ymdeimlad ffug o gywirdeb. Roedd y data ar gyfer y rheini a ymatebodd yn unig. Er mai ychydig iawn o bobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig oedd wedi ymateb, roedd yn hanfodol dechrau mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chynhwysiant er mwyn gallu nodi'r mater hwn, er bod y niferoedd yn fach.
- Byddai'r adroddiad, y fethodoleg fanwl hon a'r gwersi a ddysgwyd yn cael eu cyhoeddi, yn ddwyieithog ar y rhyngrwyd. Byddai’r adroddiad yn cael ei anfon at bawb a ddarparodd gyfeiriad e-bost cyswllt.
- Y bwriad yw bod yr adroddiad cychwynnol hwn yn adroddiad cyntaf o lawer ar y data. Bydd mwy yn dilyn ar wahanol elfennau o’r arolwg; fel croesdablu, adroddiadau ar y gweithlu sy'n derbyn tâl/di-dâl ac ati. Bydd pob un yn cael ei wneud yn gyhoeddus.
Atodiad C
Myfyrdodau cynnar ar y fethodoleg, y risgiau a'r gwersi a ddysgwyd
- Mynd yn syth at yr unigolyn
Llwyddiant oedd y penderfyniad i osgoi arolygon traddodiadol sy'n rhoi pwyslais ar gyflogwyr/sefydliadau, ac ymgysylltu ag unigolion yn uniongyrchol yn lle hynny. - Cafwyd ymateb cryf gan 1,180 o gyfranogwyr – rhai oedd yn derbyn tâl ac fel arall. Roedd hyn yn ymateb llawer uwch na'r disgwyl.
- Am y tro cyntaf, mae data'n adlewyrchu unigolion. Dim ond unwaith y cafodd pawb ei gyfrif, hyd yn oed os oeddent yn gweithio/gwirfoddoli i nifer o sefydliadau.
- Nid oedd yn rhaid i adrannau adnoddau dynol gasglu data.
- Mae manylion cyswllt y cyfranogwyr wedi cael eu coladu.
- Fodd bynnag, dyma ychydig o fyfyrdodau;
- Roedd 647 o ymatebion eraill yn annilys. Mae angen eu dadansoddi ymhellach; roedd rhai yn gwbl wag ac eraill gyda dim ond un neu ddau o gwestiynau wedi'u hateb.
- Ymateb anghyson. Ychydig iawn o ymatebion a ddaeth o rai ardaloedd daearyddol, tra bod eraill – yn enwedig Sir Benfro – yn cael eu gorgynrychioli i bob golwg. Gallai dadansoddiad manwl pellach roi mwy o wybodaeth i ni am hyn.
- Roedd pawb yn cymryd rhan yn wirfoddol ac mae niferoedd rhai cyflogwyr i weld yn isel ar y cyfan; e.e. er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflogi tua 2,000 o staff ac yn canolbwyntio ar natur, ychydig iawn o ymatebion a gafwyd gan y sefydliad hwn.
- Roedd rhai unigolion wedi cael yr arolwg sawl gwaith, ac efallai nad oedd eraill wedi’i gael o gwbl – contractwyr yn enwedig, a'r rheini nad oeddent ar restrau postio hysbys. Er hynny, roedd y strategaeth yn dibynnu'n drwm ar ewyllys da a rhwydweithiau anffurfiol. O ganlyniad, methwyd rhai grwpiau allweddol, ac roedd lefelau ymateb yn amrywio'n fawr o un sefydliad a rhanbarth i’r llall.
- Wedi dweud hynny, yn gyffredinol, cadarnhaodd hyn fod y dull yn effeithiol o ran cyrraedd ystod eang o ymatebwyr. Ond ni chyrhaeddodd bawb (gyda bylchau o ran cyrhaeddiad i rai sefydliadau, gweithwyr ac ardaloedd daearyddol).
Dyluniad yr arolwg
- Roedd yr arolwg electronig dwyieithog, a ddatblygwyd gyda mewnbwn gan randdeiliaid ac a ddosbarthwyd drwy e-bost gyda chais i’w rannu ymhellach, yn galluogi cyfranogiad eang. Roedd y gwahoddiad agored i unrhyw un a oedd yn ystyried ei hun yn rhan o'r ymdrech i adfer natur yng Nghymru yn caniatáu cynhwysiant ar draws rolau gyda thâl a di-dâl.
- Ond roedd tua 647 o ymatebion yn anghyflawn/gwag. Mae hyn yn awgrymu, er bod y dyluniad yn hwylus, y gallai rhai ymatebwyr fod wedi dod ar draws rhwystrau rhag cwblhau'r arolwg. Nid oes modd dweud ai sylweddoli nad oeddent yn gymwys a wnaethant, ynteu a oedd ffactorau eraill yn berthnasol, fel hyd ac eglurder.
- Er ei bod yn bosibl na cheir ymateb o 100% byth, gallai arolygon yn y dyfodol elwa o waith maes wedi'i dargedu'n well, ac o well dyluniad i'r arolwg o bosibl, er enghraifft ar gyfer data cymwysterau, gan egluro lefelau NVQ i annog cyfranogiad mwy cytbwys a chyflawn.
- Yn ôl pob golwg, mae'r atebion i'r cwestiwn ar lefel NVQ yn awgrymu nad oedd pobl yn deall y cwestiwn yn iawn. Nid yw'n ymddangos bod y dosbarthiad daearyddol yn adlewyrchu’r boblogaeth.
Dosbarthu a dyblygu negeseuon e-bost
- Profwyd bod y dull o ganiatáu i'r arolwg gael ei anfon ymlaen, a gofyn i unigolion ei gwblhau unwaith yn unig, yn ffordd effeithlon o gasglu data. Mae’n debygol bod y dull syml hwn wedi cyfrannu at y gyfradd ymateb gref.
Ond efallai fod y diffyg rheolaeth dros bwy dderbyniodd yr arolwg wedi cyfrannu at orgynrychiolaeth mewn rhai ardaloedd a thangynrychiolaeth mewn ardaloedd eraill. - Er y cydnabuwyd y gallai rhai unigolion gael dolen yr arolwg sawl gwaith, rhagwelwyd hyn, a rhoddwyd sylw i’r mater yn y cyflwyniad i'r arolwg. Nid oes unrhyw arwydd bod hyn wedi achosi dryswch nac wedi atal pobl rhag cymryd rhan.
Ymateb, cynwysoldeb a chyrhaeddiad
- Ni ddaeth dim byd o’r risg mai isel fyddai’r lefelau ymateb. Roedd nifer yr ymatebion yn fwy na'r disgwyl ar gyfer arolwg gwirfoddol, hunan-ddewisol. Er nad yw'r data'n cynrychioli'r gweithlu cyfan, mae'n darparu llinell sylfaen gadarn a gwybodaeth werthfawr am y sector adfer natur.
- Roedd natur agored a hunan-ddewisol yr arolwg yn annog amrywiaeth eang o unigolion i gymryd rhan, gan gynnwys y rheini mewn rolau heb fod yn draddodiadol neu fwy nag un rôl. Roedd hyn yn sicr yn gryfder. Nid oes modd dweud a oedd rhai safbwyntiau'n cael eu tangynrychioli. Mae hyn yn cyfyngu ar y gallu i gyffredinoli canfyddiadau ar draws y gweithlu natur cyfan. Fodd bynnag, roedd yr ymatebion isel o rai ardaloedd a’r ymatebion anghyflawn yn lleihau'r set ddata y gellir ei defnyddio. Efallai y bydd angen canllawiau cliriach a/neu ddyluniad gwell i arolygon yn y dyfodol er mwyn dal gafael ar ymatebwyr a lleihau nifer yr arolygon anghyflawn.
- Llwyddodd yr arolwg i gasglu data ar ddemograffeg, cyflogaeth, gwirfoddoli, cymwysterau, hyfforddiant ac argraffiadau’r gweithlu. Roedd cynnwys mecanwaith cytundeb ar gyfer cyswllt yn y dyfodol hefyd yn effeithiol, gan osod y sylfeini ar gyfer ymgysylltu parhaus.
- Mae nifer ac ansawdd yr ymatebion a gwblhawyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer dadansoddi; mae'r data'n golygu bod modd gwneud gwaith tablu sylfaenol ac, mewn llawer o achosion, croesdablu yn ôl rôl, daearyddiaeth, demograffeg ac ati. Ond mae'r ddarpariaeth anghyson yn golygu mai hyn a hyn o ddadansoddi y gellir ei wneud. Bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu cydnabod yn glir mewn unrhyw ddehongliad neu gyflwyniad o'r canfyddiadau.
Defnyddio technoleg
- Roedd yr arolwg yn fenter newydd ar gyfer y portffolio Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Er gwaethaf yr ansicrwydd cychwynnol, roedd y gyfradd ymateb yn gryf, gyda 1,180 o unigolion yn cymryd rhan o bob cwr o Gymru. Mae hyn yn awgrymu bod y dull yn effeithiol wrth gyrraedd cynulleidfa eang ac ymgysylltu’n ystyrlon.
- Ni nodwyd unrhyw broblemau mawr o ran llwyfan yr arolwg (Smartsurvey) nac eglurder y cwestiynau. Mae'n ymddangos bod treialu a chynnwys cydweithwyr cyfathrebu wedi bod yn effeithiol wrth sicrhau hygyrchedd a defnyddioldeb, ond mae nifer yr ymatebion anghyflawn/na ellir eu defnyddio yn cyfiawnhau ymchwiliad pellach.
Gonestrwydd ac ymddiriedaeth
- Roedd pryderon y gallai unigolion fod yn amheus ynghylch rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae nifer uchel yr ymatebion ac ehangder y cyfranogiad ar draws sectorau a rolau yn dangos bod y pryderon hyn wedi cael eu lliniaru i raddau helaeth. Mae'n debygol bod cymeradwyaeth gan reolwyr arolygon a chyfathrebu rhagweithiol gan staff wedi helpu i feithrin ymddiriedaeth.
Casgliad
- Roedd y fethodoleg a fabwysiadwyd ar gyfer Arolwg Gweithlu Natur Cymru 2025 yn llwyddiannus ar y cyfan. Llwyddodd i oresgyn llawer o'r heriau sy'n deillio o weithlu gwasgaredig a chymhleth a chyflwyno set ddata werthfawr. Fodd bynnag, mae dosbarthiad anghyson yr ymatebion, tangynrychiolaeth sefydliadau allweddol, a nifer yr ymatebion anghyflawn yn dangos bod meysydd i'w gwella. Gallai arolygon yn y dyfodol elwa o waith maes wedi'i dargedu, gwell dyluniad ar gyfer arolygon, a chymorth ychwanegol i sicrhau cyfranogiad mwy cytbwys a chyflawn.
- Yn gyffredinol, rheolwyd y risgiau a nodwyd cyn yr arolwg yn dda, ac ni ddatblygodd y rhan fwyaf ohonynt i raddau a oedd yn tanseilio llwyddiant yr arolwg. Roedd y dull a ddefnyddiwyd yn ffordd gynhwysol ac effeithlon o ddefnyddio adnoddau wrth gasglu data sylfaenol ar y gweithlu natur yng Nghymru. Mae'r canlyniadau bellach yn darparu sylfaen ar gyfer cynllunio'r gweithlu a datblygu polisïau yn y dyfodol.
