Neidio i'r prif gynnwy

Mae canran yr oedolion sy'n smygu yng Nghymru yn is nag erioed, yn ôl arolwg newydd o iechyd y genedl a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Arolwg Iechyd Cymru 2015 yn dangos bod 19% o oedolion wedi dweud eu bod yn smygu ar hyn o bryd, i lawr o 26% yn 2003/4. Mae'r lleihad sylweddol hwn yn golygu bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhagori ar ei nod o leihau cyfraddau smygu i 20% erbyn 2016, ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol i ddod â'r lefelau i lawr i 16% erbyn 2020.

Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n dangos fod llawer ohonom yn dal i fwyta ac yfed gormod, a ddim yn gwneud digon o ymarfer corff.

Cymerodd 13,700 o oedolion a 2,600 o blant ran yn Arolwg Iechyd Cymru 2015. Dyma rai o'r prif ganlyniadau:

  • Dywedodd 40% o'r oedolion eu bod wedi yfed mwy na'r hyn sy'n cael ei argymell ar o leiaf un diwrnod yn yr wythnos flaenorol, i lawr o 45% yn 2008, gyda 24% ohonynt yn dweud eu bod wedi goryfed mewn pyliau
  • Dywedodd tua 31% o’r oedolion eu bod wedi bod yn gorfforol egnïol ar bum  diwrnod neu ragor yn yr wythnos flaenorol
  • Dywedodd 17% o'r oedolion eu bod wedi trafod eu hiechyd eu hunain gyda meddyg teulu yn ystod y pythefnos flaenorol, a dywedodd 70% o'r oedolion eu bod wedi bod at y deintydd yn y ystod y 12 mis blaenorol
  • Dywedodd 94% o'r plant bod eu hiechyd cyffredinol yn dda iawn neu'n dda.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

"Mae'n galonogol ein bod bron â chyrraedd ein targed uchelgeisiol o leihau canran y bobl sy'n smygu i 16% erbyn 2020, gyda phedair blynedd tan hynny. Mae hyn o ganlyniad i ymdrechion gweithwyr proffesiynol sydd wedi bod yn gweithio i annog pobl ifanc i beidio â dechrau smygu  ac wedi rhoi cyngor a chymorth rhagorol i smygwyr oedd eisiau cymorth i roi'r gorau iddi. Mae'r diolch hefyd i bobl Cymru am groesawu'r newid i'r diwylliant smygu.

"Er bod canlyniadau'r arolwg yn dangos arwyddion o welliant - yn enwedig o ran smygu - mae rhagor o waith i'w wneud mewn rhai meysydd. Mae angen inni wneud cynnydd o ran gordewdra a lefelau gweithgarwch corfforol, ac rwy'n hyderus y bydd ein penderfyniad i gyfuno polisi iechyd a chwaraeon llawr gwlad  yn ein helpu i wneud hyn.

"Byddwn ni'n dal ati i gefnogi pobl i gymryd camau bach i wella eu ffordd o fyw a lleihau'r risg o salwch y gellir ei atal."