Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal rhaglen ymchwil i lywio'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio'r dreth gyngor er mwyn sicrhau system decach a mwy graddoledig.

Mae ymchwil flaenorol (Diwygio cyllid llywodraeth leol yng Nghymru: crynodeb o'r canfyddiadau) wedi nodi nad yw lefelau ymwybyddiaeth o drethi lleol nac agweddau tuag atynt yn glir ac mai anaml y cânt eu mesur. Am y rheswm hwn, mae'r ymchwil hon wedi cynnwys ystyried dealltwriaeth y cyhoedd o system y dreth gyngor yng Nghymru ac a ydynt yn ei derbyn. Am y rheswm hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru gwestiynau ychwanegol am agweddau tuag at y dreth gyngor yn ystod cam mis Mawrth 2022 Arolwg Omnibws Cymru (a gynhaliwyd gan Beaufort Research Ltd), gyda gwaith dadansoddi yn cael ei wneud yn fewnol gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.

Diben yr ymchwil hon oedd ystyried canfyddiadau'r cyhoedd o degwch y dreth gyngor. Roedd hyn yn cynnwys dyluniad y dreth a sut mae'n cael ei gweinyddu yn ogystal â'r ffordd y caiff ei defnyddio a'i buddsoddi mewn cymunedau. Ceisiodd hefyd ystyried y gydberthynas rhwng y lefel o wybodaeth a dealltwriaeth o'r dreth gyngor a chanfyddiadau o ran ei thegwch a chasglu barn ynghylch a ddylid diwygio'r dreth yn y dyfodol.

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn cynnwys cyfweliadau â sampl gynrychioliadol o 1,000 o oedolion 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru, o leiaf. Gwnaed gwaith maes ar gyfer cam mis Mawrth 2022 Arolwg Omnibws Cymru rhwng 28 Chwefror a 20 Mawrth 2022. Cwlbhawyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau.

Gwybodaeth ac agweddau tuag at system bresennol y dreth gyngor

Roedd yr ymatebwyr i'r arolwg wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng y rhai a nododd eu bod gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor a'r rhai a nododd nad oeddent yn gwybod fawr ddim amdani.

Nododd tua hanner yr ymatebwyr (44%) eu bod yn gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor, gyda 43% yn nodi nad oeddent yn gwybod fawr ddim amdani. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl rhyw, oedran, band incwm a deiliadaeth tai. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gwybod llawer iawn neu eithaf tipyn am y dreth gyngor yn ddynion, yn ennill £75,000+ y flwyddyn, yn 55+ oed neu'n berchenogion eiddo. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi nad oeddent yn gwybod fawr ddim am y dreth gyngor, os o gwbl, yn fenywod, yn 16-34 oed, yn ddi-waith, yn ennill llai na £19,999 y flwyddyn, yn rhentwyr cymdeithasol neu'n anabl.

Pan ofynnwyd i ymatebwyr enwi gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, y gwasanaethau mwyaf cyffredin a enwyd oedd ailgylchu neu gasglu gwastraff (64%), gwasanaethau brys (55%) a phriffyrdd (45%).

Dangosodd yr arolwg fod y mwyafrif o'r ymatebwyr yn ystyried bod talu'r dreth gyngor yn broses syml, eu bod yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor ac nad oeddent yn ei chael hi'n anodd deall eu bil treth gyngor.

  • Roedd tua wyth o bob 10 ymatebydd (82%) yn cytuno bod talu'r dreth gyngor yn broses syml. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl oedran a statws anabledd. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod talu'r dreth gyngor yn broses syml yn 55+ oed neu nad oeddent yn anabl.
  • Roedd bron i dri chwarter yr ymatebwyr (72%) yn anghytuno â'r gosodiad eu bod yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl oedran, statws anabledd a statws gweithio. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno nad oeddent yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor yn 16 i 34 oed, yn anabl neu'n fyfyrwyr llawn amser.
  • Roedd tua dau o bob tri ymatebydd (65%) yn anghytuno â'r gosodiad bod eu biliau treth gyngor yn anodd i'w deall. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl deiliadaeth eiddo, oedran a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn berchenogion eiddo yn fwy tebygol o anghytuno bod eu biliau treth gyngor yn anodd i'w deall. Roedd ymatebwyr a oedd yn 16 i 34 oed neu'n cael disgowntiau neu ostyngiadau yn eu treth gyngor yn fwy tebygol o gytuno bod eu bil treth gyngor yn anodd i'w ddeall.

Cymysg oedd agweddau'r ymatebwyr o ran ymwybyddiaeth o'r cymorth a all fod ar gael i dalu'r dreth gyngor ac a yw eu bil treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref.

  • Roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr (54%) yn cytuno eu bod yn ymwybodol o'r cymorth a all fod ar gael i dalu'r dreth gyngor. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl oedran, strwythur yr aelwyd a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn ymwybodol o'r cymorth a all fod ar gael i dalu'r dreth gyngor yn 55 oed neu drosodd, o aelwydydd un oedolyn neu'n cael disgowntiau neu ostyngiadau yn eu treth gyngor.
  • Roedd bron i hanner yr ymatebwyr (47%) yn cytuno bod eu bil treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl oedran, deiliadaeth eiddo, strwythur yr aelwyd a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod eu biliau treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref yn 55 oed neu drosodd, yn berchenogion eiddo, o aelwydydd un oedolyn neu'n cael disgowntiau neu ostyngiadau yn eu treth gyngor.

Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol neu fod system y dreth gyngor yn deg a nododd dros hanner nad oedd yn glir iddyn nhw sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario.

  • Roedd tua chwech o bob 10 ymatebydd (62%) yn anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl crefydd, rhyw, oedran, statws gweithio, deiliadaeth eiddo, statws talu'r dreth gyngor a band y dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol o Gaerdydd a De-ddwyrain Cymru, yn ddynion neu'n berchenogion eiddo. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol yn 35 i 54 oed, yn gyflogeion amser llawn neu ran-amser, yn unigolion nad oeddent yn cael disgowntiau na gostyngiadau yn eu treth gyngor neu ym mand D y dreth gyngor.
  • Roedd dros hanner yr ymatebwyr (57%) yn anghytuno â'r gosodiad bod system y dreth yn deg. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl rhyw, oedran, band incwm, strwythur yr aelwyd a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod system y dreth gyngor yn deg yn ddynion, yn 16 i 34 oed, yn ennill £75,000+ y flwyddyn neu'n cael disgowntiau neu ostyngiadau yn eu treth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno bod system y dreth gyngor yn deg o aelwyd lle roedd cwpl yn byw gyda dibynyddion.
  • Roedd tua hanner yr holl ymatebwyr (56%) yn cytuno nad oedd yn glir iddynt sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl oedran, statws gweithio, deiliadaeth eiddo a strwythur yr aelwyd. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno nad oedd yn glir iddynt sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario yn 55+ oed neu wedi ymddeol neu'n unigolion nad oeddynt yn gweithio'n barhaol neu'n berchenogion eiddo. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno nad oedd yn glir iddynt sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario o aelwyd lle roedd cyplau yn byw gyda dibynyddion.

Cymysg oedd agweddau'r ymatebwyr ynghylch i ba raddau y mae system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu ac a oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau'r dreth gyngor.

  • Roedd tua dau o bob tri ymatebydd (43%) yn cytuno bod system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl crefydd, rhyw, oedran, statws gweithio, deiliadaeth eiddo, strwythur yr aelwyd a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu yn ddynion, yn 55+ oed, wedi ymddeol neu'n unigolion nad oeddent yn gweithio'n barhaol, o aelwydydd un oedolyn neu'n unigolion nad oeddent yn talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno bod system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu o Gymoedd De Cymru neu'n byw mewn llety rhent preifat.
  • Roedd yr ymatebion wedi'u rhannu'n weddol gyfartal o ran y gosodiad nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau'r dreth gyngor, gyda 41% yn anghytuno â'r gosodiad hwn a 29% yn ateb, ‘ddim yn gwybod’. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl crefydd, rhyw, oedran, statws gweithio, deiliadaeth eiddo a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau'r dreth gyngor o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn ddynion neu'n gyflogeion amser llawn. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau'r dreth gyngor yn 55+ oed, yn berchenogion eiddo neu'n cael disgowntiau neu ostyngiadau yn eu treth gyngor.

Nododd y mwyafrif o'r ymatebwyr fod swm y dreth gyngor y mae disgwyl iddynt ei dalu yn rhy uchel.

  • Nododd tua thri o bob pum ymatebydd (61%) fod eu bil treth gyngor yn rhy uchel. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl crefydd, rhyw oedran, deiliadaeth eiddo, band incwm, statws anabledd a statws gweithio. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi bod eu treth gyngor yn ‘rhy uchel’ o Gymoedd De Cymru, yn fenywod, yn 35-54 oed, yn berchenogion eiddo, yn ennill £20,000 i 29,999 neu'n unigolion nad oeddent yn anabl. Roedd myfyrwyr amser llawn yn llai tebygol o nodi bod y dreth gyngor yn ‘rhy uchel.
  • Nododd chwarter yr ymatebwyr fod swm y dreth gyngor y mae disgwyl iddynt ei dalu yn ‘agos at ei le’. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl rhyw, band incwm a strwythur yr aelwyd. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi bod y dreth gyngor yn agos at ei lle yn ddynion, yn ennill  £75,000+ neu o aelwydydd un oedolyn.
  • Pan roddwyd gwybodaeth iddynt am y gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, nododd cyfran lai fod y dreth gyngor y gofynnir iddynt ei thalu yn ‘rhy uchel’ (49%, o gymharu â 61% cyn i'r wybodaeth gael ei darparu). Nododd cyfran fwy o'r ymatebwyr fod y swm y mae disgwyl iddynt ei dalu yn ‘agos at ei le’ (33%, o gymharu â 25% cyn i'r wybodaeth gael ei darparu).

Agweddau tuag at newid

Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system drethiant leol wahanol er mwyn ei gwneud yn decach. Pan gawsant eu holi am opsiynau eraill, ystyriwyd mai system drethiant leol yn seiliedig ar eich incwm oedd y system decaf.

  • Roedd pedwar o bob 10 ymatebydd (42%) yn cytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system arall, gyda 17% yn anghytuno. Rhoddodd tua dau o bob pum ymatebydd (41%) yr ateb ‘ddim yn gwybod’ i'r cwestiwn hwn. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl crefydd, rhyw, oedran, statws gweithio a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system arall o Gaerdydd a De-ddwyrain Cymru, yn ddynion, yn 35-54 oed, yn gyflogeion amser llawn neu'n unigolion a oedd yn talu'r bil treth gyngor llawn.
  • Nododd bron i hanner yr ymatebwyr (46%) mai ‘eich incwm’ oedd y mesur tecaf o system drethiant leol newydd. Nododd llai nag un o bob 10 ymatebydd (7%) mai ‘gwerth y tir lle y lleolir eich eiddo’ oedd y mesur tecaf. Nododd dros hanner yr holl ymatebwyr (57%) mai system lle mae pawb yn talu'r un swm oedd y mesur lleiaf teg.

O ran beth ddylai nodau system drethiant leol newydd fod, nododd yr ymatebwyr mai'r nod pwysicaf yw sicrhau bod y system yn syml.

  • Pan ofynnwyd iddynt sgorio cyfres o osodiadau yn ôl eu pwysigrwydd ar raddfa o 1 i 10 (lle roedd 1 yn dynodi 'ddim yn bwysig o gwbl' a 10 yn dynodi 'cwbl hanfodol') roedd y canlyniadau yn dangos mai nod pwysicaf trethiant lleol yn ôl trigolion oedd y ‘dylai systemau talu fod yn syml’. Rhoddodd yr ymatebwyr sgôr gyfartalog gymedrig o 8.44 ar gyfer pwysigrwydd i'r gosodiad hwn. Cafodd o nod o sicrhau bod biliau treth gyngor yn ‘adlewyrchu'r gallu i dalu’ y sgôr gyfartalog gymedrig isaf ar gyfer pwysigrwydd, sef 7.93.
  • Nododd tua phedwar o bob 10 ymatebydd (42%) fod y gosodiad y ‘dylai systemau talu fod yn syml’ yn gwbl hanfodol, tra nododd tua thri o bob 10 ymatebydd (33%) fod y gosodiad y ‘dylai biliau treth lleol adlewyrchu'r gallu i dalu’ yn gwbl hanfodol.
  • Pan ofynnwyd iddynt nodi un peth y byddent yn ei newid mewn perthynas â system y dreth gyngor, yr ateb mwyaf cyffredin oedd y dylid lleihau taliadau, eu gwneud yn rhatach neu eu gwneud yn fwy fforddiadwy.

Manylion cyswllt

Awduron: Jennie Mack and Nerys Owens (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru)

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i'r ymchwilwyr, ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 48/2022
ISBN digidol 978-1-80364-376-2

Image
GSR logo