Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Croeso Cymru, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, yn cynnal arolygon o ymweliadau ag atyniadau twristiaeth yng Nghymru yn flynyddol. Nod y casgliad data hwn yw:

  • pennu ac adrodd ar niferoedd ymweliadau ag atyniadau ledled Cymru a nodi tueddiadau a chynnal dadansoddiad cymharol
  • cwmpasu ffigurau ymweliadau, gweithrediadau, refeniw, marchnata ac adnoddau dynol
  • dadansoddi data yn ôl categorïau atyniadau, pedwar rhanbarth economaidd Cymru, a'r polisi codi tâl mynediad (am ddim, yn erbyn â thâl)

Mae Croeso Cymru yn cadw gwybodaeth am atyniadau twristiaeth sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd yng Nghronfa Ddata Atyniadau Croeso Cymru. Caiff asiantaethau ymchwil trydydd parti eu comisiynu i gynnal casgliadau data yn flynyddol a darperir y gronfa ddata i'r contractiwr cyfredol er mwyn cysylltu ag atyniadau ymwelwyr i gasglu data.   

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Strategic Research and Insight i gynnal yr arolwg o atyniadau twristiaeth sy'n ymwneud â pherfformiad yr atyniadau twristiaeth yng Nghymru rhwng 2019 a 2022. Fel rhan o'r casgliad data hwn, bydd Strategic Research and Insight yn casglu gwybodaeth drwy holiaduron ar-lein a gwaith dilynol dros y ffôn yn ystod y cyfnod 2020 i 2022.

Llywodraeth Cymru yw rheolwr data'r ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael copi dienw o ddata'r arolwg a gasglwyd gan Strategic Research and Insight, ac unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i ddata cyswllt ar gyfer atyniadau yng Nghymru ar wahân.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn y gwaith ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol.  Fodd bynnag, pwrpas yr arolwg hwn yw monitro tueddiadau'r sector atyniadau twristiaeth yng Nghymru er mwyn darparu gwell dealltwriaeth o'r sector i sefydliadau'r diwydiant a'r sector cyhoeddus ac i ledaenu'r canfyddiadau mewn ffordd ddefnyddiol a gwerthfawr i'r diwydiant ehangach.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Strategic Research & Insight yw:

Michael Davies
E-bost: mike@strategic-research.co.uk
Rhif ffôn: 029 2040 4344

Pa ddata personol rydyn ni'n ei gadw ac o ble rydyn ni'n cael yr wybodaeth hon?

O dan Y Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), caiff data personol ei ddiffinio fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â rhywun y gellid ei adnabod ar sail y wybodaeth honno, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol’.

Cedwir manylion cyswllt eich busnes neu'ch sefydliad gan Lywodraeth Cymru ar Gronfa Ddata Atyniadau Croeso Cymru. Mae hyn naill ai oherwydd ei fod wedi cymryd rhan yn yr arolwg yn y gorffennol neu oherwydd ei fod wedi'i ychwanegu yn yr arolwg presennol. Ychwanegir manylion cyswllt pan fo Strategic Research and Insight wedi nodi atyniad o wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ac os ydych wedi cytuno i gymryd rhan yn yr arolwg. Mae manylion cyswllt yn gymysgedd o gysylltiadau busnes cyffredinol a manylion cyswllt unigolion mewn busnes ac maent wedi'u cyfyngu i enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.

Mewn achosion lle rydych wedi cymryd rhan mewn arolygon yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu eich manylion cyswllt i Strategic Research and Insight er mwyn cynnal yr Arolwg o Atyniadau Twristiaeth. Dim ond at ddibenion yr Arolwg o Atyniadau Twristiaeth ac ar gyfer diweddaru Cronfa Ddata Atyniadau Croeso Cymru y bydd Strategic Research and Insight yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.

Anfonir dolen i'r arolwg trwy e-bost. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu os nad ydych chi am dderbyn negeseuon atgoffa, atebwch yr e-bost sydd â'r gwahoddiad yn nodi hyn a bydd eich manylion yn cael eu dileu o Gronfa Ddata Atyniadau Croeso Cymru. Os byddai'n well gennych gynnal yr arolwg dros y ffôn, atebwch yr e-bost sydd â'r gwahoddiad a bydd Strategic Research and Insight yn trefnu amser addas i gynnal yr arolwg dros y ffôn.

Ni ofynnir i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol bellach fel rhan o'r arolwg. Fodd bynnag, os yw eich manylion cyswllt yn hen, neu os ydych yn darparu eich manylion cyswllt personol yn lle cyswllt busnes cyffredinol, yna caiff y rhain eu diweddaru a'u darparu i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod Cronfa Ddata Atyniadau Croeso Cymru yn gyfredol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw copi o Gronfa Ddata Atyniadau Croeso Cymru a bydd yn ei ddarparu i'r contractiwr cyfredol er mwyn cynnal yr arolwg blynyddol. Mae cael eich cynnwys ar y gronfa ddata yn wirfoddol a bydd eich manylion cyswllt ond yn cael eu defnyddio ar gyfer eich gwahodd i gymryd rhan yn yr Arolwg o Atyniadau Twristiaeth.  Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu os nad ydych chi am dderbyn negeseuon atgoffa yn y dyfodol, gallwch naill ai ateb yr e-bost sydd yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg neu gallwch gysylltu â Chroeso Cymru gan ddefnyddio'r cyswllt a ddarperir yn yr adran, Gwybodaeth Bellach ar unrhyw adeg a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os byddwch yn holi cwestiwn neu'n lleisio cwyn fel rhan o'r arolwg ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn trosglwyddo'r cais i'r swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r gwaith ymchwil.

Beth yw'r sylfaen gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?

Ein tasg gyhoeddus yw'r sylfaen gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data a'r gronfa ddata hon; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel yr un hon a'r gwaith cynnal a chadw o gronfa ddata gyfredol yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi allu casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i wneud y canlynol:

  • penderfynu ble i fuddsoddi mewn cyfleusterau twristiaeth a'u gwella
  • penderfynu a ddylid cefnogi datblygu a seilwaith twristiaeth newydd
  • penderfynu ble i ganolbwyntio marchnata Cymru fel cyrchfan twristiaeth

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Strategic Research and Insight yn cael ei phrosesu yn unol ag ISO 9001 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel, a'i throsglwyddo i neu o Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r system trosglwyddo ffeiliau'n ddiogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data.  Dim ond ar gyfer cynnal yr Arolwg o Atyniadau Croeso Cymru y bydd Strategic Research and Insight yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Strategic Research and Insight ardystiad seiber hanfodol.

Cedwir data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru fel rhan o Gronfa Ddata Atyniadau Twristiaeth ar weinyddion diogel ac mae ffolder sydd â mynediad cyfyngedig i'r tîm ymchwil uniongyrchol wedi'i greu ar gyfer y prosiect hwn. Bydd eich manylion cyswllt ac unrhyw ddata personol yr ydych yn dewis eu darparu yn cael eu cadw yn y ffolder cyfyngedig hwn.

Wrth gynnal arolygon, mae Strategic Research and Insight yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Snap Surveys. Rydym wedi sicrhau bod Snap Surveys yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn cwrdd â'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd. Mae'r holl ddata'n cael ei brosesu yn y DU.

Mae gan Strategic Research and Insight weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o fynediad diawdurdod at ddata. Os bydd amheuaeth o fynediad diawdurdod at ddata, bydd Strategic Research and Insight yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny, ac i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth lle bo'n briodol.

Bydd Strategic Research and Insight yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod pobl unigol, dim ond yr atyniadau y gellir eu hadnabod (er enghraifft, nifer yr ymweliadau blynyddol â phob atyniad a phrisiau mynediad lle’u darperir).

Am ba hyd ydym ni'n cadw eich data personol?

Bydd Strategic Research and Insight yn cadw data cyswllt yn ystod cyfnod y contract, o 2020 hyd at ddiwedd 2022 a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu wrth gasglu data yn cael ei ddileu gan Strategic Research and Insight o fewn tri mis ar ôl diwedd y contract.

Bydd Strategic Research and Insight yn rhoi fersiwn anhysbys o ddata'r arolwg i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â rhestr wedi'i diweddaru o fanylion cyswllt atyniadau i ddiweddaru Cronfa Ddata Atyniadau Croeso Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw copi o Gronfa Ddata Atyniadau Croeso Cymru a bydd yn cadw'r manylion cyswllt tra bydd atyniadau'n dal i fod yn weithredol neu nes i chi ofyn am gael eich dileu o'r gronfa.

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych chi'r hawliau canlynol o ran yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r arolwg hwn:

  • i weld copi o'ch data eich hun
  • i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu gwaith prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef eich rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Croeso Cymru a rhannau eraill o Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Jennifer Velu
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 0459

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 ENQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru