Neidio i'r prif gynnwy

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble y daw’r wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddyfais adnabod’.

Byddwch wedi derbyn neu wedi cael eich cyfeirio fel arall at yr arolwg fel a ganlyn:

  • Anfonodd Llywodraeth Cymru ddolen yr arolwg atoch drwy e-bost, rydym yn cadw eich manylion cyswllt oherwydd eich bod wedi cyfrannu o'r blaen at feysydd gwaith eraill yn y Tîm Polisi ac mae'r arolwg yn cysylltu'n ôl â'r gwaith hwn
  • Gwnaethoch ddilyn y ddolen i'r arolwg ar y Cylchlythyr misol, yr Hyb Gwybodaeth neu drwy un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Nid yw'r arolwg hwn yn ei gwneud yn ofynnol casglu unrhyw ddata personol oddi wrthych. Fodd bynnag, hoffem wybod pa Sefydliadau Sector Cyhoeddus sy'n defnyddio'r SRA a beth yw barn pobl ei hunain am ei ddefnyddio.  Nid yw'n ofynnol i chi wneud hynny i ymateb i'r arolwg ac os na roddwch eich manylion cyswllt bydd eich ymatebion yn gwbl ddienw.

Os dewiswch ddarparu data personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg ni fyddwn yn eich adnabod o'r ymatebion a roddwch, nac yn cysylltu'ch hunaniaeth â nhw. Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn, ac os byddwch yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei ddileu o ddata’r arolwg.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw ein gorchwyl cyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae adolygiadau fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru wella'r SRA i'w ddefnyddio gan y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Bydd data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn mae ffolder wedi'i chreu sydd â mynediad cyfyngedig i'r Tîm  Caffael Masnachol uniongyrchol yn unig.  Bydd eich manylion cyswllt ac unrhyw ddata personol y byddwch yn dewis eu darparu yn cael eu storio yn y ffolder gyfyngedig hon.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd Smart Survey i gynnal arolygon. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd (ee caiff yr holl ddata eu prosesu o fewn yr AEE).

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Nid yw'r arolwg yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddata personol gael eu darparu, ond os byddwch yn darparu manylion cyswllt yna byddwn yn cadw'r manylion hynny tan 1 Gorffennaf 2022.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r manylion cyswllt sydd ganddi eisoes, fel eich manylion cofrestru ar GwerthwchiGymru, yn ôl yr hysbysiadau preifatrwydd a gyhoeddwyd at y dibenion hynny.

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r adolygiad hwn. Yn benodol mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
  • Inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • I’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol), ac 
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r arolwg hwn yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), cysylltwch â:

Enw: Caffael Masnachol - Tîm Polisi a Chyflawni
Cyfeiriad e-bost: CommercialPolicy@gov.wales
Rhif ffôn: 0300 025 5642

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.