Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer yr Adolygiad Teilwredig Adolygiad Thematig: arolwg o brosesau recriwtio byrddau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cytunwyd ar ddau adolygiad thematig gyda'n cyrff cyhoeddus a thimau partneriaeth i ystyried "Prosesau Recriwtio Byrddau" a "Rolau nawdd a sgiliau". 

Mae dau arolwg wedi'u llunio i ystyried Prosesau Recriwtio Byrddau. Bydd yr arolwg ar gyfer cyrff cyhoeddus a'u timau partneriaeth yn ystyried y broses recriwtio ac arferion gorau ac yn holi a ellir gwneud gwelliannau. Bydd arolwg arall yn cael ei anfon at aelodau o fyrddau, gan eu gwahodd i rannu eu profiad a'u barn o ran y broses recriwtio.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr arolygon.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth mewn perthynas â'r ymchwil hon.

Drwy gymryd rhan, bydd unrhyw ymatebion i'r ymchwil yn helpu i sefydlu arferion gorau o ran recriwtio i fyrddau yng Nghymru yn y dyfodol, gan fod o fudd i'n holl Gyrff Cyhoeddus a Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir gan yr arolygon yn cael ei defnyddio i:

  • lunio darlun cynhwysfawr o arferion recriwtio presennol byrddau o ran penodi aelodau o fyrddau a reoleiddir a byrddau nas rheoleiddir.
  • casglu barn ac enghreifftiau o arferion da a fydd yn cael eu rhannu â chyrff cyhoeddus a thimau partneriaeth.
  • ystyried themâu cyffredin (cyfleoedd a heriau/rhwystrau) ar draws ymgyrchoedd recriwtio byrddau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon neges atoch i'ch atgoffa o'r dyddiad cau ac efallai y bydd angen eglurhad pellach am eich ymatebion i'r arolwg. Fodd bynnag, os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael negeseuon yn eich atgoffa, anfonwch e-bost at y blwch post Adolygiadau Teilwredig: Adolygiadau.Teilwredig@llyw.cymru

Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chynnwys mewn unrhyw gyhoeddiad sy'n deillio o'r arolwg hwn.

Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble y daw'r wybodaeth honno?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Mae Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) Prif Swyddogion Gweithredol a Chadeiryddion y rhan fwyaf o Gyrff Sector Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Byddwch yn derbyn dolen at yr arolwg drwy un o'r ffyrdd canlynol:

  • Wedi'i hanfon mewn e-bost gan dîm partneriaeth Llywodraeth Cymru neu'r Uned Cyrff Cyhoeddus,
  • Wedi'i hanfon ymlaen atoch gan gydweithiwr yn eich sefydliad,
  • Wedi'i hanfon ymlaen atoch gan Glerc y Bwrdd neu'r person yn y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am gysylltu ag aelodau o'r bwrdd.

Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael negeseuon yn eich atgoffa, atebwch yr e-bost o wahoddiad ac ni fyddwn yn cysylltu â chi eto ar gyfer yr arolwg hwn.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol gan ofyn am ymateb, bydd yr Uned Cyrff Cyhoeddus yn ymateb ichi'n uniongyrchol neu'n anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol.

Os yw'r ymholiad yn ymwneud â'r arolwg ac yn berthnasol ond y gellid eich adnabod chi neu'ch sefydliad ohono, a'ch bod wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig, gall fod yn rhan o'r adroddiad. Ni waeth a ydych wedi rhoi caniatâd ai peidio, ni fydd unrhyw ddata personol yn cael eu rhannu ag unrhyw un y tu allan i'r Uned Cyrff Cyhoeddus a thîm Digidol Corfforaethol Llywodraeth Cymru sy'n gweinyddu ffurflenni'r arolwg. 

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Bydd unrhyw ddata personol sy'n cael eu darparu i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd Smart Survey i gynnal arolygon. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â rheolau GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd.

Bydd Tîm Digidol Corfforaethol Llywodraeth Cymru yn derbyn pob ymateb, ac ynghyd â'r Uned Cyrff Cyhoeddus bydd yn eu dadansoddi i lunio adroddiad a fydd yn cael ei rannu â'n Cyrff Cyhoeddus a Thimau Partneriaeth Llywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol neu wybodaeth y gellir adnabod rhywun ohoni yn rhan o'r adroddiad hwn nac yn cael ei rhannu ag unrhyw un y tu allan i'r Uned Cyrff Cyhoeddus.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw'r wybodaeth hon am hyd at chwe mis ar ôl i'r arolwg gael ei gwblhau.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

Mae gennych hawl i’r canlynol:

  • i gael gafael ar y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch;
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu i'r wybodaeth hon gael ei phrosesu;
  • yr hawl i gael eich data wedi'u 'dileu' (os caniatâd yw'r sail gyfreithlon);
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Adolygiadau.Teilwredig@llyw.cymru

Enwau cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113