Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynodd Canolfan Ragoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru arolwg ar-lein gyda sampl o dderbynyddion grantiau cyfredol.  

Roedd 348 o ymatebion (cyfradd ymateb o 18%) gan dderbynyddion ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Canfyddiadau allweddol

  • Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn fodlon ar yr amrywiol agweddau o broses grantiau Llywodraeth Cymru. 
  • Roedd y boddhad uchaf gyda’r broses ar gyfer gwneud ceisiadau a thaliadau (80%). Roedd y boddhad isaf gyda gwneud cais a'r broses benderfyniadau (67%). 
  • Ymatebwyr y trydydd sector oedd fwyaf bodlon, gyda sgoriau uwch na'r 'boddhad cyfartalog'. Fel rheol, roedd ymatebwyr y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn llai bodlon. 
  • Roedd sgoriau o ran cysondeb y broses grantiau yn amrywio. Roedd y lefel uchaf o gysondeb yn ymwneud â’r cyngor a gânt gan swyddogion Llywodraeth Cymru (73% yn gyson bob amser neu weithiau) a’r lefel isaf oedd â phrosesau monitro (56% yn gyson bob amser neu weithiau). 
  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr (78%) yn darparu gwybodaeth ddyblyg ar gyfer ceisiadau grant, ond nid oeddent yn credu fod hyn yn rhy feichus. 
  • Cynhwysir nifer o awgrymiadau ynghylch defnyddio llwyfannau ar-lein ar gyfer ceisiadau a monitro grantiau. Roedd ymatebwyr o blaid cyflwyno newidiadau o'r fath ar gyfer grantiau Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Arolwg o Dderbynyddion Grantiau Llywodraeth Cymru, 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Cerys Ponting

Rhif ffôn: 0300 025 7342

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.