Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am farn ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar gyfer 26 i 30 Mawrth 2021.

Prif ganfyddiadau

Mae canfyddiadau o'r bygythiadau a achosir gan coronafeirws wedi gostwng yn ddiweddar. Wrth i'r broses o gyflwyno brechu parhau ac wrth i'r cyfyngiadau ddechrau cael eu lleddfu yng Nghymru, gostyngodd y gyfran sy'n credu bod coronafeirws yn fygythiad uchel iddynt yn bersonol a'u gwlad i'r lefelau isaf a gofnodwyd eto.

Mae cyfran y bobl sy'n gadael eu cartref i wneud teithiau hanfodol yn unig wedi aros yn uchel ac mae mwyafrif helaeth yng Nghymru yn parhau i geisio cadw dau fetr oddi wrth eraill pan fyddant allan. Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yn gyffredinol yn parhau i gael eu gweld yn gwneud gwaith da, gyda dros ddau draean o'r cyhoedd yng Nghymru bellach yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da am reoli lledaeniad y feirws.

Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn parhau i feddwl y bydd y pandemig coronafeirws yn cael effaith ariannol bersonol arnynt. Mae tua un pumed o bobl yn pryderu na fyddant yn gallu talu eu biliau un mis o nawr.
 

Crynodeb o'r dulliau

Canlyniadau dethol yw’r rhain o arolwg wythnosol sy'n olrhain ymddygiad a barn y cyhoedd ar coronafeirws. Mae'r astudiaeth yn defnyddio platfform ar-lein Global Advisor IPSOS Mori i gasglu gwybodaeth gan oedolion rhwng 16 a 74 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi talu am gynnydd ym maint y sampl ar gyfer Cymru ers 19 Mawrth hyd at 21 Mawrth 2020, a maint y sampl yn sgîl hyn yw oddeutu 500 i 600. Mae'n gynrychioliadol ar y cyfan ar lefel poblogaeth, a chaiff y data ei bwysoli i adlewyrchu proffil demograffig y boblogaeth oedolion (o ran rhyw ac oedran) yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn. Tra bod rhai cyfyngiadau i baneli ar-lein, maent yn darparu data’n gyflym mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Bydd y cyfyngau hygrededd tebygol o gwmpas y dangosyddion oddeutu +/-4% i 5% ar gyfer y sampl wedi ei gynyddu ar gyfer Cymru. O ystyried y cyfyngau hygrededd dylid dehongli'r gwahaniaethau rhwng wythnosau gyda pheth gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19): 26 i 30 Mawrth 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 8 KB

ODS
8 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.