Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn dangos data ar gyfer enillion o waith, incwm gan deulu a ffrindiau, gwariant myfyrwyr, cynilion, benthyciadau a dyledion ar gyfer Medi 2014 i Awst 2015.

Mae’r fersiwn derfynol hon yn cynnwys cymariaethau rhwng sefyllfa ariannol myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a myfyrwyr sy’n hanu o Loegr.

Myfyrwyr amser llawn

  • Cyfartaledd yr incwm oedd ychydig dros £16,300, cynnydd o 43% o’i gymharu â 2011/12, sy’n adlewyrchu ehangiad y pecyn cymorth i ariannu’r gyfundrefn ffioedd uwch a gyflwynwyd yn 2012. 
  • Cafodd dros hanner y myfyrwyr Grant Dysgu Llywodraeth Cymru neu Grant Cymorth Arbennig, a gwnaeth mwy ohonynt waith am dâl yn ystod y tymor nag yn 2011/12. 
  • Roedd cyfraniadau gan deuluoedd yn gyfran is o’r incwm o’i gymharu â’r arolwg diwethaf.
  • Y gwariant cyfartalog oedd ychydig dros £18,800 ac roedd wedi cynyddu 34% ers 2011/12. Roedd y costau cyfranogi wedi mwy na dyblu. 
  • Y cyfanswm benthyca oedd ychydig o dan £7,300 ar gyfartaledd yn dilyn y flwyddyn gyntaf, ychydig o dan £15,000 yn y flwyddyn ganlynol ac ychydig dros £19,000 yn y drydedd flwyddyn. 
  • Er bod benthyca o gredyd masnachol ac ôl-ddyledion wedi cynyddu, ni wnaeth y cyfraddau benthyca yn gyffredinol newid rhwng 2011/12 a 2014/15.
  • Oherwydd y Grant Ffioedd Dysgu roedd gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn lawn-amser sy'n hanu o Gymru lai o ddyled net (benthyca llai cynilion - cyfartaledd £16,500) na myfyrwyr sy’n hanu o Loegr (cyfartaledd dyled net £28,500).

Myfyrwyr rhan-amser

  • Roedd yr incwm cyfartalog, sef ychydig dros £14,000, hefyd wedi cynyddu ers yr arolwg diwethaf, ond roedd y cynnydd hwn yn llai nag ar gyfer myfyrwyr amser llawn. Golyga hyn bod incwm myfyrwyr rhan-amser yn llai nag incwm myfyrwyr amser llawn, a oedd yn wahanol i’r sefyllfa yn 2011/12. 
  • Roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr rhan-amser mewn gwaith parhaus am dâl ac roedd y rhan fwyaf yn cael budd-daliadau nawdd cymdeithasol. 
  • Roedd myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn rhagweld y byddai ganddynt fenthyciadau o ychydig o dan £7,700 ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd myfyrwyr yn ei trydedd blwyddyn neu uwch yn rhagweld benthyciadau o dan £2,900. Roedd y benthyciadau hyn yn cynnwys swm sylweddol o gredyd masnachol, ac roedd y niferoedd a oedd yn dibynnu ar hwn wedi cynyddu ers arolwg 2011/12.

Mae ffeithlun yn amlinellu rhai o’r prif ganlyniadau. Bydd adroddiad technegol manwl yn yr Afchif Data’r DU.

Adroddiadau

Arolwg o incwm a gwariant myfyrwyr, Medi 2014 i Awst 2015 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 12 MB

PDF
Saesneg yn unig
12 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arolwg o incwm a gwariant myfyrwyr, Medi 2014 i Awst 2015: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 528 KB

PDF
528 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arolwg o incwm a gwariant myfyrwyr, Medi 2014 i Awst 2015: ffeithluniau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 532 KB

PDF
532 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Sara James

Rhif ffôn: 0300 025 6812

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.