Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg o nodweddion cydraddoldeb aelodau bwrdd Cyrff Sector Cyhoeddus a reoleiddir a Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Ym mis Mehefin 2022, cafodd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei lansio a’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Un o nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yw sicrhau bod uwch arweinwyr y sector cyhoeddus yn cynrychioli’r boblogaeth ac yn gynhwysol, fel y mae holl fyrddau’r gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector yr ydym yn eu hariannu. Un cam gweithredu ar gyfer cyflawni hyn yw i Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru fynd ati i bennu cwmpas a threialu prosiect casglu data ynghylch nodweddion cydraddoldeb aelodau byrddau ar gyfer cyrff sector cyhoeddus a reoleiddir gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ac ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn, bydd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn casglu gwybodaeth gan aelodau bwrdd eich sefydliad am eu nodweddion personol. Rydym wedi gofyn i’n swyddog cyswllt yn eich sefydliad eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg yn rhinwedd eich swydd yn aelod o fwrdd arwain eich sefydliad. Dyma ran gyntaf cyfres o brosiectau ymchwil sy’n anelu at ddeall amrywiaeth gweithlu cyrff sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data y gwaith ymchwil. Ni fyddwn yn rhannu ymatebion aelodau unigol o’r bwrdd ag eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn inni wneud hynny.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei defnyddio i asesu amrywiaeth aelodau byrddau cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw ddata y gellir eich adnabod ar eu sail.

Eich dewis chi yw cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn neu beidio. Er hynny, mae eich cyfranogiad yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Anfonwyd yr arolwg hwn atoch ar ffurf dolen we gan gynrychiolydd o’ch sefydliad; nid oes gennym eich manylion cyswllt. Ni fyddwn yn rhannu eich ymateb i’r arolwg â’r unigolyn na’r sefydliad a anfonodd ddolen yr arolwg atoch.

Fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn, byddwn yn casglu’r data personol a ganlyn:

  • Oedran.
  • Anabledd.
  • Rhyw (a gofrestrwyd adeg geni).
  • Sefydliad.

Yn ogystal â’r data categorïau arbennig a ganlyn:

  • Ethnigrwydd.
  • Crefydd.
  • Hunaniaeth rhywedd.
  • Hunaniaeth rywiol.

Eich dewis chi yw cymryd rhan neu beidio ac, os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na chael negeseuon atgoffa, gofynnir ichi ymateb i’r cynrychiolydd a anfonodd yr e-bost cychwynnol atoch. Nid oes rhaid ichi ddarparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani a bydd pob cwestiwn yn cynnwys dewis “mae’n well gen i beidio â dweud”.

Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Ein tasg gyhoeddus, sef arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth yn y gwaith ymchwil hwn. Mae rhai o’r data yr ydym yn eu casglu yn cael eu galw’n ‘ddata categorïau arbennig’ (gweler y rhestr yn yr adran uchod), a’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae gwaith ymchwil o’r math hwn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn y gwaith ymchwil hwn yn cael ei defnyddio i ddeall yr amrywiaeth o fewn swyddi arwain yng nghyrff y sector cyhoeddus ac yn Llywodraeth Cymru, ac i fonitro hyn dros amser.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn crëwyd ffolder y mae mynediad iddi wedi’i gyfyngu i’r tîm ymchwil uniongyrchol yn unig. Bydd y data y byddwch yn eu darparu yn cael eu storio yn y ffolder gyfyngedig hon.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn cwrdd â’n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Bydd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn defnyddio data’r arolwg i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd ymatebion unigol i’r arolwg yn cael eu dileu gan Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru cyn pen dwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad. Dim ond er mwyn dadansoddi gwaith ymchwil y bydd ymatebion yr arolwg yn cael eu defnyddio.

Hawliau’r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl:

  • i weld copi o’ch data eich hun
  • inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â’r swyddog a ganlyn:

Enw: Samantha Collins

Cyfeiriad e-bost: Samantha.Collins1@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000 25 7371

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru