Neidio i'r prif gynnwy

Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Caiff data personol ei ddiffinio dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddeall profiad defnyddwyr o’r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt ac felly mae dolen i'r arolwg wedi'i hanfon atoch drwy un o'r llwybrau canlynol:

  • Os wnaethoch chi ddefnyddio’r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu ar lwyfan Learning@Wales a chytuno i rywun gysylltu â chi, yna byddwch wedi derbyn e-bost gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru;
  • Efallai eich bod wedi derbyn dolen i'r arolwg gan rwydwaith/undeb yr ydych yn rhan ohono, neu wedi cael yr arolwg gan gydweithiwr/cyflogwr, neu efallai eich bod wedi cyrchu'r arolwg drwy neges drydar gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Pan fyddwch yn ymateb i'r arolwg hwn ni fydd yn cadw eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP ac felly mae'r arolwg yn ddienw. Dim ond Llywodraeth Cymru sy'n gallu gweld yr ymateb i’r arolwg ac nid oes modd i unrhyw sefydliad arall a allai fod wedi anfon y ddolen ymlaen atoch wneud hynny. Nid yw'r arolwg hwn yn gofyn am gasglu data personol gennych. Os byddwch yn dewis darparu unrhyw wybodaeth sy'n eich adnabod fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, neu gysylltu eich hunaniaeth â nhw.

Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn, ac y byddwch yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Dewis yr unigolyn yn llwyr yw p'un a i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn ai peidio. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y prosiect hwn, er enghraifft, ar gyfer:

  • darparu gwell dealltwriaeth o’r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu
  • gwneud gwelliannau i’r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu fel ei fod yn dangos risg yn fwy cywir
  • gwneud argymhellion ar gyfer sut i ddiogelu'r gweithlu'n well rhag COVID 19.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn mae ffolder wedi'i greu sydd â mynediad wedi'i gyfyngu i'r tîm ymchwil uniongyrchol yn unig. Ni fydd yr ymchwilwyr yn darparu unrhyw wybodaeth bersonol wrth adrodd am ganfyddiadau i'r tîm polisi.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd, a bod y data'n cael eu storio yn y DU.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymchwil hwn yn cael ei gadw mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person yn cael ei dileu. Bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i’w chyflwyno yng Ngrŵp Cynghori Arbenigol BAME COVID-19 y Prif Weinidog. Ni fydd yr cyflwyniad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd unrhyw ddata personol a ddarperir fel rhan o'r arolwg yn cael eu dileu gan yr ymchwilwyr dri mis ar ôl cyhoeddi'r adroddiad terfynol. Os gwnaethoch ddefnyddio’r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu ar lwyfan Learning@Wales a chytuno i rywun gysylltu â chi, yna bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn dileu eich manylion cyswllt dri mis ar ôl cyhoeddi'r adroddiad terfynol.

Hawliau'r Unigolyn

O dan y GDPR mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r gwerthusiad hwn, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • gweld copi o'ch data
  • gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (mewn rai amgylchiadau)
  • gofyn am ddileu'ch data (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar ddiogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer,
SK9 5AF.

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.

Gwefan: www.ico.gov.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), cysylltwch â:

Enw: Steven Macey

Cyfeiriad e-bost: Steven.Macey@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000 622253

Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:

Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.